Lleoliad: Remotely via Skype
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd Cabinet and Committee section
Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Pwyllgor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor ar ol i’r cyfarfod orffen. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148.
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu adroddiad, a'i ddiben oedd gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.
Gwnaed y cais gan Stacey Jones a Christopher Jones o Ben-y-bont ar Ogwr i drwyddedu Mercedes E220d â’r rhif cofrestru cerbyd KJ17 FHW fel cerbyd llogi preifat i gludo 4 person.
Mae'r cerbyd yn ail law ac fe'i cofrestrwyd gyntaf gan y DVLA ar 7 Mehefin 2017.
Ni ellir cynnwys y cais o fewn y Polisi Cerbydau Llogi Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu oherwydd oedran y cerbyd a chanllawiau’r polisi. Nid oedd y cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn ychwaith. Cyflwynwyd adroddiad gwasanaeth ar gyfer 6 Mawrth 2019 pan gofnodwyd 24923 milltir ar y cloc, ac ar gyfer 14 Hydref 2019 pan nodwyd 39912 milltir.
Ar 2 Gorffennaf 2020 archwiliwyd y cerbyd gan Swyddog Gorfodi Trwyddedu a chanfuwyd bod y cerbyd mewn cyflwr da. Ceir ffurflen Asesu Cerbydau yn Atodiad A a ffotograffau o'r cerbyd yn Atodiad B.
Gadawodd y Pwyllgor i ystyried y cais ymhellach ac, wedi iddynt ddychwelyd, cafwyd:
PENDERFYNIAD: Ystyriodd y Pwyllgor y cais i gofrestru cerbyd KJ17 FHW fel Cerbyd Hurio Preifat.
Nododd yr Aelodau na ellid cynnwys y cerbyd o fewn darpariaeth 2.1 y Polisi Trwyddedu, oherwydd ei oed a'r milltiroedd y mae wedi’i yrru.
Nododd yr Aelodau y gellid llacio'r polisi fel y nodir ym mharagraff 2.2 (o'r polisi), sef os yw’r cerbyd o ansawdd eithriadol y tu mewn a'r tu allan a bod y safonau diogelwch yn eithriadol.
Am y rhesymau hyn, rhoddodd y Pwyllgor y drwydded.
|
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat PDF 102 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu adroddiad, a'i ddiben oedd gofyn i'r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.
Gwnaed y cais gan G & S Travel Limited o Fro Ogwr i drwyddedu Mercedes Vito â’r rhif cofrestru cerbyd KJ18 HHZ fel cerbyd llogi preifat i gludo 7 person.
Mae'r cerbyd yn ail law ac fe'i cofrestrwyd gyntaf gan y DVLA ar 22 Mehefin 2018.
Ni ellir cynnwys y cais o fewn y Polisi Cerbydau Llogi Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu oherwydd canllawiau polisi oedran. Nid yw’r cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad gwasanaeth ar gyfer 17 Mawrth 2020 pan gofnodwyd 20074 milltir ar y cloc.
Ar 30 Mehefin 2020, archwiliodd Swyddog Gorfodi Trwyddedu y cerbyd a chanfuwyd bod y cerbyd mewn cyflwr da. Ceir ffurflen Asesu Cerbydau yn Atodiad A a ffotograffau o'r cerbyd yn Atodiad B.
Gadawodd y Pwyllgor i ystyried y cais ymhellach ac, wedi iddynt ddychwelyd, cafwyd:
PENDERFYNIAD: Ystyriodd y Pwyllgor y cais i gofrestru cerbyd KJ18 HHZ fel Cerbyd Hurio Preifat.
Nododd yr Aelodau na ellid cynnwys y cerbyd o fewn darpariaeth 2.1 y Polisi Trwyddedu, oherwydd ei oed a'r milltiroedd y mae wedi’i yrru.
Nododd yr Aelodau y gellid llacio'r polisi fel y nodir ym mharagraff 2.2 (o'r polisi), sef os yw’r cerbyd o ansawdd eithriadol y tu mewn a'r tu allan a bod y safonau diogelwch yn eithriadol.
Am y rhesymau hyn, rhoddodd y Pwyllgor y drwydded.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad ai ddiben oedd peri i Aelodau ystyried mabwysiadu a chyhoeddi polisi ar "Sgriniau Dros Dro mewn Tacsis a Cherbydau Llogi Preifat" yn sgil ymgynghoriad â'r diwydiant.
Dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn ceisiadau gan y diwydiant yn annog yr Adran Drwyddedu i gyflwyno mwy o fesurau diogelwch mewn ceir i warchod rhag Covid-19, gan gynnwys defnyddio sgriniau diogelwch. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae gan yrwyr tacsi un o'r cyfraddau marwolaethau uchaf o gymharu â galwedigaethau eraill y DU.
Mae dogfen bolisi ddrafft wedi'i chynhyrchu, ac wedi'i chymeradwyo gan Gyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd yng Nghymru, sy'n manylu ar y gofynion a'r weithdrefn gymeradwyo ar gyfer defnyddio sgriniau mewn cerbydau. Amgaewyd copi o'r polisi drafft hwn yn Atodiad A i'r adroddiad.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar 6 Gorffennaf 2020, cadarnhawyd cyfanswm o 554 achos Covid-19 o fewn poblogaeth leol o 147,049; mae hyn yn cymharu â chyfanswm o 15,890 o achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Ar 26 Mehefin, bu 90 o farwolaethau cysylltiedig â Covid ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'n ddealladwy y bydd deiliaid trwydded yn awyddus i gyflwyno mesurau i’w hamddiffyn rhag lledaeniad Covid-19. Fodd bynnag, ni ddylai hyn effeithio ar ddiogelwch na chywirdeb y cerbyd.
Gyda'r cyfyngiadau'n dechrau cael eu llacio, mae mwy a mwy o yrwyr tacsi a cherbydau llogi preifat yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith, ac am geisio sicrhau eu bod yn gwneud eu gorau i amddiffyn eu hunain yn ogystal â'u teithwyr. Sgriniau dros dro mewn cerbydau sy’n cael eu trafod fwyaf o ran ymholiadau gan y fasnach, yn y gobaith y gallai gwahanu corfforol rhwng gyrwyr a theithwyr leihau trosglwyddiad Covid-19.
Mewn ymateb i'r ceisiadau gan y diwydiant i osod sgriniau mewn cerbydau trwyddedig, sefydlodd y Panel Arbenigwyr Trwyddedu, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r 22 o Adrannau Trwyddedu awdurdodau lleol yng Nghymru, weithgor er mwyn cynhyrchu canllawiau i Awdurdodau Trwyddedu eu mabwysiadu, gyda'r bwriad o gysoni'r dull o gymeradwyo gosodiadau sgrin yng Nghymru.
Eglurodd fod gwahanol fathau o sgriniau ar y farchnad, gan gynnwys sgriniau plastig hyblyg sy'n lapio o amgylch y gyrrwr ac y gellir eu tynnu'n hawdd, a sgriniau plastig polycarbonad anhyblyg a osodir ar y seddi neu drim mewnol y cerbyd gyda sgriwiau, bolltau, a rhybedion.
Bwriad y polisi arfaethedig yw darparu egwyddorion arweiniol ar sut y bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ymdrin â cheisiadau o'r fath gan ddeiliaid trwyddedau sy’n dymuno gosod sgrin yn eu cerbyd. Roedd nifer o bryderon diogelwch yn gysylltiedig â’r sgriniau, er enghraifft y potensial i ymyrryd â nodweddion gwreiddiol y cerbyd, megis y bagiau awyr ochr neu symudiad sedd y gyrrwr, a bwriad y polisi yw nodi gofynion penodol i fodloni'r pryderon hyn.
Mae paragraff 4.7 yr adroddiad yn amlinellu gofynion y polisi.
Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi ymgynghori â'r diwydiant ar y polisi arfaethedig, gan gynnwys nifer o weithredwyr trwyddedig yn ogystal â gyrwyr.
Derbyniwyd un ymateb mewn perthynas â'r ymgynghoriad hwn. Daeth yr ymateb hwn gan weithredwr trwyddedig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sef Valley Cars, a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 45. |
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |