Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Mercher, 12fed Hydref, 2022 09:30

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Time STC 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

8.

Cymeradwyo’r cofnodion pdf eicon PDF 229 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 27/07/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 27/07/2022 fel cofnod gwir a chywir.

9.

Cymeradwyo’r Datganiadau o Ddiben ar gyfer Gwasanaethau Preswyl pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p Lleoliadau a Gwasanaethau Darparu adroddiad gyda’r datganiadau o ddiben diwygiedig ar gyfer y  gwasanaethau preswyl a ddarperir ar hyn o bryd i blant a phobl ifanc yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Eglurodd ei bod yn ofynnol o dan gyfansoddiad y Cyngor bod y rhain yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol i’w cymeradwyo.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p Lleoliadau a Gwasanaethau Darparu fod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bedwar cartref preswyl i blant ar hyn o bryd, yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc 0-19 oed, sef Maple Tree House, Sunny Bank, Bakers Way a Harwood House. Roedd rhagor o fanylion yn adran 3 yr adroddiad.

 

Eglurodd Rheolwr y Gr?p Lleoliadau a Gwasanaethau Darparu fod Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) wedi dod i rym ar yr 2il o Ebrill 2018. Diben y Ddeddf oedd adeiladu ar lwyddiant rheoleiddio yng Nghymru ac roedd yn adlewyrchu'r newid ym myd gofal cymdeithasol. Mae pob Awdurdod Lleol bellach yn cael tystysgrif gofrestru yn hytrach na bod gwasanaethau unigol yn cael eu cofrestru. Mae hyn yn golygu bod pob Datganiad o Ddiben yn cael ei gyflwyno mewn ffordd fwy unffurf. Darparwyd canllaw ar gyfer llunio datganiad o ddiben o dan y Ddeddf uchod gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Ebrill 2019. Roedd rhagor o fanylion yngl?n â’r newidiadau i’r datganiadau o ddiben yn adran 4 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr Adroddiad ac yn cymeradwyo’r datganiad o ddiben ar gyfer pob un darpariaeth gwasanaethau preswyl.

10.

Diweddariad ar Ddatblygiad Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 440 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi adroddiad oedd yn rhoi diweddariad i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet ar ddatblygiad Rhianta Corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Eglurodd fod cyfarfod cyntaf Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet yn y flwyddyn ddinesig wedi derbyn adroddiad a gyflwynwyd gan y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi yn nodi cynigion ar gyfer datblygu Rhianta Corfforaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol. Roedd y cynigion yn cynnwys:

 

  • Sefydlu Gweledigaeth a rennir ar gyfer Cyfrifoldebau Rhianta Corfforaethol.
  • Sefydlu strwythur llywodraethu sy'n cefnogi'r ymagwedd strategol a gweithredol at Rianta Corfforaethol.
  • Sefydlu Fframwaith Perfformiad Rhianta Corfforaethol.
  • Sefydlu fforymau ar gyfer rhai sydd â phrofiad o ofal er mwyn rhoi llais cyfunol i'n plant a'n pobl ifanc.

 

Dywedodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi fod y Gr?p Rhianta Corfforaethol Gweithredol bellach wedi cael ei ailenwi yn Fwrdd Rhianta Corfforaethol. Tynnwyd sylw at fanylion y cynigion uchod a'r cynnydd a wnaed hyd yma yn adran 4 yr adroddiad. Rhoddodd gyflwyniad a fideo oedd yn canolbwyntio ar y materion o'r digwyddiad ymgynghori a gafodd y bobl ifanc.

 

Eglurodd y Cadeirydd ei bod hi wedi mwynhau'r digwyddiad partneriaeth a bod y cysylltiadau a'r datblygiadau a wnaed yn y digwyddiad hwn yn werthfawr ac yn addawol. Ychwanegodd nad oedd yr adnoddau ar draws rhanddeiliaid yn cael eu defnyddio mor effeithiol ag y gallent fod.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol yr adroddiad ac wrth ystyried y digwyddiad credai ei fod yn agoriad llygad ynghylch y plant yr ydym yn gofalu amdanynt a’r heriau y maent yn eu hwynebu a’r hyn y gallem fod yn ei wneud er mwyn gwneud eu bywydau’n fwy normal. Anogodd aelodau'r pwyllgor i fynychu digwyddiadau yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cyflwyniad yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol, gan roi syniad o'r pethau y dylai’r pwyllgor fod yn edrych arnynt i sicrhau bod y gwasanaethau, a ddarperir i blant sydd â phrofiad o ofal, cystal ag y gallent fod. Gofynnodd sut yr oedd holl bryderon y plant yn cael eu nodi a pha gynllun gweithredu oedd yn ei le i sicrhau ein bod yn cyflawni. Esboniodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi fod y cylch gorchwyl yn cyfeirio at y chwe blaenoriaeth a restrwyd yn yr adroddiad ac y byddai yna is-grwpiau, lle byddai pob pwynt yn cael ei dorri i lawr a chynllun gweithredu'n cael ei ffurfio ar gyfer pob is-gr?p. Erbyn y flwyddyn ariannol newydd byddai rhestr wedi ei sefydlu o amcanion, pob un â chynllun gweithredu y gallai’r pwyllgor edrych arno.

 

Gofynnodd y Prif Weithredwr am eglurder ynghylch y berthynas rhwng y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a'r Pwyllgor hwn. Gofynnodd am i wybodaeth a data perthnasol gael eu bwydo'n ôl i'r pwyllgor hwn. Sicrhaodd y Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogi fod trefn lywodraethu lem o ran sut yr ydym yn ymdrin â rhianta corfforaethol er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy. Eglurodd fod y bwrdd yn cyfarfod yn fuan ar ôl y cyfarfod hwn heddiw, ac yna 4 wythnos cyn y cyfarfod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Gwasanaethau ar Ffiniau Gofal pdf eicon PDF 537 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p Cymorth i Deuluoedd adroddiad, oedd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i Bwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet am waith Gwasanaeth Ffiniau Gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd fod y Gwasanaeth Ffiniau Gofal yn dîm ymyrraeth ddwys, aml-asiantaeth sy’n cynnwys 24 o staff o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol gan gynnwys:

 

  • gweithwyr cymdeithasol;
  • nyrs iechyd meddwl;
  • ymwelydd iechyd;
  • gweithiwr camddefnyddio sylweddau arbenigol; a
  • gweithwyr cymorth i deuluoedd.

 

Rhoddodd wybodaeth bellach am y timau arbenigol o fewn y gwasanaeth Ffiniau Gofal oedd yn cynnwys Cysylltu Teuluoedd, Baban mewn Golwg, Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd, Ymateb Cyflym, Tîm Cymorth Tadau a thîm Rise. Roedd rhagor o wybodaeth yn adran 3 yr adroddiad.

 

Tynnodd Rheolwr y Gr?p Cymorth i Deuluoedd sylw at ganlyniadau cadarnhaol y gwasanaeth ar ffiniau gofal yn yr ystyr ei fod, dros y pum mlynedd ddiwethaf, wedi llwyddo i atal dros 92% o’r plant y maent yn eu cefnogi rhag mynd i mewn i’r system ofal yn gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ers mis Ebrill 2020, mae’r gwasanaethau ar ffiniau gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gydag adnoddau cymharol fychan, wedi cefnogi 827 o blant a’u teuluoedd, ac mae dros 94% wedi cael eu hatal rhag cael profiad o ofal (nid yw’r data hwn yn cynnwys data ar Rise). Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r ffigurau hyn fesul blwyddyn.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a holodd ynghylch gwasanaeth Rise, a oedd unrhyw adborth wedi cael ei ddarparu ar effaith y gwasanaeth hwn, er ei fod yn wasanaeth newydd. Eglurodd Rheolwr Tîm y Gwasanaethau Ffiniau Gofal nad oedd unrhyw adborth hyd yma gan y chwe theulu yr oeddent yn gweithio gyda hwy ar y pryd, ond bod yr adborth a gafwyd gan weithwyr proffesiynol wedi bod yn gadarnhaol a’i fod wedi ei gwneud yn bosibl i ofal gael ei ddarparu’n gyflymach nag y byddai heb y gwasanaeth.

 

Tynnodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sylw at bwysigrwydd yr asesiad o anghenion a sut mae hynny'n rhoi'r manylion y mae arnom fel awdurdod eu hangen er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol. Ychwanegodd fod y gofrestr amddiffyn plant ar ei huchaf erioed ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bod yr adolygiad o'u modelau gweithredu, oedd yn cynnwys gwasanaethau ar ffiniau gofal fel rhan o'r adolygiad hwnnw, yn ddarn pwysig o waith wrth symud ymlaen. Ychwanegodd hefyd y gellid defnyddio system WCCIS ymhellach i yrru perfformiad a bod hyn yn rhywbeth yr oedd angen edrych i mewn iddo hefyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y setliad ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn edrych yn heriol a bod hyn yn pwysleisio ymhellach bwysigrwydd sicrhau bod y gwasanaethau, yr oeddem yn eu darparu ac yn buddsoddi ynddynt, mor effeithiol ag y gallent fod. Gofynnodd am ragor o wybodaeth am yr adolygiad annibynnol a oedd yn cael ei gynnal a pha fanylion allai ddeillio o hynny gan ei bod yn bwysig deall yr heriau sy’n ein hwynebu a’r ffordd orau inni ymdrin â hwy.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim