Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mawrth, 27ain Medi, 2022 14:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

6.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 176 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 25/05/2022

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:   Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu ar 25 Mai 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir

7.

Gwelliant arfaethedig i Amodau’r Drwydded Cerbydau Hacni, Amodau Cerbydau Llogi Preifat ac Amodau’r Drwydded Gyrrwr Llogi Preifat pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad â’r nod o ddiwygio amodau trwyddedau Cerbydau Hacni a Llogi Preifat ynghyd ag amodau’r drwydded ddeuol Gyrrwr Llogi Preifat/Cerbyd Hacni, a hynny er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd ac i geisio cymeradwyaeth i ymgynghori'n ffurfiol â'r fasnach tacsis.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno canllawiau cenedlaethol ar gyfer tacsis, ond bod angen cyflwyno’r gwelliannau hyn yn y cyfamser er mwyn cryfhau’r amodau presennol. Y gred yw na fydd y diwygiadau arfaethedig y maent eisiau eu cyflwyno yn cael effaith andwyol ar broses y Llywodraeth. Roedd yr amod cyntaf yn ymwneud â thrwyddedau cerbyd. Roedd amod yn cael ei gynnig a fyddai yn ei gwneud yn ofynnol i Ddeiliaid Trwydded/Perchnogion sy'n rhentu, prydlesu, llogi neu fenthyg eu Cerbyd Hacni neu Gerbyd Llogi Preifat i ddarparu ac i gadw cofrestr addas lle nodir y manylion canlynol sy'n ymwneud â’r gyrrwr sydd yn rhentu, llogi, prydlesu neu fenthyg y cerbyd.

 

          a) Enw a chyfeiriad y gyrrwr.

 b) Rhif Bathodyn a dyddiad dod i ben Trwydded Cerbyd Hacni/Llogi Preifat y gyrrwr.

 c) Rhif plât a rhif cerbyd y cerbyd sy’n cael ei rentu, ei logi, ei brydlesu neu ei fenthyg.

d) Y dyddiad(au) a’r amser(oedd) pan gafodd y cerbyd ei rentu, ei logi, ei brydlesu neu ei fenthyg gan y gyrrwr.

 

Ychwanegodd y dylid cadw'r cofnodion am o leiaf 12 mis, a hynny mewn trefn gronolegol, a rhaid eu cynhyrchu ar gais i gael eu harchwilio gan swyddogion awdurdodedig o'r Cyngor neu Gwnstabl Heddlu.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod yr ail amod hefyd yn ymwneud â Thrwyddedau Gyrwyr. Y cynnig oedd ychwanegu:

 

Amod i’w gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded i hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o fewn saith diwrnod os ydynt:

 a) yn cael euogfarn am unrhyw drosedd neu'n derbyn rhybudd, rhybuddiad, hysbysiad cosb benodedig neu unrhyw fath arall o hysbysiad cosb.

 b) yn destun unrhyw ymchwiliad troseddol arfaethedig

 b) yn cael eu hysbysu o ganlyniad unrhyw ymchwiliad troseddol arfaethedig

 

Byddai hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar ddeiliaid trwyddedau i hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o unrhyw euogfarnau neu euogfarnau/ymchwiliadau arfaethedig yn ystod cyfnod eu trwydded.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu ei bod yn ofynnol i ymgeiswyr ac i ddeiliaid trwyddedau ddarparu tystysgrif feddygol pan roddir trwydded a phan adnewyddir trwydded. Roedd angen tystysgrif feddygol er mwyn sicrhau bod iechyd y gyrwyr yn ddigon da i gynnal diogelwch y cyhoedd ar y ffyrdd. Roedd gyrwyr cerbydau Hacni a Llogi Preifat yn destun safonau meddygol uwch o gymharu â gyrwyr cyffredin. Roedd gofyniad cyfreithiol arnynt i ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os bydd unrhyw newidiadau yn eu cyflwr meddygol fel bo modd cynnal asesiad o effaith hynny ar eu gallu cyfreithiol i yrru'n ddiogel, ond byddai’r cynnig hwn hefyd yn gosod cyfrifoldeb arnynt i adrodd i'r Awdurdod Trwyddedu hefyd os bydd unrhyw newidiadau. Roedd cynnig pellach i ychwanegu’r amod canlynol i amodau presennol y Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Llogi Preifat:

 

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded hysbysu'r Cyngor yn ysgrifenedig o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim