Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P Jenkins |
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Y Cynghorydd S Bletsoe – Buddiant personol yn Eitem 4 ar yr Agenda, gan fod ganddo ffrind agos sy’n berchen ar fodurdy ac sy’n cynnal profion MOT. Er nad yw’n berthnasol yn uniongyrchol i’r eitem, roedd yn berthnasol i’r adroddiad yn gyffredinol. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 193 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 27/09/2022 Cofnodion: CYMERADWYWYD: Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu, a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022, yn cael eu cymeradwyo’n gofnod gwir a chywir. |
|
Trefn Profi Tacsis Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu, adroddiad. Diben yr adroddiad oedd rhoi gwybod i Aelodau am gais gan y fasnach dacsis i adolygu’r dull profion tacsis presennol, ac ystyried a hoffen nhw weld Swyddogion yn cyflawni astudiaeth o ddichonoldeb.
Nododd mai’r Cyngor oedd yr awdurdod trwyddedu ar gyfer rheoleiddio cerbydau hacni a llogi preifat, a’i brif rôl i’r perwyl hwnnw oedd sicrhau diogelwch aelodau’r cyhoedd sy’n defnyddio tacsis a cherbydau llogi preifat, cyn rhoi trwydded a thrwy gydol cyfnod y drwydded.
Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu bod Adran 47 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 yn llywodraethu’r broses o brofi’r holl gerbydau modur, ac yn ei gwneud hi’n ofynnol i geir a bysus mini fod â Thystysgrif y Weinyddiaeth Drafnidiaeth (MOT). Fodd bynnag, fel cerbydau sy’n cludo teithwyr, mae’r drefn brofi cerbydau presennol yn cynnwys elfennau sy’n berthnasol i dacsis a cherbydau llogi preifat yn benodol. Maent yn seiliedig ar y Safonau Arolygu Cenedlaethol a grëwyd gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gludo. Roedd y safonau hyn ar gael i’w gweld yn Atodiad A ar yr adroddiad, ac roedd copi o’r elfen brofi tacsis ar y drefn brofi i’w weld yn Atodiad B.
Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn defnyddio ei bwerau dan Adran 50 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i’w gwneud hi’n ofynnol i bob cerbyd ddod i orsaf brofi MOT mewnol y Cyngor yng Nghyfleuster Cynnal a Chadw Cerbydau ar y Cyd Ty Thomas, Newlands Avenue, Ystâd Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae trefn gytundebol ar waith i hwyluso’r gofyniad hyn, sy’n dod i ben yn 2024.
Eglurodd y gallai’r Cyngor, dan Adran 50, osod hysbysiad i berchennog cerbyd i ddod â’r cerbyd am brawf hyd at dair gwaith yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn ardal y Cyngor. Mae’r polisi oedran presennol yn nodi bod cerbydau hyd at ddeng mlwydd oed yn cael eu profi ddwywaith y flwyddyn, a cherbydau h?n yn cael eu profi deirgwaith y flwyddyn.
Mae’r elfen olaf ar ddiogelwch y cyhoedd wedi’i sicrhau drwy amodau trwydded, sy’n nodi mai perchennog y cerbyd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw i safon dderbyniol drwy gydol y drwydded, gydag ymarferion gorfodi’n cael eu cynnal gan swyddogion gorfodaeth trwyddedu.
Eglurodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu bod y Cyngor wedi derbyn sylwadau gan y fasnach dacsis, drwy Aelodau lleol, a deiseb yn cynnwys oddeutu 170 o lofnodion, i sicrhau bod tacsis yn gallu cael profion MOT mewn modurdai gwahanol. Nodir y manylion hyn ym mharagraff 4.2 yn yr adroddiad.
Nododd bod ymarfer ymchwil ar y we wedi’i gynnal i bennu sut roedd awdurdodau eraill yng Nghymru’n gweithredu’r drefn brofi tacsis. Roedd y canlyniadau i’w gweld yn Atodiad C yn yr adroddiad, ac roedd amrywiaeth o fodelau ar waith mewn Cynghorau eraill yng Nghymru.
Ychwanegodd y Swyddog mai prif ddyletswydd yr awdurdod trwyddedu o ran cerbydau â thrwyddedau oedd sicrhau bod y fflyd yn ddiogel ac mewn cyflwr addas i gludo aelodau’r cyhoedd.
O safbwynt trwyddedu, eglurodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu ei bod hi’n hanfodol, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |