Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: Time STC
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Dylaiaelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.
Cofnodion: Datganodd yr Aelodau/Swyddogion canlynol ddatganiadau o fuddiant yn yr eitemau a nodir:-
J Parsons – Eitem 9 ar yr agenda, buddiant personol, gan fod ei fam yng nghyfraith yn preswylio mewn Cartref Nyrsio a safai gerllaw safle’r cais cynllunio.
Y Cynghorydd M Kearn – Eitemau 10 ac 11 ar yr agenda, buddiannau personol, fel aelod o dudalen Facebook Ymddiriedolaeth Cynffig.
Y Cynghorydd J Pratt – Eitemau 10 ac 11 ar yr agenda, buddiant oedd yn rhagfarnu, fel aelod o Dîm Chwilio ac Achub Gwylwyr y Glannau. Gadawodd y Cynghorydd Pratt y cyfarfod tra roedd yr eitemau hyn yn cael eu hystyried.
Y Cynghorydd W Kendall – Eitem 9 ar yr agenda, buddiant oedd yn rhagfarnu, gan ei fod wedi cymryd rhan mewn cyfnewid gohebiaeth gydag un o’r partïon dan sylw yn y cais, dros nifer o fisoedd. Gadawodd y Cynghorydd Kendall y cyfarfod tra roedd yr eitem hon yn cael ei hystyried. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 193 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 06/10/2022 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion 25 Awst 2022 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Ymweliadau Safle I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 27/12/2022 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yng ngoleuni’r ffaith y cytunwyd yng nghyfarfod y Cyngor ddoe i symud dyddiad y Pwyllgor Rheoli Datblygu oedd wedi ei drefnu ar gyfer 29 Rhagfyr 2022 i 5 Ionawr 2023, cytunodd yr Aelodau i symud dyddiad unrhyw archwiliadau safle a gynigiwyd o 28 Rhagfyr 2022 i 4 Ionawr 2023 (bore) |
|
Siaradwyr Cyhoeddus I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).
Cofnodion: Nid oedd siaradwyr cyhoeddus wedi eu cofrestru yn bresennol i annerch ynghylch unrhyw geisiadau cynllunio yn y cyfarfod heddiw. |
|
Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y Cadeirydd yn derbyn Taflen Ddiwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys, yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefnau’r Cyngor, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, fel eu bod yn cymryd cyfrif o gyflwyniadau hwyr a diwygiadau y mae'n ofynnol eu cymryd i ystyriaeth. |
|
Canllawiau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu PDF 240 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi’r Crynodeb o Ganllawiau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel y manylwyd arno yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau. |
|
P/22/535/RLX - 39 Hunters Ridge, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 2LH PDF 917 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais uchod, yn ddarostyngedig i'r amodau sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau:
CYNNIG: Amrywiad i Amod 1 o P/21/44/FUL i adlewyrchu’r newidiadau presennol a’r addasiadau arfaethedig i’r estyniad un llawr; codi paneli ffens
Yn amodol ar gynnwys yr amod bellach ganlynol.
4. Rhaid i'r deunyddiau a ddefnyddir i gwblhau'r gwaith gyd-fynd â gweddill yr estyniad sydd wedi'i gwblhau i raddau helaeth ac, o fewn 2 fis i ddyddiad y cydsyniad hwn, rhaid gosod system slip o frics ar y rhannau o waith bloc agored i gyd-fynd â'r gwaith brics ar y waliau ar yr ochr.
Rheswm: Er mwyn sicrhau math boddhaol o ddatblygiad. |
|
P/20/995/FUL – Safle Fferm yr Ynys, Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3LG PDF 2 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) Bod yr ymgeisydd, o ystyried y cais uchod, yn ymrwymo i Gytundeb Adran 106:
(i) I gyfrannu cyfanswm o £25,266, wedi ei dalu ar ddechrau’r datblygiad, tuag at y canlynol:-
• Gwelliannau i’r arhosfan fysiau, gan gynnwys arwyddion arhosfan fysiau, marciau, ac uwchraddio to’r lloches fysiau - £6,600. • Gorchmynion traffig sy'n ofynnol mewn cysylltiad â'r groesfan i gerddwyr sydd ei hangen ar Heol Ewenni - £8,000. • Gwelliannau i'r system Gweithredu Cerbydau yn cael ei Hoptimeiddio drwy Ficrobrosesydd (MOVA) ar gylchfan Ewenni- £10,666.
(2) Rhoi pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau i gyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad yn rhoi caniatâd amodol mewn perthynas â'r cynnig hwn unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi ymrwymo i’r Cytundeb Adran 106 uchod, yn ddarostyngedig i'r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
CYNNIG: Canolfan denis dan do ac awyr agored, pwll nofio awyr agored, tirlunio, lle i barcio ceir, mynediad newydd a llwybr Teithio Llesol, maes parcio a rhan ar gyfer amwynderau newydd ar gyfer y cartref gofal cyfagos
Yn ddarostyngedig i newid dwy o'r Amodau yn yr adroddiad, fel a ganlyn:-
13. Er gwaethaf y cynlluniau a gyflwynwyd ni chaiff unrhyw ddatblygiad gychwyn hyd nes y bydd cynllun ar gyfer parcio beiciau am arhosiad hir a byr wedi cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gytuno yn ysgrifenedig. Rhaid i’r ddarpariaeth parcio beiciau fod yn weithredol cyn i'r datblygiad gael ei ddefnyddio'n fuddiol a'i gadw i ddibenion parcio beiciau am byth.
Rheswm: Er mwyn hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio i ac o'r safle.
24. Dim ond rhwng 08.00 a 22.00 o’r gloch y caiff Tenis Twrnamaint ei chwarae ar y cyrtiau allanol ar unrhyw ddiwrnod.
Rheswm: Amddiffyn cyfleusterau'r preswylwyr cyfagos. |
|
P/22/463/FUL – Gwarchodfa Natur Cynffig, Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 4PT PDF 1016 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cynnig uchod, yn ddarostyngedig i’r Amodau oedd wedi eu cynnwys yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau:-
CYNNIG: Gosod Peiriannau Ciosg Tocynnau X 3 a Chamerâu ANPR, gosod Cat 6 a Chebl i bob Ciosg/Camera maes parcio ac i’r dderbynfa. |
|
A/22/25/ADV - Gwarchodfa Natur Cynffig, Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 4PT PDF 557 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Caniatáu hysbyseb ar gyfer y cais uchod, yn ddarostyngedig i’r Amodau oedd wedi eu cynnwys yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau yn ychwanegol at yr amodau hysbysebu arferol:-
CYNNIG: Arwyddion parcio heb eu goleuo wedi eu gosod ar bolion |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) Nodi’r apeliadau a dderbyniwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor fel y’u dangoswyd yn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau
(2) Bod yr Arolygwr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apeliadau canlynol wedi rhoi cyfarwyddyd i’w gwrthod:- Rhif yr Apêl. - CAS-02086-N7G7S9 (1942) Testun yr Apêl – Estyniad Dau Lawr i ochr yr Annedd ac Estyniad Un Llawr i Gefn yr Annedd, 8 Heol y Priordy,Pen-y-bont ar Ogwr.
Rhif yr Apêl. - CAS-02006-Q7B8M6 (1953) Testun yr Apêl - Hysbysfwrdd annibynnol (48 Dalen) 6 metr x 3 metr ar Dir gyferbyn â 65 Stryd Bethania, (i'r de o Neuadd y Sgowtiaid), Maesteg.
Rhif yr Apêl. CAS-02071-B9C1R9 (1960) Testun yr Apêl - Cael Gwared ar y To Presennol; Cylchdroi Goleddf y To; Cynyddu Goleddf y To; Dau Ddormer Newydd gyda Tho ar Oleddf yn y tu blaen a Dormer gyda Tho Gwastad yn y Cefn, 15 Ffordd Ynys Môn, Porthcawl
(3) Bod yr Arolygwr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol wedi rhoi cyfarwyddyd i’w Chaniatáu ar yr Amodau:-
Rhif yr Apêl. CAS-01997-N2P6M0 (1955) Testun yr Apêl – Adeiladu Ystafell Gardd yn yr Ardd Gefn, 16 Shelley Drive Pen-y-bont ar Ogwr
(4) Bod yr Arolygwr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol wedi gwneud y penderfyniad canlynol:-
**Gwrthodwyd yr apêl i’r graddau y mae’n ymwneud â newid y dormer ar y tu blaen a darparu balconi.
**Caniatawyd yr apêl i’r graddau y mae’n ymwneud â chael gwared ar yr estyniad yn y cefn ac adeiladu estyniad un llawr yn y cefn gyda balconi
Rhif yr Apêl. CAS-02083-H6T1M9 (1963) Testun yr Apêl - Cael Gwared ar yr Estyniad yn y Cefn; Adeiladu Estyniad Un Llawr yn y Cefn gyda Balconi drosodd; Newid y Dormer yn y Tu Blaen a Darparu Balconi, 7 Heol Gordon, Porthcawl
(5) Gwrthodwyd yr apêl ganlynol am y rheswm oedd wedi ei gynnwys yn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau:-
Rhif yr Apêl. CAS-02190-V5X2C2 (1972) Testun yr Apêl – Adeiladu Estyniad ar Ben To yn 11 Rest Bay Close, Porthcawl
Sylwer: Ers i’r apêl hon gael ei chyflwyno, mae PEDW wedi cynghori:
Gan na dderbyniwyd yr apêl uchod o fewn 12 wythnos i ddyddiad y gwrthodiad, canfuwyd bod yr apêl yn annilys ac ni all PEDW gymryd unrhyw gamau pellach ar yr apêl |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio Strategol adroddiad, a’i bwrpas oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu am ganfyddiadau AMB 2022 (ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad) ac yn fwyaf nodedig, bod nifer y tai sy’n cael eu cyflenwi yn methu â chadw i fyny â nifer y tai y mae galw amdanynt a bod angen brys am ddyraniadau tai newydd y gellir eu cyflawni i leddfu’r pwysau cynyddol ar y cyflenwad tai.
Esboniodd fod gan y Cyngor, o dan Adran 61 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, rwymedigaeth statudol i adolygu'n barhaus yr holl faterion y disgwylir iddynt effeithio ar ddatblygiad ei ardal. At hynny, roedd adran 76 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gynhyrchu gwybodaeth am y materion hyn ar ffurf AMB, i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd ymhellach fod yn rhaid cyflwyno AMB 2022 i Lywodraeth Cymru cyn 31 Hydref 2022.
Prif nod yr AMB oedd asesu i ba raddau y mae Strategaeth a Pholisïau’r CDLl yn cael eu cyflawni. Felly, mae’r AMB yn cyflawni dwy brif swyddogaeth; yn gyntaf, ystyried a yw'r polisïau a nodwyd yn y broses fonitro yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus, ac yn ail, ystyried y Cynllun yn ei gyfanrwydd yn erbyn yr holl wybodaeth a gasglwyd, er mwyn penderfynu p’un ai adolygiad llwyr ynteu adolygiad rhannol o’r Cynllun sydd ei angen.
Aeth y swyddog cynllunio strategol ymlaen i ddweud, y bu llawer o newidiadau ers 2013 oedd wedi dylanwadu ar y gallu i weithredu'r CDLl yn llwyddiannus. Felly, roedd yr AMB wedi ystyried a oedd y strategaeth ddatblygu oedd yn sail i'r CDLl yn parhau i fod yn ddilys ac wedi asesu a oedd y Polisïau Strategol oedd wedi eu cynnwys ynddo yn effeithiol neu ddim o ran cyflawni'r Strategaeth Ddatblygu a chwrdd ag amcanion y cynllun.
Roedd canfyddiadau'r AMB hefyd yn cynnig cyfle pwysig i'r Cyngor asesu effeithiolrwydd y CDLl a fabwysiadwyd a phenderfynu a oedd angen ei adolygu ai peidio. Roedd Adroddiad Adolygu y CDLl a gyhoeddwyd o’r blaen (2018) eisoes wedi cydnabod yr angen brys i fynd i'r afael â'r diffyg yn y cyflenwad tir ar gyfer tai drwy nodi safleoedd tai ychwanegol.
Mae’r datblygiad a ddigwyddodd ers mabwysiadu’r CDLl presennol wedi denu buddsoddiad sylweddol i’r Fwrdeistref Sirol ac wedi sicrhau cartrefi a swyddi newydd ar gyfer cymunedau BCBC. Fodd bynnag, mae nifer o dargedau allweddol y polisi darparu tai heb gael eu cyrraedd, sy’n dangos nad yw'r polisïau hyn yn gweithredu yn ôl y bwriad. Po fwyaf y bydd y sefyllfa hon yn parhau heb gael ei datrys, y mwyaf fydd yr angen i gynnwys darparu tai ychwanegol yn y CDLl newydd neu wynebu’r perygl o ddatblygiad ad hoc a ‘chynllunio drwy apêl’.
Roedd hyn yn cadarnhau ymhellach yr angen i adolygu’r cynllun, gan na wnaiff y galw blynyddol am dai ddisgwyl nes bydd y tai a gyflawnir yn dal i fyny.
Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio Strategol fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn parhau i symud y CDLl Newydd yn ei flaen i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 61. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau oedd yn amlinellu’r sesiynau hyfforddi oedd i ddod ar bynciau Cynllunio a Datblygu allweddol. |
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |