Issue - decisions

Update on the Corporate Parenting Development

26/04/2023 - Update on Corporate Parenting Development

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr a’i bwrpas oedd rhoi diweddariad i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet ar ddatblygiad Rhianta Corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd, fel y soniwyd yn yr adroddiad, bod y gwasanaeth mewn sefyllfa lle roedd cyfarfodydd is-grwpiau yn cael eu cynnal yn chwarterol, roedd cyfarfod y bwrdd wedi cael ei integreiddio'n llawn, gan bartneru gyda nifer o asiantaethau ac roeddent mewn sefyllfa lle roedd eu strategaeth yn barod i gael ei lansio ddydd Iau, y 27ain o Ebrill 2023.

 

Cynlluniwyd y strategaeth newydd gyda chyfieithiad i'r Gymraeg ac roedd yn egluro pwrpas y gwasanaeth, eu cynlluniau, eu blaenoriaethau, sut yr oeddent yn bwriadu gwerthuso cynnydd a deall gofynion y dyfodol.

Dywedodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi hefyd eu bod wedi sicrhau 45 o addewidion o fewn y strategaeth a dyna oedd eu hymrwymiadau hwy fel gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, arweinwyr ac uwch reolwyr. Roeddent yn mynegi eu bwriadau, pob un yn ei swydd ei hun, i gefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai oedd yn gadael gofal, oedd wedi cael Profiad o Ofal. Roedd y gwasanaeth i gael ei ddwyn i gyfrif gan y Fforwm Ieuenctid ac roedd mesurau wedi cael eu sefydlu gan y Fforwm i’w galluogi i gael cymorth i gwestiynu unrhyw un o’r addewidion hyn a gwerthuso cynnydd gyda chefnogaeth Tros Gynnal Plant (TGP Cymru). Mae TGP yn ddarparwyr eiriolaeth ac maent yn cynorthwyo'r fforwm ynghyd â'r Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi. Gorffennodd drwy wahodd yr holl aelodau i fynychu'r Lansiad a drefnwyd yn ddiweddarach yn y mis.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn falch o'r broses a ddilynwyd a'r cynnydd a wnaed. Roedd yn falch o gael gwybod bod mecanwaith cadarn ar waith yn awr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ac yn cael gwrandawiad.

 

Dywedodd eu bod wedi ei weld yn ddiddorol pan oeddent yn cychwyn ar y daith hon nad oedd sefydliadau eraill oedd â chyfrifoldeb am rianta corfforaethol yn deall beth oedd eu cyfrifoldebau a'u dyletswyddau. Ers hynny, mae’r Sefydliadau hyn wedi bod yn ymgysylltu mwy ac mae gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr ffocws gwell ar yr hyn sy’n ofynnol ar gyfer pobl ifanc sydd â Phrofiad o Ofal.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor wedi ystyried cynnwys yr Adroddiad ac yn cefnogi cynnydd datblygiad Rhianta Corfforaethol.