Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Iau, 10fed Tachwedd, 2022 10:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Dim

37.

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Dim

38.

Cymeradwyaeth Cofnodion

Cofnodion:

Eglurodd A Bagley ei fod wedi anfon ei ymddiheuriad ond dim ond am yr awr gyntaf a’i fod yn bresennol ar gyfer eitem Archwiliad Blynyddol Ffurflen Adrodd Porthladd Porthcawl 2021-22 ac ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo cofnodion 13/10/2022 fel cofnod gwir a chywir yn amodol ar nodyn fod A Bagley yn absennol am awr gyntaf y cyfarfod ac yn bresennol am ran olaf y cyfarfod.

39.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd yr Adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am Gofnod Gweithredu’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Roedd y cofnod gweithredu ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Pwyllgor yn nodi’r Cofnod Gweithredu.

40.

Traciwr Rheoleiddio pdf eicon PDF 273 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus adroddiad yn tynnu sylw’r Pwyllgor at faterion a godwyd gan Archwilio Cymru ynghylch monitro, rhannu a defnyddio adroddiadau rheoleiddwyr, ac argymhellion yn codi o’r adroddiadau ac yn cynnig atebion i wella prosesau.

 

Eglurodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus fod crynodeb lefel uchel o weithgarwch rheoleiddio arfaethedig Archwilio Cymru wedi ei gynnwys yn systematig yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (GAC). Cynigiwyd bod hwn yn cael ei ymestyn i gynnwys yr holl archwiliadau, adolygiadau ac arolygiadau a gwblhawyd, a'r argymhellion penodol a wnaed ganddynt ar gyfer y Cyngor. Byddai hyn yn ffurfio traciwr rheoleiddio ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gellid ei ymestyn hefyd i gynnwys yr holl reoleiddwyr (o ran eu harolygiadau eang, corfforaethol neu wasanaeth cyfan), gan gynnwys Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaethau EM ar gyfer y Gwasanaeth Prawf a Charchardai. Cynigiwyd eu bod yn canolbwyntio'n bennaf ar y ddwy flwyddyn ariannol flaenorol, 2020/21 a 2021/22, yn ychwanegu arolygiadau pellach wrth iddynt gael eu cyhoeddi a thynnu arolygiadau allan yn unig pan fyddai’r holl argymhellion yn eu herbyn wedi cael eu cau. Ychwanegodd nad oedd bwriad i gynnwys arolygiadau gwasanaethau rheoleiddiedig e.e. arolygiadau AGC o gartrefi preswyl, lle roedd nifer o arolygiadau bob blwyddyn, gyda nifer o argymhellion yn erbyn pob un. Gyda golwg ar yr arolygiadau hyn, roedd y cyfrifoldeb yn fwy amlwg ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc priodol. Cynigiwyd bod y traciwr rheoleiddio hwn yn cael ei ystyried yn fanwl yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ddwywaith y flwyddyn, ym mis Ionawr a mis Gorffennaf, i gwmpasu cynnydd hanner cyntaf y flwyddyn, ac wedyn yr ail hanner.

 

Eglurodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus sut y byddai'r traciwr rheoleiddio yn gweithio i sicrhau goruchwyliaeth gorfforaethol a gwleidyddol. Pe câi ei wneud yn effeithiol, byddai hefyd yn arwain at ddealltwriaeth gliriach o ble roedd mewnbwn rheoleiddwyr wedi arwain at newid a gwelliant mewn gwasanaethau.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai modd, o ran y camau gweithredu gofynnol, darparu syniad o amserlen i'r chwarter agosaf. Atebodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus pan fyddai rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ym mis Ionawr, y câi'r bylchau hyn eu llenwi.

 

Cefnogodd Aelod y cynnig i ganolbwyntio ar y 2 flynedd ariannol flaenorol ac ychwanegodd y dylai'r Pwyllgor ganolbwyntio nid yn unig ar y rhan archwilio ond hefyd ar y risg.  

 

Eglurodd Aelod ei fod yn meddwl bod hwn yn syniad da. Fodd bynnag, hoffai weld adran yn yr adroddiad yngl?n â chyfathrebu a thryloywder. Gofynnodd hefyd sut y byddai hyn yn cael ei gyfleu'n briodol i'r Aelodau a'r trigolion. Atebodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus fod hwn yn syniad da ac y byddai'n ystyried y ffordd orau o'i gyflawni.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad ond cododd bryderon ynghylch sut y byddai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei hysbysu am gamau gweithredu blaenoriaeth uchel neu gritigol ac a oedd adroddiad chwe mis yn rhy hir. Atebodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus mai'r syniad oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 40.

41.

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2022-23 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar yr adolygiad canol blwyddyn a’r sefyllfa hanner blwyddyn ar gyfer gweithgareddau rheoli’r trysorlys a dangosyddion rheolaeth y trysorlys ar gyfer 2022-23, gan dynnu sylw at gydymffurfio â pholisïau ac arferion y Cyngor. Câi’r adroddiad ei chyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p – Prif Gyfrifydd y cefndir i’r adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cydymffurfio â’i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol yn ystod y cyfnod 1 Ebrill i 30 Medi 2022. Amlinellodd weithgareddau rheoli’r trysorlys ar gyfer Ebrill 2022 – Medi 2022 a’r sefyllfa bresennol fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad. Roedd y gweithgareddau a'r dangosyddion allweddol wedi eu cynnwys yn yr atodiadau.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr angen i’r adroddiad fod yn dryloyw, yn ddarllenadwy a hygyrch i'r holl drigolion. Derbyniai fod hwn yn arfer cyfrifyddu safonol yn y ffordd y'i gosodwyd ond credai y byddai trigolion heb gefndir ariannol yn cael trafferth i’w ddeall. Dylid ei ategu â mwy o ddatganiadau mewn Saesneg clir ynghylch y sefyllfa. Roedd hwn yn bwnc llosg ar hyn o bryd ac ni allai trigolion ddeall pam yr oedd gan yr awdurdod gymaint o arian yn y banc. Gofynnodd sut y gellid ei wneud yn fwy dealladwy ac o fewn cyrraedd trigolion. Atebodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd y byddai'n mynd â’r mater hwn i ffwrdd ac yn ystyried beth ellid ei wneud cyn yr adroddiad nesaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at fenthyciadau LOBO a'r achos proffil uchel a oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gydag awdurdod lleol yr oedd CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi benthyg arian iddo. Dymunai ddeall yn well y broses a achosodd i’r sefyllfa honno godi. Ar hyn o bryd, roedd 3 benthyciad yn ddyledus gan yr awdurdod hwnnw. Roedd yna broses yr oeddem wedi'i mabwysiadu ar gyfer asesu risg benthyciadau. Roedd ef ar ddeall bod y cynghorwr wedi rhoi cyngor i bob awdurdod lleol i beidio â rhoi benthyg rhagor o arian i'r awdurdod hwn oherwydd y sefyllfa ariannol yr oedd ynddi. Ym mis Hydref, cytunwyd i roi benthyg rhagor o arian i'r awdurdod ar ôl derbyn y cyngor hwn. O fewn cylch gorchwyl y pwyllgor hwn, yr oedd ef yn gofyn am arweiniad, neu unrhyw newidiadau yr oedd angen eu gwneud i arferion y cytunwyd arnynt, sef pan fyddai cyngor yn cael ei dderbyn gan y cynghorwr swyddogol i beidio â rhoi benthyg arian i awdurdod, na fyddai unrhyw arian pellach yn mynd allan ar ôl derbyn y cyngor hwnnw. Eglurodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd fod y benthyciadau LOBO yn hollol wahanol ac nad benthyciadau i awdurdodau lleol eraill oeddent, ond bod yr achos yr oedd yr aelod yn cyfeirio ato yn achos o fenthyca rhwng awdurdodau i awdurdodau lleol eraill. Roedd benthyca i awdurdodau lleol eraill yn arfer sefydledig, oedd yn darparu lefel uchel o ddiogelwch a lefel isel o risg. Roedd Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, a gyflwynwyd ar ffurf ddrafft  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 41.

42.

Adolygiad Hanner Blwyddyn o'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu oedd yn cyd-fynd â’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (DLlB) oedd wedi ei gynnwys yn Natganiad Cyfrifon Drafft 2021-22 yn erbyn y materion sylweddol a nodwyd a sut yr oeddent yn cael eu trin yn 2022-23. Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y datganiad drafft yn ôl ym mis Gorffennaf ac roedd yn rhoi asesiad cyffredinol o'r trefniadau llywodraethu corfforaethol oedd yn eu lle ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cafodd cynnydd yn erbyn unrhyw gamau gweithredu ei fonitro fel yn y cynllun gweithredu yn atodiad B. Gofynnwyd i'r aelodau ystyried y cynllun gweithredu a'r cynnydd a wnaed erbyn diwedd mis Medi.

 

Roedd Aelod yn pryderu ynghylch pa mor hygyrch a darllenadwy oedd yr adroddiad. Roedd hon yn ddogfen ar gyfer y cyhoedd, a phobl y tu allan oedd ei phrif gynulleidfa, ac roedd ymhell o’r lle y dylai fod. Wrth gynhyrchu dogfennau cyhoeddus, dylid defnyddio gwirwyr darllenadwyedd. Roedd angen llawer o waith ar gyfathrebu ac roedd hwn yn fan cychwyn da. Roedd mewn PDF heb unrhyw ddolenni cyswllt ac roedd yn rhaid dod o hyd i'r dogfennau drwy chwilio ar Google. Roedd angen i'r dogfennau fod yn wirioneddol hygyrch i drigolion, yn hawdd eu cael ac yn cofleidio'r oes ddigidol a'r ffordd ddigidol o gyflwyno dogfennau, gan gynnwys gwybodeg. Atebodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod rhai materion yn dechnegol ac yn gysylltiedig â deddfwriaeth ond y dylent fod yn hygyrch er hynny ac y byddent yn mynd â’r sylwadau hyn i ffwrdd ac yn eu gweithredu yn y datganiad nesaf.

 

Diolchodd Aelod i'r swyddogion am ddogfen gynhwysfawr. Cyfeiriodd at dudalen 57 a gwaith Archwilio Cymru a'r Archwilydd Allanol a'r adroddiadau ond nad oedd gwybodaeth am yr hyn oedd yn cael ei wneud yn eu cylch. Nid oedd unrhyw wybodaeth am y materion hollbwysig, y rhai blaenoriaeth uchel, y rhai hwyr nac unrhyw beth i ddweud beth y dylent fod yn edrych arno. Roedd tudalen 61 yn cynnwys gwaith Archwilio Mewnol ac argymhellion yn cael eu derbyn ar wahanol adegau ond roedd hyn yn niwlog. Byddai'n fwy defnyddiol pe bai mwy o wybodaeth ar gael am y sefyllfa bresennol. Cytunodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hyperddolenni i draciwr o fewn y ddogfen yn gymorth.

 

Roedd Aelod yn pryderu mai ychydig iawn o sôn a fu am Garbon Niwtral 2030. Roedd wedi disgwyl i hynny gael y lle blaenaf oll ac y byddai’n allweddol i’r ddogfen ei hun a sut y byddent yn cyflawni’r nod o fod yn niwtral o ran carbon. Gobeithiai y gallai'r adroddiad nesaf gynnwys adran sylweddol ynghylch ymrwymiadau gwyrdd. Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod hyn wedi ei godi ym mis Gorffennaf a'u bod wedi cytuno i'w gynnwys yn yr adroddiad nesaf.

 

Nododd Aelod gamgymeriad ar linell waelod y tabl ar dudalen 55 yr adroddiad. Y cyfanswm a hawliwyd oedd £16,510 nid £16,50.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at hyperddolenni mewn dogfennau electronig a gwnaeth y pwynt  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 42.

43.

Asesiad Risg Corfforaethol 2022-23 pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr Asesiad Risg Corfforaethol yn ddogfen a gyflwynir i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn rheolaidd a’i bod yn amlinellu’r risgiau corfforaethol allweddol yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu ar y pryd a hefyd y camau lliniaru a gymerwyd i geisio cyfyngu’r risgiau hynny. Fel ym mharagraff pedwar yr adroddiad, bu nifer o ddiweddariadau drwy'r Asesiad Risg Corfforaethol. Y rheswm am hynny oedd yr hinsawdd yr oedd yr awdurdod yn gweithio ynddo gyda gwasanaethau'n newid mor gyflym. Pan ystyriwyd hyn o’r blaen, cafwyd trafodaeth yngl?n â’r ffordd orau o gyflwyno'r materion yn yr asesiad risg. Cytunodd yr Aelodau y byddai plymio'n ddyfnach i un neu ddwy o'r risgiau ym mhob cyfarfod yn galluogi'r Aelodau i'w deall a hefyd i ofyn cwestiynau yn dilyn y drafodaeth honno. Y ddwy risg ar gyfer y cyfarfod hwn oedd bod y Cyngor yn medru gwneud penderfyniadau cadarn yn y tymor canolig i’r tymor hir o ran y gyllideb a gofal cymdeithasol, yn enwedig Gwasanaethau Oedolion.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn edrych am sicrwydd bod y Gyfarwyddiaeth yn ymdrin â'r materion hyn yn y modd mwyaf priodol yn hytrach na phlymio'n ddwfn i'r materion neu'r achosion gweithredol.

 

Cyfeiriodd Aelod at fformat yr adroddiad a’i bod yn anodd deall a oedd y risgiau’n gwaethygu neu’n cael eu rheoli’n llwyddiannus ers yr adroddiad diwethaf. Byddai’n ddefnyddiol gweld yn glir unrhyw newidiadau i’r risg. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid gyfeirio at hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Amlinellodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion weithgarwch rheoleiddio yn y maes, y meysydd lle roedd pwysau yn enwedig yn y Gwasanaethau Gofal Cartref a Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol. Ychwanegodd y byddent yn cyflwyno adroddiad llawn i'r pwyllgor craffu ym mis Chwefror, fyddai'n rhoi mwy o sicrwydd a dyfnder i'r camau yr oeddent yn eu cymryd. Rhoddodd amlinelliad byr o'r risgiau a rhai o'r camau lliniaru mewn perthynas â diogelwch a lles oedolion sy'n wynebu risg.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i'r Pwyllgor weld Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn ar gyfer sicrwydd. Atebodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yr adroddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor fel ei fod ar gael ar y wefan i bob Aelod o’r Pwyllgor ei weld. O ran trefniadau gweithio ar y cyd roedd blocio gwelyau yn broblem, roedd cael pecynnau gofal i unigolion i adael yr ysbyty yn fater arall a gofynnodd pa waith cydweithredol oedd yn mynd rhagddo rhwng CBS Pen-y-bont ar Ogwr, y Bwrdd Iechyd lleol ac eraill megis y sector gwirfoddol i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion eu bod yn gweithio law yn llaw â'r Bwrdd Iechyd yn y gwasanaethau oedolion ac amlinellodd sut roedd hyn yn gweithio ar draws y gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw gyfraniad gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â dadansoddiad cost a budd o gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 43.

44.

Cynnydd yn erbyn Cynllun yr Archwiliad Mewnol Seiliedig ar Risg 2022-23 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol adroddiad yn rhoi datganiad sefyllfa ar y cynnydd oedd yn cael ei wneud yn erbyn cynllun yr archwiliad. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hyd at 30 Medi 2022. Roedd naw adolygiad archwilio wedi cael eu cwblhau, pump â barn archwilio tra roedd un adroddiad wedi cael ei gyhoeddi fel drafft ac roedd 15 o archwiliadau yn mynd ymlaen ar y pryd. Rhoddwyd barn archwilio o sicrwydd sylweddol i dri o'r archwiliadau hynny a gwblhawyd a barn o sicrwydd rhesymol i'r ddau arall. Roedd yr archwiliadau oedd wedi eu cwblhau wedi gwneud cyfanswm o 13 o argymhellion hyd yma. Ychwanegodd fod y gwasanaeth archwilio mewnol rhanbarthol wedi llwyddo i recriwtio 7 aelod newydd o staff yn ddiweddar. Teimlid y byddai digon o waith wedi ei wneud erbyn diwedd y flwyddyn i roi barn archwilio gyffredinol.

