Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 22ain Tachwedd, 2022 11:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P Jenkins

10.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd S Bletsoe – Buddiant personol yn Eitem 4 ar yr Agenda, gan fod ganddo ffrind agos sy’n berchen ar fodurdy ac sy’n cynnal profion MOT. Er nad yw’n berthnasol yn uniongyrchol i’r eitem, roedd yn berthnasol i’r adroddiad yn gyffredinol.

11.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 193 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 27/09/2022

Cofnodion:

CYMERADWYWYD:                Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu, a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022, yn cael eu cymeradwyo’n gofnod gwir a chywir.

12.

Trefn Profi Tacsis Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu, adroddiad. Diben yr adroddiad oedd rhoi gwybod i Aelodau am gais gan y fasnach dacsis i adolygu’r dull profion tacsis presennol, ac ystyried a hoffen nhw weld Swyddogion yn cyflawni astudiaeth o ddichonoldeb.

 

Nododd mai’r Cyngor oedd yr awdurdod trwyddedu ar gyfer rheoleiddio cerbydau hacni a llogi preifat, a’i brif rôl i’r perwyl hwnnw oedd sicrhau diogelwch aelodau’r cyhoedd sy’n defnyddio tacsis a cherbydau llogi preifat, cyn rhoi trwydded a thrwy gydol cyfnod y drwydded. 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu bod Adran 47 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn llywodraethu’r broses o brofi’r holl gerbydau modur, ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i geir a bysus mini fod â Thystysgrif y Weinyddiaeth Drafnidiaeth (MOT). Fodd bynnag, fel cerbydau sy’n cludo teithwyr, mae’r drefn brofi cerbydau presennol yn cynnwys elfennau sy’n berthnasol i dacsis a cherbydau llogi preifat yn benodol. Maent yn seiliedig ar y Safonau Arolygu Cenedlaethol a grëwyd gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gludo. Roedd y safonau hyn ar gael i’w gweld yn Atodiad A ar yr adroddiad, ac roedd copi o’r elfen brofi tacsis ar y drefn brofi i’w weld yn Atodiad B. 

 

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn defnyddio ei bwerau dan Adran 50 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i’w gwneud hi’n ofynnol i bob cerbyd ddod i orsaf brofi MOT mewnol y Cyngor yng Nghyfleuster Cynnal a Chadw Cerbydau ar y Cyd Ty Thomas, Newlands Avenue, Ystâd Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae trefn gytundebol ar waith i hwyluso’r gofyniad hyn, sy’n dod i ben yn 2024.

 

Eglurodd y gallai’r Cyngor, dan Adran 50, osod hysbysiad i berchennog cerbyd i ddod â’r cerbyd am brawf hyd at dair gwaith yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn ardal y Cyngor. Mae’r polisi oedran presennol yn nodi bod cerbydau hyd at ddeng mlwydd oed yn cael eu profi ddwywaith y flwyddyn, a cherbydau h?n yn cael eu profi deirgwaith y flwyddyn.

 

Mae’r elfen olaf ar ddiogelwch y cyhoedd wedi’i sicrhau drwy amodau trwydded, sy’n nodi mai perchennog y cerbyd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw i safon dderbyniol drwy gydol y drwydded, gydag ymarferion gorfodi’n cael eu cynnal gan swyddogion gorfodaeth trwyddedu.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu bod y Cyngor wedi derbyn sylwadau gan y fasnach dacsis, drwy Aelodau lleol, a deiseb yn cynnwys oddeutu 170 o lofnodion, i sicrhau bod tacsis yn gallu cael profion MOT mewn modurdai gwahanol. Nodir y manylion hyn ym mharagraff 4.2 yn yr adroddiad. 

 

Nododd bod ymarfer ymchwil ar y we wedi’i gynnal i bennu sut roedd awdurdodau eraill yng Nghymru’n gweithredu’r drefn brofi tacsis. Roedd y canlyniadau i’w gweld yn Atodiad C yn yr adroddiad, ac roedd amrywiaeth o fodelau ar waith mewn Cynghorau eraill yng Nghymru. 

 

Ychwanegodd y Swyddog mai prif ddyletswydd yr awdurdod trwyddedu o ran cerbydau â thrwyddedau oedd sicrhau bod y fflyd yn ddiogel ac mewn cyflwr addas i gludo aelodau’r cyhoedd.

 

O safbwynt trwyddedu, eglurodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu ei bod hi’n hanfodol,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.