Agenda, decisions and minutes

Cabinet - Dydd Mawrth, 17eg Ionawr, 2023 14:30

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

107.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganwyd y canlynol:

 

Y Cynghorydd Hywel Williams – Buddiant rhagfarnol- Eitem 9, Premiymau’r Dreth Gyngor – Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor – Canlyniad yr Ymgynghoriad 

 

Y Cynghorydd Jon Paul Blundell – Buddiant rhagfarnol - Eitem 7, Diweddariad Rhaglen Gyfalaf - Adroddiad Chwarter 3 2022-23, Llywodraethwr Ysgol Gyfun Bryntirion.

108.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 254 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 13/12/22

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 fel rhai gwir a chywir.

109.

Ail-ystyried Penderfyniad y Cabinet: Adfywio Glannau Porthcawl: Adfeddiannu Tir ym Mharc Griffin a Bae Tywodlyd pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol adroddiad i’r Cabinet gyda’r canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2022, ar ôl Ail-ystyried penderfyniad y Cabinet mewn perthynas ag Adfer Glannau Porthcawl: Adfeddiannu Tir ym Mharc Griffin

a Bae Tywodlyd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol bod Aelodau’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi gofyn bod penderfyniad gweithredol y Cabinet ar 18 Hydref 2022, yn cael ei ail-ystyried. Cynhaliwyd cyfarfod y Pwyllgor ar 3 Tachwedd, ac ystyriwyd penderfyniad arfaethedig y Cabinet, gan gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad, gan ystyried p’un a oedd y penderfyniad yn unol â blaenoriaethau a pholisïau corfforaethol. Ar ôl archwilio’r penderfyniad a’r trafodaethau manwl gyda’r Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a’r swyddogion gwahoddedig, daeth y Pwyllgor i ganlyniad na fyddai’r penderfyniad yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Cabinet er mwyn cael ei ail-ystyried, ond gwnaethant yr argymhelliad canlynol. O ystyried pryderon a fynegwyd i’r Aelodau gan drigolion Porthcawl, safbwyntiau wedi'u rhannu gan siaradwyr cyhoeddus a chwestiynau gan Aelodau, mae gofyn i’r Cyngor barhau i gamau nesaf y broses drwy gynnwys Cyngor Tref Porthcawl, yr holl randdeiliaid a’r cyhoedd mewn ymgysylltiad ac ymgynghoriadau pellach.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai'r bwriad oedd ymateb yn ysgrifenedig i’r Pwyllgor gydag ymateb hynod gadarnhaol. Roedd ymgynghori’n rhan hynod bwysig o’r cynlluniau adfer a byddai’n gallu cynnig ychydig o fanylder ar beth fyddai’n digwydd dros y misoedd nesaf.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr ymgysylltiad a oedd eisoes wedi’i gynnal ac a fyddai’n parhau. Roedd ymgynghori’n rhan o’r cynlluniau ar gyfer Porthcawl o’r dechrau, ac maent yn parhau i fod wrth wraidd y weledigaeth ar gyfer adfywio.

 

PENDERFYNWYD:            Ystyriodd y Cabinet Argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, a chytunodd i gyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r Pwyllgor.

110.

Caeau Chwarae Llangynwyd pdf eicon PDF 425 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad i’r Cabinet ystyried yr achos busnes a baratowyd yn unol â dogfen

Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) y Cyngor er mwyn cefnogi prydlesu'r

pafiliwn a dau gae pêl-droed, mannau gwyrdd eraill a maes parcio yng

Nghaeau Chwarae Llangynwyd i Glwb Bechgyn a Merched Llangynwyd Rangers.

(CBM Llangynwyd Rangers). Roedd gofyn hefyd i’r Cabinet asesu, a phan fo’n briodol, cymeradwyo'r pecyn cyllid a ofynnir amdano gan CBM Llangynwyd Rangers CBM dan Gronfa CAT y Cyngor i gefnogi cynigion i ymgymryd â gwaith atgyweirio hanfodol yn y pafiliwn ar ôl cwblhau prydles hirdymor arfaethedig dros 35 mlynedd ar gyfer y safle cyfan.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau gefndir ar gyfleusterau a defnydd y clwb. Aeth ymlaen wedyn i amlinellu’r cynnig presennol a bod y Clwb yn dymuno ehangu cyfranogiad, yn enwedig o ran merched, ac roedd ganddo

nifer o fentrau i ymestyn apêl pêl-droed. Mae cynllun ‘Huddle’ Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2021 ac wedi denu dros 180 o ferched i chwarae pêl-droed. Atodwyd cynlluniau busnes ac ariannol manwl yn amlinellu eu cynigion yn atodiad G a H yr adroddiad. Cafodd y ddau gynllun eu hadolygu gan yr Adran Gyllid ac ystyriwyd eu bod yn arddangos

hyfywedd ariannol y prosiect sy’n cael ei gynnig yn y tymor byr a chanolig, yn unol â’r ddogfen Polisi CAT. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod tri chais am gyllid wedi’u cyflwyno a bod y Clwb yn dymuno cwblhau’r brydles 35 mlynedd arfaethedig ar gyfer y safle cyfan, a fyddai'n eu galluogi i ymgymryd â gwaith atgyweirio

hanfodol yn y pafiliwn, yn amodol ar y Cabinet yn cymeradwyo eu cais am gyllid, gwerth

£157,240.85.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau’r adroddiad, a fyddai’n cyflwyno symiau mwy fyth o arian i greu lleoliad man gwyrdd yn ogystal â lleoliad pêl-droed.

 

Cytunodd yr Arweinydd bod hwn yn gynnig hynod gyffrous ar gyfer y Clwb, y cwm a’r Fwrdeistref. Roedd y cyllid yn galluogi’r Clwb i sicrhau arian cyfatebol, ac felly buddsoddiad o dros £450,000, ac roedd yn arbennig o hapus gyda’r cynlluniau i ymgysylltu mwy gyda merched. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau fod gan y Clwb weledigaeth ac adran merched arbennig o gryf, ond nid y cyfleusterau. Roeddent yn bwriadu ychwanegu cyfleusterau penodol, ond yn dechrau atgyweirio'r hyn sydd yno eisoes.   

 

Diolchodd yr Arweinydd y gwirfoddolwyr ac Aelodau Pwyllgor y Clwb am eu gwaith caled wrth gyflawni’r llwyddiant hwn. 

 

PENDERFYNWYD:           Cabinet:

 

1. Nodwyd y cyllid eisoes wedi'i ddyrannu o’r Gronfa CAT i CBM Llangynwyd Rangers i gefnogi hunanreolaeth y ddau gae pêl-droed a mannau gwyrdd eraill yng Nghaeau Chwarae Llangynwyd, y cytunwyd arno mewn egwyddor gan y Gr?p Llywio CAT.

 

Diben y Cyllid                 

Cyllid dan Gronfa CAT

Gwelliannau i’r System Ddraenio a’r Caeau

(2 x Gau Pêl-droed)

£50,000.00

Cynnal a Chadw Offer y Caeau

£10,000.00

 

2. Cymeradwywyd yr achos busnes (cynlluniau busnes ac ariannol) a gyflwynwyd gan CBM Llangynwyd Rangers i gefnogi prydlesu’r Pafiliwn, y ddau gae pêl-droed, mannau gwyrdd eraill a maes parcio yng Nghaeau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 110.

111.

Monitro Cyllideb 2022-23 - Rhagolwg Refeniw Chwarter 3 pdf eicon PDF 369 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ddiweddariad ar sefyllfa ariannol refeniw’r Cyngor, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022. Esboniodd gefndir y cytundeb, ac mai’r sefyllfa gyffredinol a ragwelir ar 31 Rhagfyr 2022 oedd gorwariant net, gwerth £731,000, gan gynnwys £8.711 miliwn o orwariant net ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net, gwerth £7.980 miliwn, ar gyllidebau ledled y Cyngor. 

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid effaith barhaus Covid 19, gan gynnwys hawliadau sy’n ymwneud â Covid i Lywodraeth Cymru, trosglwyddiadau cyllidebau ac addasiadau technegol, chwyddiant tâl/prisiau a chynigion i leihau cyllideb. Cyflwynodd grynodeb o sefyllfa ariannol pob prif faes gwasanaeth, a thynnodd sylw at yr amrywiaethau mwyaf sylweddol.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau'r gwelliant yn y sefyllfa o gymharu â chwarter 2. Cyfeiriodd at y pwysau ar y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac ychwanegodd y dylid ystyried y maes hwnnw'n ofalus wrth symud ymlaen.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r sefyllfa bryderus o ran y gyllideb anawsterau dysgu a’r gyllideb ar draws y maes gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Maent yn gweithio gydag arbenigwyr annibynnol sydd wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru, er mwyn gwneud yn si?r eu bod yn cynnig gwasanaethau gofal a chymorth, cost effeithiol, ar gyfer anawsterau dysgu. Byddai canlyniad yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet dros y misoedd nesaf.

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd ychydig o’r pwysau o fewn y gyllideb gwasanaethau cymdeithasol, ac ychwanegodd eu bod yn ymgymryd â gwaith, yn ystyried sut oeddynt yn gwario arian, ac a oedd arian yn cael ei wario’n briodol. Byddai’r canfyddiadau’n cael eu cyflwyno i’r Cabinet cyn bo hir.  

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â gorwariant o fewn y gwasanaethau cludiant rhwng y cartref a’r ysgol ac arlwyo. Cyfeiriodd hefyd at blant yn cael eu cefnogi y tu hwnt i’r sir 

a gweithiodd gyda rhieni er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno mor effeithlon â phosibl. 

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad mewn perthynas â niferoedd pobl ddigartref. Croesawodd cyhoeddiad diweddar y Gweinidog Newid Hinsawdd am gyfraniad refeniw untro a gwariant cyfalaf ychwanegol a gyhoeddwyd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:             Nododd y Cabinet y sefyllfa refeniw a ragwelir ar gyfer

2022-23.   

112.

Diweddariad Rhaglen Gyfalaf - Adroddiad Chwarter 3 2022-23 pdf eicon PDF 746 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ddiweddariad mewn perthynas â’r sefyllfa cyfalaf ar ddiwedd chwarter tri. Wrth gynnig gwybodaeth gefndirol, eglurodd bod y Cyngor wedi cymeradwy strategaeth gyfalaf y Cyngor ar 23 Chwefror 2022, ac ar yr adeg honno, cyfanswm y gyllideb gyfalaf gymeradwyo oedd £69.9 miliwn.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sefyllfa bresennol y rhaglen. Ar hyn o bryd, cyfanswm y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 yw £61.732 miliwn, yr oedd £28.242 miliwn wedi’i fodloni gan adnoddau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wedi’u clustnodi, gyda'r £33.490 miliwn sy’n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol Llywodraeth Cymru. Dangoswyd crynodeb o’r rhaglen ar draws wasanaethau yn nhabl un a rhagor o fanylion mewn perthynas â sut oeddynt yn ariannu’n rhaglen honno wedi’u cynnwys yn Nhabl 2.

 

Tynnodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sylw at lithriadau rhai cynlluniau, a oedd yn debygol o lithro i’r flwyddyn ariannol newydd. Yn chwarter 3, cyfanswm y llithriadau y gofynnwyd amdanynt oedd £28.542 miliwn, a manylir ar y rhesymau dros hyn yn yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, ers yr adroddiad cyfalaf diwethaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Hydref 2022, roedd

nifer o gynlluniau newydd wedi’u hariannu’n ariannol wedi’u cymeradwyo a

chynlluniau wedi'u hariannu’n fewnol arfaethedig, a oedd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen

Gyfalaf, a manylir ar y rhain yn yr adroddiad. Cafodd Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ei chynnwys yn Atodiad B yr adroddiad. Mewn perthynas â’r Strategaeth Gyfalaf, dangosodd Atodiad C yr adroddiad bod y Cyngor yn gweithredu yn unol â’r cyfyngiadau cymeradwy.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y Prif Swyddog am yr adroddiad, ac ychwanegodd nad oedd llithriadau’n ddelfrydol, ond roedd y rhesymau a roddwyd yn dderbyniol. Gofynnodd i’r swyddogion ystyried ail-broffilio'r cynlluniau cyn cyflwyno’r sefyllfa ddiweddaraf i’r Cyngor llawn ym mis Mawrth. Mewn perthynas â’r cynlluniau ariannu allanol newydd a oedd wedi’u cyflwyno, yn benodol y Cynllun Gwella Eiddo Canol Trefi, gofynnodd bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn egluro pam bod y cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer yr awdurdod.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybodaeth bellach mewn perthynas â Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys manylion dau gynllun mwy. Byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet erbyn y Gwanwyn. Byddai’r gronfa’n ailagor bryd hynny, ac eglurodd bod swyddogion ar gael i gynghori busnesau ynghylch sut i wneud cais.    

 

Cytunodd yr Arweinydd gyda sylwadau’r Aelod Cabinet dros Adnoddau mewn perthynas â’r potensial i ail-broffilio rhai o’r cynlluniau, yn enwedig Canolfan Tred?r. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau wybodaeth bellach ar y rheswm pam nad oedd y safle bellach yn ymarferol, a bod ymdrechion wedi’u gwneud i sicrhau lleoliad newydd.   

 

Yng ngoleuni’r ail-ystyried diweddar, cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y £0.608 miliwn ychwanegol a ddyfarnwyd gan Gronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Hwb Preswyl i Blant. Byddai hyn yn galluogi cwblhau gwaith tirlunio a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 112.

113.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 pdf eicon PDF 544 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad gyda’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 drafft, sy'n gosod blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a'r meysydd cyllideb sydd wedi'u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Mae'r strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2023-2027 a drafft manwl o gyllideb refeniw 2023-24.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid eu bod yn gweld pwysau cost gweddilliol a cholled incwm ar ôl y pandemig, pwysau chwyddiant sylweddol yn ogystal ag effaith yr argyfwng costau byw ar gyflogau a phrisiau. Roedd hyn yn golygu bod y gwaith o gynllunio’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod yn fwy ansicr ac yn fwy heriol nag arfer. Amlinellwyd y sefyllfa ariannol bresennol ynghyd â’r pwysau parhaus. Ychwanegodd y byddai'r Cyngor yn ceisio diogelu’r bobl fwyaf bregus yn y Gymuned. Roedd y Cyngor wedi gwneud gwerth £73 miliwn o arbedion refeniw ers 2010, swm sylweddol i’w ganfod.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y gyllideb net arfaethedig ar gyfer y flwyddyn nesaf a sut oedd yn cael ei hariannu. Roedd Adran 4 yr adroddiad yn egluro’r materion penodol ar gyfer pob maes gwasanaeth. Eglurodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Setliad Llywodraeth Leol dros dro ar 14 Rhagfyr 2022. Ni fydd y Setliad Llywodraeth Leol terfynol yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Chwefror, felly dangoswyd y gyllideb refeniw ddrafft ar gyfer 2023/24 yn Nhabl 6 yr adroddiad.

Yn ystod 2022-23, roedd nifer o bwysau cyllidebol gwasanaeth nad oedd modd eu hosgoi wedi codi, fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad. Cyfanswm y pwysau cyllidebol a nodwyd ar gyfer 2023-24 oedd £10.711 miliwn. Roedd rhaid canfod gostyngiadau cyllidebol hefyd er mwyn cydbwyso’r gyllideb hon, a nodwyd cynigion ar gyfer £3.2 miliwn, ac amlinellwyd y rhain yn Atodiad B yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â chynlluniau mewn perthynas â’r rhaglen gyfalaf fel rhan o’r setliad hwnnw. Dyfarnwyd dros £8 miliwn i Ben-y-bont ar Ogwr er mwyn cefnogi cyllid cyfalaf y flwyddyn i ddod. Roedd y rhaglen gyfalaf diweddaraf i’w hystyried gan y Cyngor, a byddai unrhyw newidiadau pellach i’r rhaglen honno’n cael eu cynnwys yn y strategaeth tymor canolig terfynol, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ac yna i’r Cyngor ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni. Nid oedd unrhyw gynigion cyfalaf wedi’u gwneud ar gyfer y flwyddyn i ddod, er ei fod wedi’i dderbyn bod nifer o bwysau cyfalaf a fyddai angen eu hariannu cyn symud ymlaen, a bydda’r rhain yn cael eu diweddaru pan fo’r cynigion cyllidebol terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid bod hon yn gyllideb ddrafft, ac roedd y cynigion hyn bellach yn destun ymgynghoriad gyda’r pedwar pwyllgor craffu dros yr wythnos i ddod. Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus i fod i ddod i ben cyn bo hir a byddai’r canfyddiadau o’r ddau ymarfer yn cael eu hystyried wrth ddrafftio’r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-2024.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y Prif  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 113.

114.

Premiymau’r Dreth Gyngor - Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor – Canlyniad yr Ymgynghoriad pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori mewn perthynas â

chodi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor, yn ogystal â cheisio argymhelliad gan y Cabinet ynghylch sut i symud ymlaen, yng ngoleuni adborth yr ymgynghoriad.

 

Cynigodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid gefndir yr adroddiad, ac eglurodd bod canlyniadau’r ymarfer ymgynghori wedi’u cyflwyno gerbron y Cabinet am argymhelliad i'r Cyngor llawn. Eglurodd bod modd i Gynghorau Cymru godi symiau uwch ar ben graddfa gyffredin y dreth Gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor. Bwriad rhoi'r disgresiwn hwn i awdurdodau lleol oedd cynnig offeryn iddynt roi ail-fywyd i gartref gwag hirdymor yn ogystal â helpu awdurdodau lleol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy o fwn eu hardaloedd. Ychwanegodd bod eithriadau lle nad oedd modd codi premiymau a manylir ar y rhain yn yr adroddiad, ynghyd â gwybodaeth am yr awdurdodau lleol a oedd wedi cymhwyso premiwm yng Nghymru ym mis Tachwedd 2022.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid bod 701 o gartrefi gwag hirdymor ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ddiwedd mis Hydref. Bwriad Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor oedd lleihau nifer yr eiddo gwag, er mwyn cyfrannu tuag at gynyddu argaeledd tai i'w gwerthu neu i'w rhentu, ac roedd codi premiwm treth ar eiddo gwag yn cyd-fynd â nodau'r strategaeth honno. Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried y cynnig i godi premiwm ar ail gartrefi. Roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr 72 eiddo a oedd wedi’u dosbarthu fel ail gartrefi, ac roeddent ar hyn o bryd yn talu 100% o'r dreth cyngor. Ychwanegodd, pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i gymhwyso premiwm ar ail gartrefi, ni fyddai modd ei gymhwyso i'r categori hwn o gartrefi tan fis Ebrill 2024.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid sut y cafodd yr ymgynghoriad ei hysbysebu, yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad fel y manylir yn atodiad A yr adroddiad a'r opsiynau sydd ar gael i'r Cabinet eu hystyried.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol, yn sgil yr argyfwng tai yr oeddent yn ei wynebu ledled y Fwrdeistref, Cymru a’r DU, y dylid croesawu unrhyw gynnig a fydd yn eu helpu i adfywio mwy o dai. Cefnogodd premiwm ar y Dreth Gyngor ar eiddo gwag hirdymor, er mwyn adfywio’r eiddo hynny, neu i dalu mwy er mwyn helpu i ariannu gwasanaethau tai a digartrefedd o fewn y fwrdeistref. Mewn perthynas ag ail gartrefi, roedd nifer fechan iawn o ail gartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, ac roedd yn meddwl y dylid cymryd amser i adolygu’r effaith posibl cyn gwneud penderfyniad.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd gyda’r sylwadau hyn ac ychwanegodd y dylid defnyddio unrhyw gyllid a godir drwy’r ffioedd hyn i leihau digartrefedd a chynorthwyo â digartrefedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y byddai rheoliadau newydd, mewn perthynas â gosodiadau gwyliau ac ail gartrefi, yn dod i rym yng Nghymru tua diwedd y gwanwyn. Roedd Llywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 114.

115.

Dyletswydd, Asesiad a Chynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae er mwyn Sicrhau Digon o Gyfleoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn hysbysu'r Cabinet am y ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i sicrhau nifer digonol o gyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc mewn perthynas ag Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r canllawiau statudol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2014. Roeddent hefyd yn chwilio am sylwadau, arsylwadau a chymeradwyaeth ar yr asesiad tair blynedd a gynhaliwyd yn ystod 2021-22 a'r cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer 2022-24 oedd yn ofynnol mewn perthynas â'r materion statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â digonolrwydd cyfleoedd chwarae.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y cynllun asesu a gweithredu yn destun craffu ac ystyriaeth fanwl cyn ei gyflwyno i'r Cabinet. Roedd y cynllun asesu a gweithredu wedi elwa o ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, a chyfranogiad pobl ifanc, wrth ei ddatblygu. Roedd hwn yn ddull Un Cyngor o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae, ac roedd ymrwymiad Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd ag ymrwymiad partneriaid, yn hanfodol wrth fodloni blaenoriaethau’r cynllun gweithredu.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p Atal a Llesiant gefndir digonolrwydd cyfleoedd chwarae, a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) wedi cynnal a chyflwyno asesiadau digonolrwydd cyfleoedd chwarae a chynlluniau gweithredu yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Eglurodd y problemau a'r materion a ystyriwyd o fewn yr asesiad a'r angen am ddull "Un Cyngor" a chydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaid. Darparwyd y cynllun asesu a gweithredu yn atodiad 1 yr adroddiad a phwysleisiwyd y themâu allweddol iddynt ganolbwyntio arnynt.  

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p Atal a Llesiant y goblygiadau ariannol a fyddai'n berthnasol ledled y Cyfarwyddiaethau, a bod faint y gellid ei amsugno o fewn cyllidebau refeniw craidd presennol yn swm ansicr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ystod o gynlluniau cymorth ariannol, ond nid oedd cadarnhad o fuddsoddiad parhaus na buddsoddiad yn y dyfodol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol i'r swyddogion am yr adroddiad ac am waith y tîm. Roedd hon yn enghraifft dda o sut ddylai Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol weithio. Diolchodd i’r Aelodau etholedig a oedd wedi cyfrannu, ac am y cwestiynau a ofynnwyd wrth graffu, yn ehangach ac o ganlyniad i'r gwaith hwnnw. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r Hyrwyddwr Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae am ei waith caled ac ychwanegodd nad offer chwarae sefydlog yn unig oedd hyn, ond mannau chwarae y dylid eu gwerthfawrogi a'u defnyddio mwy. Roedd naw maes chwarae wedi'u cwblhau, ac ym mhob un o'r naw, roedd offer cylchfannau a siglenni sedd hygyrch ar gyfer pobl anabl.  Roedd wedi cwrdd ag aelodau a swyddogion ward lleol i wneud yn si?r eu bod yn ystyried archwiliadau mynediad, hygyrchedd, anabledd a chynwysoldeb ac yn derbyn cyngor arbenigol caffael y bwrdd. Ychwanegodd y byddai rhywfaint o hyfforddiant i aelodau o Chwarae Cymru ar yr adeg briodol yn help i wella dealltwriaeth.

 

PENDERFYNWYD:                  Cabinet:

·      adolygwyd manylion y ddyletswydd statudol digonolrwydd cyfleoedd chwarae a chwmpas y gwasanaethau a oedd yn cyfrannu at greu cymdeithas lle  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 115.

116.

Plant sy’n Ceisio Lloches heb Rieni pdf eicon PDF 257 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad yn cyflwyno diweddariad i'r Cabinet ar y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol gofynnol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy’n Ceisio Lloches Heb Rieni (UASC) a gofyn i'r awdurdod dirprwyedig hwnnw gael ei roi i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i addasu contract cyfredol, yn unol â rheol 3.3.3 Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor ac i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid ac Adran 151, a Phrif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi

Corfforaethol i gytuno ar delerau’r cytundeb rhanbarthol (SLA) ac unrhyw gytundebau

ategol, yn ôl y gofyn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gefndir yr adroddiad a’r ffaith bod BCBC, hyd yma, wedi llwyddo i drefnu lleoliad ar gyfer 6 o blant, gan ddefnyddio llety â chymorth ac asiantaethau maeth annibynnol. Ar hyn o bryd, nid oedd gan BCBC ddigon o gapasiti o fewn contractau Llety â Chymorth presennol i fodloni anghenion pobl ifanc sy'n dod drwy'r NTS. Roedd digonolrwydd lleoliadau mewn perthynas â maethu a gofal preswyl hefyd yn gyfyngedig. Eglurodd mai'r cynnig ar hyn o bryd oedd datblygu mwy o lety â chymorth, sy'n addas ar gyfer pobl ifanc oedd dros 16 oed, wedi’i ddarparu gan landlord cymdeithasol cofrestredig. Byddai'r cymorth yn cael ei gynnig gan ddarparwr cymorth wedi’i gomisiynu, Dewis Cyf. Roedd y contract Llety â Chymorth presennol ar waith gyda Dewis ond yn caniatáu addasu 10%, fodd bynnag, roedd angen addasu 36% ar y contract er mwyn helpu BCBC i fodloni'r gofynion UASC a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, y byddai hyn yn ffordd gost-effeithiol o fodloni anghenion y plant hynny, a byddai'r lleoliad yn eithaf addas wrth gael mynediad at wasanaethau lleol, gan gynnwys darpariaeth addysg o fewn y fwrdeistref sirol. Esboniodd bod newid wedi bod gan y Swyddfa Gartref o ran y cyllid ynghlwm â phlant oedd yn ceisio lloches ac roedd hi'n hyderus y byddai'r arian gan y Swyddfa Gartref yn bodloni’r angen am y llety â chefnogaeth.

 

Atebodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n falch iawn o nodi y bydd San Steffan yn talu'r holl gostau. Roedd peth ansicrwydd ynghylch cost y cynlluniau gofal a chymorth, oherwydd nid oeddynt yn gwybod pwy oedd y bobl ifanc tan iddynt gyrraedd, mewn gwirionedd. Gofynnodd am sicrwydd y byddai modd lleoli’r bobl ifanc gyda darparwyr erbyn 28 Chwefror, ac a oedd trefniadau ar waith ar gyfer addysg.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Corfforaethol bod sicrwydd yn eu lle, a phwrpas yr adroddiad hwn oedd cael y caniatâd gofynnol i gyflawni'r cyfrifoldeb cyn diwedd mis Chwefror.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Addysg pa ddarpariaethau oedd yn cael eu rhoi ar waith i'r plant ac a oedd unrhyw gategoreiddio arbennig ar gyfer y plant hyn? Gofynnodd hefyd a fyddai'r costau'n cael eu cynnwys dan ofal Llywodraeth y DU.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddent yn cael eu hadnabod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 116.

117.

Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 246 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth gan y Cabinet ar gyfer penodi llywodraethwyr awdurdod lleol i gyrff llywodraethu ysgol a restrir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad. Ychwanegodd bod yr holl ymgeiswyr wedi bodloni meini prawf ar gyfer penodiad fel llywodraethwr awdurdod lleol, ac nid oedd cystadleuaeth ar gyfer y swyddi gwag hyn.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg i'r bobl hynny a oedd wedi rhoi eu henw ymlaen gan ofyn i Aelodau o Wardiau gyda swyddi gwag ar y Cyrff Llywodraethu, i ystyried ymgeisio.   

 

PENDERFYNWYD:          Cymeradwyodd y Cabinet y penodiadau a fanylir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

118.

Polisi Ymddygiad Afresymol/Achwynwyr Blinderus pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol adroddiad ar y Polisi Ymddygiad Afresymol neu Achwynydd Blinderus diwygiedig i'w gymeradwyo. Eglurodd fod y Cabinet wedi cymeradwyo Polisi Ymddygiad Afresymol a Chwynion Blinderus ym mis Ionawr 2019. Fodd bynnag, nid oedd ymddygiad afresymol tuag at gynrychiolwyr y Cyngor wedi ei gyfyngu i gwynion a gallai godi yn fwy cyffredinol o wasanaethau sy’n rhyngweithio â'r cyhoedd, sef yr hyn a welwyd yn fwy diweddar. Roedd y polisi sydd ynghlwm â'r adroddiad wedi'i ddiwygio i gydnabod, er y byddai'r Cyngor yn parhau i ymateb i gwynion yn agored ac yn dryloyw, roedd ganddo set glir o werthoedd ac ni fyddai'n goddef ymddygiad afresymol na chamdriniol tuag at ei staff, Aelodau Etholedig nac unrhyw drydydd parti.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol y cefndir i 3 achwynydd penodol a'u cyswllt gormodol â'r Cyngor ymhellach. 

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol nad atal unrhyw un o'r fwrdeistref rhag codi pryderon oedd bwriad yr adroddiad, ond bod yr adroddiad yn ymwneud â’r nifer fechan iawn o gwynion a oedd wedi dechrau cael effaith ar iechyd a llesiant swyddogion ac Aelodau. Fel awdurdod, roedd dyletswydd i wneud yn si?r bod pawb yn y gweithlu’n cael eu diogelu. Roedd wedi treulio peth amser yn ddiweddar gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth cwsmer ar y ddesg flaen, ac wedi’u harsylwi’n gwneud gwaith anhygoel wrth gynnig gwasanaeth anhygoel. Roeddent yn cyflwyno gwybodaeth am dros 800 o wasanaethau roedd y Cyngor yn eu cynnig, ac roedd ganddynt yr hawl i weithio a theimlo'n ddiogel.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn bwysig rhoi mesurau ar waith i ddiogelu staff ac aelodau er mwyn sicrhau nad oeddent yn destun camdriniaeth.  

 

Cytunodd yr Arweinydd nad oedd trin staff yn y ffordd a welwyd yn ddiweddar yn dderbyniol, a phe bai’r ymddygiad yn mynd yn afresymol, byddant yn ymateb i hynny, a’n cysylltu â Heddlu De Cymru pe bai angen.

 

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyodd y Cabinet y Polisi diwygiedig sydd ynghlwm ag Atodiad 1 yr adroddiad.

119.

Adroddiadau Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol

adroddiad yn rhoi gwybod i'r Cabinet am unrhyw adroddiadau gwybodaeth a gyhoeddwyd ers y cyfarfod a drefnwyd ddiwethaf. Dim ond un adroddiad oedd wedi'i gyhoeddi, a hynny'n ymwneud â Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA). Cadarnhaodd bod y polisi RIPA wedi’i adolygu a'i fod yn cael ei ystyried yn addas i'r diben ar gyfer y cyfnod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:            Cydnabu'r Cabinet gyhoeddiad y ddogfen a restrir yn yr adroddiad hwn.

120.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

121.

Eithrio’r Cyhoedd

Nid oedd yr eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn y Cabinet yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Bod y cyhoedd, dan Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, yn cael eu heithrio o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem nesaf o fusnes, gan iddo gynnwys gwybodaeth esempt fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Ar ôl cymhwyso'r prawf budd cyhoeddus, penderfynwyd, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitem ganlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'i heithrio o'r cyfarfod, gan yr ystyrid, ym mhob amgylchiadau sy'n ymwneud â'r eitem, bod y budd cyhoeddus

o gynnal yr eithriad yn drech na’r budd cyhoeddus o ddatgelu'r wybodaeth.

122.

Cymeradwyo Cofnodion wedi’u Heithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 13/12/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 fel rhai gwir a chywir.