Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles adroddiad, a oedd yn rhoi manylion i'r Cabinet am y Polisi Lwfansau Maethu wedi'i ddiweddaru.
Dywedodd fod Gwasanaethau Maethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2022 wedi cyflwyno eu Polisi Ariannol Maethu newydd i'r Cabinet i'w gymeradwyo, gan geisio cymeradwyaeth hefyd i ddirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant i weithredu'r polisi newydd.
Yn ystod cyfnod gweithredu'r polisi, nodwyd gwall gweinyddol fel yr adlewyrchir ym mharagraff 3.2 yn ymwneud â Lwfansau Maethu. Amlygwyd yr anghysondebau hyn yn felyn yn yr adran hon o'r adroddiad.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, er gwaethaf yr uchod, na chafodd unrhyw Ofalwr Maeth swm gwallus a diwygiwyd y Polisi i gynnwys yr wybodaeth ariannol gywir fel y’i nodir yn yr adroddiad.
Aeth ymlaen i gynghori bod y Polisi Ariannol Maethu wedi'i ddiweddaru ymhellach ym mis Gorffennaf 2022 i newid cyfraddau'r lwfans (yn dilyn cytundeb yn y Cabinet) i ddyfarnu cynnydd o 7% i'r lwfansau a dalir i holl Ofalwyr Maeth Pen-y-bont ar Ogwr (a fyddai'n cael eu hôl-ddyddio i fis Ebrill 2022 a’u cymhwyso i flwyddyn ariannol 2022/23) a chyflwyno pythefnos o seibiant gyda thâl i holl Ofalwyr Maeth Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn olaf, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y cynnydd o 7% i Lwfansau Gofal Maeth a gytunwyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2022 bellach wedi'i dalu i Ofalwyr Maeth, gan ychwanegu bod y gwall gweinyddol yn y Polisi wedi'i ddiwygio yn ystod y cyfnod gweithredu.
Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd fod Maethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr o safon uchel iawn ac roedd hi'n falch iawn o ddweud bod Gofalwyr Maeth 'Becky a Pete' wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth yn ddiweddar yn gynharach eleni.
Am fod nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal yn cynyddu, ychwanegodd fod angen i ni gael mwy o ofalwyr maeth yn cyflwyno eu hunain i gefnogi'r bobl ifanc hyn.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y cafwyd diddordeb yn y ffurflen ymholiadau am ofal maeth, yn dilyn ymgyrch hysbysebu lwyddiannus yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD: (1) Bod y Cabinet yn nodi bod y gwall yn y Polisi Lwfansau Maethu fel y’i nodir ym mharagraff 3.3 o'r adroddiad wedi'i ddiwygio ac wedi ei weithredu.
(2) Bod y Cabinet yn nodi ymhellach fod y Polisi wedi'i ddiwygio ymhellach ar gyfer 2022/23 i gynnwys y cynnydd o 7% i Lwfansau Gofal Maeth a gytunwyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2022.