Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Cyng. J McCarthy, Cyng. J Lewis |
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Penodi Is-bwyllgorau Trwyddedu a Dirprwyo i Swyddogion PDF 59 KB Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu adroddiad a oedd yn cynnig aelodaeth o'r Is-bwyllgorau Trwyddedu yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor, 2019.
Eglurodd fod y cynigion yn ofynnol ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â cheisiadau trwyddedu cyffredinol, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â thrwyddedu tacsis. Gellir dod o hyd i'r ystod o swyddogaethau o fewn Cyfansoddiad y Cyngor yn rhan 3.
Eglurodd y derbyniwyd adroddiad yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 15 Mai, a oedd yn nodi aelodaeth o Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 a'r Pwyllgor Trwyddedu.
Cynigodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu, felly fod y Pwyllgor yn parhau â'r trefniadau presennol ac yn cymeradwyo ffurfio'r ddau banel yn eistedd ar sail rota.
Dywedodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wrth Aelodau am ymholiad diweddar gan Aelod ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yr Is-bwyllgorau ond eglurodd nad oedd hynny'n ofynnol i Is-bwyllgorau gan fod y prif Bwyllgor eisoes yn cydymffurfio â'r cydbwysedd gwleidyddol gofynnol.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor:
(1) Yn cymeradwyo ffurfio'r Is-bwyllgorau fel a ganlyn;
Is-bwyllgor (A) • Cyng. D Lewis (Cadeirydd) • Cyng. T Beedle • Cyng. R Collins • Cyng. M Kearn • Cyng. D Owen • Cyng. A Pucella • Cyng. J Williams
Is-bwyllgor (B) • Cyng. PA Davies (Is-gadeirydd) • Cyng. RM James • Cyng. B Jones • Cyng. JE Lewis • Cyng. J McCarthy • Cyng. G Thomas • Cyng. A Hussain
(2) Yn parhau â'r trefniadau presennol o ddau banel yn eistedd ar sail rota.
Pe bai'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd yn methu â mynychu eu cyfarfodydd Is-bwyllgor priodol, byddai Cadeirydd yn cael ei ethol gan y rhai hynny sy'n bresennol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad a oedd yn darparu manylion yngl?n â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y sefydliad trwyddedu ar benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau yn y masnachau hacni a hurio preifat, a gofynnodd am gymeradwyaeth i roi'r canllawiau ar waith.
Nododd fod y Sefydliad Trwyddedu, ym mis Ebrill 2018, wedi cyhoeddi dogfen yn dwyn y teitl 'Canllawiau Diwygiedig ar Benderfynu ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau yn y Masnachau Hacni a Hurio Preifat' ("Y Canllawiau") a oedd ynghlwm â'r adroddiad fel Atodiad A.
Eglurodd fod ymgynghori eang ledled y wlad ar gynnwys y canllawiau gyda rhanddeiliaid gan gynnwys Cynghorwyr, Swyddogion Trwyddedu, Cyfreithwyr, y Masnachau Hacni a Hurio Preifat, Academïau, y Gwasanaeth Prawf a'r Heddlu.
Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y bydd y polisi hwn yn cael ei ddefnyddio ynghyd â'r Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir ac mai Pen-y-bont ar Ogwr fyddai'r Awdurdod lleol cyntaf i wneud hynny.
Gwnaeth y Swyddog Polisi Trwyddedu gyfeirio Aelodau at argymhelliad 9.1 o'r adroddiad a chroesawodd unrhyw gwestiynau.
Gofynnodd Aelod a oedd yna unrhyw newid yngl?n â'r ffordd y mae'r Swyddogion Trwyddedu yn dod i wybod am euogfarnau.
Eglurodd y Swyddog Cyfreithiol na fyddai yna unrhyw newid ac y byddai'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r gwiriad Trwyddedau drwy'r DVLA yn cael eu defnyddio fel y dulliau safonol.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Trwyddedu yn tynnu'r polisi cyfredol yn ôl a oedd yn ymwneud â pherthnasedd euogfarnau a thrwyddedu cyn-droseddwyr, ac yn defnyddio'r canllawiau newydd AR benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau yn y masnachau hacni a hurio preifat sydd ynghlwm fel Atodiad B ar gyfer ceisiadau trwyddedu a dderbynnir ar ôl y cyfarfod hwn (nid ar ôl 3 Mehefin 2019 fel y nodwyd yn yr adroddiad) |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |