Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar y testun uchod.
Holodd y Dirprwy Arweinydd ynghylch y canlyniad, o ran yr unigolion a oedd yn elwa ar y Cynllun Peilot a'r rhai nad oeddent yn elwa arno.
Holodd Aelod am fanylion y ddeiliadaeth a darpariaeth taliadau uniongyrchol. Holodd hefyd am y cymorth a ddarperir i'r unigolion hynny sy'n agored i niwed neu heb brofiad o drin arian. Ymhellach i hynny, holodd yr Aelod pa ddarpariaethau a oedd ar waith pe bai'r unigolyn yn cael swydd neu'n dechrau derbyn hyfforddiant, gan fod y cynllun yn cael ei gynnal dros gyfnod o 3 blynedd.
Holodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol pa gymorth a oedd ar gael i'r unigolyn ifanc wedi i'r cynllun peilot ddod i ben.
Ymatebodd y Rheolwr Tîm - Just Ask Plus drwy ddweud bod yr unigolyn yn derbyn y taliad yn uniongyrchol. Dywedodd fod pob unigolyn yn cael cynghorydd personol penodol a fyddai'n rhoi arweiniad iddo ar hyn. Dywedodd y byddai'r unigolyn ifanc yn derbyn incwm sylfaenol wrth gael ei gyflogi. Dywedodd hefyd ei bod hi'n bwysig cynnal ymgysylltiad yr unigolyn ifanc i sicrhau incwm cyson.
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd at hyn drwy ddweud y byddai gan yr unigolyn ifanc hawl i dderbyn cymorth nes troi'n 25 oed.
Holodd yr Aelod Cabinet Adnoddau faint o blith niferoedd cyfredol y cynllun a oedd mewn addysg ar hyn o bryd.
Atebodd y Rheolwr Tîm - Just Ask Plus drwy ddweud nad oedd yr union ffigurau ar gael, ond bod disgwyl i arolygon a chynghorwyr personol helpu gyda'r ffigurau hyn.
.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar waith ar hyn o bryd ar gyfer rhai sydd wedi gadael gofal ac sy'n ymgysylltu â'r Awdurdod Lleol, a chytunodd i roi mesurau lleol ar waith ar gyfer hyn.
Cytunodd yr Arweinydd y byddai'n fuddiol cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar raddfa ehangach, gan mai'r nod oedd gwella eu cyfleoedd, gwerthuso a monitro'n rheolaidd a byddai'n croesawu adroddiad chwe-misol neu flynyddol ar y prosiect.
PENDERFYNWYD : Bod y Pwyllgor wedi ystyried cynnwys yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd yn gysylltiedig â gweithredu'r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol.