Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi llywodraethwr awdurdod lleol i’r corff llywodraethu ysgol a restrir ym mharagraff 4.1 (yr adroddiad).
Yn unol â 'Chanllawiau ar benodi llywodraethwyr awdurdodau addysg lleol' y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 14 Hydref 2008, dywedodd fod swyddogion wedi ystyried ceisiadau a ddaeth i law am y swydd wag bresennol i lywodraethwr awdurdod lleol ar gorff llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.
Roedd cystadleuaeth am y swydd wag a manylwyd ar y ddau ymgeisydd yn y tabl yn yr adroddiad.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ar ôl rhoi sylw priodol i'r cryfderau a gyflwynwyd yn y ceisiadau gan y ddau ymgeisydd, fod y swyddogion wedi penderfynu argymell penodi Mr Ben Morgan.
Tynnodd yr Aelod Cabinet - Addysg sylw’r Aelodau a Swyddogion at y ffaith fod nifer sylweddol o swyddi Llywodraethwyr Ysgol yn wag o hyd fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a bod angen eu llenwi, felly gofynnodd iddynt rannu'r ffaith hon gydag unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn bod yn llywodraethwr yn unrhyw un o'r ysgolion lle'r oedd swyddi gwag o'r fath.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r penodiad a restrir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.