Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 10fed Medi, 2020 14:00

Lleoliad: Remote meeting via Skype for Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Pwyllgor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

197.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

 

198.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 111 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/07/2020

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16/07/2020 fel rhai cywir yn amodol ar ychwanegu'r mynychwyr canlynol: Gill Lewis, Josephine Williams, John Llewellyn

199.

Cofnod Gweithredoedd y Pwyllgor Archwilio pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn diweddaru Aelodau am Gofnod Gweithredoedd y Pwyllgor Archwilio.

 

Dywedodd fod y cofnod gweithredoedd wedi'i greu i gynorthwyo'r Pwyllgor i olrhain penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor wrth gyflawni ei swyddogaethau. Cyflwynwyd y cofnod gweithredoedd i'r pwyllgor ym mhob cyfarfod. Atodwyd cofnod gweithredoedd wedi'i ddiweddaru yn Atodiad A yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi nodi'r cofnod gweithredoedd.

 

200.

Diweddariad Pwyllgor Archwilio, Archwilio Cymru pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd cynrychiolydd Archwilio Cymru (AC) adroddiad a oedd yn diweddaru'r Pwyllgor yngl?n â'r Gwaith Archwilio Ariannol a Pherfformiad yr ymgymerwyd ag o gan Archwilio Cymru yn ystod 2020-21.

 

Eglurodd cynrychiolydd AC y rhoddwyd yr eitem hwn gerbron y Pwyllgor Archwilio yng nghyfarfod y mis diwethaf a nododd, oherwydd gwyliau'r haf a gwyliau blynyddol, nad oedd datblygiadau sylweddol wedi bod ers y cyfarfod diwethaf.

 

Eglurodd y Cynrychiolydd AC bod gwaith archwilio perfformiad 2019-20 yn tynnu at y terfyn erbyn Hydref 2020. Nododd na fyddant yn cyflwyno'r Adroddiad Gwelliant Blynyddol fel y gorffennol, ond byddai cyfuniad o adrodd ar archwiliad perfformiad ac ariannol. Ychwanegodd y byddai'n diweddaru'r pwyllgor ynghylch y dull adrodd pan fydd ganddi'r wybodaeth honno.

 

Eglurodd y cynrychiolydd AC bod y gwaith Sicrwydd ac Asesiad Risg ar gyfer 2021 yn dal i fynd rhagddo a bod y gwaith Cynllunio Adferiad wedi dechrau, gyda'i chydweithiwr wedi mynychu'r Panel Craffu Adferiad yn ddiweddar. Ychwanegodd fod trafodaethau ar fin cael eu cynnal gyda swyddogion perthnasol a'r Prif Weithredwr a'r Swyddog Adran 151 yngl?n ag arsylwadau a gwaith maes posibl yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Cynrychiolydd AW mewn perthynas â'r adroddiad Cam 1 Cynaliadwyedd Ariannol, y bydd yr adroddiad cenedlaethol i'w gyhoeddi ar 1 Hydref 2020.

 

Eglurodd y Cynrychiolydd AW mewn perthynas â'r prosiect Ffocws Digidol ei bod wedi bod mewn cyswllt â Swyddogion ac yn disgwyl ymateb ganddynt i drefnu cyfarfod cwmpasu fel y gellir dechrau ar waith maes a drafftio briff prosiect i'r pwyllgor yr oedd disgwyl iddo fod yn barod erbyn Hydref 2020.

 

Eglurodd y Cynrychiolydd AC ei bod wedi ychwanegu crynodeb o'r cyhoeddiadau diweddar at yr adroddiad, gyda dolenni gwe.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro beth oedd y trefniadau ar gyfer mynd i'r afael â'r canfyddiadau ac argymhellion mewn perthynas â'r Adroddiad Twyll Cenedlaethol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y byddai canfyddiadau'r Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol yn hwyrach ymlaen yn yr agenda yn helpu i ffurfio ymateb i'r Adroddiad Twyll Cenedlaethol ac awgrymu y dylid cyflwyno adroddiad i Aelodau yn y Pwyllgor Archwilio nesaf.

 

Gofynnodd Aelod a oedd adroddiad yngl?n ag iechyd meddwl yn cael ei gyhoeddi yng ngoleuni pandemig Covd-19. Nododd y Cynrychiolydd AC y byddai'n rhoi diweddariad yn y Pwyllgor Archwilio nesaf.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi nodi Diweddariad Pwyllgor Archwilio, Archwilio Cymru yn Atodiad A yr adroddiad.

 

201.

Asesiad Risg Corfforaethol 2020-2021 pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro adroddiad a oedd yn diweddaru'r Pwyllgor Archwilio yngl?n â'r newidiadau i'r Asesiad Risg Corfforaethol.

 

Eglurodd fod llawer wedi newid ers y cyflwynwyd yr asesiad risg diwethaf i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Ionawr. Rhestrwyd yr asesiad risg wedi'i ddiweddaru yn Atodiad A yr adroddiad ac fe gafodd ei adolygu mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a'r Uwch Dîm Rheoli. Ychwanegodd ei fod yn adnabod y prif risgiau sy'n wynebu'r Cyngor, eu cysylltiad â'r themâu blaenoriaeth, yr effaith mae'r rhain yn debygol o'i chael ar wasanaethau'r Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol ehangach, adnabod beth sy'n cael ei wneud i reoli'r risgiau a phwy sy'n gyfrifol am ymateb y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro rai enghreifftiau yn Atodiad A lle byddai angen newid sawl dyddiad:

 

  • Roedd teitl Atodiad A yn anghywir a dylai nodi Awst 2020.
  • Dylai'r dyddiad adolygu ar gyfer Risg 2, 4 a 6 nodi Hyd 2020.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro y cafwyd cyfarfodydd rheoli dyddiol yn ystod anterth y pandemig Covid-19, lle'r oedd risgiau yn ymwneud â Covid-19 yn cael eu hadnabod a'u trin yn ddyddiol, ac felly ni chafwyd eu hychwanegu at y gofrestr risgiau. Eglurodd fod y rhain wedi'u cynnwys yn yr adroddiadau wythnosol i'r cyfarfodydd Aur a bod hynny'n cael ei ystyried yn adroddiad digonol yngl?n â'r risgiau sydd ynghlwm â Covid-19.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro yr ychwanegwyd rhagor o risgiau i'r gofrestr risgiau yn sgil Covid-19 er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n fanwl drwy gydol y pandemig gyda'r gobaith y byddant yn cael eu tynnu i ffwrdd yn fuan. Er enghraifft, roedd risg 11, risg 12 a risg 13 yn risgiau parhaus mewn cysylltiad â Covid-19 a byddant, gyda gobaith, yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr risgiau yn fuan. Ychwanegodd nad oedd hyn yn cynnwys unrhyw risgiau newydd posibl nad oeddem yn ymwybodol ohonynt eto wrth i amgylchiadau newidiol barhau i ddod i'r amlwg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro a'i thîm am yr holl waith caled yn rheoli'r sefyllfa.

 

Gofynnodd aelod am ddiweddariad ynghylch y llif arian a'r risgiau cysylltiedig a pha mor gyflym oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu arian yn ystod pandemig Covid-19.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro mewn perthynas ag incwm, ei fod yn dod o wahanol ffynonellau a bod y Cyngor wedi bod yn hawlio am gostau ychwanegol yn sgil Covid gan Lywodraeth Cymru yn fisol a bod bron i dri chwarter hwnnw eisoes wedi'i ad-dalu. Ychwanegodd na chafwyd problemau llif arian.

 

Gwnaeth Ddirprwy Bennaeth Dros Dro yr Adran Gyllid sylw ar y risg llif arian gan nodi bod taliadau heb eu talu yn dal i fodoli o ran y Grantiau Busnes ac er bod y cynllun wedi cau bellach, bod hawliau heb eu talu a oedd angen gwybodaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 201.

202.

Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys Blynyddol 2019-20 pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro adroddiad a oedd yn diweddaru'r Pwyllgor Archwilio ynghylch sefyllfa'r alldro ar gyfer gweithgareddau rheoli'r trysorlys, Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019-20 a phwysleisio cydymffurfiaeth â pholisïau ac arferion y Cyngor cyn eu hadrodd i'r Cabinet a'r Cyngor.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Prif Gyfrifydd Dros Dro bod y Pwyllgor Archwilio wedi'i enwebu i fod yn gyfrifol am sicrhau gweithgareddau craffu effeithiol o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a gweithgareddau. Yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20, derbyniodd y Pwyllgor Archwilio Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys Blynyddol 2018-19 ym mis Mehefin 2019, yr Adroddiad Rheoli'r Trysorlys Hanner Blwyddyn 2019-20 ym mis Tachwedd 2019 a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-21 ym mis Ionawr 2020. Rhestrir rhagor o gefndir yn adran 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p - Prif Gyfrifydd Dros Dro mai ymgynghorwyr rheoli'r trysorlys y Cyngor oedd Arlingclose. Mae'r gwasanaethau cyfredol a ddarperir i'r Cyngor yn cynnwys:

 

• cyngor ac arweiniad ar bolisïau, strategaethau ac adroddiadau perthnasol

• cyngor ar benderfyniadau buddsoddi

• hysbysu statws credyd a newidiadau

• gwybodaeth arall yngl?n ag ansawdd credydau

• cyngor ar benderfyniadau rheoli dyledion

• cyngor ar gyfrifyddu

• adroddiadau ar berfformiad y trysorlys

• rhagolygon cyfraddau llog

• cyrsiau hyfforddi

 

Yn dilyn proses dendro diweddar, adnewyddwyd y contract ar gyfer Arlingclose am gyfnod o 4 blynedd, hyd at fis Awst 2024, a oedd yn ein caniatáu i gael perthynas gadarnhaol barhaus gyda nhw ac elwa ar eu gwybodaeth o'r Cyngor a'r sefyllfa ariannol.

 

Eglurodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro bod 2019-20 wedi bod yn flwyddyn heriol gyda Brexit a'r pandemig Covid-19 yn fwy diweddar. Yn sgil hyn cafwyd newidiadau yng nghyfraddau llog a chyfraddau chwyddiant. Darparwyd rhagor o gyd-destun economaidd yn 4.1 yr adroddiad.

 

Eglurodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro bod crynodeb o weithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer 2019-20 i'w weld yn Atodiad A yr adroddiad. Dangoswyd sefyllfa ddyledion a buddsoddiadau allanol y Cyngor ar gyfer 1 Ebrill 2019 hyd at 31 Mawrth 2020 yn Nhabl 1 a darparwyd rhagor o fanylion yn adran 3, Strategaeth Benthyca ac Alldro, ac adran 4, Strategaeth Buddsoddi ac Alldro.

 

Adroddodd na ymgymerwyd â benthyciadau hirdymor yn 2019-20 ac na ymgymerwyd ag ail-drefnu dyled gan nad oedd arbedion sylweddol i'w gwneud, fodd bynnag, bydd y portffolio benthyciadau yn cael ei adolygu yn ystod 2020-21.

 

Mae llifoedd arian ffafriol wedi darparu mwy o gyllid i'w buddsoddi a balans y buddsoddiadau ar 31 Mawrth 2020 oedd £30 miliwn, gyda chyfradd llog cyfartaledd o 0.82%. Roedd hwn yn gynnydd yn y buddsoddiadau taladwy o ddechrau'r flwyddyn ariannol lle'r oedd buddsoddiadau yn £27.4 miliwn (cyfradd llog cyfartaledd o 0.94%). Mae Tabl 2 yn Atodiad A yn manylu symudiad y buddsoddiadau yn ôl mathau parti i gontract ac mae'n dangos y balansau cyfartalog, y llog a gafwyd, hyd gwreiddiol a'r cyfraddau llog ar gyfer 2019-20.

 

Amlinellodd Rheolwr y Gr?p - Prif Gyfrifydd Dros Dro bwyntiau allweddol yn Atodiad A yr adroddiad a oedd yn cynnwys:

 

203.

Datganiad o Gyfrifon 2019-20 pdf eicon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Gyfrifydd y Rheolwr Gr?p Dros Dro Ddatganiad o Gyfrifon terfynol ar gyfer 2019-20, a fydd bellach yn cael ei ardystio gan archwilwyr allanol, Archwilio Cymru, a Llythyr Sylwadau cysylltiedig y Cyngor.  Dywedodd y bydd Archwilio Cymru yn diweddaru'r Pwyllgor am eu prif ganfyddiadau o'r archwiliad, yn crynhoi'r gwaith archwilio a gynhaliwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20, ac yn cyflwyno eu Hadroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol, sy'n mynnu bod yr archwilydd penodedig yn adrodd y canfyddiadau allweddol hynny i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am lywodraethu.

 

Adroddodd fod y Datganiad o Gyfrifon 2019-20 heb eu harchwilio wedi'i lofnodi gan y swyddog ariannol cyfrifol ar 30 Mehefin 2020 a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ar 16 Gorffennaf 2020 i'w nodi.  Dywedodd fod yr archwiliad allanol wedi'i gynnal yn ystod y cyfnod cyfamserol, gan arwain

at newidiadau i'r datganiadau ariannol a nodir isod:

 

  • Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr - cywiro triniaeth gwaredu ased rhwng Cost Gwasanaethau a Gwariant Gweithredu Arall.
  • Taflen Balansau - cynnydd yn yr asedau i gynrychioli dychweliad cartref gofal i berchnogaeth y Cyngor.

 

Ni chafodd yr un o'r addasiadau hyn effaith ar Gronfa'r Cyngor.

 

Adroddodd fod nifer o'r nodiadau wedi'u haddasu na effeithiodd ar sefyllfa ariannol y Cyngor, ac maent wedi'u manylu yn Adroddiad yr Archwiliwr.  Nododd fod angen i'r Prif Swyddog Ariannol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio lofnodi'r Datganiad o Gyfrifon 2019-20 erbyn 15 Medi, fel 'adlewyrchiad gwir a theg' o sefyllfa ariannol y Cyngor ar 31 Mawrth 2020.

 

Nododd hefyd fod Archwilio Cymru wedi cwblhau rhan sylweddol o'u gwaith archwilio a bydd y Datganiad o Gyfrifon yn cael ei lofnodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 14 Medi 2020, yn amodol ar y Pwyllgor Archwilio yn cymeradwyo'r cyfrifon.  Nid oes newid i falansau Cronfa'r Cyngor a Chronfeydd wedi'u Clustnodi ar 31 Mawrth 2020, fel y cyflwynir i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Mehefin 2020.  Nododd fod un argymhelliad wedi'i godi ar ôl yr archwiliad, mewn cymhariaeth â naw y flwyddyn flaenorol.  Mae'r argymhelliad yn ymwneud â goruchwylio Cofrestr Asedau Sefydlog y Cyngor, ac yn nodi y dylai'r Cyngor gryfhau ei reolyddion mewn perthynas â'r Gofrestr Asedau drwy ymgymryd ag adolygon rheolaidd o fynediad a defnydd y system.  Sicrhaodd y Pwyllgor bod gwiriadau blynyddol yn cael eu cynnal

drwy sicrhau bod balansau agoriadol yn y flwyddyn gyfredol yn cyd-fynd â balansau terfynol y flwyddyn flaenorol fel rhan o broses Datganiad o Gyfrifon Terfynol flynyddol, a bod ychwanegiadau a gwarediadau yn cyd-fynd â thrafodion yn y system gyfrifeg graidd.  Nododd y bydd adolygiadau yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn i sicrhau gonestrwydd parhaus y data a gedwir yn y Gofrestr Asedau i ddarparu sicrwydd ychwanegol yn unol â'r argymhelliad.

 

Hysbysodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y Pwyllgor ei fod wedi rhyddhau ei ofynion ac yn bwriadu cyhoeddi tystysgrif archwilio anghymwys, yn cadarnhau eu bod yn cyflwyno safbwynt gwir a theg ac wedi'u paratoi'n gywir.  Diolchodd y staff am eu proffesiynoldeb a hysbysu'r Pwyllgor y bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ardystio'r cyfrifon ar 14 Medi 2020.

 

Rhoddodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 203.

204.

Llythyr Archwilio Harbwr Porthcawl pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Gyfrifydd Rheolwr y Gr?p Dros Dro Lythyr Archwilio Blynyddol 2019-20 yr Archwiliwr Penodedig ar gyfer Harbwr Porthcawl. 

 

Adroddodd fod yr Archwiliwr Penodedig yn bwriadu cyhoeddi tystysgrif archwilio anghymwys, yn cadarnhau eu bod yn cyflwyno safbwynt gwir a theg o sefyllfa ariannol a thrafodion yr Harbwr.  Nododd fod y llythyr hefyd yn cadarnhau bod yr Archwiliwr Penodedig yn fodlon na chanfuwyd unrhyw

gamddatganiadau yn y Datganiad Blynyddol a dim materion eraill sy'n effeithio ar eu barn archwilio.  Dywedodd wrth y Pwyllgor y bydd disgwyl i'r Archwiliwr Penodedig ardystio'n ffurfiol bod archwiliad o'r cyfrifon wedi'i gwblhau, ar 14 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Pwyllgor wedi nodi'r Llythyr Archwilio Blynyddol 2019-20.   

205.

Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cleientiaid Archwilio yr Archwiliad Mewnol y Cynllun yr Archwiliad Mewnol Blynyddol yn Seiliedig ar Risgiau ar gyfer 2020-21.

 

Adroddodd mai yn unol â Safonau Archwiliad Mewnol y Sector Cyhoeddus, rhaid i'r Pennaeth Archwilio Mewnol sefydlu cynlluniau yn seiliedig ar risgiau i bennu blaenoriaethau'r gweithgarwch archwilio mewnol, yn unol â nodau'r sefydliad.  Nododd mai er mwyn datblygu'r cynllun yn seiliedig ar risgiau, bydd y Pennaeth Archwilio Mewnol yn ymgynghori â'r uwch reolwyr a'r bwrdd ac yn ennill dealltwriaeth o strategaethau'r sefydliad, amcanion busnes allweddol, risgiau cysylltiedig a phrosesau rheoli risg.  Rhaid i'r Pennaeth Archwilio Mewnol adolygu ac addasu'r cynllun, fel sy'n angenrheidiol, i ymateb i newidiadau ym musnes, risgiau, gweithredoedd, rhaglenni, systemau a rheolyddion y sefydliad.

 

Adroddodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio y bydd y cynllun archwilio drafft ar gyfer 2020-21 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio fis Ebrill 2020 ond bod yr argyfwng COVID19 wedi oedi'r broses gan fod angen ystyried risgiau sylweddol newydd a ffyrdd newydd o weithio i fod yn sail i'r Cynllun.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor bod penderfyniadau brys ym mis Mawrth 2020 mewn perthynas â sut fyddai angen gweithredu gwasanaethau'r Cyngor yng ngoleuni'r pandemig a rhoddwyd trefniadau brys mewn lle yngl?n â gwneud penderfyniadau a llywodraethiant rhag ofn y byddai eu hangen a byddai cyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgor yn cael eu gwahardd dros dro.  Nododd mai er mwyn cynnal gwasanaeth parhaus lle bynnag sy'n bosibl, bod y Cyngor wedi symud yn arbennig o gyflym i gyfarparu cymaint â phosibl o'i staff swyddfa gyda thechnoleg symudol i alluogi iddynt weithio gartref o fewn amserlen hynod fer.  Ble'r oedd rolau staff yn lleihau oherwydd llai o waith neu wasanaethau ddim yn cael eu darparu, ceisiwyd yn weithredol a gweithredwyd cyfleoedd

ar gyfer adleoliad dros dro.

 

Nododd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio mai oherwydd y newidiadau sylweddol i'r ffordd yr oedd y Cyngor yn gweithredu ac yn gweithredu ar hyn o bryd, roedd cynnal ail-werthusiad o'r cynllun drafft gwreiddiol i ddatblygu Cynllun yn Seiliedig ar Risgiau ar gyfer 2020-21 yn angenrheidiol.  Nododd fod yr eitemau sydd wedi'u nodi yn y cynllun gwreiddiol yn dilyn yr amryw gyfarfodydd ymgynghori a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a Mawrth 2020 (cyn COVID 19) wedi'u cynnwys fel sylfaen i'r cynllun diwygiedig hwn ochr yn ochr ag asesiad risg ar y bryd.  Cynhaliwyd asesiad risg wedi'i ddiweddaru hefyd oherwydd COVID 19. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio wybod i'r Pwyllgor y bydd pwyslais gwahanol oherwydd effaith COVID; risgiau sy'n codi yn sgil COVID, argaeledd staff archwilio a gwasanaeth a heriau yn codi yn sgil gweithio o bell.  Nododd fod y cynllun wedi'i ddiweddaru yn fwy hyblyg na'r arfer er mwyn gallu ymateb i amgylchiadau newidiol a digwyddiadau a all ddigwydd megis ail don/argyfyngau, gallu i gael staff a thystiolaeth neu geisiadau i ymateb i faterion newydd a all amlygu eu hunain.  Bydd y gwaith Archwilio Mewnol yn cael ei gynnal o bell gan ddefnyddio fideo-gynadledda a datrysiadau digidol fel sylfaen ar gyfer cyfarfodydd a rhannu dogfennau a data.

 

Adroddodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 205.

206.

Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio adroddiad ar y cyd rhwng y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro a Phennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol yngl?n ag Adroddiad Twyll Corfforaethol Blynyddol 2019-20.  Rhoddodd yr adroddiad fanylion i'r Pwyllgor o'r gweithredoedd a wnaethpwyd mewn perthynas â gwrth-dwyll yn ystod 2019/20 gan gynnwys diweddariad ar Ymarfer y Fenter Twyll Cenedlaethol.

 

Adroddodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio ar y trefniadau sydd mewn lle i reoli'r risg o dwyll gyda'r nod o atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac adrodd amdano.  Dywedodd fod y Cyngor yn gosod safonau uchel i Aelodau a Swyddogion wrth weithredu a gweinyddu materion y Cyngor, a'i fod bob amser wedi ymdrin ag unrhyw honiadau neu amheuon o dwyll, llwgrwobrwyaeth a llygredigaeth yn brydlon.  Mae gan y Cyngor bolisïau, gweithdrefnau, a mecanweithiau adrodd yn eu lle i atal, canfod ac adrodd ar dwyll, llwgrwobrwyaeth a llygredigaeth, sy'n cynnwys y Strategaeth a Fframwaith Twyll, Polisi Chwythu'r Chwiban, Cod Ymddygiad TGCh a'r Polisi Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyaeth.  Mae Strategaeth a Fframwaith Twyll rhwng 2018/19 a 2020/21 yn parhau i fod yn sail i ymrwymiad y Cyngor i atal bob ffurf ar dwyll, llwgrwobrwyaeth a llygredigaeth, p'un a geisir gwneud hynny'n allanol neu'n fewnol.

 

Bu i'r Rheolwr Cleientiaid Archwilio grynhoi'r gwaith gwrth-dwyll a wnaed yn yr Awdurdod yn ystod 2019/20.  Nododd fod Strategaeth a Fframwaith Twyll y Cyngor yn cynnwys gwaith ymatebol a rhagweithiol gyda'r gwaith rhagweithiol sydd wedi'i gynnwys mewn cynllun gweithredu sy'n nodi'r datblygiadau mae'r Cyngor yn ymgymryd â nhw i wella ei wytnwch i dwyll a llygredigaeth ac amlinellodd y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun gweithredu.  Mae modiwl e-ddysgu Atal Twyll wedi'i ddatblygu a'i gyflwyno i staff, mae gwybodaeth ynghylch twyll yn cael ei diweddaru a'i chyhoeddi i staff ar y fewnrwyd ac mae proses asesu risg fwy manwl o dwyll yn cael ei datblygu a fydd yn cysylltu â'r broses rheoli risgiau corfforaethol. 

 

Yn ogystal, adroddodd y Rheolwr Cleientiaid Archwilio ar fanylion yr ymarfer paru data diwethaf a oedd yn seiliedig ar ddata a gafwyd ym mis Medi 2018, lle'r oedd cyfanswm o 484 o achosion o dwyll neu gamgymeriadau wedi'u canfod yn cyfartalu i £41,700 o gronfeydd adferadwy sydd ar y cyfan yn gysylltiedig â'r dreth gyngor neu fudd-dal tai. Nododd y bydd yr ymarfer paru data nesaf yn dechrau yn 2020/21, bydd y data yn cael ei godi fis Hydref 2020 a bydd y parau newydd yn cael eu datgan fis Ionawr 2021.  Darparodd y Pwyllgor hefyd gyda manylion y gwaith gwrth-dwyll mewnol a wnaethpwyd gan yr Archwiliad Mewnol ac Ymchwilydd Twyll y Cyngor gan gynnwys ymchwiliadau mewnol ac ymchwiliadau i ostyngiadau yn y dreth gyngor.  Nododd hefyd yr ymgymerwyd â gwaith ar y cyd yn ystod 2019/20 gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Ymchwilio Twyll Sengl ar unrhyw ymchwiliadau priodol i fudd-daliadau a gwaith mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Portsmouth i ymgymryd â gweithred gorfodi'r bathodyn glas.  Mae rhwydweithio lleol hefyd mewn lle sydd wedi galluogi rhannu deallusrwydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 206.

207.

Blaenraglen Waith 2020-21 wedi'i diweddaru pdf eicon PDF 245 KB

Cofnodion:

Ceisiodd Dirprwy Bennaeth Dros Dro yr Adran Gyllid gymeradwyaeth am y Blaenraglen Waith wedi'i Diweddaru ar gyfer 2020-21 a phwysleisiodd swyddogaethau craidd Pwyllgor Archwilio effeithiol.

 

Pwysleisiodd yr eitemau sydd wedi'u rhestru i'w cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 12 Tachwedd 2020 a gofynnodd i'r Pwyllgor gadarnhau'r amserlen hon, cadarnhau rhestr o'r bobl yr hoffent wahodd ar gyfer pob eitem (os yn briodol), a nodi a oes angen unrhyw wybodaeth neu ymchwil ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD:            Bod Aelodau wedi ystyried a chymeradwyo'r Blaenraglen Waith a gynigiwyd ar gyfer 2020-21.    

208.

Eitemau Brys

ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Nid oedd yna unrhyw eitemau brys.