Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Mercher, 24ain Ionawr, 2018 14:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

160.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Dim

161.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

162.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 76 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/10/17

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet 18 Hydref 2017 fel cofnod gwir a chywir.                    

163.

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru - Hunanasesiad Ionawr 2018 – Gofal Cymdeithasol Plant pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad yn hysbysu Pwyllgor y Cabinet am yr hunanasesiad y gofynnwyd i’r holl awdurdodau ei gynnal mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phroffil gadawyr gofal, digonolrwydd a sefydlogrwydd lleoliadau ac effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r gofynion rheoliadol ar leoliadau y tu allan i’r awdurdod. Roedd yn rhaid dychwelyd yr asesiad wedi ei gwblhau at Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn y 26ain o Ionawr 2018.  

 

Amlinellodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y data/canfyddiadau allweddol oedd wedi eu cynnwys yn yr asesiad. Eglurodd nad oeddent wedi gallu gweithio ar yr asesiad cyn y 1af o Ionawr 2018 oherwydd mai am y ffigurau ar y 1af o Ionawr 2018 y gofynnwyd. Nid oedd yr asesiad wedi ei gwblhau eto ond roedd hi wedi crynhoi rhai o’r penawdau a’i sylwadau hi ar y canfyddiadau. Esboniodd mai bwriad yr hunanasesiad oedd cael darlun o gymhlethdod proffil plant sy’n derbyn gofal a gadawyr gofal ar draws Cymru ac annog awdurdodau i werthuso effeithiolrwydd eu trefniadau a nodi unrhyw faterion oedd yn effeithio ar blant sy’n derbyn gofal a gadawyr gofal.

 

Amlinellodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant saith thema’r hunanasesiad, sef proffil, sefydlogrwydd a digonolrwydd lleoliadau, gofal a chymorth, panelau lleoliadau a threfniadau hysbysu, ymyrryd yn gynnar, diogelu a’r gweithlu.  

 

Gyda golwg ar y proffil, adroddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant mai gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (BCBC) yr oedd y nifer pedwerydd uchaf o blant yn derbyn gofal ar ddiwedd Mawrth 2017. Roedd pob awdurdod wedi gweld cynnydd yn nifer y plant oedd yn derbyn gofal ac roedd hyn i’w weld yn thema ar draws Cymru.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod yna ostyngiad wedi bod yn nifer y plant a osodwyd gyda gofalwyr maeth annibynnol, o 22% ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf i 18.3% ym mis Ionawr 2018. Ychwanegodd fod 69.7% wedi eu gosod o fewn yr awdurdod lleol, oedd yn welliant ar flynyddoedd blaenorol er bod nifer y plant a symudwyd 3 neu fwy o weithiau yn y 12 mis diwethaf yn dal yn her. 

 

Adroddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant, yn dilyn gwaith ataliol gydag asiantaethau oedd yn bartneriaid a’r heddlu yn neilltuol, ei bod yn ymddangos fod yna duedd ostyngol oedd yn lleihau risgiau i blant oedd yn derbyn gofal. Hefyd, roedd 20% o blant oedd yn derbyn gofal yn derbyn gwasanaethau therapiwtig.

 

Esboniodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y byddai’r camau nesaf yn cynnwys dadansoddiad ansoddol o’r data, a chynnwys y wybodaeth honno yn yr hunanasesiad, i’w gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn y 26ain o Ionawr 2018. Wedyn, byddai yna gyfarfod herio perfformiad gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ym mis Mawrth o bosibl, pan fyddai’r wybodaeth a roddwyd yn cael ei chwestiynu. Ar ôl hynny, cynhelid arolygiadau gwaith maes mewn chwe awdurdod ond nid oedd BCBC wedi derbyn hysbysiad ei fod yn un o’r chwech. Yn dilyn hynny, câi’r canfyddiadau a’r dadansoddiad eu defnyddio yn sail i adroddiad cyffredinol cenedlaethol, dadansoddiad blynyddol gan Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad gwasanaethau cymdeithasol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 163.

164.

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru – Arolygu Gwasanaethau Plant Ionawr/Chwefror 2017 – Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, adroddiad ar y Cynllun Gweithredu a ddiweddarwyd yn dilyn arolygu Gwasanaethau Plant ym mis Ionawr/Chwefror 2017. Esboniodd fod yr arolygiad a gynhaliwyd yng Ngwasanaethau Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi canolbwyntio ar y ffordd yr oedd plant a theuluoedd yn cael eu galluogi i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau gofal a chefnogaeth ac ansawdd y canlyniadau oedd yn cael eu sicrhau ar gyfer plant mewn angen am gymorth, gofal a chefnogaeth a/neu amddiffyniad gan gynnwys plant oedd yn derbyn gofal. Cynhaliwyd yr arolygiadau yn yr wythnosau yn cychwyn ar 30 Ionawr 2017 a 13 Chwefror 2017.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yr arolygiad, y sampl o achosion a gymerwyd a’r cyfweliadau unigol ac mewn gr?p gyda rheolwyr, Aelodau, partneriaid a darparwyr gwasanaethau. Adroddodd Arolygiaeth Gofal Cymru am eu canfyddiadau ar eu gwefan i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chyflwynasant adroddiad a Chynllun Gweithredu i Bwyllgor Craffu 2 ym mis Gorffennaf 2017. Ymrwymwyd hefyd i ddod â’r adroddiad i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod Arolygwyr wedi canfod bod yr awdurdod wedi gweithio’n galed yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014, i ailsiapio ei wasanaethau. Canfu’r arolygiad fod y gweithlu yn ymrwymedig i sicrhau canlyniadau da ar gyfer plant a theuluoedd ond mai amrywiol oedd ysbryd y staff ar draws y gwasanaeth a bod angen ei feithrin ar adeg o newid sylweddol. Dylai Pen-y-bont ar Ogwr barhau i ganolbwyntio ar y modd y gallent gadw staff am fwy o amser a recriwtio staff profiadol yn gynt. Roedd y Cynllun Gweithredu yn mynd i’r afael â’r pwyntiau hyn ac eraill.  

 

Gofynnodd Aelod pa gamau oedd wedi cael eu cymryd i wella ysbryd y staff, a oedd cyfweliadau ymadael wedi cael eu cynnal a beth oedd y rhain wedi ei ganfod. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod darn o waith wedi cael ei wneud ar recriwtio, cadw a chefnogi gweithwyr cymdeithasol. Roedd cyfathrebu rheolaidd gyda’r staff ynghyd â mynediad at reolwyr uwch, rhaglen hyfforddi gefnogol, cynlluniau mentora ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr a pholisi goruchwylio newydd er mwyn sicrhau cysondeb dull. Câi beichiau gwaith hefyd eu monitro’n ofalus er mwyn atal staff rhag cael eu trechu gan waith. Cynhaliwyd cyfweliadau ymadael ac roedd adborth cadarnhaol wedi cael ei dderbyn ynghylch y cymorth a roddwyd. Roedd y rhan fwyaf o’r staff wedi gadael oherwydd cael dyrchafiad neu er mwyn gweithio’n nes i’w cartref.  

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a dywedodd ei fod wedi ei galonogi gan y cynnydd oedd wedi cael ei wneud. Roedd yna rai camau yn dal heb eu cyflawni ac roedd nifer yn ymwneud â datblygu’r ganolfan ddiogelu amlasiantaethol. Gofynnodd yr Arweinydd am ddiweddariad ar ddatblygiad y ganolfan. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mai’r unig fater oedd yn atal datblygu oedd  llety. Roedd y tîm eisoes yn gweithio’n ‘rhithiol’. Roedd y llety mwyaf derbyniol wedi ei ddarganfod a’i gytuno. Roedd y Prisiwr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 164.

165.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

166.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath. .

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael ei gau allan o’r cyfarfod tra roedd yr eitem fusnes ganlynol yn cael ei hystyried gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf diddordeb y cyhoedd wrth ystyried yr eitem hon, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitem yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi cael ei gau allan o’r cyfarfod gan y byddai yn cynnwys datgelu gwybodaeth oedd wedi ei heithrio, o natur fel a ddatganwyd uchod. 

167.

Cymeradwyo Cofnodion wedi eu Heithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion gwahardd cyfarfod y 18/10/2017.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Bod cofnodion eithriedig Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet 18 Hydref 2017 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.