 

Gofynnodd Aelod sut y gallai'r pwyllgor hwn fod yn sicr bod modd cyflawni'r cynllun gan roi digon o sylw i’r meysydd blaenoriaeth. Atebodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ei bod yn anodd ffurfio barn ynghylch hynny ond y gallai fod o gymorth pe bai'n rhoi syniad o ble roeddent yn y cyfarfod nesaf.

 

Roedd Aelod yn bryderus ynghylch nifer yr archwiliadau oedd yn mynd ymlaen a gofynnodd ai dyna oedd y cynllun. Atebodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod gan Archwilwyr fel arfer ddyraniadau chwarterol ond yn yr achos hwn roedd yr Archwilwyr wedi cael dyraniadau chwe mis fel y gallai fod mwy o hyblygrwydd, felly, lle nodwyd, roedd archwiliadau'n parhau a gwaith wedi dechrau arnynt. Roedd hi'n hyderus y caent eu cwblhau ac roedd yn arwydd realistig o ble roeddent.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a ellid cael dyddiad targed ar gyfer eu cwblhau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi    cynnwys yr adroddiad a'r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun yr Archwiliad Mewnol Seiliedig ar Risg 2022-23.

45.

Monitro argymhellion pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol yr adroddiad Monitro Argymhellion oedd yn cynnwys yr holl argymhellion a wnaed gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol ers gweithredu’r feddalwedd newydd ar 1 Ebrill 2021. Awgrymodd na ddylai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys ond argymhellion oedd heb eu cyflawni o’r blynyddoedd ariannol blaenorol ynghyd â'r argymhellion a wnaed yn y flwyddyn gyfredol. Esboniodd nad oedd yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau sicrwydd cyfyngedig yn cael eu dilyn yn unigol ond eu bod yn cael eu hadolygu yn ystod archwiliad dilynol cynlluniedig o'r maes hwn a oedd i fod i ddechrau. Dangosai Atodiad A fod 109 o argymhellion wedi cael eu gwneud yn ystod 21/22, bod 59 wedi cael eu gweithredu, 10 wedi mynd heibio eu dyddiadau gweithredu ac yn weddill ac yn parhau i gael eu dilyn, tra roedd gan 39 ddyddiadau targed yn y dyfodol. Roedd un argymhelliad heb gael ei gytuno gan faes gwasanaeth perthnasol, ond cynigiodd y rheolwr esboniad pam fod hyn yn wir a derbyniwyd yr atebion a gyflwynwyd.

 

Dywedodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod saith o'r 13 argymhelliad a wnaed hyd yn hyn yn 22/23 wedi cael eu rhoi ar waith a bod gan chwech ddyddiad targed yn y dyfodol. Roedd y wybodaeth hon wedi cael ei thynnu o'r system feddalwedd archwilio a chroesawyd sylwadau ar y cynnwys a'r fformat a gyflwynwyd. Byddai adroddiad safonol yn cael ei gomisiynu i symleiddio'r broses pan fyddai adborth wedi cael ei dderbyn o fewn y Gwasanaeth Rhanbarthol.

 

Gofynnodd Aelod pam y gwahanwyd yr eitemau oedd yn weddill oddi wrth y dyddiad targed yn y dyfodol a beth yn union oedd y gwahaniaeth. Atebodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol mai'r eitemau oedd yn weddill oedd y rheiny lle y cytunwyd ar yr argymhellion gan y rheolwyr a bod dyddiad gweithredu targed wedi cael ei roi. Pan ofynnwyd am ddiweddariad ar ôl y dyddiad penodedig, nid oedd y Rheolwyr perthnasol wedi gorffen gweithredu'r argymhellion ac felly roeddent yn weddill. Roedd y rhai â dyddiadau targed yn y dyfodol yn rhai lle roedd y rheolwr wedi derbyn argymhelliad pan gafodd ei wneud ond nad oedd y dyddiad gweithredu wedi cael ei gyrraedd eto.

 

Gofynnodd Aelod, o ran y broses, pryd y cysylltwyd â’r swyddogion perthnasol am ddiweddariadau ynghylch cynnydd ac a gymerwyd yr ateb ar yr olwg gyntaf eu bod wedi cael eu cyflawni neu a ofynnodd y tîm am dystiolaeth neu fanylion ategol? Atebodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod yr Archwilwyr yn ysgrifennu at y swyddogion perthnasol yn gofyn iddynt am eu hymateb. Cymerir yr ymatebion ar eu golwg gyntaf o ran yr argymhellion isel ac i’r lleill, yn dibynnu ar yr argymhelliad, byddai’r Archwilwyr yn gofyn am dystiolaeth o weithredu, yn gofyn cwestiynau mwy treiddgar neu’n cynnal rhai profion pe bai ganddynt fynediad at y system.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ddiweddariadau ar y Credydwyr - Archwiliad Data Cyflenwyr a gwblhawyd ym mis Ebrill gyda barn sicrwydd cyfyngedig. Atebodd Dirprwy Bennaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 45.

46.

Blaenraglen Waith 2022-23 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid adroddiad yn nodi cyfrifoldebau a swyddogaethau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r rhestr o eitemau oedd i ddod gerbron y pwyllgor nesaf ac ar gyfer y pwyllgorau yn ystod y flwyddyn. O ran y Datganiad Cyfrifon yr oeddent wedi dweud o’r blaen y byddai’n dod i gyfarfod mis Tachwedd ond roedd problem genedlaethol ynghylch trin asedau seilwaith oedd yn dal dan drafodaeth. Roedd yn debygol bellach y byddai'r cyfrifon yn cael eu cyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd i'w gynnal ym mis Ionawr 2023 i'w cymeradwyo. Byddai’r adroddiad ar y Traciwr Rheoleiddio hefyd yn cael ei gyflwyno i gyfarfodydd Ionawr a Gorffennaf. Gofynnodd Dirprwy Bennaeth Cyllid a oedd unrhyw eitemau ychwanegol yr oedd ar y Pwyllgor eisiau eu cynnwys yn y flaenraglen waith.

 

Cyfeiriodd Aelod at y rhestr o'r holl ddogfennau oedd yn rhan o'r fframwaith llywodraethu da a gofynnodd am sicrwydd bod yr holl ddogfennau'n cael eu hadolygu gan gorff. Atebodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid na allai ddweud yn bendant bod pob un ohonynt yn cael ei hadnewyddu'n flynyddol ond eu bod i gyd yn cael eu cymeradwyo gan y Cabinet neu'r Cyngor. Gofynnodd yr Aelod a ellid ysgrifennu hyn yn rhywle fel bod rhestr o’r dogfennau a pha graffu fu arnynt, i sicrhau bod llywodraethu priodol ar waith ar gyfer popeth. Cytunodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid i gynnwys tabl i ddangos ymhle y cymeradwywyd y ddogfen a'r broses.

 

Dywedodd y Cadeirydd pe bai'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a'r Datganiad Cyfrifon ar gael yn gynt yna gellid trefnu cyfarfod arbennig gan fod yr agenda ar gyfer mis Ionawr eisoes yn eithaf prysur.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor wedi ystyried ac yn cymeradwyo’r flaenraglen waith a ddiweddarwyd ar gyfer 2022-23.

47.

Eitemau brys

Ystyriedunrhyw eitem(au) arall o fusnes y rhoddwyd rhybudd yn eu cylch yn unol â Rheol 4 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylid eu trafod yn y cyfarfod oherwydd amgylchiadau arbennig. cyfarfod fel mater o frys.

Cofnodion:

Dim