Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Aelod Cabinet Cymunedau Rheolwr Gr?p - Rheoli Achosion a Phontio
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo'r Cofnodion PDF 209 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/10/2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD : Cymeradwyo bod cofnodion y cyfarfod dyddiedig 12/10/2022 yn gywir. |
|
Y Diweddaraf am Weithredu'r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol PDF 277 KB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar y testun uchod.
Holodd y Dirprwy Arweinydd ynghylch y canlyniad, o ran yr unigolion a oedd yn elwa ar y Cynllun Peilot a'r rhai nad oeddent yn elwa arno.
Holodd Aelod am fanylion y ddeiliadaeth a darpariaeth taliadau uniongyrchol. Holodd hefyd am y cymorth a ddarperir i'r unigolion hynny sy'n agored i niwed neu heb brofiad o drin arian. Ymhellach i hynny, holodd yr Aelod pa ddarpariaethau a oedd ar waith pe bai'r unigolyn yn cael swydd neu'n dechrau derbyn hyfforddiant, gan fod y cynllun yn cael ei gynnal dros gyfnod o 3 blynedd.
Holodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol pa gymorth a oedd ar gael i'r unigolyn ifanc wedi i'r cynllun peilot ddod i ben.
Ymatebodd y Rheolwr Tîm - Just Ask Plus drwy ddweud bod yr unigolyn yn derbyn y taliad yn uniongyrchol. Dywedodd fod pob unigolyn yn cael cynghorydd personol penodol a fyddai'n rhoi arweiniad iddo ar hyn. Dywedodd y byddai'r unigolyn ifanc yn derbyn incwm sylfaenol wrth gael ei gyflogi. Dywedodd hefyd ei bod hi'n bwysig cynnal ymgysylltiad yr unigolyn ifanc i sicrhau incwm cyson.
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd at hyn drwy ddweud y byddai gan yr unigolyn ifanc hawl i dderbyn cymorth nes troi'n 25 oed.
Holodd yr Aelod Cabinet Adnoddau faint o blith niferoedd cyfredol y cynllun a oedd mewn addysg ar hyn o bryd.
Atebodd y Rheolwr Tîm - Just Ask Plus drwy ddweud nad oedd yr union ffigurau ar gael, ond bod disgwyl i arolygon a chynghorwyr personol helpu gyda'r ffigurau hyn. . Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar waith ar hyn o bryd ar gyfer rhai sydd wedi gadael gofal ac sy'n ymgysylltu â'r Awdurdod Lleol, a chytunodd i roi mesurau lleol ar waith ar gyfer hyn.
Cytunodd yr Arweinydd y byddai'n fuddiol cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar raddfa ehangach, gan mai'r nod oedd gwella eu cyfleoedd, gwerthuso a monitro'n rheolaidd a byddai'n croesawu adroddiad chwe-misol neu flynyddol ar y prosiect.
PENDERFYNWYD : Bod y Pwyllgor wedi ystyried cynnwys yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd yn gysylltiedig â gweithredu'r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol.
|
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad a gwahodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant i gyflwyno canfyddiadau'r Arolygiad.
Aeth drwy ganlyniadau'r arolygiadau a gynhaliwyd yn:
·Maple Tree House ar 28 Mehefin 2022 ·Sunny Bank ar 04 Awst 2022 ·Harwood House ar 13 Medi 2022 ·Bakers Way ar 29 Medi 2022
Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y staff wedi ymrwymo i ddarparu gofal o’r radd flaenaf cyn i’r canfyddiadau gael eu rhannu â'r Arolygiaeth. Soniodd am yr anawsterau wrth recriwtio a chadw staff, a nododd na fyddai Maple Tree House yn weithredol eto nes i holl argymhellion yr Arolygiad gael eu gweithredu.
Holodd Aelod beth oedd y cynlluniau ar gyfer staffio'r gwahanol leoliadau, a chyfeirio at bryderon mai staffio a phroblemau parhaus yn gysylltiedig â staffio oedd wrth wraidd y penderfyniad i gau. Mynegodd bryder hefyd ynghylch llesiant parhaus y plant yn y lleoliadau preswyl.
Atebodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod proses recriwtio barhaus ar y gweill yn y lleoliadau, gyda phwyslais ar wneud y swyddi'n ddeniadol i ddarpar weithwyr. Dywedodd hefyd fod dull o greu cronfa o staff achlysurol o dan ystyriaeth, yn hytrach na defnyddio gwasanaethau staff asiantaeth.
Gofynnodd i'r Rheolwr Gr?p - Lleoliadau a Gwasanaethau Darparu ymhelaethu ar hyn.
Dywedodd y Rheolwr fod arwyddion cadarnhaol i'w gweld wrth recriwtio staff, gyda rheolwyr yn gweithio'n agos gyda'r tîm cyfathrebu i hyrwyddo'r gwaith recriwtio hwnnw.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd eu bod yn ymwybodol o'r anawsterau a wynebir gan blant a oedd wedi cael eu symud i leoliad tebyg a redir gan weithwyr cymdeithasol. Sicrhaodd y pwyllgor ei bod wedi cael gwybod eu bod yn ymdopi'n dda, ac y bu'r symud yn benderfyniad cadarnhaol. Dywedodd mai ffocws y gwaith recriwtio oedd ansawdd y cymorth, yn hytrach na nifer y cyflogeion.
Ategodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y datganiadau uchod ac ailbwysleisio na fyddai cartref preswyl Maple Tree ond yn ailagor pe bai'r gofynion a nodwyd gan yr arolygiaeth yn cael eu bodloni'n llawn. Dywedodd y byddai cyfleuster mewn adeilad newydd ym Mrynmenyn yn agor i gynnal asesiadau a chynnig darpariaeth frys. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant eu bod yn ystyried ymateb aml-asiantaeth ac yn gweithio tuag at sicrhau Model Therapiwtig.
Mynegodd yr Arweinydd ddiolch i'r staff a gofyn am sicrwydd bod y gofynion a osodwyd er mwyn gwella wedi'u gweithredu.
Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod rheolwyr uned breswyl Sunnybank wedi ymateb i'r argymhellion a wnaed gan yr Arolygiaeth, a sicrhaodd na chafwyd unrhyw arolygiadau ers hynny.
PENDERFYNWYD : Bod Pwyllgor y Cabinet yn nodi'r adroddiad.
|
|
Y Diweddaraf am Ddatblygu Rhianta Corfforaethol PDF 678 KB Cofnodion: Dywedodd y Swyddog Cyfranogiad Rhianta Corfforaethol mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi'r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet am ddatblygu Rhianta Corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cyflwynodd yr adroddiad a mynd drwyddo. Dywedodd eu bod yn gwahodd proffesiynau i wneud "Addewid" ynghylch yr hyn yr oeddent yn gallu ei newid a'i ychwanegu at y Cynllun Strategol. Dywedodd y gellid cyflwyno'r manylion am hyn i'r cyfarfod nesaf.
Soniodd am ddau gr?p a fyddai'n rhan o'r Fforwm Ieuenctid a gofynnodd am gymeradwyaeth ar gyfer cylch gorchwyl drafft.
Holodd yr Arweinydd ynghylch ymgysylltiad partneriaid.
Atebodd y Dirprwy Arweinydd drwy ddweud nad oedd gan bartneriaid ddealltwriaeth o hyn yn flaenorol, ond eu bod yn ymgysylltu'n llawn bellach. Ategwyd hyn gan yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, drwy ddatgan ei bod yn bwysig i bob Cynghorydd gymryd cymaint o ran ag yr oedd ei amserlen unigol yn ei chaniatáu, a holodd y Swyddog Cyfranogiad Rhianta Corfforaethol am gynlluniau i hyrwyddo ymgysylltiad, er mwyn i gydweithwyr o'r Cyngor allu gweld y gwaith gwych y mae'r tîm yn ei wneud, a rhieni maeth y plant sydd yng ngofal y fwrdeistref.
Cytunodd y Swyddog Cyfranogiad Rhianta Corfforaethol â hyn, a dweud bod y partneriaid wedi ymateb mewn modd cadarnhaol. Dywedodd hefyd mai nodau ac amcanion yr is-grwpiau oedd rhoi llais i blant drwy hyfforddi, hyrwyddo a phwysleisio eu rolau a'u cyfrifoldebau. Soniodd ei fod wedi ysgrifennu at weithwyr proffesiynol a Chynghorwyr gyda golwg ar hyrwyddo hyn.
PENDERFYNWYD: (1) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd Datblygu Rhianta Corfforaethol.
(2) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |