Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Mercher, 6ed Mawrth, 2019 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

190.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

191.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 81 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 10/01/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: I dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10/01/2019 fel rhai cywir.

192.

Gofal Cymdeithasol Plant - Pecynnau Cefnogi Prifysgol i Ymadawyr Gofal - Polisi pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Reolwr y Gr?p Diogelu a Sicrhau Ansawdd adroddiad ar Becynnau Cefnogi Prifysgol i Ymadawyr Gofal gan gynnwys yr hyn y darparodd. Eglurodd bod Ysgrifennydd Addysg y Cabinet wedi cyhoeddi'r Adroddiad Diemwnt sy'n cynnig pecyn o argymhellion â chostau ar gyfer cyllid addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol. Cytunwyd i hyn gan Lywodraeth Cymru ac fe'i gweithredwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2018-19

 

Bu iddi hefyd egluro i Aelodau bod yr awdurdod lleol ar hyn o bryd yn cefnogi 9 o ymadawyr gofal trwy amrywiaeth o gyrsiau Prifysgol gan gynnwys addysgu, cyfrifeg a gradd Meistr mewn Cyfiawnder Ieuenctid. Dywedodd bod hyn yn newyddion da ac yr amcangyfrifir y bydd y nifer hwn yn cynyddu dros y rhai blynyddoedd nesaf.

 

Cynigiodd Aelod ei sylwadau ar y polisi gan nodi ei bod yn falch iawn bod yr arfer y mae'r awdurdod wedi bod yn ei ddilyn ers sawl blwyddyn wedi'i roi mewn polisi.

 

Bu i'r Arweinydd groesawu'r adroddiad a awgrymodd y dylid ymgymryd ag adolygiad yn y dyfodol i sicrhau bod y cymorth yr un mor effeithiol ac i symleiddio'r broses gymaint ag y gellir.

 

Cytunodd Rheolwr y Gr?p Diogelu a Sicrhau Ansawdd y byddai adolygiad o'r gweithrediad ymhen 6 - 12 mis ar y broses gyfan yn fuddiol i gadw cofnod o gynnydd ymadawyr gofal presennol a newydd. Gallai'r adolygiad hefyd sicrhau bod y polisi yn cael effaith.

 

Nododd aelod ei bod yn croesawu'r polisi ac yn credu ei fod yn syniad da ond holodd am y gost gyffredinol i'r awdurdod. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y gallai ddarparu Aelodau gyda'r data hwnnw ar ôl y cyfarfod.

 

Dywedodd Aelod arall er ei bod yn cytuno y dylai gyd-fynd â'r gyllideb, nid oedd yn credu y dylid cael cap ar y gyllideb ar yr hyn a ellir ei roi i ymadawyr gofal.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i'r aelod bod yr unigolion i gyd wedi'u gwerthuso'n unigol ond tawelodd ei meddwl drwy ddweud nad oes cap ar yr hyn a ellir ei roi. Cytunodd y byddai angen proses fonitro i sicrhau bod swm cyfrifol o arian yn cael ei wario.

 

Gofynnodd Aelod a roddir cymorth i fyfyrwyr wneud cais am grantiau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod cymorth i wneud cais am y grantiau a oedd ar gael iddynt yn ogystal â chanfod gwybodaeth arall yngl?n â chyllid y gall myfyrwyr wneud cais amdano.

 

Bu i Aelod arall gefnogi'r polisi ond holodd pwy oedd yn gyfrifol am yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb gan nad yw'r swyddog blaenorol yn gweithio i'r awdurdod mwyach. Eglurodd yr arweinydd mai'r Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fyddai'n gyfrifol am fonitro.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywiad a oedd unrhyw safbwyntiau yngl?n â myfyrwyr yn gweithio rhan amser ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gofal Cymdeithasol a Llesiant mai penderfyniad yr unigolyn oedd hynny ac nad oedd unrhyw gyfyngiadau mewn lle. Byddant yn gwneud popeth y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 192.

193.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim