Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
|
|
Datganidau o fuddiant Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyaeth Cofnodion PDF 52 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/02/2018 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 20 Chwefror Rhagfyr 2018 fel rhai gwir a chywir. |
|
Penodi Is-Bwyllgorau Trwyddedu a Dirprwyo i Swyddogion PDF 56 KB Cofnodion: Gwnaeth Rheolwr Tîm Trwyddedu gyflwyno adroddiad yn cynnig aelodaeth Is-bwyllgor Trwyddedu, ar ôl Cyfarfod Blynyddol y Cyngor yn 2018.
Roedd angen y cynigion er mwyn cyflawni swyddogaethau’r awdurdod yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau trwyddedu cyffredinol. Roedd ystod y swyddogaethau wedi’u nodi yng Nghyfansoddiad y Cyngor a oedd yn cynnwys trwyddedu tacsis, masnachu stryd, a gwaith trwyddedu cyffredinol eraill yn ôl yr angen. Byddai adroddiad ar wahân yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â swyddogaethau Deddf Trwyddedu 2003 a’r Ddeddf Gamblo 2005.
Ar 16 Mai 2018, derbyniodd y Cyngor adroddiad sy’n pennu aelodaeth Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 a’r Pwyllgor Trwyddedu. Cynigwyd y byddai’r Pwyllgor Trwyddedu’n parhau â’r trefniadau presennol a chymeradwyo creu dau banel ar sail rota, a’r ddau’n cynnwys saith Aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu fydd yn cael eu cadeirio gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu lle bo’n bosibl.
Eglurodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu bod gofyn hefyd i’r Pwyllgor ystyried newid y canllawiau ar gyfer cyfeirio achosion at yr Is-bwyllgor. Roedd y Pwyllgor wedi mabwysiadu Datganiad Polisi ynghylch perthnasedd collfarnau a thrwyddedu cyn-droseddwyr, a oedd eisoes wedi cyflwyno canllawiau ar gyfer pa achosion ddylid cael eu cyfeirio at Is-bwyllgor ar gyfer cyflwyno’r drwydded. Roedd hyn wedi arwain at ymgeiswyr gyda chollfarnau’n cael eu cyfeirio, y tu hwnt i ganllawiau polisi, er enghraifft os cafodd y person ei erlyn yn ei ieuenctid. Nododd y polisi presennol y gellid ymdrin â’r hyn a ganlyn dan y Cynllun Dyrannu: Dyrannu trwydded: Gwiriad CRB clir a dim arnodiad ar drwydded yrru DVLA. Felly cynigwyd y dylai’r canllawiau alluogi swyddogion i bennu pob cais nad ydynt yn torri canllawiau’r polisi.
Felly, roedd y diwygiad arfaethedig i Baragraff 8.2 y polisi fel a ganlyn: Dyrannu trwydded: Cyfeirio at yr Is-bwyllgor os yw’r erlyniad o dan y canllawiau polisi a nodir yn y Datganiad Polisi o ran perthnasedd y collfarnau a thrwyddedu cyn-droseddwyr.
Holodd Aelod beth byddai’n digwydd os oedd erlyniad yn y 5 mlynedd cyn y dyddiadau cau a nodwyd. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr bod gan y Pwyllgor hawl i edrych ar gollfarnau oedd wedi dod i ben, ond bod canllawiau eglur megis 10 mlynedd am ymosodiad difrifol a 5 mlynedd am dwyll. Roedd hyn yn bolisi safonol ledled Cymru. Os oedd troseddau twyll neu rywiol difrifol, byddai’r Pwyllgor yn dal i’w hystyried.
Holodd Aelod a oedd angen i ymgeisydd ddatgan unrhyw broblemau iechyd meddwl difrifol. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr bod angen i’r ymgeisydd gyflwyno tystysgrif meddygol Gr?p 2.
Gofynnodd Aelod oedd modd gweld cofnodion ymgeisydd cyn iddynt gyrraedd y wlad hon. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr bod angen i’r ymgeisydd gyflwyno PNC neu Dystysgrif Ymddygiad Da o’r wlad wreiddiol. Byddai GDG yn cynnwys hanes cyfeiriadau am y 5 mlynedd ddiwethaf, ac os oedd angen, gallent gael mynediad at dystysgrif manwl a dwy ran y trwydded yrru.
Holodd Aelod a oedd cyfyngiad oedran cyn y gellid rhoi trwydded i rywun. Rhoddwyd wybod i’r Aelod bod rhaid i’r ymgeisydd fod â thrwydded am flwyddyn cyn y gallai ef/hi ymgeisio.
Nododd Aelod y byddai Dirprwyaeth Swyddogion gwell ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 21. |
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |