Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.
Cofnodion: Cynghorydd MC Voisey – P/19/366/RLX – Buddiant rhagfarnus oherwydd ei fod wedi ymgymryd â thrafodaethau gyda phreswylwyr a'r ymgeisydd cyn i'r cais ddod at sylw'r Pwyllgor. Siaradodd y Cynghorydd Voisey am 3 munud ynghylch y cais fel Aelod lleol, cyn gadael y cyfarfod tra bod y cais yn cael ei drafod.
Cynghorydd JP Blundell – P/18/1006/FUL – Buddiant personol oherwydd ei fod wedi cyfarfod â Phennaeth Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair er mwyn trafod y cais, er iddo gynghori'r Pwyllgor nad oedd wedi bwriadu gwneud hynny ymlaen llaw.
Cynghorydd RM Granville – P/19/380/FUL – Buddiant personol fel aelod o Gyngor Cymuned Corneli nad yw'n ymgymryd â materion cynllunio. |
|
Ymweliadau Safle I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 11/09/2019 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cytuno ar ddydd Mercher 11 Medi 2019 fel y dyddiad ar gyfer yr archwiliadau safle arfaethedig a drafodwyd yn y cyfarfod, neu a adnabuwyd cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd. |
|
I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/06/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Derbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygiadau â'r dyddiad 20 Mehefin 2019 fel cofnod gwir a manwl gywir. |
|
Siaradwyr Cyhoeddus I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).
Cofnodion: Rhif Cais. Cyfeiriad Siaradwyr
P/18/1006/FUL Hen Safle Cyng DBF White (Aelod Lleol) Ysgol Bryn Castell Jessica Hemming (Gwrthwynebydd) Heol Llangewydd Kate Harrison, (Persimmon Homes) Pen-y-bont ar Ogwr
P/19/380/FUL T?'r Ysgol Cllr JH Tildesley (Aelod Lleol) Teras yr Ysgol Gogledd Corneli Pen-y-bont ar Ogwr |
|
Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Derbyniodd y Cadeirydd Daflen Ddiwygio'r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau fel eitem frys, yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefnol y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i Adroddiad y Pwyllgor er mwyn cymryd i ystyriaeth sylwadau a diwygiadau hwyr y mae angen eu cynnwys. |
|
Canllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau PDF 81 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi'r crynodeb o Ganllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau a nodwyd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau. |
|
P/18/1006/FUL - Hen Ysgol safle Bryn Castell, Heol Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4JP PDF 2 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) Gan roi sylw i'r cais cynllunio uchod, ymrwymodd yr ymgeisydd i Gytundeb Adran 106 i:-
(i) Wneud cyfraniad ariannol o £1,414,644 yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol (SPG13): Tai Fforddiadwy er mwyn bodloni'r angen am dai fforddiadwy lleol i'r datblygiad.
(ii) Gwneud cyfraniad ariannol o £541, 111 yn unol â fformiwla Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) Cyfleusterau Addysgol er mwyn cynnig mwy o leoedd mewn ysgolion Uwchradd ac ôl-16 sy'n gwasanaethu'r datblygiad.
(iii) Darparu ardal hamdden awyr agored yn unol â Pholisi COM11 Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a chynnig swm gohiriedig ar gyfer gwaith cynnal a chadw'r ardal hamddenol awyr agored yn y dyfodol gyda threfniadau manwl ynghylch rheoli a chynnal a chadw yn y dyfodol i'w gytuno'n ysgrifenedig gan y Cyngor ond heb gynnwys defnydd swm adran 106 wedi ei ddiogelu o gam cyntaf y datblygiad tuag at waith cynnal a chadw'r ardal hamdden awyr agored.
(iv) Gwneud cyfraniad ariannol o £8,000 i ariannu Gorchymyn Traffig Ffyrdd i ddynodi safle'r datblygiad yn barth 20mph.
(2) Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn cael p?er dirprwyedig i gyhoeddi hysbysiad penderfyniad yn nodi caniatâd y cynnig hwn, unwaith bod yr ymgeisydd wedi ymrwymo i'r Cytundeb uchod, yn unol â'r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwn ac unrhyw Amodau pellach sydd wedi eu nodi isod:
Amod 40:
Er y cynlluniau sydd wedi eu cymeradwyo yma, ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd cyn i gynllun diwygiedig ar gyfer y cilfan tri char gyda llwybr gerdded yng ngogledd y ffordd fynediad newydd yn gwasanaethu Rhifau 32-38 Heol Llangewydd gael ei gyflwyno a'i gytuno’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y cynllun cymeradwy yn cael ei weithredu yn unol â'r manylion y cytunwyd arnynt fel rhan o gam cyntaf y datblygiad er mwyn creu mynediad newydd i'r safle. Bydd y llwybr gerdded yno'n barhaol er mwyn gwasanaethu Rhifau 32-38 Heol Llangewydd.
Rheswm: Er diogelwch cerddwyr a'r briffordd. Cynnig
Datblygiad preswyl o 127 anheddau a seilwaith cysylltiedig.
Noder:
Cytunodd y Pwyllgor, yn dilyn cryn drafodaeth, i ohirio’r cyfarfod am 15:22, fel bod cynrychiolydd yr ymgeisydd a oedd wedi mynychu'r cyfarfod ac wedi siarad fel siaradwr cyhoeddus ar ran Persimmon Homes, yn medru cysylltu â datblygwr y safle, er mwyn gwirio pwyntiau penodol a godwyd ynghylch y llwybr cerdded ar ffordd fynediad y safle. Ailddechreuodd y cyfarfod am 15:41.
.
Yn ogystal â'r newidiadau i Benawdau Telerau Cytundeb Cyfreithiol A106 ac ychwanegiad amod 40, cytunwyd y dylai amod 17 gynnwys y geiriau canlynol:
"... a bydd y cyfleusterau LAP a LEAP wedi eu rhoi ar waith cyn trosglwyddo’r 50fed annedd ar y safle." |
|
P/19/366/RLX - 11 Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3HN PDF 394 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Caniatáu'r cais cynllunio uchod, yn unol â'r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau.
Cynnig
Amrywio Amod 2 o P/18/839/RLX i newid amser cau o 23:00 i 23:30 ac amrywio sut mae Amod 4 wedi ei eirio. |
|
P/19/368/RLX - Hen Feddygfa Portway, 1 The Portway, Porthcawl PDF 582 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Caniatáu'r cais cynllunio uchod, yn unol â'r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau.
Cynnig
Amrywio Amod 4 o P/19/116/FUL i newid yr amser cau o 17:00 i: trefnydd angladdau a swyddfa tan 18:00 a siop pizza parod tan 23:30 o ddydd Sul i ddydd Iau ac 01:00 ar y penwythnos. |
|
P/19/380/FUL - Tŷ'r Ysgol, Teras yr Ysgol, Gogledd Corneli PDF 405 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gwrthod y cais cynllunio uchod, oherwydd y rhesymau sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau.
Cynnig
Wal ffin blaen newydd, 1m o uchder gyda phileri 1.35m o uchder a chanopi fynedfa i'r blaen sydd wedi ei chodi. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Rhif y Cod Testun yr Apêl:
C/19/3221289 (1855) Defnydd anawdurdodedig o wely a brecwast, Tree Tops, 18 The Woodlands, Bracla.
(1) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu'r Apêl uchod wedi rhoi cyfarwyddiadau i gywiro'r Hysbysiad Gorfodi, GWRTHOD apêl a chynnal yr Hysbysiad Gorfodi (Gweler Atodiad A i'r adroddiad)
Rhif y Cod Testun yr Apêl:
A/19/3225665 (1858) Amrywio Amod 2 o P/16/660/FUL i roi sgrin solet i’r codiad sy'n wynebu'r dwyrain yn unig, Bwthyn Whitehall, Pen-y-fai.
(2) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu'r Apêl uchod wedi rhoi cyfarwyddiadau i WRTHOD yr Apêl (Gweler Atodiad B i'r adroddiad).
Rhif y Cod Testun yr Apêl:
A/19/3225665 (1857) Rheoleiddio gorffeniadau allanol anheddau, The Haven, 21 Abergarw Meadow, Brynmenyn.
(3) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu'r Apêl uchod wedi rhoi cyfarwyddiadau i GANIATÁU'R Apêl yn amodol ar Amodau. (Gweler Atodiad C i'r adroddiad)
|
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, adroddiad, at ddibenion rhoi gwybod i'r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau am ganlyniadau'r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS) 2019 (wedi ei atodi yn Atodiad 1).
Eglurodd bod yr angen am werth 5 mlynedd o dir parod ar gyfer datblygu tai ym mhob Awdurdod Cynllunio Lleol ar draws Cymru yn ofyniad allweddol o bolisi cynllunio Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i'r system gynllunio, drwy'r broses Cynllun Datblygu Lleol, ddarparu'r tir sydd ei angen i alluogi adeiladu cartrefi newydd ac mae gofyn bod Awdurdodau Cynllunio Lleol yn sicrhau bod tir addas ar gael er mwyn darparu cyflenwad gwerth 5 mlynedd o dir ar gyfer tai.
Y JHLAS yw'r mecanwaith mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn ei ddefnyddio i ddangos bod ganddynt werth pum mlynedd o gyflenwad tir ar gyfer tai drwy ddarparu datganiad cytunedig o argaeledd tir ar gyfer tai wedi ei osod yn erbyn anghenion tai o Gynllun Datblygu Lleol mabwysiedig.
O ran y sefyllfa bresennol, cynghorodd y dylid nodi, fel ar 1 Ebrill 2018, nad oedd 18 o 25 Awdurdod Cynllunio Lleol Cymru yn medru dangos cyflenwad gwerth 5 mlynedd o dir ar gyfer tai. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y nifer o geisiadau cynllunio tybiannol ar gyfer tai.
O ran y broses Rheoli Datblygiad, mae paragraff 6.2 o ganllaw TAN 1 yn cynghori bydd ffigwr cyflenwad tir ar gyfer tai yn cael ei drin fel mater i'w ystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Pan fo astudiaeth yn dangos bod cyflenwad yn llai na 5 mlynedd, bydd yr angen i gynyddu cyflenwad yn derbyn cryn bwys wrth ddelio â cheisiadau cynllunio.
Fodd bynnag, ychwanegodd, ym mis Gorffennaf 2018, datgymhwysodd Llywodraeth Cymru baragraff 6.2 o Hysbysiad Cyngor Technegol 1, Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai (TAN 1), i ddileu'r cyfeiriad at atodi "cryn" bwysau i ddiffyg cyflenwad gwerth 5 mlynedd o dir ar gyfer tair fel mater i'w ystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer tai. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod y safleoedd mwyaf addas ar gyfer tai yn cael eu cyflwyno fel rhan o broses Cynllun Datblygu Lleol cyfundrefnol a thrylwyr.
Atodwyd JHLAS 2019 diweddaraf Pen-y-bont ar Ogwr i Atodiad 1 yr adroddiad. Wedi ei osod yn erbyn gofynion tai'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, mae'r Astudiaeth yn dangos bod gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gwerth 2.9 mlynedd o gyflenwad tir ar gyfer tai (sy'n ostyngiad i ofynion 5 mlynedd y TAN 1) gyda chyfanswm o 3033 uned ar gyfer y cyflenwad tir o fewn cyfnod 5 mlynedd yr astudiaeth.
Oherwydd mai 2 flynedd yn unig sydd yn weddill (hyd at 2021) o'r cyfnod Cynllun Datblygu Lleol, sy'n llai na chyfnod 5 mlynedd y JHLAS hyd at 2023, mae dull mathemategol a ragnodwyd gan TAN 1 wedi ei ddefnyddio i gyfrif cyfartaledd blynyddol y gofyniad fel rhan o gyfrifiad y cyflenwad tir dros 5 mlynedd.
Yn olaf, cyhoeddodd y byddai canlyniadau'r Astudiaeth hefyd yn cael eu cyhoeddi yn Adroddiad Monitro blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol, ynghyd â'r rhesymau pam ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 291. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Y dylid cofnodi'r adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn amlinellu pynciau newydd sy'n rhan o gofnod hyfforddi'r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau.
Awgrymwyd ymhellach bod pwnc yn cael ei ychwanegu at y Cofnod Hyfforddi, sef mater Tai Fforddiadwy.
PENDERFYNWYD: Cofnodwyd yr adroddiad, a chofnodwyd ymhellach mai'r Cynghorydd A Williams fydd Hyrwyddwr Aelod Pwyllgor ar gyfraniadau Addysg - drafft newydd SPG (Gweithdy), gyda'r Cynghorydd JC Spanswick yn ymgymryd â rôl debyg o ran yr Ardal Agored SPG (Gweithdy). |
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: None. |