Issue - decisions

Council Tax Base 2023-24

23/05/2023 - Council Tax Base 2023-24

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer amcangyfrif o sylfaen drethu’r cyngor a’r gyfradd casglu ar gyfer 2023-24.

 

Dywedodd mai sylfaen drethu’r cyngor oedd yn pennu faint o dreth gyngor y gellir ei chodi i ariannu cyllideb y cyngor.

 

Rhaid gosod sylfaen drethu’r cyngor erbyn 31 Rhagfyr ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol ac fe’i defnyddir gan Lywodraeth Cymru i ddyrannu’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, a hefyd er mwyn i’r cyngor gyfrifo’r dreth gyngor sydd ei hangen i ariannu’r gyllideb am y flwyddyn 2023/23.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y sylfaen yn cynrychioli nifer yr anheddau trethadwy yn yr ardal ar ffurf nifer yr eiddo Band D. Roedd hyn hefyd yn ystyried eiddo y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn meddwl y bydd yn dod ar y rhestr ardrethu yn y flwyddyn i ddod.

 

Yn yr adroddiad hefyd, cynigiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfradd gasglu o 97.5% ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd hon yr un gyfradd â’r flwyddyn gyfredol ac nid yw’n fwriad cynyddu hyn mewn unrhyw fodd, oherwydd yr amgylchiadau economaidd heriol presennol yn fyd-eang, yr argyfwng costau byw a’r cyfraddau casglu presennol.

 

Gofynnodd aelod sut yr oedd sylfaen drethu’r gyngor yn wahanol eleni i'r flwyddyn flaenorol.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod y gwahaniaeth yn seiliedig ar eiddo newydd a ragwelir a fyddai'n dod ar y gofrestr yn y flwyddyn i ddod.

 

Yngl?n â hyn, roedd yn rhaid i'r cyngor wneud rhagdybiaethau nid yn unig ar sail yr hyn yr oedd yn dod ar y gofrestr, ond pryd y byddent yn dod ar y rhestr ardrethu hefyd. Hefyd, yr hyn oedd angen ei gymryd i ystyriaeth oedd nifer y trigolion yn yr eiddo hwn a fyddai'n cael rhyw fath o ostyngiad a/neu ryw lefel o gefnogaeth ariannol. Roedd hyn i raddau ac felly i gyd wedi'i amcangyfrif.

 

Nododd aelod fod y gyfradd gasglu y llynedd wedi ei seilio ar 98.5%. Eleni roedd lefel y gyfradd gasglu wedi'i gosod ar 97.5%. Gofynnodd p’un a oedd y gyfradd hon yn gyraeddadwy o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol gyda chyfraddau morgais uwch a chynnydd mewn biliau cyfleustodau ac ati.

 

Dywedodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid fod cyfraddau casglu wedi cynyddu ers dechrau COVID-19 a bod y duedd hon yn parhau. Felly, ystyriwyd bod cyfradd o 97.5% yn rhesymol ac yn gyraeddadwy.

 

Atgoffodd yr Aelod Cabinet – Adnoddau yr aelodau y gallai pobl sy'n cael trafferth talu’r dreth gyngor fod yn gymwys i dderbyn gostyngiad o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y cyngor yn:

 

           Cymeradwyo sylfaen drethu’r dreth gyngor a'r gyfradd gasglu ar gyfer 2023-24, fel y gwelir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

           Cymeradwyo yn ogystal y sylfaen drethu ar gyfer yr ardaloedd tref a chymuned a nodir yn Adran A yr adroddiad.