Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman Business Administration Apprentice - Democratic Services
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Buddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganwyd y Buddiannau canlynol: Bu i’r Cynghorydd J Radcliffe ddatgan buddiant personol yn eitem agenda 4, Diweddariad ar Sefydlu Fframwaith Maethu Cenedlaethol a’r Gwaith Presennol mewn perthynas â Darpariaeth Gofal Maeth Mewnol oherwydd ei fod yn y broses o fabwysiadu plentyn.
|
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 71 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 24/01/2018 Cofnodion: PENDERFYNWYD:Cymeradwyo cofnodion y Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet ar 24 Ionawr 2018 fel rhai gwir a chywir. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gofl Cymdeithasol Plant adroddiad i'r Pwyllgor Cabinet am wybodaeth cefndirol a newyddion ynghylch cynnydd y gwaith sydd wedi ei wneud i sefydlu Fframwaith Maethu Cenedlaethol yng Nghymru. Hefyd, rhoddodd newyddion ar ddarpariaeth gwasanaeth Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr a’r adolygiad ar y gwasanaeth maeth sy’n mynd rhagddo.
Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod cam 3 wedi cychwyn yn 2017 ac mae’n cynnwys ehangu a datblygu tîm canolog y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol er mwyn dod ag undod ac i gefnogi cydlyniad ac arweiniad y Fframwaith Maeth Cenedlaethol. Yna, disgrifiodd y rhaglen waith sy’n sail i’r cynlluniau rhanbarthol sy'n cael eu datblygu, fel y nodir yn adran 4.4 yr adroddiad.
Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant bod adolygiad yn mynd rhagddo ar Ofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau gwneud y gorau o botensial y gwasanaeth a datblygu model y dull mewn ffordd sy’n cyd-fynd â phroject ailfodelu Lleoliadau a Gwasanaethau preswyl a’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol. Eglurodd y cai’r adolygiad ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2018 ac ymgorffori nifer o ffrydiau gwaith fel y manylir yn adran 4.9 yr adroddiad. Caiff y canfyddiadau hyn eu casglu a’u rhoi mewn adroddiad a fydd yn cyflwyno’r argymhellion a'r opsiynau o ran newidiadau i systemau, cyllid, polisïau a strwythur yn y gwasanaeth.
Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar System Wbodaeth Gofal Cymunedol Cymru a’r amserlen ar gyfer ei sefydlu trwy Gymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod 13 Awdurdod Lleol yng Nghymru ar System Wybodaeth. Merthyr oedd yr Awdurdod Lleol diwethaf i fynd yn fyw a bydd RhCT yn dilyn yn fuan. Cynllunnir ei gweithredu trwy’r holl awdurdodau yn y 18 mis nesaf, mae datblygu’r modelau’n digwydd yn araf deg. Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant wrth y Pwyllgor bod y modiwl gofal maeth yn fyw ac y byddi’r modiwl taliadau gofal maeth yn fyw ym mis Mai.
Dywedodd aelod ei fod ar ddeall y cafwyd anawsterau wrth recriwtio a chadw gofalwyr maeth yn y gorffennol; allai swyddogion ddweud sut mae'r sefyllfa ar hyn o bryd?
Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Plant a Reoleiddir y bu gwelliant cyson ym Mhen y Bont gan 2 i 3 aelwyd bob blwyddyn. Mae’r tîm Cyfathrebu a Marchnata wedi gwneud llawer o waith i hyrwyddo’r gwasanaeth ac o ganlyniad, mae gennym bellach gronfa dda o ofalwyr maeth ym Mhen y Bont. Mae’r rhaglen recriwtio a datblygu gofalwyr presennol dan adolygiad i wella datblygiad gyrfaoedd ar gyfer gofalwyr maeth mewnol a sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn gystadleuol mewn cymhariaeth â chynghorwyr maethu annibynnol. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod yr ymgyrch recriwtio yn gysylltiedig â’r MTFS oherwydd os y gallwn recriwtio yn lleol, gallwn dorri costau ar leoliadau allanol. Anogodd y Cadeirydd Aelodau i hyrwyddo’r gwasanaeth ar unrhyw adeg bosibl oherwydd bod yr Awdurdod wastad am recriwtio.
Cyfeiriodd aelod at Ffrwd Gwaith 4 – Cyllid “mae adolygiad yn mynd rhagddo ar y pecynnau ariannol ar gyfer gofalwyr, bydd hyn yn cynnwys meincnodi yn unol ag asiantaethau maethu annibynnol ac awdurdodau lleol eraill yn defnyddio’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 170. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim |