Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a Swyddog Adran 151 adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Polisi Gostyngiad Dewisol Treth y Cyngor, yn unol â'r pwerau a nodir yn Adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y’i nodir gan Adran 10 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012). Hefyd gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo newid i Gynllun Dirprwyo Swyddogaethau'r Cyngor er mwyn gallu ymdrin â cheisiadau yn gyflym ac yn brydlon.
Eglurodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod gan yr awdurdod bilio pwerau dewisol i leihau rhwymedigaeth treth y Cyngor lle na ellid cymhwyso gostyngiadau ac eithriadau cenedlaethol. Nid oedd gan y Cyngor bolisi y cytunwyd arno ar hyn o bryd ac amcan y polisi hwn oedd cynnig cymorth ariannol i drethdalwyr y Cyngor a oedd yn profi caledi ariannol eithriadol.
Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y polisi arfaethedig, y tri chategori cymhwyster a sut y penderfynir ar y ceisiadau a'r broses apelio.
Diolchodd yr Aelod Cabinet Adnoddau i'r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad. Cadarnhaodd mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y gwneir defnydd o'r polisi ac y byddai'n fodd i gynorthwyo'r ymgeisydd am gyfnod byr.
PENDERFYNWYD : Bod y Cabinet yn:
a) cymeradwyo'r Polisi Rhyddhad Dewisol Treth y Cyngor arfaethedig yn Atodiad A;
b) cymeradwyo newid i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau, fel y nodir ym mharagraff 4.3.