Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 18fed Medi, 2018 14:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

240.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd PJ White.

 

241.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

None.

 

242.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 86 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/07/2018

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     y byddai cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2018 yn cael eu cymeradwyo yn gofnod gwir a chywir.

 

243.

Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Corporate Director – Communities submitted a report, the purpose of which, was to seek Cabinet approval to undertake a consultation exercise on proposals to make the Council’s provision of playing fields, outdoor sports facilities and parks pavilions more financially sustainable moving forward.

 

He explained that the Council is the main provider of outdoor sports facilities in the County Borough.  Therefore, the provision of these facilities, for example sports pitches and playing fields, is recognised as playing an important contributory part in helping to achieve healthy lifestyles and better levels of physical and mental wellbeing for the County Borough’s residents.

 

The Corporate Director – Communities added that, historically the Council has charged a fixed hire fee for any formal hire of its outdoor sports facilities. However, these fees did not go anywhere near covering the cost associated with providing and maintaining these facilities. Additionally, the quality of the facilities provided will vary to some extent based on factors such as league requirements, drainage facilities and frequency of use. The formal use of outdoor sports facilities is predominantly by boys and men and so there are potentially equality issues in terms of the current distribution of Council financial support. For example, sports played predominantly by women and girls, such as netball, do not receive similar levels of subsidy.

 

A list of parks pavilions, playing fields and outdoor sports facilities currently provided by the Council was included at Appendix A to the report.

 

The next section of the report summarised current subsidy levels and the difficulty that will arise with facilities subject of the report deteriorating in terms of their condition, should no investment be committed to these in the future. He added that the Council had limited resources to maintain such facilities under its current MTFS. The Corporate Director – Communities therefore explained, that it had been recognised that a formal policy change, with a potentially significant increase in charges, likely to be a necessary as a catalyst to prompt a greater up take of Community Asset Transfer (CAT) opportunities. This was a move being made by other neighbouring authorities, due to similar financial restraints that they were also facing.

 

He then confirmed that a consultation exercise would be undertaken, outlining certain proposals and options to be incorporated in this exercise, with a view to informing future policy and strategy with regard to the provision of, and charging for, playing fields, outdoor sports facilities and parks pavilions, and seek ways in which provision can be sustained without such a financial reliance on the Authority.

 

Appendix B to the report contained the current charges for the use of different sports facilities for users, including details of the different subsidy levels, while paragraph 4.2 of the report gave details regarding a proposal to consider extending the current contract of the Community Asset Transfer (CAT) Officer. 

 

The next section of the report reminded Members, that there was a sum of £1m in the capital programme to support CAT of sports pavilions etc, as a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 243.

244.

Trosglwyddo Cwrt Tennis ym Maes Hamdden Pencoed trwy gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol ac Ystyried y Gwrthwynebiadau a Gafwyd yn Unol ag Adran 123(2a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad a oedd yn cadarnhau bod Gr?p Llywio Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor wedi cymeradwyo trosglwyddo lesddaliad 35 mlynedd y Cwrt Tennis ym Maes Hamdden Pencoed i Gyngor Tref Pencoed ar 30 Hydref 2017. At hynny, gan fod y safle yn cynnwys man agored cyhoeddus, bu'n rhaid i'r Cyngor hysbysebu'r cynnig trosglwyddo asedau cymunedol yn unol ag Adran 123(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gan nodi y dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau yn ysgrifenedig erbyn 13 Gorffennaf 2018, fan bellaf.

 

Ychwanegodd fod yr adroddiad a oedd gerbron yr Aelodau yn amlinellu'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law, a bod gofyn i'r Cabinet ystyried yr adroddiad hwnnw a phenderfynu a ddylai'r Cyngor gwblhau'r gwaith o drosglwyddo lesddaliad y Cwrt Tennis er mwyn galluogi i Gyngor Tref Pencoed ei drawsnewid yn Barc Sglefrfyrddio. Ychwanegodd hefyd fod angen i'r Cabinet bwyso a mesur y cynnig hwn yng ngoleuni nifer helaeth o wrthwynebiadau a gyflwynwyd yn ei erbyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y Cwrt Tennis dan sylw wedi ei leoli ym Maes Hamdden Pencoed, Heol Felindre, Pencoed, fel y dangosir yn y darn a oedd wedi'i arlliwio'n wyrdd yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir arwyddocaol, ac roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau wedi cyfeirio'r Aelodau at Atodiad B, a oedd yn amlinellu'r ffioedd cyfredol i ddefnyddwyr y cyfleusterau chwaraeon hyn, yn ogystal â nodi manylion pellach am y lefelau cymhorthdal a'r incwm a gynhyrchir trwy logi'r cyfleusterau. Roedd yr adran hon o'r adroddiad yn nodi y byddai'r Parc Sglefrfyrddio yn cynorthwyo â'r gwaith o hybu iechyd da ac yn darparu gweithgaredd ychwanegol i bobl ifanc gymryd rhan ynddo, gweithgaredd a oedd yn dod yn gynyddol boblogaidd. Nodwyd bod Cyngor Tref Pencoed wedi cael rhywfaint o gyllid i ariannu cost cyfleuster o'r fath, a hynny trwy Gyllid Grant Cyfalaf Cyngor Tref/Cymuned, a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cabinet.

 

Roedd adran ddilynol yr adroddiad yn manylu ymhellach ar y gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law o ran y cynnig, fel y dangosir yn Atodiadau C a D i'r adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at baragraff 4.11 o'r adroddiad a oedd yn rhestru ymatebion Cyngor Tref Pencoed i'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod y Cwrt Tennis yn cael ei danddefnyddio a'i fod mewn cyflwr gwael, ac nad oedd digon o gyllid ar gael i'w ddiweddaru, tra bo Cyllid Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned 2018-19 yn cynnig llwybr cyllido ar gyfer darparu'r datblygiad arfaethedig i greu Parc Sglefrfyrddio, a hynny gyda chyllid pellach gan Gyngor Tref Pencoed. Roedd wedi nodi'r rhesymau dros ei wrthwynebu, fel y nodir yn yr adroddiad, yn ogystal ag ymateb Cyngor Tref Pencoed i'r gwrthwynebiadau hynny, ac roedd yn fodlon cefnogi cynnig yr adroddiad trwy drefniant Trosglwyddo Asedau Cymunedol, a fyddai'n darparu cyfleuster hamdden amgen, a hynny yn seiliedig ar ei boblogrwydd ymhlith etholwyr yr ardal hon yn benodol.

 

Cefnogwyd hyn gan yr Aelod Cabinet dros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 244.

245.

Rhesymoli Gwasanaethau Bysiau â Chymhorthdal 2018-2019 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am effaith cwtogi'r gwasanaethau bysiau â chymhorthdal, fel y nodwyd yn adroddiad y Cabinet ar 15 Mai 2018, yn ogystal â chynnig bod y Cabinet yn cytuno i gynnal ymgynghoriad pellach ynghylch y cynnig i gael gwared â gweddill y cymhorthdal bysiau, fel y'i darperid gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20, a hynny yn rhan o arbedion arfaethedig Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer 2019-20 hyd at 2022-23.

Nodwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu gwasanaethau bysiau rhanbarthol a lleol trwy roi cymorthdaliadau i lwybrau nad oeddent o bosibl yn fasnachol hyfyw. Roedd y gwasanaethau hyn yn gwasanaethu llwybrau a oedd yn galluogi'r trigolion lleol i gyrchu cyflogaeth, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol.

Eglurodd fod cyllideb graidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer gwasanaethau bysiau â chymhorthdal bellach yn £180,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, sef 2018-19. Ategir at hyn gan ddyraniad gwerth £386,825 gan Lywodraeth Cymru a ddarperir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2018-19 trwy'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau, a nodwyd y dylid gwario swm targed o £85,224 ar gyllido gweithrediadau cludiant cymunedol yn y fwrdeistref sirol.

Nodwyd bod Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno cais am grant gwerth £84,934.32 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 9 Gorffennaf 2018, gan adael balans o £301,890.68 i'w wario ar rwydwaith strategol graidd o fysiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a hynny yn unol â nodiadau cyfarwyddyd Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth Cymru.

Cyfeiriodd yr Aelodau at y Tabl ym mharagraff 3.6 yn yr adroddiad a oedd yn nodi'r llwybrau bysiau a oedd yn rhan o'r gostyngiad cyllidebol cytunedig ar gyfer 2018-19. Cytunwyd i ddefnyddio £50,000 o'r cyllid ychwanegol a godwyd trwy gynyddu'r Dreth Gyngor 4.5% (yn hytrach na'r cynnydd o 4.2% a gynigiwyd yn wreiddiol), a hynny er mwyn parhau â'r cymorthdaliadau ar gyfer y tri gwasanaeth bysiau a ddangosir ar frig y tabl (Gwasanaethau Rhif 51, 803 a 61) ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

I grynhoi, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y canlyniad o ran tynnu'r cymhorthdal wedi bod yn gadarnhaol iawn, ar y cyfan, a hynny wrth i bump o'r chwe llwybr cymhorthdal barhau i gael eu cadw a'u darparu yn fasnachol, er bod addasiadau neu ostyngiadau wedi cael eu gwneud o ran pa mor aml yr oeddent yn gwasanaethu, fel y manylir arnynt yn is-baragraffau paragraff 4.2 yn yr adroddiad.

Roedd adran ddilynol yr adroddiad yn amlinellu'r goblygiadau yn y dyfodol (ar gyfer y gwasanaeth), gan nodi hefyd y byddai angen rhoi ystyriaeth i gynnwys a goblygiadau llythyr a oedd wedi dod i law gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, dyddiedig 02 Mai 2018, a oedd yn nodi'r canlynol: "O fis Ebrill 2019 ymlaen, bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol a fydd yn cael dyraniad gan y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau ymrwymo i wario'r un  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 245.

246.

Pecynnau Gofal Cymdeithasol a Chymorth Prifysgol ar gyfer Ymadawyr Gofal pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad (a oedd yn ychwanegol at yr adroddiad ar 30 Ionawr 2018), a oedd yn hysbysu'r Cabinet am fethodoleg yr ymgynghoriad a gynhaliwyd dros gyfnod o 12 wythnos, ynghyd â'i ganlyniadau, a hynny mewn perthynas â'r cymorth ariannol a ddarperir i ymadawyr gofal.

 

Atgoffwyd y Cabinet hefyd fod yr adroddiad hwn wedi cael ei lunio yng ngoleuni ymateb Llywodraeth Cymru i'r 'Adolygiad Diamond', sef adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, a fyddai'n cael ei roi ar waith yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol (2018-19).

 

Yn olaf, roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau â'r gwaith o lunio polisi, a hynny yn unol â'r opsiwn a ffefrir, sef Opsiwn 3, y cyfeirir ato yn yr adroddiad (ochr yn ochr â'r opsiynau eraill).

 

Eglurodd fod yr Awdurdod Lleol wedi darparu cymorth ariannol i alluogi ymadawyr gofal i fynd i brifysgol a chofrestru ar gyrsiau addysg uwch, a hynny am sawl blwyddyn, fel y nodir yn yr adroddiad blaenorol ar 30 Ionawr 2018. Nodwyd bod y cymorth ariannol hwn wedi galluogi pobl ifanc i dalu am lety yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau, yn ogystal â thalu am y ffioedd dysgu a chael taliadau cynnal a chadw wythnosol.

 

Roedd adrannau dilynol yr adroddiad yn cadarnhau bod yna fwriad i gynyddu nifer yr ymadawyr ifanc a oedd yn gadael trefniadau gofal er mwyn mynd i Brifysgol, neu geisio am gyfleoedd cyflogaeth. Nodwyd hefyd y byddai'r polisi cyfredol a oedd ar waith yn cael ei ystyried o hynny allan, ac y byddai'n cael ei adolygu yn unol ag Adolygiad Diamond; roedd rhai o gynigion yr adolygiad wedi'u hamlinellu yn y rhan hon o'r adroddiad.

 

Gan gyfeirio at y sefyllfa gyfredol, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod ymgynghoriad ynghylch y cynigion wedi cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos rhwng diwedd mis Chwefror a chanol/diwedd mis Mai 2018. Roedd tri opsiwn wedi cael eu cynnig mewn perthynas â hynny, ac roedd disgwyl i'r ymatebwyr roi eu sylwadau arnynt.

 

Nodwyd bod y prif ffigurau mewn perthynas ag ymatebwyr yr ymgynghoriad i'w gweld ym mharagraff 4.7 yn yr adroddiad, gan gynnwys natur y ffigurau hyn, ynghyd ag oedran yr ymatebwyr a'u rhywedd, ac ati, yn ogystal â data penodol eraill. Dywedwyd bod yr opsiynau dan sylw i'w gweld yn llawn ym mharagraff 4.9 yn yr adroddiad.

 

Roedd paragraff 4.28 yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r modd yr oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi myfyrwyr ar y pryd, a hynny o gymharu â phedwar awdurdod cyfagos arall a grybwyllwyd. Nodwyd wedi hynny y rheswm yr oedd Opsiwn 3 yn cael ei ffafrio yng nghyd-destun yr awdurdod lleol.

 

Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cyhoeddus a Llesiant â'i chyflwyniad i ben trwy amlinellu goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â goblygiadau ariannol yr adroddiad.

 

Llongyfarchodd y Dirprwy Arweinydd yr Ymarferwyr Gofal Cymdeithasol i Blant am eu gwaith yn cynorthwyo'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 246.

247.

Enwebiad ar gyfer y Bwrdd Cymoedd i'r Arfordir pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i enwebu aelod-gynrychiolydd ar gyfer y Bwrdd Cymoedd i'r Arfordir (V2C).

 

Roedd yr adroddiad yn nodi rhywfaint o wybodaeth gefndir, ac wedi hynny, dywedodd y Prif Weithredwr fod cyfansoddiad y Bwrdd uchod wedi cael ei adolygu yn sgil newidiadau deddfwriaethol, a bod yn rhaid i'r Awdurdod ostwng nifer yr aelodau etholedig a enwebir ar gyfer y Bwrdd o dri aelod i un.

 

Gan ystyried y newid uchod, cynigiwyd felly y dylid enwebu un Aelod ar gyfer y Bwrdd diwygiedig.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod Aelodau Etholedig cyfredol y Bwrdd, ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd S Baldwin a hithau. Gan ystyried bod gan y Cynghorydd Baldwin gefndir proffesiynol ym maes Tai, cynigiodd ei fod yn parhau yn aelod o'r Bwrdd Cymoedd i'r Arfordir (a bod hithau a'r Cynghorydd Williams yn ymddiswyddo o'r Bwrdd). Cytunodd y Cabinet â'r awgrym hwn.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r tri Aelod am eu hymrwymiad blaenorol i'r Bwrdd Cymoedd i'r Arfordir, a nododd ei bod yn bwysig cynnal y berthynas a'r cysylltiad cryf â'r sefydliad Cymoedd i'r Arfordir gan ei fod wedi darparu 6,000 o gartrefi i bobl yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Ychwanegodd ei fod yntau a'r Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, ynghyd â'r Prif Weithredwr a'r Pennaeth Tai, bellach yn cynnal cyfarfodydd chwarterol â Chadeirydd y Bwrdd, Prif Weithredwr y sefydliad a swyddogion Cymoedd i'r Arfordir er mwyn cynnal a datblygu'r cysylltiadau â'r sefydliad allweddol hwn yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cabinet yn cymeradwyo penodi'r Cynghorydd Stuart Baldwin yn gynrychiolydd etholedig ar gyfer y Bwrdd Cymoedd i'r Arfordir.

248.

Rheoli Ansawdd yr Aer yn Lleol – Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2018 pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Head of Legal and Regulatory Services presented a report, the purpose of which was to share with Cabinet the 2018 Local Air Quality Management Annual Progress Report (APR) for Bridgend County Borough Council. The report required Cabinet approval in order to submit a final version to Welsh Government.

 

Representatives from the Shared Regulatory Services were in attendance to present the report, and the Leader welcomed them to the meeting.

 

A member of the above team by way of background information, advised that the Local Air Quality Management process (LAQM), places a statutory obligation on all local authorities to regularly review and assess air quality in their areas and to determine whether the air quality objectives to protect health are likely to be achieved.  Where exceedances occur or are considered likely to occur, the local authority must declare an Air Quality Management Area (AQMA) and prepare an Air Quality Action Plan (AQAP) setting out the measures it intends to put in place in pursuit of the objectives.

 

The Annual Progress Report provides details on the ratified data for the air quality monitoring undertaken in 2017 within Bridgend County Borough Council. 

 

It was confirmed by Officers that the Annual Progress Report confirmed that in general air quality within the BCB continued to meet the relevant air quality objectives as prescribed under the relevant Regulations, however, it was notable that Park Street, Bridgend was a specific area of concern, for the reasons specified in paragraphs 4.3 to 4.6 of the report.

 

In line with Welsh Government’s Policy Guidance, following submission of the 2018 Annual Progress Report, the Council will make an Air Quality Management Area (AQMA) Order for the Park Street Area. There would be a further report submitted to a future meeting of Cabinet which would be accompanied by an appropriate technical report, setting out the reasons why the Order is required. A Draft Air Quality Action Plan will also need to be implemented it was further confirmed.

 

An Officer from the Shared Regulatory Services further added that a Working Group had been established with key partners, in order to ascertain why the air quality in the above area did not meet the relevant objectives.

 

It was also confirmed that as of yet there were no financial implications arising from the report. However, there may be as a result of the investigation being fully undertaken.

 

The Leader advised that there was a planning application being considered by Council at tomorrow’s meeting, and he would be interested to know if the extended works to be carried out there would have a negative impact on the air quality at this location.

 

An Officer replied by stating that this was something that would in all probability be monitored by Rockwool through looking at any increase with regard to movement of HGV’s and emissions that may arise from this. He added that the Service could look at this area further as part of its Air Quality Review next year.

 

The Cabinet Member – Communities concluded  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 248.

249.

Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad er mwyn rhoi gwybod i'r Cabinet am yr Adroddiadau Gwybodaeth i'w Nodi a gyhoeddwyd oddi ar ei gyfarfod blaenorol, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

  1. Alldro Rheoli Trysorlys Blynyddol 2017-18
  2. Adolygiad o'r Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2018-19
  3. Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid 2018-19

 

Mewn cysylltiad â'r ddwy eitem gyntaf a nodir uchod, diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Swyddogion Cyllid am reoli adnoddau'r Cyngor mewn modd darbodus trwy gyfnodau a oedd yn parhau'n heriol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr adroddiad ar y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn ddeunydd diddorol i'w ddarllen, a dywedodd ei bod yn falch o weld gostyngiad yn nifer y bobl ifanc a oedd yn cael eu derbyn i'r System Cyfiawnder Ieuenctid, a bod rhagor o waith yn cael ei wneud mewn ymgais i leihau'r achosion o aildroseddu. Manteisiodd hefyd ar y cyfle hwn i ddiolch i Caroline Dyer, a oedd ar fin ymddeol, am ei holl waith caled a'i hymrwymiad i'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid, ynghyd â'i dyletswyddau perthnasol cysylltiedig eraill yn y maes hwn.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod llai o blant yn cael eu hanfon i'r carchar a'u cynnwys yn y system cyfiawnder troseddol nag a oedd o'r blaen. Adleisiodd yntau eiriau'r siaradwr blaenorol mewn perthynas â Caroline Dyer, gan ddymuno ymddeoliad hapus iddi.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Cabinet yn cydnabod y byddai'r dogfennau a restrir yn yr adroddiad yn cael eu cyhoeddi. 

250.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.