Issue - decisions

P/22/597/FUL - Land Formerly Ffaldau Arms, Victoria Street, Pontycymmer

05/09/2024 - P/22/597/FUL - Land formerly Ffaldau Arms, Victoria Street, Pontycymmer, CF32 8LL

PENDERFYNWYD:              (1) Gyda golwg ar y cais uchod, bod yr ymgeisydd yn gwneud Cytundeb Adran 106 i:

 

i.             Darparu isafswm o 15% o’r unedau fel tai fforddiadwy gyda’r math o unedau, eu lleoliad o fewn y safle a daliadaeth fforddiadwy i gael eu cytuno gan y Cyngor yn unol â Pholisi COM5 a SPG13;

 

                                              (2)  Rhoi pwerau wedi eu dirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yn rhoi caniatâd Amlinellol i’r cynnig hwn, unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi gwneud y Cytundeb Adran 106 y cyfeiriwyd ato eisoes, yn ddibynnol ar yr Amodau sydd wedi eu cynnwys yn ei hadroddiad.

Cynnig

 

Adeiladu bloc ffryntiad deulawr yn cynnwys 6 fflat preswyl 2 ystafell wely ynghyd â bloc o fflatiau preswyl 2/3 llawr ar wahân yn y cefn, yn cynnwys 4 fflat preswyl 2 ystafell wely  a 2 fflat 1 ystafell wely gyda pharcio dan grofft, gwaith cysylltiedig a thirlunio.