Lleoliad: o bell trwy Skype For Business
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Pwyllgor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148.
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Cofnodion: PENDERFYNWYD: Ethol y Cyng. Lyn Walters yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y flwyddyn nesaf. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Cofnodion: PENDERFYNWYD: Ethol y Cyng. Altaf Hussain yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y flwyddyn nesaf. |
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 109 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 10/09/2020 Cofnodion: PENDERFYNWYD: cymeradwyo bod cofnodion 10/09/2020 yn wir ac yn gywir. |
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 62 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gerbron y Pwyllgor a restrai'r cofnod gweithredu cyfredol yn atodiad A.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod a wnelo'r eitem gyntaf ar y Cyfnod Gweithredu, sef Cynllun Archwilio Blynyddol ar gyfer Archwilio Allanol 2017-18, â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ers cynnwys yr eitem hon ar y cofnod gweithredu, esboniodd fod nifer o ddatganiadau llywodraethu blynyddol wedi dod i law, sef adroddiadau manwl iawn, ac roedd y gwasanaeth archwilio rhanbarthol wedi cyflwyno argymhellion yn gysylltiedig â hyn. Gyda chymeradwyaeth y pwyllgor, gofynnodd am gael dileu'r eitem o'r cofnod gweithredu. Cytunodd y Pwyllgor â'r argymhelliad hwnnw.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad.
|
|
Diweddariad Archwilio Cymru i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 222 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Cyllid adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r pwyllgor am y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad a gyflawnwyd, ac a fyddai'n cael ei gyflawni, gan Archwilio Cymru, yn ystod 2020-21.
Esboniodd fod Archwiliad o Grantiau a Ffurflenni'r Cyngor ar gyfer 2019-20 wedi dechrau ac yn mynd rhagddo'n dda.
Esboniodd y Rheolwr Archwilio Cyllid fod yr Archwiliad o ddatganiad cyfrifon y Cyngor ar gyfer 2020-21 heb ddechrau eto, ond mai'r bwriad oedd dechrau hwnnw ym mis Rhagfyr.
Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru waith Archwilio Perfformiad 2019-2020 ac esboniodd fod yr Adroddiad Gwella Blynyddol (AGB) ar y gweill ac y byddai'n cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor ym mis Ionawr 2021.
Amlinellodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru waith archwilio Perfformiad 2020-21 a'r wybodaeth ddiweddaraf. Esboniodd fod y dystysgrif archwilio Perfformiad wedi'i chyhoeddi ar 6 Tachwedd 2020, gan nodi bod y Cyngor wedi cydymffurfio â'r Ddeddf Mesurau Llywodraeth Leol a bod yr adroddiad ar berfformiad wedi'i gyhoeddi cyn 31 Hydref 2020.
Dywedodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod yr Asesiad Sicrwydd a Risg ar y gweill ar hyn o bryd, ac y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal â'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn fuan ym mis Chwefror ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac ESTYN.
Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod y gwaith ar Gynlluniau Adfer hefyd ar y gweill. Ar y pryd, roedd SAC wedi arsylwi'r Panel Craffu ar Adfer a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol ac roedd y gwaith yn dal i barhau.
Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod y gwaith Cynaliadwyedd Ariannol wedi'i rannu'n ddau gam, gyda Cham 1 wedi'i gwblhau a gwaith cwmpasu'n cael ei gyflawni ar gyfer Cam 2. Byddai'r cam hwnnw'n cael ei gwblhau dros weddill blwyddyn ariannol 2020-21.
Esboniodd Cynrychiolydd Archwilio Cymru fod y prosiect â ffocws digidol wedi dechrau ac y byddai briff drafft o'r prosiect yn cael ei anfon ar 22 Hydref 2022. Ychwanegodd fod ymateb wedi dod i law oddi wrth y Prif Weithredwr a'u bod yn llunio ymateb gyda golwg ar gwblhau'r briff terfynol. I gloi, dywedodd fod prosiect dysgu Covid 19 hefyd yn parhau.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi Diweddariad Archwilio Cymru i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn Atodiad A.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn rhoi datganiad ynghylch sefyllfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yng nghyswllt yr argymhellion a wnaed gan Archwilio Cymru yn ei adroddiad diweddar, 'Gwella Ein Perfformiad - Mynd i'r Afael â Thwyll yng Nghymru'. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi amlinelliad o gynlluniau'r Cyngor ar gyfer y dyfodol.
Esboniodd fod yr adroddiad yn rhoi syniad i'r aelodau o weithgarwch y Cyngor wrth fynd i'r afael â thwyll, a hefyd yn rhoi cyfle i aelodau gyfrannu at ymdriniaeth y Cyngor â'r risg o dwyll.
Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y prif agweddau yn Adroddiad Archwilio Cymru. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi llunio datganiad sefyllfa a oedd yn cymharu'r sefyllfa gyfredol o fewn yr awdurdod â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Archwilio Cymru. Roedd hyn wedi'i gynnwys yn Atodiad A, ac Adroddiad Archwilio Cymru wedi'i gynnwys yn Atodiad B.
Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid mai argymhellion i Lywodraeth Cymru yn bennaf oedd yr argymhellion gan Archwilio Cymru, ond eu bod yn berthnasol i ni hefyd, am ein bod fel Cyngor yn gyfrifol am ein gweithgarwch Atal Twyll ein hunain.
Amlinellodd y thema'n gysylltiedig â'r Fframwaith Rheoli a Rheolaeth ar Risg, gan nodi y dylai'r holl gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau cynhwysfawr o'r risg o dwyll, gan ddefnyddio staff â sgiliau priodol ac ystyried cudd-wybodaeth genedlaethol yn ogystal â chudd-wybodaeth penodol i'r sefydliad. Amlinellodd sefyllfa CBSPO yn hyn o beth, fel y rhestrwyd yn R3 yn atodiad A.
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod gan CBSPO bolisïau, gweithdrefnau a mecanweithiau adrodd i atal, canfod ac adrodd am dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd. Roedd y rhain yn cynnwys:-
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y dylai staff sy'n gweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth twyll, fel bo'n briodol i'w rôl er mwyn i sefydliadau fod yn fwy effeithiol wrth atal, canfod ac ymateb i dwyll. Dywedodd y bu nifer o ddatblygiadau yn CBSPO yn dilyn hyn, a restrwyd yn R6 yn Atodiad A.
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod twyll wedi bod ar gynnydd ers Covid-19. Dywedodd fod angen i bob corff cyhoeddus adeiladu digon o gapasiti i sicrhau adnoddau effeithiol ar gyfer gwaith atal twyll, fel bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal mewn modd proffesiynol, ac mewn modd a oedd yn arwain at gosbi drwgweithredwyr yn llwyddiannus ac at adennill colledion. Ychwanegodd fod CBSPO ar hyn o bryd yn cyflogi un Uwch Ymchwilydd Twyll amser llawn. Byddai swydd Swyddog Twyll newydd amser llawn yn cael ei hysbysebu y mis hwn. Roedd Archwilio Mewnol hefyd yn ymwneud ag ymchwilio a helpu i atal twyll, gan gynnwys ymchwiliadau mewnol a'r Fenter Twyll Genedlaethol. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 215. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cleient Archwilio adroddiad yn rhoi datganiad sefyllfa i'r aelodau o ran y cynnydd yn erbyn y gwaith archwilio a oedd wedi'i gynnwys a'i gymeradwyo yng Nghynllun Seiliedig ar Risg y Gwasanaeth Archwilio Mewnol 2020-21.
Esboniodd fod Atodiad A yn manylu ar y cynnydd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Hydref 2020 ac yn manylu ar statws pob adolygiad cynlluniedig, y farn archwilio a nifer yr argymhellion canolig neu uchel a wnaed er mwyn gwella'r amgylchedd rheoli.
Esboniodd y Rheolwr Cleient Archwilio fod 10 darn o waith wedi'u cwblhau, a bod hyn yn cynnwys 6 adolygiad archwilio lle rhoddwyd barn. Roedd 2 adolygiad arall wedi'u cwblhau ac adroddiadau drafft wedi'u cyflwyno; roeddem yn dal i ddisgwyl am adborth gan Adrannau Gwasanaeth ar gyfer y rhain, ac roedd 13 o archwiliadau yn dal ar y gweill. Ychwanegodd y byddai 8 archwiliad arall yn dechrau'n fuan.
Dywedodd y Rheolwr Cleient Archwilio fod adolygiad o brosesau wedi cael ei gynnal ar ôl canfod bod swm bach o arian ar goll o'r tun arian parod Byw Gyda Chymorth. Canlyniad yr adolygiad hwnnw oedd na chadwyd yn llawn at fesurau rheoli a gwiriadau rheolaidd. Ers hynny, roedd staff wedi cael gwybod beth oedd y broses, a byddai adolygiad dilynol yn cael ei gynnal i sicrhau bod y prosesau diwygiedig ar waith, a'r staff yn cadw atynt.
Dywedodd y Rheolwr Cleient Archwilio fod 2 argymhelliad o bwys wedi'u gwneud. 1 ar gyfer Amlosgfa Llangrallo, lle nodwyd bod angen i'r staff personol gadw at reolau gweithdrefn ariannol CBSPO yn ogystal â dirprwyaethau'r Cydbwyllgor, ac 1 ar gyfer system Mastergov, a ofynnai am weithredu mesurau diogelwch ychwanegol yn y system fel nad oes modd i ddefnyddiwr gyrchu cofnodion ac iddynt fuddiant personol.
Gofynnodd yr Aelod Lleyg sut y gall y pwyllgor benderfynu pa risgiau sy'n uchel, yn ganolig ac yn isel. Esboniodd y Rheolwr Cleient Archwilio fod yr holl risgiau a oedd wedi'u rhestru yn Atodiad A yn risgiau uchel.
PENDERFYNWYD: Bod aelodau'r Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad a'r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Seiliedig ar Risg Blynyddol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2020-21.
|
|
Adolygiad o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2020-21 PDF 280 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y newyddion diweddaraf am y Cynllun Gweithredu i gyd-fynd â'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB, a oedd wedi'i gynnwys yn Natganiad Cyfrifon 2019-20, a'r materion o bwys a oedd yn codi ac a oedd i'w hystyried o ganlyniad i adolygiad o'r DLlB ar gyfer 2020-21.
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod angen i Aelodau a swyddogion o bob rhan o'r Cyngor gymryd rhan yn weithredol er mwyn sicrhau llywodraethu corfforaethol da. Caiff trefniadau llywodraethu eu hadolygu bob blwyddyn, a defnyddir canfyddiadau'r adolygiad i ddiweddaru'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Mae hyn o gymorth i sicrhau bod diwylliant llywodraethu corfforaethol y Cyngor yn gwella'n barhaus. Mae'r DLlB yn cynnal asesiad cyffredinol o drefniadau llywodraethu corfforaethol y Cyngor, ac arfarniad o'r rheolaethau sydd ar waith i reoli risgiau allweddol y Cyngor, gan nodi agweddau y mae angen eu gwella.
Er mwyn cychwyn y broses o lunio Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020-21, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid fod angen adolygu'r Cynllun Gweithredu a oedd yn gysylltiedig â DLlB 2019-20 ynghyd â diweddariad ar gynnydd yn erbyn pob mater llywodraethu o bwys.
Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod Covid-19 wedi effeithio'n sylweddol ar y modd y mae'r Cyngor yn gweithredu ar draws ei holl wasanaethau. Yn rhan o hyn, y mae wedi parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant cymwys, cyflwyno Profi Olrhain Diogelu a chynllunio i frechu niferoedd mawr o ddinasyddion. Maer Cyngor wedi sefydlu Panel Adfer trawsbleidiol i oleuo, cefnogi a herio'r ymarfer adfer. Roedd hawliadau am incwm a gollwyd ac am gynnydd mewn costau wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, a'r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau 70% o'r symiau a hawliwyd. Bu gostyngiad hefyd yn y dreth gyngor a gasglwyd, a chynnydd yn y ceisiadau a wnaed am ostyngiad i'r dreth gyngor. Dywedodd wrth y Pwyllgor am y newidiadau o ran rheoli - bod 2 Gyfarwyddwr Corfforaethol newydd ar gyfer Cymunedau a Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac nad oedd y Cyngor wedi recriwtio i'w swydd hi eto. Dywedodd fod yr awdurdod yn wynebu sefyllfa ariannol heriol, a bod yr ysgolion yn Chwarter 2 yn rhagweld diffyg o £848k.
Mynegodd aelod o'r Pwyllgor ddiolch i'r aelod lleol am waith y Cydwasanaeth Rheoleiddio yng Nghanolfan Gymuned Westward.
PENDERFYNWYD:/ Bod y Pwyllgor: · yn nodi Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-20; wedi ystyried Cynllun Gweithredu Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020-21. |
|
Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2020-21 PDF 592 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd adroddiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor am yr adolygiad canol blwyddyn a'r sefyllfa alldro hanner blwyddyn ar gyfer gweithgareddau rheoli'r trysorlys a dangosyddion rheoli trysorlys 2020-21. Tynnodd sylw hefyd at gydymffurfiaeth â pholisïau ac arferion y Cyngor a oedd wedi'u hadrodd gerbron y Cabinet a'r Cyngor, a rhoddodd y newyddion diweddaraf am y newidiadau arfaethedig i Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020-21 a fyddai'n cael eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan y Cyngor.
Esboniodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd fod y Pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau craffu effeithiol ar y Strategaeth a'r polisïau Rheoli Trysorlys. Dywedodd ei bod hi'n ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys cyn cychwyn pob blwyddyn ariannol sy'n nodi cyfrifoldebau a threfniadau dirprwyo ac adrodd y Cyngor a'r Prif Swyddog Ariannol. Yn dilyn ymarfer aildendro diweddar i ddewis cynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor, dywedodd wrth y Pwyllgor mai Arlingclose oedd y tendrwr llwyddiannus, ac y byddai'n parhau i gynghori'r Cyngor am y 4 blynedd nesaf.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd fod y Cyngor wedi cydymffurfio â'i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddio yn ystod hanner cyntaf 2020-21, a bod y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2020-21 wedi'i hadrodd gerbron y Cyngor ar 26 Chwefror 2020 a'r Alldro Hanner Blwyddyn yn cael ei adrodd gerbron y Cyngor ar 18 Tachwedd 2020. Yn ogystal â hyn, cafodd adroddiad monitro chwarterol ei gyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Gorffennaf 2020. Rhoddodd grynodeb o'r gweithgareddau rheoli trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2020-21, a hysbysu'r Pwyllgor nad oedd y Cyngor wedi derbyn unrhyw fenthyciadau hirdymor ers mis Mawrth 2012, ac nid oedd disgwyl y byddai angen unrhyw fenthyciadau newydd hirdymor yn 2020-21. Roedd llifau arian ffafriol wedi darparu cyllid dros ben i fuddsoddi, a gweddill y buddsoddiadau ar 30 Medi 2020 oedd £64.29 miliwn ar gyfradd llog gyfartalog o 0.24%.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd wrth y Pwyllgor ei bod hi'n ofynnol yn y Cod Rheoli Trysorlys i'r Cyngor bennu ac adrodd ar nifer o Ddangosyddion Rheoli Trysorlys, sydd naill ai'n rhoi crynodeb o'r gweithgarwch disgwyliedig neu'n gosod terfynau ar y gweithgarwch hwnnw. Dywedodd ei bod hi'n ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal adolygiad canol blwyddyn o'i bolisïau, ei arferion a'i weithgareddau rheoli trysorlys ac mai canlyniad yr adolygiad yw bod angen newid terfynau buddsoddi, sef cynyddu cyfanswm y balans y gellir ei fuddsoddi yng Nghronfeydd y Farchnad Arian (MMFs) o £20 miliwn i £30 miliwn. Bydd hynny'n galluogi'r Cyngor i gynyddu nifer yr MMFs sydd ar gael, gan gynorthwyo'r Cyngor i fuddsoddi balansau arian parod positif mewn portffolio buddsoddi llawer ehangach. Yn ogystal â hynny, bydd diwygio'r terfyn buddsoddi ar gyfer Darparwyr Cofrestredig o £3 miliwn i £5 miliwn yn creu mwy o gyfle i ddefnyddio'r math hwn o fuddsoddiad nag a geir ar hyn o bryd. Gan fod y Cyngor wedi bod â balansau arian parod positif yn ei feddiant bydd hyn yn ei gwneud hi'n fwy posibl i'r Cyngor fuddsoddi ar lefel ymarferol, a hefyd yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 218. |
|
Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl - Adroddiad ar Gynnydd a Datganiad o'r Sefyllfa PDF 76 KB Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y newyddion diweddaraf am gamau a gymerwyd i fwrw ymlaen â gwelliannau i'r gwasanaeth Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (DFG). Rhoddodd wybodaeth hefyd am y sefyllfa bresennol o ran paratoi i benderfynu ar y model darparu gorau i Ben-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod adroddiadau blaenorol i'r Pwyllgor wedi amlinellu'r angen hollbwysig i ail-lunio a gwella darpariaeth y gwasanaeth DFG ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gan nad yw'r gwasanaeth wedi llwyddo i gyrraedd ei dargedau dangosydd perfformiad ers cryn amser, ar ôl ystyried ffactorau a godwyd gan yr Aelodau, y swyddogaeth Graffu, y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, ac o ymchwilio mewn awdurdodau lleol eraill, casglwyd bod angen newid sylfaenol i'r model darparu ar gyfer y gwasanaeth. Dywedodd nad yw'r amseroedd ar gyfer darparu DFGs, yn enwedig mewn achosion cymhleth a oedd yn cynnwys plant, yn gyson â dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod y Cyngor yn chwartel isaf Cymru o ran amseroedd darparu.
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod gwaith ymchwil a dadansoddi yn cael ei gynnal ar amryw o lefelau i fwrw ymlaen â'r newidiadau sydd eu hangen er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth DFG. Mae hyn wedi cynnwys ymagwedd systemau 'syniadaeth ddarbodus', gan ddysgu oddi wrth awdurdodau lleol eraill fel Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, a thrafodaethau a dadansoddi mewnol. Dywedodd mai nod y gwaith hwn yw penderfynu ar y model gorau i ddarparu'r gwasanaeth o fewn y Cyngor. Cafwyd cydnabyddiaeth fod angen newid sylfaenol ym mhob agwedd ar y gwasanaeth cyfredol er mwyn gwella, ac mae camau wedi cael eu cymryd yn y meysydd a ganlyn hyd yma:
· Rôl yr asiant · Gwaith dewisol · Cydweithio a chefnogaeth
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod angen gwneud gwaith dadansoddi pellach er mwyn cwblhau'r trefniadau i Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer y dyfodol, a phennu'r model gwasanaeth gorau i ddisodli'r hyn sydd ar waith ar hyn bryd, Bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad sy'n amlinellu'r camau nesaf er mwyn newid o'r model cyfredol i unrhyw fodel newydd.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth wrth y Pwyllgor y bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar leoli'r dinesydd wrth wraidd y gwasanaeth, p'un a yw'n gwneud cais am fân waith addasu neu waith addasu graddfa fawr i'w alluogi i aros gartref.
Cyfeiriodd aelod o'r Pwyllgor at y ffaith nad oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw oblygiadau ariannol, a gofynnodd a fyddai modd i adroddiad arall yn y dyfodol adlewyrchu graddfa ariannol y grantiau, yn ogystal â'r cyfraniad strategol tuag at gyflawni amcanion y Cyngor. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth wrth y Pwyllgor fod DGFs gwerth hyd at £36k yn cael eu cynnig a'u bod yn ddibynnol ar brawf modd. Dywedodd fod nifer o gyllidebau'n cael eu defnyddio i gefnogi DFGs, gan gynnwys helpu dinasyddion sy'n gadael yr ysbyty i ddychwelyd adref. Dywedodd y byddai'r adroddiad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 219. |
|
Blaenraglen Waith 2020-21 wedi'i Diweddaru PDF 83 KB Cofnodion: Gofynnodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro am gymeradwyaeth ar gyfer Blaenraglen Waith 2020-21 a oedd wedi'i diweddaru, a thynnu sylw at swyddogaethau craidd Pwyllgor Archwilio effeithiol. Dywedodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo ailenwi'r Pwyllgor Archwilio yn Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 30 Medi 2020, ac wedi cymeradwyo diwygio ei gylch gorchwyl i adlewyrchu'r newid hwnnw.
Cyfeiriodd at yr eitemau ar yr amserlen a oedd i'w cyflwyno gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 12 Tachwedd 2020, a gofynnodd i'r Pwyllgor ategu'r amserlen honno, cadarnhau'r rhestr y bobl yr hoffent eu gwahodd ar gyfer pob eitem (os oedd hynny'n briodol), a nodi a oedd angen unrhyw wybodaeth neu ymchwil bellach.
Hysbysodd y Pennaeth Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol y Pwyllgor y byddai aelodau'r Pwyllgor yn cael holiadur i'w lenwi ymhen ychydig ynghylch y rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD: Bod yr Aelodau wedi ystyried a chymeradwyo'r Flaenraglen Waith a gynigiwyd ar gyfer 2020-21 ac y dylid cyflwyno adroddiadau ar Asesu Risg Twyll, Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol yn sgil Pandemig Covid-19 a'r Fenter Twyll Genedlaethol gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor, a chyflwyno adroddiad ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Ebrill. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |