Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Y Cabinet Dros Faterion Rhieni Corfforaethol - Dydd Iau, 4ydd Chwefror, 2021 14:00

Lleoliad: o bell trwy Timau Microsoft

Cyswllt: Democratic Services 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

220.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

221.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 87 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/11/20

Cofnodion:

CYTUNWYD:                        Derbyniwyd fod Cofnodion 26 Tachwedd 2021 yn gofnod cywir.

 

222.

Diweddariad Cynllun Gwella Cyfiawnder Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chefnogaeth Deuluol, er mwyn diweddaru’r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol yngly?n â’r cynnydd wrth weithredu’r cynllun gwella Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont a ddatblygwyd yn dilyn arolwg gan Arolygaeth Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Western Bay ym mis Rhagfyr 2018.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chefnogaeth Deuluol, fel cefndir, fod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont (Bridgend YJS) yn bartneriaeth amlasiantaethol statudol a chanddo gyfrifoldeb cyfreithiol i gydweithio er mwyn sicrhau gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol addas. Ariannwyd y gwasanaeth gan amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a phartneriaid statudol (h.y. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Prawf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg). 

 

Cafodd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Western Bay (WBYJEIS) ei arolygu’n llawn ar y cyd gan Arolygaeth Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) yn ystod mis Rhagfyr 2018, a chyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Mawrth 2019. Daeth yr arolwg i’r casgliad fod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Western Bay wedi derbyn graddfa derfynol o annigonol. Daeth Arolygaeth Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) i’r casgliad fod naw o’r deuddeg maes arolygu wedi eu graddio fel bod yn annigonol, bod un yn ddigonol, a bod un yn arbennig.

 

Argymhellodd Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chefnogaeth Deuluol, ar 19 Ebrill 2019, y dylai’r Cabinet gytuno i ddadgyfuno’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Western Bay (WBYJEIS) ac y dylai’r drefn newydd fod ar gyfer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont i eistedd o fewn portffolio un o’r rheolwyr gr?p presennol o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogaeth Deuluol.

 

Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn dal i gael ei fonitro gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB) ac yn cael ei sgriwtineiddio’n helaeth gan amrywiol ffynonellau yn cynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Serch hynny, yn sgil effaith COVID-19, nid yw’n hysbys ar hyn o bryd pryd fydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont yn cael ei arolygu o’r newydd.

 

Daeth y gwaith o ailstrwythuro Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont i ben ym mis 2019. Arweiniodd yr ailstrwythuro at y gwasanaeth yn dod yn rhan o hwb y Tîm Atal Amlasiantaeth Integredig Achosion Cymhleth (IMPACCT) gan weithio’n agos gyda’r timau gofal. Roedd y drefn newydd hon yn cynnig gwelliant o safbwynt cydweithio, rhannu sgiliau ac adnoddau gan leihau dyblygu gwaith i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Roedd yr ad-drefnu hefyd wedi arwain at greu swyddi ymarferwyr arweiniol, a oedd yn cynnig y gwasanaeth gyda’r cyfle i ddarparu arolygiaeth gadarn, sicrwydd ansawdd gwaith a rheolaeth llinell ar gyfer staff. Dyma feysydd a gafodd eu tanlinellu gan yr arolygiad fel bod yn achos pryder. Recriwtiwyd ar gyfer y swyddi ymarferwyr arweiniol yn ystod mis Hydref 2019, gyda’r ddau ymarferwr arweiniol yn dechrau yn eu swyddi ym mis Ionawr 2020.

 

Aeth ymlaen i egluro’r gwaith sicrhau Ansawdd a oedd wedi dechrau o fewn y gwasanaeth. Roedd yr adborth a gafwyd wedi tanlinellu fod gwelliant wedi digwydd a safbwynt ansawdd yr asesiadau. Serch  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 222.

223.

Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol (GAA) pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, er mwyn cyflwyno Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol (IRO) i Aelodau’r Pwyllgor, yn unol â Chanllaw Adolygu Annibynnol Swyddogion (Cymru) 2004, yn ogystal â Chynllun Gweithredu Gwasanaeth yr IRO.

 

Eglurodd ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i Awdurdodau Lleol benodi Swyddogion Adolygu Annibynnol gan Awdurdodau a bod eu prif swyddogaethau’n cael eu rheoli gan y ddeddfwriaeth a’r canllawiau canlynol: 

 

           Deddf Fabwysiadu a Phlant 2002;

           Canllawiau Swyddogion Adolygu Annibynnol (Cymru) 2004.

 

Eglurwyd fod gan wasanaeth y Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO) rôl awdurdodol wrth sicrhau ansawdd y cynllunio gofal a gyflawnir.

 

Roedd adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol (atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad) yn ymwneud â gwaith gwasanaeth yr IRO o fis Ebrill 2019 tan fis Mawrth 2020.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth perfformiad o safbwynt yr angen statudol i adolygu’r Plant sy’n Derbyn Gofal, yn cynnwys plant a chanddynt gynlluniau Mabwysiadu a Phobl Ifanc â Gofal Gadael Plant sy’n Derbyn Gofal/Cynlluniau Pathway (o dan 18) gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am blant â chanddynt gynllun amddiffyn plant ac adolygiadau o’r cynlluniau yma mewn Cynadleddau Achos Gofal Plant.

 

Manylodd yr adroddiad ymhellach ar wybodaeth yn ymwneud â gofynion rheolaethol yng nghyswllt dod i benderfyniad yn sgil anghydfod, baich achosion y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol, cyfranogiad ac ymgynghoriadau pobl ifanc yn eu Hadolygiadau, sialensiau a chyflawniad yn ystod y cyfnod adrodd a blaenoriaethau’r gwasanaeth ar gyfer 2019-20.  

 

Yn ogystal â’r canllawiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.1 o’r adroddiad, cyflwynwyd canllawiau ac arferion safonol pellach gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol ar ddechrau 2019. Roedd Swyddogion Adolygu Annibynnol wedi gweithio i wella’r system dracio a chynigiwyd arweiniad gan Swyddogion yn unol â’r Canllaw Safonau Ymarfer ac Arfer Dda, cadarnhaodd y Swyddog.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, fod y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol wedi cadeirio/adolygu 2,022 cyfarfod rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cafodd 1,506 o archwiliadau ansawdd eu cwblhau yng nghyswllt y cyfarfodydd yma hefyd.

 

Wrth ddod i gasgliad yngly?n â’r adroddiad, eglurodd fod y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol yn dal i weithio ar y cyd â’r timau diogelu i wella arferion yng nghyswllt cynadleddau diogelu plant gan fynd ymhellach i gynnwys asiantaethau megis y gwasanaethau Ymwelydd Iechyd, Nyrsys Ysgol a’r Gwasanaethau Bydwragedd. Y cam nesaf oedd gweithio at wella ansawdd adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal ar lefel amlasiantaethol.

 

Wrth gloi, pwysleisiodd fod angen sicrhau fod y gwasanaeth yn parhau i wella o hyd ac o’r herwydd, byddai’r Gwasanaeth Adolygu Annibynnol yn anelu at barhau i gael effaith gynyddol o safbwynt gwella ansawdd y plant a’r bobl ifanc hynny oedd wedi cael profiad o’r gwasanaeth gofal. Mae Cynllun Gweithredu’r Gwasanaeth Adolygu Annibynnol yn cyfeirio at y meysydd sydd angen sylw er mwyn eu gwella o fewn y gwasanaeth yn ystod y 12 mis nesaf, ac y byddai’r rhain yn cael eu hadolygu’n gyson er mwyn sicrhau fod y camau gweithredu a awgrymwyd yn cael eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 223.

224.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.