Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Y Cyngh Paul Davies Y Cyngh Janice Lewis Y Cyngh Amanda Williams |
|
Datganiadau Buddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 100 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio y 17/01/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 17/01/2019 fel cofnod gwir a chywir cyhyd ag y byddent yn adlewyrchu’r ffaith bod yr Aelod Lleyg, Josephine Williams, wedi bod yn bresennol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Gofnod 110 gan ofyn pa bryd y câi adroddiad ei gyflwyno i’r Cyngor, i geisio diwygio Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio er mwyn i’r Pwyllgor symud ymlaen, ystyried diweddariadau yn y dyfodol yn crynhoi’r digwyddiadau a’r achosion a fu bron â digwydd ac a gofnodwyd a’r camau i’w cymryd i atal y rhain/eraill rhag ailddigwydd.
Gofynnodd hefyd a allai’r Aelodau gael diweddariad ynghylch Cofnod 113, sef a oedd y Strategaeth Atal Twyll a Llwgrwobrwyo a’r Polisi Atal Gwyngalchu Arian wedi’u cyflwyno eto i gyfarfod o’r Cabinet i gael eu hystyried. Cadarnhaodd y Prif Gyfrifydd eu bod wedi’u cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Chwefror 2019.
Cyflwynodd y Cadeirydd hefyd y Pennaeth Archwilio Mewnol newydd i’r Aelodau, a dywedodd y Pennaeth wrth y Pwyllgor am ei gefndir o ran ei brofiad gwaith blaenorol, gan gynnwys ei gyflogaeth ym meysydd proffesiynol Cyllid ac Archwilio.
|
|
Diweddariad ar Raglen Perfformiad Gwaith Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) PDF 70 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim adroddiad, a roddodd ddiweddariad ar Raglen Archwilio Perfformiad Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) ar gyfer 2018-19.
Esboniodd fod y rhaglen waith hon yn cael ei gwneud i helpu'r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004) ac adran 18 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Roedd y rhaglen hefyd yn bwydo astudiaeth at wella gwerth am arian o dan adran 41 o Ddeddf 2004, a/neu archwiliad a gynhelid gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rhoddodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) grynodeb o Atodiad A i’r adroddiad, a oedd yn amlinellu’r Gwaith Archwilio Perfformiad ar gyfer 2018-19 ac a oedd ar y gweill ar gyfer 2019-20. Eglurodd rychwant y gwaith a oedd wedi’i wneud, a nododd y byddai’r Adroddiad Gwella Blynyddol (AIR) ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol hefyd yn cynnwys manylion yngl?n ag Adroddiad Blynyddol y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd wrth yr Aelodau fod yr Asesiad Sicrwydd a Risg wedi'i gwblhau ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio ac y byddai hyn hefyd yn ffurfio rhan o’r Cynllun Archwilio.
Dywedodd wrth yr Aelodau hefyd fod briff y prosiect ar gyfer Iechyd yr Amgylchedd ar y gweill ar y pryd.
Esboniodd fod gwaith ym maes Diogelu Corfforaethol yn parhau hefyd. Ychwanegodd fod hyn yn dal yn y cyfnod cynllunio ar y pryd, am fod arolygiad wedi’i gynnal yn ddiweddar gan Estyn gan effeithio ar y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Teuluol, a oedd yn dal i ddisgwyl argymhellion Estyn. Roedd angen y canlyniadau hyn cyn y gallai’r gwaith i archwilio’r maes gwasanaeth hwn gael ei gwblhau'n llawn.
Ychwanegodd fod yr eitemau yngl?n â Gwasanaethau i Gymunedau Gwledig a Defnyddio Data yn Effeithiol bellach wedi eu cwblhau.
Gofynnodd un o’r Aelodau i gynrychiolydd y WAO beth yn benodol oedd yn cael ei ystyried mewn perthynas â’r eitem yn union uchod.
Dywedodd cynrychiolydd y WAO ei bod yn teimlo bod hyn yn ymwneud â mynediad at wasanaethau ac a oedd unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth hon, ond fe fyddai'n edrych ar hyn ymhellach ac yn rhoi adborth i'r Pwyllgor yn ddiweddarach.
Gofynnodd yr Aelod hefyd beth oedd yn cael sylw yn yr astudiaeth ac a oedd unrhyw arferion da y gallai’r Cyngor eu defnyddio, yn arbennig o ran darparu gwasanaethau bysiau mewn cymunedau gwledig, ac a allai’r WAO roi trosolwg ar hyn hefyd.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Archwilio’n nodi’r diweddariad ar raglen waith perfformiad y WAO ar gyfer Ebrill 2019.
|
|
Cynllun Archwilio Blynyddol yr Archwilwyr Allanol 2019 PDF 63 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim yr adroddiad ar Gynllun Archwilio Blynyddol yr Archwilwyr Allanol ar gyfer 2019 ynghyd â rhestr o Lofnodwyr Grantiau awdurdodedig ar ran y Cyngor. Cyflwynodd cynrychiolydd y WAO yr agweddau yn yr adroddiad yn ymwneud â pherfformiad, a oedd yn gofyn i'r Aelodau adolygu Cynllun Archwilio Blynyddol yr Archwilwyr Allanol ar gyfer 2019.
Eglurodd i’r Aelodau y Rhaglen Archwilio Perfformiad a nodwyd yn arddangosyn 3 yn yr adroddiad, a oedd yn amlinellu’r pynciau gwaith ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi disgrifiad byr o bob un o'r rhain er budd yr Aelodau.
Eglurodd cynrychiolydd y WAO hefyd fod rhychwant y Rhaglen Cynaliadwyedd Ariannol wrthi’n cael ei bennu ar y pryd a bod yna staff yn y WAO yn gweithio ar hynny y pryd hwnnw. Ychwanegwyd bod hwn yn brosiect a oedd yn gyffredin i bob awdurdod lleol, ac a fyddai’n fodd i asesu cynaliadwyedd ariannol yng ngoleuni'r heriau presennol a’r heriau y rhagwelid y byddai’r Cyngor yn eu hwynebu. Roedd hyn yn golygu archwilio’r hyn yr oedd y 22 o awdurdodau lleol eraill yn ei wneud yn hynny o beth, i fesur pa heriau yr oedden nhw wedi’u hwynebu ac wedi’u goresgyn, er mwyn i Gyngor Pen-y-bont ddysgu o’r rheiny.
Eglurodd hefyd eu bod yn gobeithio pennu rhychwant y gwaith ar y bartneriaeth iechyd newydd rhwng y Cyngor ac Awdurdod Iechyd Cwm Taf, a oedd yn mynd rhagddo'n dda.
Eglurodd cynrychiolydd y WAO fod y Strategaeth Gweithlu’n brosiect a oedd wedi’i sefydlu er mwyn adolygu ymagwedd y Cyngor at gynllunio'r gweithlu, a sut roedd gofynion gwaith yn cael eu rheoli, yn arbennig oherwydd y pwysau parhaus yn sgil toriadau mewn cyllidebau etc, yr oedd yr awdurdodau lleol yn eu hwynebu.
Soniodd y Rheolwr Archwilio Ariannol fod y Cynllun Archwilio’n nodi cyfrifoldeb yr Archwilwyr a’r Cyngor, o gofio’u priod rolau gwahanol
PENDERFYNWYD: Bod yr Aelodau:-
(1) Wedi adolygu ac wedi ystyried cynnwys Cynllun Archwilio Blynyddol yr Archwilwyr ar gyfer 2019 yn Atodiad A i’r adroddiad. Yn nodi’r rhestr o lofnodwyr grantiau awdurdodedig yn Atodiad B (i’r adroddiad). |
|
Ardystio Grantiau a Ffurflenni 2017-18 PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Ariannol adroddiad gan Archwilydd Allanol y Cyngor ar y gwaith grant a wnaed ar gyfer 2017-18.
Crynhodd yr holl hawliadau a ffurflenni a gawsai eu hardystio, fel y'u ceid yn Atodiad A i’r adroddiad, ynghyd â’r ffioedd ardystio a chanlyniad Adolygiad yr Archwilwyr Allanol. Roedd y canlyniadau ardystio fel a ganlyn:-
Esboniodd fod Archwilwyr Allanol y Cyngor wedi gwneud un argymhelliad, a oedd wedi’i restru yn Arddangosyn 3 yn yr adroddiad. Esboniodd hefyd fod rhywfaint o bwyslais wedi’i roi ar hyfforddiant, i’r staff hynny a oedd yn ymwneud â chefnogi’r maes gwaith hwn.
Eglurodd hefyd fod cyfanswm cost yr archwiliadau ar yr hawliadau a’r ffurflenni grant, sef £51,873, yn is na’r amcangyfrif o ffioedd o £58,500 ar gyfer hyn a nodwyd yng Nghynllun Archwilio 2018. Roedd yna fanylion ar ddadansoddiad o'r holl ffioedd perthnasol a oedd yn gymwys (fesul grant a ffurflen) yn Arddangosyn 4 yn yr adroddiad.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim hefyd wrth yr Aelodau y bydden nhw’n cael diweddariad ar hyn y tu allan i'r cyfarfod neu drwy adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor yn y dyfodol.
Yn olaf, awgrymodd y Cadeirydd y dylai adroddiad pellach gael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor neu i gyfarfod yn y dyfodol, yn amlinellu crynodeb o'r gwelliannau a wnaed yn yr adran Budd-dal Tai fel rhan o Gynllun Gweithredu a luniwyd yn dilyn archwiliad o'r maes gwasanaeth hwn, gan gynnwys manylion unrhyw Gynllun Hyfforddi a Datblygu i’r staff.
PENDERFYNWYD: Bod yr Aelodau’n nodi cynnwys Adroddiad yr Archwilwyr Allanol ar y gwaith grant a wnaed ar gyfer 2017-18 ac a atodwyd yn Atodiad A i’r adroddiad. |
|
Archwilio Mewnol – Adroddiad Alldro Terfynol PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol adroddiad, a oedd yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y perfformiad mewnol gwirioneddol o’i gymharu â Chynllun Archwilio blwyddyn ariannol 2018-19, ac yn rhoi Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio.
Rhoddodd gefndir y Cynllun Archwilio Mewnol gan esbonio bod y cynllun wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio i gael ei ystyried a’i gymeradwyo ar 26 Ebrill 2018. Roedd hyn yn amlinellu’r aseiniadau a oedd i’w cyflawni a’r priod flaenoriaethau. Rhoddodd ddiweddariad i'r Aelodau hefyd ar y sefyllfa/cynnig presennol yn unol â’r manylion ym mharagraff 4 o’r adroddiad eglurhaol.
Roedd yr alldro gwirioneddol o’i gymharu â’r Cynllun Seiliedig ar Risg ar gyfer 2018/19 wedi’i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad.
Esboniodd fod Atodiad B i'r adroddiad yn dangos y gwaith a oedd wedi'i wneud ers Ebrill 2018, gan gynnwys yr wybodaeth am ddangosyddion perfformiad amrywiol yngl?n ag elfennau gwahanol o'r gwaith hwn. Eglurodd hefyd bob adran o 1 i 13 yn Atodiad B i'r Aelodau. Eglurodd hefyd fod barn y Pennaeth Archwilio yn cynnig "Sicrwydd Rhesymol" ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cyngor.
Holodd un o’r Aelodau am brosiect ARBED (yn Atodiad B) a oedd yn cadarnhau bod canfyddiadau’r archwilwyr ar hyn bron wedi'u cwblhau ym mis Ionawr 2019. Serch hynny, gofynnodd a oedd modd cael rhywfaint o eglurhad pam roedd yr adroddiad yn dweud bod y gwaith hwn yn parhau ac am gael ei gario ymlaen i 2019/20, o gofio bod hyn yn wybodaeth anghyson.
Eglurodd y Pennaeth Cyllid Interim fod yr oedi o ran cwblhau'r gwaith hwn wedi codi am fod y Cyn-bennaeth Archwilio Mewnol wedi ymadael â’r awdurdod drwy ymddeol ac oherwydd bod hynny wedi cydredeg â dyfodiad Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol a oedd i bob pwrpas wedi ymgymryd â’r swydd honno. Eglurodd ymhellach fod gwaith y prosiect hwn nawr yn ei gyfnod terfynol ac yn cael ei gwblhau. Cydnabu’r Pennaeth Cyllid Interim y gallai’r geiriad yn yr adroddiad a oedd yn egluro hyn fod wedi bod yn gliriach ac felly roedd yn bosibl ei fod yn gamarweiniol.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol fod cryn dipyn o waith wedi’i wneud ond bod angen mwy o waith ac y byddai’r Pwyllgor yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd cyn gynted â phosibl.
Gofynnodd yr Aelod Lleyg a allai rhagor o wybodaeth gael ei darparu ar yr archwiliad blaenorol o Daliadau Uniongyrchol, gan gynnwys unrhyw werth ariannol mewn perthynas ag unrhyw arbedion effeithlonrwydd a roddwyd ar waith i wella’r maes gwasanaeth hwn a chadarnhad bod unrhyw gamau a argymhellwyd gan yr Aelodau yn cael eu dilyn a’u rhoi ar waith.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol y gallai rhagor o wybodaeth gael ei darparu ar yr uchod, ar ôl i SWAP wneud eu gwaith archwilio dilynol arfaethedig
PENDERFYNWYD: Bod Aelodau'r Pwyllgor Archwilio wedi rhoi ystyriaeth briodol i Adroddiad Alldro Terfynol yr Archwilio Mewnol ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 gan gynnwys Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio ar amgylchedd rheoli’r Cynghorau mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 123. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol adroddiad ar Strategaeth Archwilio Mewnol y Cyngor a’i Gynllun Archwilio Seiliedig ar Risg ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Rhoddodd grynodeb i’r Aelodau o Strategaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol a’i Gynllun Archwilio Seiliedig ar Risg blynyddol drafft a oedd yn ymdrin â’r canlynol:-
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol fod y gofynion o ran adnoddau’n cael eu hadolygu bob blwyddyn fel rhan o'r broses cynllunio archwiliadau ac yn cael eu trafod gyda Bwrdd y Cydwasanaeth Archwilio Mewnol (IASSB). Roedd effaith y pwysau ariannol a’r gofynion i greu arbedion effeithlonrwydd ac arbedion caled wedi gweld adnoddau’r archwilwyr mewnol yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. O ganlyniad ac ar ddechrau 2019/20 roedd y Gwasanaeth Archwilio wedi’i ymestyn er mwyn sicrhau mwy o wytnwch at y dyfodol a gan hynny, fe fyddai bellach yn darparu’r swyddogaeth archwilio mewnol i bedwar o gynghorau; sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bro Morgannwg. Gan mai Gwasanaeth Rhanbarthol a oedd newydd ei ddatblygu oedd hwn, nid oedd strwythur cyffredinol y gwasanaeth wedi’i bennu’n derfynol eto. O ganlyniad, roedd y cynllun wedi’i seilio ar uchafswm nifer y diwrnodau cynhyrchiol a oedd ar gael i’w rhoi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y flwyddyn gyfan a hynny ar sail cyflenwad llawn o staff. Cydnabyddid y dylem gofio’r ffaith y byddai 2019/20 yn flwyddyn bontio i’r gwasanaeth ac felly y byddai angen rhywfaint o hyblygrwydd o ran darparu gwasanaethau, ond fe fyddai trefniadau’n cael eu gwneud i fonitro perfformiad yn agos, i roi gwybodaeth i’r Pwyllgor Archwilio yn gyson a phe bai’r angen yn codi, byddai cymorth yn cael ei geisio i lenwi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.
Yn Atodiad A i'r adroddiad, ceid dogfen ddrafft y Strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2019/20. Roedd honno’n dangos sut y câi’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol ei ddatblygu a'i gyflwyno yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgorau a sut roedd hynny’n cysylltu ag amcanion a blaenoriaethau’r awdurdodau. Ychwanegodd y câi’r Strategaeth ei hadolygu a'i diweddaru bob blwyddyn mewn ymgynghoriad ag Aelodau a Swyddogion allweddol (megis y Cabinet a’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol).
Roedd y Cynllun Blynyddol Seiliedig ar Risg ar gyfer 2019/20 wedi’i lunio i sicrhau y cydymffurfid â’r safonau a geid yn y PSIAS. Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor Archwilio gael eu hysbysu'n llawn, ac i sicrhau y cydymffurfid â’r Safonau Archwilio Mewnol roedd y cynllun manwl drafft ar gael yn Atodiad B (i'r adroddiad). Wedyn amlinellodd i’r Aelodau Dabl 1 yn Atodiad A a oedd yn dangos Argaeledd a Defnydd Adnoddau Cynhyrchiol Ebrill 2019 - Mawrth 2020 – cynigion drafft.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried ac wedi cymeradwyo’r Strategaeth Archwilio Mewnol ddrafft (Atodiad A i’r adroddiad) a’r Cynllun Archwilio Seiliedig ar Risg blynyddol drafft ar gyfer 2019/20 (yn Atodiad B). |
|
Siarter y Cydwasanaeth Archwilio Mewnol Ranbarthol 2019/20 PDF 69 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cleientau Archwilio adroddiad ar Siarter Cydwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor ar gyfer 2019/20, yn Atodiad A i'r adroddiad.
Esboniodd fod Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) wedi dod i rym ers 1 Ebrill 2013 gan ddisodli Cod Ymarfer Archwilwyr Mewnol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).
Un o’r rolau allweddol sy'n dangos goruchwyliaeth y Pwyllgor Archwilio oedd cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol. Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi cymeradwyo siarter cyntaf y Cydwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2013/14 yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2013.
Roedd y PSIAS yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pennaeth Archwilio adolygu'r Siarter o bryd i'w gilydd, a chyfrifoldeb y Pwyllgor Archwilio oedd cymeradwyo’r Siarter yn y pen draw.
Esboniodd fod y Siarter, yn Atodiad A i'r adroddiad, yn adlewyrchu’r ffaith bod y cynnwys i raddau helaeth yn parhau yr un fath â’r testun blaenorol. Serch hynny, roedd bellach yn ymwneud â phedwar awdurdodau lleol yn gweithio ar y cyd, sef Bro Morgannwg, Pen-y-bont, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Gofynnodd yr Aelod Lleyg beth oedd barn y swyddogion ar arwyddocâd y penderfyniad i gydweithio ar raddfa ehangach, ac a fyddai hynny’n effeithio mewn unrhyw ffordd ar y gwasanaeth a gâi ei ddarparu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Eglurodd y Rheolwr Cleientau Archwilio y byddai'r uchod yn cael ei gymryd i ystyriaeth ac y byddai pob un o'r pedwar cyngor yn arddel ymagwedd safonol yn gyffredinol o ran eu priod prosesau archwilio. Eglurodd hefyd y byddai gwasanaeth ehangach yn helpu o ran rhagor o arbenigeddau yn ogystal â darparu mwy o ddyfnder gyda staffio, a fyddai yn ei dro yn caniatáu ar gyfer mwy o gapasiti gwaith yn gyffredinol. Felly, fe ddylai ansawdd a chyflymder archwiliadau wella.
Gofynnodd un o’r Aelodau a oedd unrhyw beth ar gael megis staff asiantaeth, o ran asesiadau risg, costau ac amseru.
Gofynnodd y Cadeirydd i ystyriaeth gael ei rhoi i edrych ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio yn yr awdurdodau cyfagos, yn enwedig y rhai a oedd yn ffurfio’r Cydwasanaeth Archwilio Mewnol, gyda golwg ar gysoni’r rhain. Ychwanegodd hefyd y dylid ystyried trefnu cyfarfodydd i gadeiryddion Pwyllgorau Archwilio’r awdurdodau cyfagos fel rhan o fenter rwydweithio, er mwyn rhannu ffyrdd effeithiol o weithio/arferion da.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried ac wedi cymeradwyo Siarter y Cydwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ar gyfer 2019/20 fel y’i hatodwyd yn Atodiad A i’r adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2018/19 wedi’i diweddaru a Rhaglen Arfaethedig 2019/20 PDF 71 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar flaenraglen waith 2018/19 a gofynnodd am gymeradwyaeth i raglen arfaethedig 2019/20.
Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad A yn yr adroddiad, a oedd yn amlinellu amserlen bresennol y cyfarfodydd a’r flaenraglen waith hyd yn hyn. Eglurodd fod yr eitem ar dwyll a drefnwyd ar gyfer 18 Ebrill 2019 wedi’i gohirio tan 13 Mehefin 2019.
Mewn ymateb i gwestiwn gan un o’r Aelodau ar eitem y Diweddariad am Dwyll a oedd wedi’i gohirio ers ychydig gyfarfodydd blaenorol yr oedd wedi'i threfnu ar eu cyfer, eglurodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog Adran 151 fod dwy eitem ar wahân i gael eu hystyried yn y Pwyllgor ar ddyddiad(au) yn y dyfodol mewn perthynas â Thwyll: diweddariad ar yr archwiliad blaenorol a gynhaliwyd mewn perthynas â Chardiau Prynu oedd y naill, a'r Fenter Twyll Genedlaethol oedd y llall.
Gofynnodd un o’r Aelodau am eglurhad ar symud dyddiadau’r Pwyllgor Archwilio ymlaen, gan ei bod hi o dan yr argraff eu bod nhw i fod i gael eu cynnal ar ddyddiadau gwahanol i'r hyn a amlinellid yn Atodiadau A a B i'r adroddiad.
Cadarnhaodd yr Uwch-swyddog Gwasanaethau Democrataidd – Pwyllgorau fod dyddiadau rhai cyfarfodydd wedi’u newid bellach o’r rhai a oedd wedi’u gosod dros dro o'r blaen, er mwyn darparu ar gyfer busnes penodol allweddol yr oedd angen i’r Aelodau ei ystyried
PENDERFYNWYD: Bod yr Aelodau wedi ystyried ac wedi nodi Blaenraglen Waith 2018/19. |
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim. |