Rhoddodd y Cynghorydd S Bletsoe araith ragarweiniol ar pam yr oedd yn ystyried y dylai’r cyngor gefnogi’r Hysbysiad o Gynnig a ganlyn fel y’i cynigiwyd ganddo ac y’i heiliwyd gan y Cynghorydd D Harrison. Dywedodd, yng ngoleuni blynyddoedd o galedi gan y llywodraeth ganolog, sydd wedi gweld cyllidebau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu torri flwyddyn ar ôl blwyddyn ac adrannau yn yr awdurdod hwn yn cael eu galw’n rhai “prin addas i’r diben”, ac yng ngoleuni’r argyfwng costau byw presennol sy’n rhoi pwysau ar bob cyngor i gynhyrchu cyllideb gytbwys a chyfreithlon ar gyfer 2023/24:-
“Mae’r cyngor hwn yn gofyn i’r Cabinet adolygu cytundeb Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac, os yw’n cael ei ganiatáu, yn ystyried ceisio cytundeb POB cyngor sy’n aelod o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i drafod gohirio neu leihau’r taliadau a drefnwyd o dan y fenter hon yn sylweddol ar gyfer 2023/24, gan ganiatáu i awdurdodau osod cyllidebau cytbwys sy’n gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael i ddiogelu gwasanaethau yn eu hardaloedd.”
Ymatebodd yr arweinydd drwy gadarnhau, yn sgil y cyfyngiadau ariannol presennol, a oedd yn cynnwys y cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog, gofynion costau byw (gan gynnwys cynnydd mewn biliau cyfleustodau) a chwyddiant uchel ac ati, y byddai’r Cabinet yn edrych i adolygu holl drefniadau cydweithio’r awdurdod gyda sefydliadau partner allweddol ymhlith eraill, oherwydd y ffaith ei bod yn hanfodol, yn debyg i awdurdodau cyfagos, bod y cyngor yn gwneud arbedion effeithlonrwydd ym mhob maes lle mae’n bosibl gwneud hynny.
Cefnogodd y cyngor yr Hysbysiad o Gynnig yn unfrydol.