Lleoliad: Hybrid yn Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 323 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/01/2023 Cofnodion:
Tynnodd Aelod sylw at y cofnod ar yr olrheiniwr rheoleiddio (tudalen 4) yn dweud bod angen am naratif o amgylch y categorïau Ambr a Choch, yn enwedig sut y byddai'n bosibl adnabod y swyddogion oedd yn gyfrifol am y cynlluniau cywiro ac am gymeradwyo argymhellion. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai swyddogion gael golwg ar hyn mewn trafodaethau ynghylch yr olrheiniwr rheoleiddio.
|
|
Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 208 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd – Pwyllgorau - yr adroddiad, gan nodi mai ei ddiben oedd rhoi diweddariad i'r Aelodau am Gofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd hwn wedi cael ei ddyfeisio i gynorthwyo'r Aelodau i olrhain y penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor, gan gynnwys unrhyw gamau oedd i ddilyn lle bo angen.
Gofynnodd aelod am adroddiad ar seiberddiogelwch, a chytunwyd y gellid ystyried hyn fel rhan o'r drafodaeth ar y Flaenraglen Waith.
Awgrymodd y Cadeirydd yr ymdrinnid â rhai o’r materion yn yr adroddiad yn y cyfarfod oherwydd bod adroddiadau cynhwysfawr o dan Eitem 5, Adroddiadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gan Archwilio Cymru, ond yr oedd arno eisiau tynnu sylw at ddwy eitem:
· Y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Gofynnodd y Cadeirydd am gadarnhad bod hwn wedi derbyn sylw, a rhoddwyd hynny.
· Cwynion Corfforaethol. Nododd y Cadeirydd fod yr adroddiad diweddaru mewnol ar y mater hwn i gael ei gyflwyno i'r Aelodau yn y cyfarfod hwn. Cytunwyd y câi'r adroddiad ei ychwanegu at y Flaenraglen Waith i'w gyflwyno i gyfarfod mis Mehefin y pwyllgor.
Nododd cynrychiolydd o Archwilio Cymru fod yna gam gweithredu ar gyfer Archwilio Cymru yn gysylltiedig â chysgu allan a digartrefedd. Mewn ymateb, nododd hi, o ran mesurau perfformiad a metrigau, mai Llywodraeth Cymru sy’n gosod y mesurau perfformiad cenedlaethol ar gyfer digartrefedd a chysgu allan, a’u bod hefyd wedi bod yn coladu data misol. Cafodd y rhain eu rhannu gyda'r Prif Weithredwr a gellid rhannu'r rhain yn ehangach ag Aelodau'r pwyllgor i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch y pwnc.
Tynnodd Aelod Lleyg sylw at y camau gweithredu hynny yn ymwneud ag Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23, oedd wedi cael eu categoreiddio fel ‘Parhaus’, o ran pryd y caent eu dwyn gerbron y pwyllgor, ac a oedd angen cael hyn yng Nghofnod y Camau Gweithredu. Byddai eitemau o'r fath yn y Cofnod Gweithredu yn barhaol.
Mewn ymateb, nodwyd y câi’r asesiad risg corfforaethol ei adolygu'n rheolaidd iawn, a’i fod i ddod yn ôl i'r pwyllgor hwn ym mis Mehefin. Mae'n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd, gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau a wnaed gan yr Aelodau y tro diwethaf ynghylch problemau cyflwyno.
PENDERFYNWYD:
Nododd y pwyllgor y Cofnod Gweithredu a rhoddodd sylwadau ar hyn, fel oedd yn briodol.
Cytunwyd i ofyn i'r Prif Weithredwr gylchredeg y data oedd yn deillio o'r mesurau perfformiad a'r metrigau (gan gynnwys y data misol) oedd yn deillio o'r mesurau perfformiad cenedlaethol ar gyfer digartrefedd a chysgu allan a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
|
|
Adroddiadau ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gan Archwilio Cymru PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno i'r Pwyllgor adroddiadau gan Archwilio Cymru, gan gynnwys diweddariad ar y gwaith archwilio ariannol ac archwilio pherfformiad a wnaed, ac sydd i'w wneud, gan Archwilio Cymru, ynghyd ag ymateb y rheolwyr i'r Adolygiad Rheoli Perfformiad.
Darparodd Archwilio Cymru nifer o adroddiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eu hystyried. Y rhain oedd:
Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru (Atodiad A) – o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol lunio diweddariad i’r rhaglen waith ar gyfer pob blwyddyn ariannol i bob prif gyngor yn cwmpasu ei swyddogaethau ef a swyddogaethau’r ‘rheoleiddwyr perthnasol’ (Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn). Yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Gorffennaf 2021, adroddodd Archwilio Cymru y byddant yn darparu fersiwn wedi'i diweddaru o'r adroddiad hwn i'r Cyngor yn chwarterol. Rhydd Atodiad A y sefyllfa ddiweddaraf fel ar 31 Mawrth 2023.
Crynodeb o Archwiliad Blynyddol 2022 (Atodiad B) – dengys yr adroddiad hwn y gwaith a gwblhawyd ers Crynodeb yr Archwiliad Blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022. Mae’r crynodeb o’r archwiliad yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Adolygiad Rheoli Perfformiad (Atodiad C) – mae'r adroddiad yn ymdrin â’r adolygiad o drefniadau rheoli perfformiad y Cyngor, sy’n cael ei gynnal er mwyn gweld pa mor dda y maent yn hysbysu'r Cyngor am gynnydd o ran cwrdd â’i flaenoriaethau, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023. Ceir ymateb y rheolwyr i’r adroddiad hwn ynghlwm fel Atodiad D.
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio o Archwilio Cymru yr adran archwilio ariannol yn yr adroddiad cyntaf yn fyr, gan nodi bod eu harchwiliad o ddatganiadau ariannol 2021-22 a gwaith grantiau 2021-22 bellach wedi cael ei gwblhau.
Cydnabu eu bod yn hwyr yn llofnodi cyfrifon y llynedd oherwydd nifer o faterion cenedlaethol a bod gwaith cynllunio yn mynd rhagddo yn awr ar gyfer archwiliad ariannol 2022-23.
O ran datganiadau ariannol 2022-23, nododd eu bod yn gobeithio dod â chynllun archwilio amlinellol i gyfarfod nesaf y pwyllgor ac y bydd cynllun manylach yn dilyn hynny ar ddiwedd y gwaith cynllunio. Oherwydd dull diwygiedig o archwilio eleni, bu'n rhaid mynd drwy'r camau a gweithio allan yn fanwl beth oedd y risgiau archwilio cyn cwblhau cynllun cyflawn.
Darparodd y Rheolwr Archwilio Perfformiad yn Archwilio Cymru drosolwg byr ar agweddau’r adroddiad oedd yn ymdrin ag archwilio perfformiad.
O ran proses sicrwydd ac asesu risg Archwilio Cymru, mae hwn yn waith sy’n cael ei wneud ar draws y ddau Gyngor ar hugain i edrych ar amrywiaeth o wasanaethau a threfniadau. Mae hyn yn galluogi Archwilio Cymru i benderfynu a oes gan gynghorau drefniadau priodol ac a ydynt yn cwrdd â’u hegwyddor datblygu cynaliadwy, ond mae hefyd yn gymorth i lywio gwaith yn y dyfodol.
Mae sefyllfa ariannol y ddau gyngor ar hugain yn ddarn parhaus o waith.
O ran rheoli’r rhaglen gyfalaf, mae Archwilio Cymru yn gobeithio y bydd briff prosiect yn mynd allan i’r Cyngor yn weddol fuan, yn nodi cwmpas y gwaith hwnnw. Byddai hwnnw’n ddarn o waith fyddai’n cael ei wneud ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 64. |
|
Cynnydd yn erbyn Cynllun Seiliedig ar Risg Archwilio Mewnol 2022-23 PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi datganiad sefyllfa i Aelodau'r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y gwaith archwilio oedd wedi ei gynnwys ac a gymeradwywyd yng Nghynllun Seiliedig ar Risg Archwilio Mewnol 2022-23.
Cyflwynwyd y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-23 i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei ystyried a'i gymeradwyo ar yr 22ain o Fehefin 2022. Roedd y Cynllun yn amlinellu'r aseiniadau oedd i gael eu cynnal fyddai'n rhoi digon o wybodaeth i fedru ffurfio barn ar ddiwedd 2022-23.
Roedd y Cynllun yn hyblyg i ganiatáu ar gyfer newid mewn amgylchiadau a digwyddiadau a allai godi, megis ceisiadau i ymateb i faterion newydd a allai ddod i'r amlwg.
Mae’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun a gymeradwywyd, ar gyfer y cyfnod o’r 1af o Ebrill 2022 hyd yr 31ain o Fawrth 2023, wedi ei atodi yn Atodiad A. Rhydd hwn sefyllfa bresennol pob adolygiad a gynlluniwyd, y farn archwilio, a’r nifer o argymhellion blaenoriaeth uchel, canolig neu isel a gafodd eu gwneud i wella'r amgylchedd rheoli.
Dylid nodi nad oes gan rai adolygiadau a restrwyd farn archwilio, er enghraifft, cyngor ac arweiniad ac adroddiadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio/Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB). Y rheswm am hyn yw bod y gwaith archwilio a wnaed ar yr eitemau hyn wedi cael ei gynllunio ond nad yw natur y gwaith yn arwain at brofi a ffurfio barn archwilio, er y gwneir argymhellion mewn rhai achosion.
Dengys Atodiad A fod cyfanswm o ddau ar bymtheg o archwiliadau wedi cael eu cwblhau gyda barn archwilio tra mae chwe archwiliad pellach wedi cael eu cyhoeddi mewn ffurf ddrafft. Disgwylir adborth gan yr adrannau gwasanaeth gyda golwg ar gynlluniau gweithredu'r rheolwyr ar gyfer yr archwiliadau drafft hyn ac unwaith y bydd yr adborth wedi cael ei dderbyn caiff yr adroddiadau eu cwblhau. Yn ogystal, mae deg archwiliad yn cael eu hadolygu a disgwylir i'r adroddiadau archwilio drafft gael eu cyhoeddi'n fuan. Felly, amcangyfrifir y bydd barn archwilio tri deg tri o archwiliadau yn bwydo i mewn i'r farn archwilio flynyddol gyffredinol ar gyfer 2022-23.
Yn seiliedig ar yr asesiad o gryfderau a gwendidau’r meysydd a archwiliwyd drwy roi prawf ar effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli mewnol mae’r farn archwilio ar gyfer y 17 o archwiliadau fel a ganlyn: pump wedi cael sicrwydd sylweddol, 11 sicrwydd rhesymol ac un archwiliad wedi cael barn archwilio o sicrwydd cyfyngedig, hynny yw, dim ond sicrwydd cyfyngedig y gellir ei roi ar y system bresennol o reolaeth fewnol.
Roedd yr un olaf hwn yn ymwneud ag ysgol gynradd ac mae’r manylion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ond roedd y materion allweddol yn ymwneud â threfniadau llywodraethu. Cynhaliwyd yr archwiliad hwn ym mis Hydref 2022. Er bod rhai cryfderau wedi cael eu nodi, gwelwyd bod y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar yr ysgol a darganfuwyd problemau allweddol. Roedd y rhain yn ymwneud â’r Corff Llywodraethu a fethodd â chwrdd â’r gofyniad statudol i gyfarfod bob tymor yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22 oherwydd bod problemau Aelodaeth a phresenoldeb yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 65. |
|
Siarter y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol 2023-24 PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno Siarter y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ar gyfer 2023-24 i Aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei chymeradwyo.
Nododd Pennaeth newydd RIAS fod hon yn ddogfen bwysig gan ei bod yn egluro'r trefniadau llywodraethu sydd yn eu lle.
Mae Siarter RIAS yn gosod sefyllfa gweithgarwch archwilio mewnol o fewn pob Cyngor ynghyd â’r llinellau adrodd. Mae'n ddogfen ffurfiol sy'n diffinio pwrpas, awdurdod a chyfrifoldeb gweithgareddau archwilio mewnol.
Mae’r Siarter yn diffinio pwrpas, awdurdod, a chyfrifoldebau’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ar draws Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Cafodd y Siarter ei hadolygu’n llawn a’i diwygio ar gyfer 2020-21 i ddatblygu siarter gyson ar gyfer y pedwar Cyngor ac i fod yn gyson ag amcanion y Cydwasanaeth, hynny yw, dileu dyblygu a chymhwyso arfer gorau.
Mae'r Siarter yn sefydlu safle gweithgaredd archwilio mewnol o fewn pob Cyngor, ynghyd â’r llinellau adrodd, gan awdurdodi mynediad at gofnodion, personél, ac eiddo ffisegol sy'n berthnasol i gyflawni’r gwaith archwilio ac yn diffinio cwmpas y gweithgareddau archwilio mewnol.
Mae Pennaeth Archwilio Mewnol yn gyfrifol am adolygu’r Siarter a’i chyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pob Cyngor yn flynyddol i’w hadolygu a’i chymeradwyo yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
Mae’r RIAS yn ymrwymedig i fodloni'r safonau a nodwyd yn Fframwaith Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus ac adroddir am unrhyw wyriadau sylweddol oddi wrth y Safonau wrth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Diweddarwyd y Siarter i gynnwys yn Adran 2.17, “yn ogystal â'r Cod Moeseg, rhaid i staff gydymffurfio â Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus a Chod Llywodraethu Corfforaethol Cyngor Bro Morgannwg, y cyfeirir atynt yn Atodiad 3 – Gofynion Ychwanegol.” Hefyd, diweddarwyd paragraff 4.11 o’r Siarter, sy’n ymwneud ag Asesiadau Allanol, i adlewyrchu bod hunanasesiad cynhwysfawr a manwl wedi cael ei gynnal yn ystod 2022 ac wedi cael ei rannu â’r aseswyr allanol ym mis Tachwedd 2022. Mae asesiad allanol RIAS yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac i gael ei gwblhau ym mis Ebrill 2023. Mewn ymateb i’r cyflwyniad, gofynnodd Aelod, gan gyfeirio at adran 2.12, “Bydd Pennaeth Archwilio Mewnol yn anelu at gael perthnasoedd gwaith cadarn a sianeli cyfathrebu ag Aelodau Etholedig ac yn neilltuol, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Cabinet a Phwyllgorau Craffu,” sut y byddai hyn yn gweithio'n ymarferol, ac a oedd yna awgrymiadau o ran arfer gorau. Dywedodd Pennaeth y RIAS fod hyn yn dangos ei annibyniaeth ef ac annibyniaeth ei dîm. Os oes gan unrhyw Aelod etholedig bryderon ynghylch sut mae busnes y Cyngor yn gweithredu, yna gall ddod ato i drafod y pryderon. Gwnaeth yn glir ei fod yn rhan o’r weithdrefn chwythu’r chwiban ac felly, os oedd gan Aelod etholedig bryder difrifol ynghylch afreoleidd-dra neu aneffeithlonrwydd, gallai ddod yn uniongyrchol ato ef. Fel dilyniant, gofynnodd yr Aelod sut y gellid cyfleu hyn i bob Aelod etholedig. Dywedodd Pennaeth RIAS y byddent yn ystyried sut i gyfleu hyn fel rhan o’u gwaith yn 2023-24. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd hwn yn fater i'r Pwyllgor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 66. |
|
Polisi Atal Osgoi Trethi PDF 295 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno’r Polisi Atal Osgoi Trethi wedi ei ddiweddaru i’r pwyllgor cyn cyflwyno’r Polisi i’r Cabinet i’w gymeradwyo ym mis Mehefin 2023.
Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi ymrwymo i sefydlu a chynnal trefniadau effeithiol i atal a chanfod achosion o lwgrwobrwyo, llygredd ac osgoi trethi mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor. Mae'r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i bob Aelod a gweithiwr ddangos y safonau uchaf o onestrwydd ac uniondeb, ac mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae gan y Cyngor bolisïau Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo a Gwrth-wyngalchu Arian i gefnogi trefniadau effeithiol i atal a chanfod achosion o lwgrwobrwyo a llygredd, sy'n cael eu monitro a'u hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Mae’r llywodraeth yn credu y dylai cyrff perthnasol fod yn atebol yn droseddol os ydynt yn methu ag atal y rhai sy’n gweithredu dros neu ar eu rhan rhag hwyluso osgoi talu trethi yn droseddol. Felly, mae’r polisi hwn ar osgoi trethi yn mynd i’r afael yn benodol ag atal osgoi trethi ac yn darparu dull cydlynol a chyson ar gyfer yr holl weithwyr ac unrhyw berson sy’n cyflawni gwasanaethau ar gyfer neu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r polisi’n amlinellu cyfrifoldebau staff, a'r ymrwymiad sydd ei angen ar lefel uwch o fewn y Cyngor i weithredu'r mesurau sydd eu hangen i gyfyngu ar y graddau yr ydym yn agored i'r risg hon. Mae hefyd yn mynd i'r afael â’r ffordd y dylid rhoi gwybod am bryderon, yr hyfforddiant a'r wybodaeth a fydd ar gael i staff yn hyn o beth a hefyd sut y caiff y polisi ei adolygu.
Cymeradwyodd y Cabinet y polisi yn erbyn osgoi talu trethi ym mis Chwefror 2021. Mae’r ddogfen a gyflwynwyd i’r pwyllgor yn bolisi sydd wedi cael ei ddiweddaru. Mae'r adolygiad hwn yn diweddaru'r polisi ac yn gwneud nifer o fân newidiadau. Mae’r rhain yn cynnwys nodi bod y Polisi’n berthnasol i Aelodau a Swyddogion, diweddaru rôl y Dirprwy Bennaeth Cyllid, nad yw bellach yn un interim, ei gwneud yn glir bod y polisi i’w adolygu bob dwy flynedd, a mân newidiadau i’r cyflwyniad a’r fformat.
Gofynnir i aelodau’r pwyllgor ystyried y polisi fel rhan o’u rôl i gael sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethu corfforaethol a rheoli risg y Cyngor. Caiff y polisi ei ystyried gan y Cabinet ym mis Mehefin.
Holodd Aelod faint o bobl oedd wedi cael eu herlyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf am beidio â thalu Treth y Cyngor. Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd y ffigwr ganddi gyda hi ond y gallai ei roi i'r Aelod y tu allan i'r cyfarfod.
Trafododd Aelod arall yr her o adnabod pobl ‘gysylltiedig’ â’r Cyngor sy’n darparu gwasanaethau ar ei gyfer neu ar ei ran ac a oes unrhyw rai ohonynt yn ceisio osgoi talu trethi ai peidio.
Mewn ymateb, atgoffodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau fod gan y Cyngor brosesau tynn iawn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 67. |
|
Blaenraglen Waith 2023-24 PDF 156 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Pwrpas yr adroddiad hwn oedd gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Flaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer 2023-24.
Dywedodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid y gallai'r rhestr o eitemau i'w trafod mewn cyfarfodydd penodol gael eu newid, er mwyn cymryd i ystyriaeth eitemau eraill fydd angen eu hystyried, a ffactorau gweithredu.
Dylid nodi bod dyddiadau cyfarfodydd yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor yn ei Gyfarfod Blynyddol a gynhelir ar 17 Mai 2023.
Gyda golwg ar eitemau penodol, cafodd yr adroddiad ar Gwynion Corfforaethol ei ohirio tan fis Mehefin ac nid yw ar y Flaenraglen Waith hon, ond daw i gyfarfod mis Mehefin, a chaiff seiberddiogelwch ei godi fel rhan o’r asesiad risg corfforaethol. At hynny, bydd y datganiad cyfrifon yn dod i gyfarfod yn y dyfodol, fel y bo’n briodol.
Gofynnwyd i'r aelodau a oedd unrhyw adroddiadau ychwanegol yr hoffent eu cael ar y Flaenraglen Waith, neu unrhyw Swyddogion yr hoffent eu gwahodd i gyfarfodydd.
Dywedodd Aelod y byddai'n briodol derbyn diweddariad ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.
PENDERFYNWYD:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried a chymeradwyo'r Flaenraglen Waith ar gyfer 2023-24.
Cytunwyd y câi mater diogelwch data ei gynnwys fel rhan o'r Asesiad Risg Corfforaethol, ac y dylid gwahodd Aelod y Cabinet a'r Swyddogion sydd â chyfrifoldeb am y materion hyn i'r cyfarfod nesaf.
Cytunwyd y câi’r adroddiad ar Gwynion Corfforaethol ei ychwanegu at y Flaenraglen Waith i'w gyflwyno i gyfarfod mis Mehefin y pwyllgor.
Cytunwyd i roi diweddariad ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar y Flaenraglen Waith yn y flwyddyn i ddod.
|
|
Materion brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |