Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 22ain Mehefin, 2022 14:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

I ethol cadeirydd am y flwyddyn i ddod

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Y dylid ethol Mr Gareth Chapman yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y flwyddyn i ddod.

2.

Ethol Is-gadeirydd

Ethol is-gadeirydd am y flwyddyn i ddod

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Yn dilyn pleidlais gan aelodau'r Pwyllgor, y dylid ethol Ms Susan Davies yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y flwyddyn i ddod.

3.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

4.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 222 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/03/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

5.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd Pwyllgorau adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Gofnod Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Roedd aelod o’r Pwyllgor yn falch o nodi bod cynllun Arbed wedi’i ystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor a’i fod yn achos ar ei ben ei hun a gofynnodd a allai’r Pwyllgor fonitro cynnydd y cynllun ac a oedd digon o adnoddau wedi’u neilltuo ar gyfer ei gwblhau.  Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol y byddai'n well i'r Cabinet neu'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol fynd i'r afael â gwaith sy'n cael ei wneud i unioni materion.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n well mynd i'r afael â hyn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol, gyda'r Pwyllgor Gwaith i weithredu arno, ond nododd y Pwyllgor ei bryderon ac y byddai'n cadw brîff gwylio ar y cynllun ac yn tynnu sylw at unrhyw faterion pe bydden nhw'n codi yn y dyfodol.   

 

Cwestiynodd aelod o'r Pwyllgor yr amserlen ar gyfer datblygu'r fframwaith contractwyr a manylion tendro terfynol ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor y byddai'r fframwaith contractwyr yn mynd allan yn fuan cyn dechrau tendro.

 

Holodd y Cadeirydd pam na fyddai diweddariad ar gwynion ysgolion yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor tan fis Medi.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod hyn i'w briodoli i'r ffaith bod cyfarfod mis Mawrth o'r Pwyllgor wedi'i ganslo a bod nifer fawr o eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod mis Gorffennaf.  Deallodd aelod o'r Pwyllgor fod Penaethiaid wedi ysgrifennu at yr awdurdod ac yn aros am ymateb gan eu bod wedi derbyn cyngor allanol ar bolisi ac y gallent symud ymlaen gyda'r fersiwn hon.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor y byddai adroddiad cynhwysfawr yn cael ei ddarparu i gyfarfod mis Medi o'r Pwyllgor. 

 

Holodd aelod o’r Pwyllgor y rheswm pam nad oedd y Pwyllgor wedi cael gwybodaeth am Risg SS-2019-01 mewn perthynas â chamau diogelu yn y cyfarfod hwn.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai'n ymchwilio i hyn. 

 

PENDERFYNWYD:            Bod y pwyllgor wedi nodi'r Cofnod Gweithredu.       

 

6.

Adroddiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Archwilio Cymru pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Archwilio Cymru ddiweddariad ar y gwaith Archwilio Ariannol a Pherfformiad a wnaed, ac sydd i'w wneud gan Archwilio Cymru, ynghyd â chrynodeb o'i Raglen a'i Amserlen o fewn y Cyngor. 

 

Rhoddodd Rachel Freitag, Rheolwr Archwilio (Archwilio Ariannol) grynodeb i'r Pwyllgor o'r gwaith Archwilio Ariannol a gyflawnwyd. Roedd yr archwiliad o Grantiau a ffurflenni 2020-21 y Cyngor wedi’i gwblhau.  Byddai Datganiad o Gyfrifon Drafft 2021-22 y Cyngor yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Gorffennaf y Pwyllgor.  Byddai adroddiad ar yr archwiliad o Ffurflenni 2021-22 ar gyfer Awdurdod Harbwr Porthcawl a Chyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo yn cael ei adrodd i gyfarfod mis Gorffennaf y Pwyllgor.  

 

Darparodd Samantha Clements, Arweinydd Archwilio (Archwilio Perfformiad) Archwilio Cymru grynodeb o'r gwaith Archwilio Perfformiad a wnaed.  Cyfeiriodd aelod o’r Pwyllgor at yr adolygiad o bartneriaeth iechyd Cwm Taf Morgannwg ar ôl i’r Cyngor drosglwyddo i’r bartneriaeth er mwyn cael sicrwydd bod y bwrdd iechyd a’r tri chyngor yn cydweithio’n effeithiol.  Holodd yr aelod a oes cynllunio hirdymor o safbwynt llywodraethu gyda'r Cyngor a datblygwyr yn y Cynllun Datblygu Lleol i ddarparu cyfleusterau iechyd lleol digonol wrth gynllunio datblygiadau preswyl newydd ac a oes digon o gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.  Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y bydd Archwilio Cymru yn darparu adroddiad ar Bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cwm Taf Morgannwg o fewn diweddariad chwarterol y rhaglen waith. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r argymhellion o adroddiad Archwilio Cymru ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gael eu cynnwys yn yr adroddiad DFG a oedd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi o'r Pwyllgor. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio (Archwilio Ariannol) grynodeb o Gynllun Archwilio 2022 a chyfeiriodd at risgiau archwilio allweddol a phrisiadau o asedau'r datganiadau ariannol.  Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y prisiadau o asedau yn cynnwys priffyrdd.  Dywedodd y Rheolwr Archwilio (Archwilio Ariannol) wrth y Pwyllgor fod pob dosbarth o ased yn cael ei brisio'n wahanol yn unol â chanllawiau CIPFA ar gyfrifo asedau a bod priffyrdd yn cael eu prisio fel ased wedi'i ddibrisio. 

 

Cyfeiriodd aelod o’r Pwyllgor at gynllun Grant Cymorth Busnes Llywodraeth Cymru a gofynnodd a oedd mynegi pryderon ynghylch sut y caiff ei weinyddu o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid fod yna fecanweithiau o fewn y Cyngor a fyddai'n edrych ar unrhyw weithgaredd twyllodrus.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor y dylid codi unrhyw bryderon ynghylch sut mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gydag ef. 

 

Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor a yw Archwilio Cymru am gynnal adolygiad o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.  Dywedodd yr Arweinydd Archwilio (Archwilio Perfformiad) na fyddai Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad ond y byddai’n ei integreiddio gyda'i waith archwilio perfformiad.  Defnyddir y ddeddfwriaeth fel sail i'w adolygiadau. 

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor am esboniad o'r term perthnasedd.  Eglurodd y Rheolwr Archwilio (Archwilio Ariannol) fod hyn yn ymwneud â lefel y gwallau neu gamddatganiadau y bydd Archwilio Cymru yn adrodd arnynt uwchlaw hynny. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd Archwilio (Archwilio Perfformiad) grynodeb o'r rhaglen archwilio perfformiad ar gyfer 2022-23,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid ar Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 wedi'i ddiweddaru a diweddariad ar y achosion o Ddigwyddiadau a Methiant Agos (nad ydynt yn ymwneud ag iechyd a diogelwch).

 

Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod yr Asesiad Risg Corfforaethol wedi'i adolygu mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol.  Nododd y prif risgiau sy’n wynebu’r Cyngor, eu cysylltiad â’r amcanion llesiant corfforaethol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac effaith debygol y risgiau hyn ar wasanaethau’r Cyngor, y Fwrdeistref Sirol ehangach.  Nododd hefyd yr hyn sy’n cael ei wneud i reoli’r risgiau a phwy sy’n gyfrifol am ymateb y Cyngor.  Mae'r asesiad risg yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod dwy risg newydd wedi'u hychwanegu at y gofrestr Risg Gorfforaethol a bod 14 o risgiau ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ar hyn o bryd.  O'r risgiau hynny, mae 7 yn cael sgôr uchel, 5 yn cael sgôr canolig, a 2 yn cael sgôr isel.  Dywedodd fod Risg SS-2019-01 wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r cynllun gwella a weithredwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a phenodiad Swyddog Diogelu Corfforaethol newydd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid fod archwiliad gan SWAP Gwasanaethau Archwilio Mewnol wedi argymell rhoi’r gorau i’r Weithdrefn Adrodd am Ddigwyddiadau a Methiant Agos gan ei bod yn cyflwyno haen ddiangen ac amhriodol o reolaeth ac mai ychydig iawn o ddigwyddiadau a adroddwyd dros y blynyddoedd.  Roedd y Bwrdd Rheoli Corfforaethol wedi cefnogi'r farn hon a chytunwyd y dylid rhoi'r gorau i'r Weithdrefn Adrodd am Ddigwyddiadau a Methiant Agos ar y ddealltwriaeth eu bod yn cael eu rheoli ar lefel Cyfarwyddiaeth yn hytrach na lefel gorfforaethol.  Dywedodd os oes risgiau penodol yr hoffai'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth amdanynt, y gellid cynllunio ymlaen llaw ac y byddai'r swyddogion perthnasol yn mynychu'r Pwyllgor i ateb ymholiadau a allai fod gan y Pwyllgor ar reoli risgiau.    

 

Gofynnodd aelod o’r Pwyllgor a oedd y sgoriau risg mor gyfredol â phosibl oherwydd y sefyllfa sy’n symud yn gyflym gyda’r argyfwng costau byw a chyfradd chwyddiant yn cynyddu a goblygiadau hynny i’r Cyngor ac i ofynion o ran y gweithlu, yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid fod risgiau’n cael eu diweddaru cyn gynted â phosibl, ond mae chwyddiant cynyddol wedi effeithio ar allu’r Cyngor i gyflawni cynlluniau allweddol.  Bydd swyddogion yn ymdrechu i sicrhau bod sgorau risg yn parhau'n ddilys a byddai swyddogion yn ailymweld â hwy pe teimlid nad ydynt yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.  Gofynnodd y Pwyllgor am i wybodaeth gael ei darparu i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol bod y sicrwydd a'r adolygiad o sgoriau risg yn parhau.  Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion gael digon o amser i baratoi ymatebion.            

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor, o ystyried bod yr awdurdod 9 mis i mewn i'r strategaeth caffael corfforaethol newydd, pa gamau a gymerwyd ers i'r strategaeth ddod i rym.  Dywedodd y Prif Swyddog, Cyllid,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Hunanasesiad Blynyddol o Berfformiad y Cyngor pdf eicon PDF 225 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus y wybodaeth ddiweddaraf am ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn benodol gofynion hunanasesu. 

 

Hysbysodd y Pwyllgor fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn nodi trefn wella llywodraeth leol newydd, sy'n rhoi mwy o gyfrifoldeb ar y Cyngor i ddangos gwelliant yn hytrach nag ar Archwilio Cymru a rheoleiddwyr eraill.  Un o ofynion y Ddeddf yw bod y Cyngor yn llunio a chyhoeddi adroddiad hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol, yn weithredol o 1 Ebrill 2021.  I wneud hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor sicrhau bod drafft o’i adroddiad hunanasesu ar gael i’w Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, er mwyn iddo adolygu’r adroddiad drafft a gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r casgliadau neu’r camau y mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd. 

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus fod y canllawiau'n annog y defnydd o ddata presennol, a phrosesau adrodd a herio cymaint â phosibl trwy brofi perfformiad a chanlyniadau ar gyfer defnyddio adnoddau a llywodraethu.  Dywedodd y bydd y canfyddiadau a'r dyfarniadau o bob un o'r tri chwestiwn yn cael eu coladu mewn un adroddiad syml, hygyrch. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - bydd yr adroddiad hunanasesu a’r asesiad llesiant blynyddol yn cael eu huno mewn un ddogfen.  Amlygodd y dyddiadau allweddol arfaethedig.

 

Wrth groesawu’r fenter hon, gofynnodd aelod o’r Pwyllgor a ellid gwneud hyn fel dangosfwrdd digidol.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus wrth y Pwyllgor y gellid edrych ar hyn. 

 

Roedd y Cadeirydd yn gobeithio y byddai'r amserlen yn hirach i sicrhau ymgysylltiad mwy ystyrlon gan y cyhoedd.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus mai’r bwriad oedd cael dull cyffyrddiad ysgafn ym mis Medi. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn cymeradwyo'r prosesau a'r trefniadau arfaethedig ar gyfer hunanasesiad corfforaethol 2021/22.

9.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2021-22 pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ar ei Farn Flynyddol ar amgylchedd rheoli'r Cyngor mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol ac i hysbysu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am waith a pherfformiad Archwilio Mewnol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2021 -22.

 

Dywedodd ei fod yn gyfrifol am ddatblygu cynllun archwilio blynyddol yn seiliedig ar risg sy'n ystyried fframwaith rheoli risg y Cyngor.  Roedd yn ofynnol i'r Pennaeth Archwilio Mewnol adolygu ac addasu'r cynllun, yn ôl yr angen, mewn ymateb i newidiadau ym musnes, risgiau, gweithrediadau, rhaglenni, systemau, rheolaethau ac adnoddau'r Cyngor.  Rhaid iddo hefyd sicrhau bod adnoddau Archwilio Mewnol yn briodol, yn ddigonol, ac yn cael eu defnyddio'n effeithiol i gyflawni'r cynllun cymeradwy.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y cynllun archwilio a gymeradwywyd yn hyblyg i ymateb i amgylchiadau newidiol a digwyddiadau a allai ddigwydd yn ystod y flwyddyn oherwydd y pandemig a ffyrdd gweithio o bell.  Roedd wedi gallu rhoi sicrwydd a gafwyd o'r gwaith archwilio a wnaed yn ystod y flwyddyn wrth ddarparu barn flynyddol gyffredinol.  Dywedodd fod gwaith archwilio wedi'i wneud o bell yn ystod y flwyddyn gyda staff yn gweithio o gartref yn bennaf.  Roedd archwiliadau wedi'u cynnal gan ddefnyddio datrysiadau digidol amrywiol ac er bod hyn wedi golygu llawer o waith dysgu ar ran staff archwilio a'r rhai a archwiliwyd, roedd pob un ohonynt wedi addasu'n dda i'r ffordd hon o weithio.

 

Crynhodd yr adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod 2021-22, yr argymhellion a wnaed a’r materion rheoli a nodwyd, cwblhawyd 27 adolygiad gyda barn archwilio a gwnaed 119 o argymhellion.  Dywedodd ar sail profi effeithiolrwydd yr amgylchedd rheolaeth fewnol y rhoddwyd barn archwilio o sicrwydd sylweddol i 4 adolygiad (15%) a barn o sicrwydd rhesymol i 22 adolygiad (81%).  Rhoddwyd barn archwilio lefel gyfyngedig i'r un archwiliad arall (4%), lle mai dim ond sicrwydd cyfyngedig y gellir ei roi ar y systemau rheolaeth fewnol presennol.  Dywedodd fod argymhellion wedi'u gwneud ar gyfer gwelliannau ac y byddai archwiliad dilynol yn cael ei gynnal i sicrhau bod rheolaethau wedi'u gwella i liniaru'r risgiau a nodwyd.

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor fod staff wedi'u paru â swyddi o fewn y strwythur newydd y cytunwyd arno a bod recriwtio i swyddi gwag wedi dechrau ac y bydd yn parhau hyd nes y bydd yr holl swyddi wedi'u llenwi. 

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor a oedd gwersi wedi'u dysgu gan y Cyngor o ran cynllun Arbed a faint o sicrwydd y gellid ei roi na fyddai unrhyw ailadrodd ar gynlluniau eraill.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ei fod yn ystyried hon yn sefyllfa unwaith ac am byth ac na fu unrhyw faterion tebyg.  Dywedodd ei bod yn ddilys edrych ar ddilyniant o argymhellion yn deillio o’r archwiliad o gynllun Arbed, y gallai’r Pwyllgor edrych arnynt.      

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor am ddiweddariad ar y cynnydd ar y 119 argymhelliad a wnaed gan Archwilio Mewnol.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod pob un o'r 119 o argymhellion wedi'u derbyn gan y rheolwyr ac y byddent yn cael eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Siarter Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol 2022-23 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol adroddiad ar y Siarter Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol (RIAS) ar gyfer 2022-23. 

 

Dywedodd mai pwrpas y Siarter yw diffinio pwrpas, awdurdod a chyfrifoldebau’r RIAS ar draws Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg, y mae’r Pennaeth Archwilio Mewnol yn gyfrifol am ei hadolygu a’i chyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pob Cyngor yn flynyddol i'w hadolygu a'i chymeradwyo yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS).  Roedd y Siarter wedi’i hadolygu ar gyfer 2022-23 i sicrhau ei bod yn parhau i adlewyrchu gofynion y PSIAS a’i bod yn berthnasol i bob un o’r pedwar Cyngor sy’n ymwneud â’r RIAS.  Nid oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud o ganlyniad i'r adolygiad.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo'r Siarter Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ar gyfer 2022-23 fel y'i hatodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad.   

11.

Strategaeth Archwilio Mewnol Flynyddol a Chynllun Seiliedig ar Risg 2022-23 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol am gymeradwyaeth i'r Strategaeth Archwilio Mewnol Flynyddol a'r Cynllun Seiliedig ar Risg ar gyfer 2022-23.

 

Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod y ddogfen Strategaeth Archwilio Mewnol ddrafft ar gyfer 2022-23 yn dangos sut y bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cael ei ddarparu a'i ddatblygu yn unol â'r Cylch Gorchwyl ac y bydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n flynyddol mewn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid.  Hysbysodd y Pwyllgor fod Cynllun gwaith drafft seiliedig ar risg blynyddol 2022-23 wedi'i lunio yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS).  Dywedodd fod y Cynllun Blynyddol arfaethedig yn parhau i gydnabod risgiau penodol sy'n codi o ffyrdd o weithio o bell a'i fod hefyd yn hyblyg i ganiatáu ar gyfer amgylchiadau a digwyddiadau sy'n newid.  Bydd gwaith Archwilio Mewnol yn cael ei wneud o bell gan ddefnyddio fideo-gynadledda a datrysiadau digidol fel sail ar gyfer cyfarfodydd a rhannu dogfennau a data ond bydd hefyd yn cynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb a chyfarfodydd yn ôl yr angen ar gyfer pob archwiliad. 

 

Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor y bydd y Cynllun Blynyddol arfaethedig yn cynnig digon i allu rhoi barn ar ddiwedd 2022-23 a bydd y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau ar sut mae’r Cynllun yn cael ei gyflawni ac unrhyw newidiadau y gall fod eu hangen.

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor a oedd modd cyflawni'r cynllun, ac a fyddai'n cysylltu â'r Gofrestr Risg, systemau ariannol a monitro'r gyllideb ac a fyddai adroddiadau pellach yn cael eu derbyn ar y cynnydd a wnaed ar y cynllun.  Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod y cynllun wedi'i lunio'n seiliedig ar gyflenwad llawn o staff, ond bod cynlluniau wrth gefn yn yr ystyr y gellid comisiynu Gwasanaethau Archwilio Mewnol SWAP i wneud rhywfaint o'r gwaith archwilio.  Dywedodd y bydd y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau chwarterol ar gynnydd y cynllun.  Byddai'r cynllun hefyd yn cysylltu â'r Gofrestr Risg ac mae'r archwiliad o systemau ariannol a monitro'r gyllideb wedi’i gynnwys yn y cynllun. 

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor a oedd rheswm dros beidio â chynnwys yr arolygiad priffyrdd yn y cynllun. Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod nifer cyfyngedig o ddiwrnodau ar gael ar gyfer archwiliadau, ac yn dilyn penderfyniadau gyda’r Uwch Reolwyr o fewn y Gyfarwyddiaeth cytunwyd bod cyfiawnhad dros ganolbwyntio adnoddau ar feysydd gwasanaeth eraill yr ystyriwyd eu bod yn risg uwch, ac felly blaenoriaeth uwch, ond bydd priffyrdd yn cael eu hystyried yn y blynyddoedd i ddod.

 

Gofynnodd aelod o'r Pwyllgor a oedd gan y Cyngor y capasiti ar gyfer lefel y newid a gynigir.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod gan y Cyngor hanes da o weithredu argymhellion a gwneud y newidiadau y gofynnwyd amdanynt.  Gofynnodd y Cadeirydd a oes digon o gapasiti o fewn y Gwasanaeth Archwilio Mewnol i gyflawni'r cynllun ac a ddylid ei resymoli.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol wrth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

Blaenraglen Waith Ddiwygiedig 2022-23 pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid am gymeradwyaeth i'r Blaenraglen Waith Ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer 2022-23 a thynnodd sylw at swyddogaethau craidd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio effeithiol.  Tynnodd sylw at yr eitemau y bwriedir eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 28 Gorffennaf 2022 a gofynnodd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r rhestr hon, cadarnhau'r rhestr o bobl yr hoffent eu gwahodd ar gyfer pob eitem (os yw'n briodol), a nodi a oedd angen unrhyw wybodaeth neu ymchwil ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo'r Flaenraglen Waith Ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer 2022-23.  

13.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.