Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: I Williams a S J Bletsoe |
|
Datganiadau o fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad oedd yn ceisio diwygio amodau trwydded Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat ynghyd ag amodau Trwydded Yrru ddeuol Cerbyd Hacni/Hurio Preifat er mwyn hybu diogelwch y cyhoedd, ac adrodd yn ôl i’r aelodau yn dilyn ymgynghoriad gyda’r fasnach dacsis a’r gwasanaeth llogi preifat ynghylch y diwygiadau arfaethedig.
O dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, wrth roi Trwydded Cerbyd Hacni, Trwydded Cerbyd Hurio Preifat, a Thrwydded Yrru ddeuol Cerbyd Hacni/Hurio Preifat gall y Cyngor atodi unrhyw amodau y mae yn eu hystyried yn rhesymol angenrheidiol. Mae amodau trwydded yn hanfodol i hybu diogelwch y cyhoedd.
Mae cyfran o ddeiliaid trwydded/perchnogion cerbydau yn rhentu, prydlesu neu’n rhoi benthyg eu cerbyd i yrwyr trwyddedig eraill. Er bod y gweithdrefnau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i’r trwyddedai ddatgan pwy sy’n ymwneud â gosod neu gadw’r cerbyd ar ddechrau’r drwydded, nid yw’r amodau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i’r trwyddedai gadw cofnodion o bwy sy’n gyrru’r cerbyd drwy gydol yr amser. Gall hyn fod yn anhawster wrth ymchwilio i gwynion.
Mae'r awdurdod trwyddedu yn cynnig diogelu'r cyhoedd ymhellach drwy ychwanegu amod newydd at amodau'r Drwydded Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat fel y nodir yn adran 4.3 o'r adroddiad. Gyda'r amod ychwanegol hon bydd yr awdurdod trwyddedu'n gallu sicrhau ei bod hi'n haws dod o hyd i'r rhai oedd yn gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat trwyddedig pan fyddant yn ymchwilio i gwynion neu’n cynorthwyo asiantaethau eraill.
Mae protocolau rhannu data amlasiantaethol eisoes yn eu lle i hysbysu'r awdurdod trwyddedu am faterion sy'n ymwneud â gyrwyr tacsis. Fodd bynnag, cynigir bod amod newydd, fel yr amlinellir yn adran 4.6 o’r adroddiad, yn cael ei hychwanegu at Drwydded Yrru ddeuol Cerbyd Hacni/Hurio Preifat. Byddai felly'n cynnwys pob math o faterion perthnasol ac nid euogfarnau troseddol yn unig.
Mae ychwanegu'r amod hon yn gosod cyfrifoldeb ar drwyddedigion i hysbysu'r awdurdod trwyddedu am unrhyw euogfarnau neu euogfarnau / ymchwiliadau sydd i ddod yn ystod cyfnod eu trwydded.
Mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr a thrwyddedigion ddarparu tystysgrif feddygol wrth dderbyn ac adnewyddu trwydded. Mae angen tystysgrif feddygol i sicrhau bod gyrwyr mewn iechyd digon da i gynnal diogelwch y cyhoedd ar y ffyrdd. Mae gyrwyr cerbydau hacni a hurio preifat yn destun safonau meddygol uwch na gyrwyr cyffredin. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnynt i adrodd am unrhyw newidiadau yn eu cyflwr meddygol wrth yr Asiantaeth Drwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar gyfer asesiad i weld a yw hyn yn effeithio ar eu gallu cyfreithiol i yrru’n ddiogel, ond mae’r cynnig hwn hefyd yn gosod cyfrifoldeb arnynt i adrodd am unrhyw newidiadau wrth yr Awdurdod Trwyddedu.
Mae’r Awdurdod Trwyddedu hefyd yn cynnig ychwanegu amod newydd, fel yr amlinellwyd yn adran 4.9 o’r adroddiad, at amodau presennol y Drwydded Yrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.
Mae ychwanegu'r amod hon yn gosod cyfrifoldeb ar drwyddedigion i hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o fewn saith niwrnod am unrhyw newid neu ddirywiad yn eu hiechyd y mae angen hysbysu'r DVLA yn ei gylch.
Yn ystod cyfarfod diwethaf ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16. |
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |