Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.
Cofnodion: Cynghorydd CA Webster Eitem 13 ar yr Agenda - Apeliadau - P/19/226/FUL - Cadw ffens o flaen annedd 81 Stryd y Parc - Buddiant rhagfarnus gan y bu’n sgwrsio gyda’r preswylydd am yr achos. Gadawodd y Cynghorydd Webster y cyfarfod yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon.
Cynghorydd KJ Watts - Eitem 8 ar yr Agenda - P19/391/FUL - Buddiant rhagfarnus, gan ei fod yn adnabod y gwrthwynebwyr, un ohonyn nhw’n gyflogai i’r Cyngor (Swyddog Priffyrdd). Gadawodd y Cynghorydd Watts y cyfarfod yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon.
Cynghorydd NA Burnett - Eitem 10 ar yr Agenda P/18/945/FUL - Buddiant rhagfarnus gan ei bod wedi derbyn cefnogaeth wleidyddol gan Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Hafod. Gadawodd y Cynghorydd Burnett y cyfarfod yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon.
Mr L Tuck, Swyddog Rheoli Datblygu Trafnidiaeth Eitem 8 ar yr Agenda P/19/391/FUL - Buddiant rhagfarnus gan ei fod yntau a’i wraig wedi gwrthwynebu’r cais. Gadawodd Mr Tuck y cyfarfod yn ystod trafodaethau ar yr eitem hon. |
|
Ymweliadau â Safleoedd I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 04/12/2019 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodwyd gan y Gadair bod dydd Mercher, 23 Hydref 2019 wedi’i gadarnhau fel y dyddiad ar gyfer ymweliadau arfaethedig â safleoedd a drafodir yn ystod y cyfarfod, neu a nodir cyn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 73 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 01/08/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 1 Awst 2019, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar y newidiadau canlynol:
(1) Bod y Cynghorydd JC Spanswick yn cael ei ychwanegu at restr yr aelodau a oedd yn bresennol: (2) Bod y canlynol yn cael ei ychwanegu at gais P/18/1006/FUL yng Nghofnod rhif 287 gyda’r frawddeg o dan Amod 40 i ddarllen:
Er gwaethaf y cynlluniau fel y'u cymeradwywyd drwy hyn, ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd nes bod cynllun diwygiedig ar gyfer y gilfan tri bae drwy ymgorffori ardal droedffordd i'r gogledd o'r ffordd fynediad newydd sy'n gwasanaethu Rhifau 32-38 Ffordd Llangewydd wedi ei gyflwyno a'i gytuno'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y cynllun cymeradwy yn cael ei gynnal yn unol â'r manylion y cytunwyd arnynt fel rhan o gam cyntaf y datblygiad i ddarparu'r mynediad newydd i'r safle. Rhaid cadw'r llwybr troed am byth i wasanaethu Rhifau 32-38 Ffordd Llangewydd.
Rheswm: Er mwyn diogelwch y briffordd a cherddwyr.
Yn ychwanegol, fe ddylai’r paragraff o dan “Nodyn:” ar dudalen 5 ddarllen fel a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor, yn dilyn peth dadl sylweddol, i atal y
cyfarfod am 15:22, fel y gallai cynrychiolydd yr ymgeisydd a
fynychodd y cyfarfod (ac a anerchodd y cyfarfod fel siaradwr
cyhoeddus), gysylltu â datblygwr y safle, er mwyn egluro rhai
pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau ynghylch y droedffordd sydd wedi'i
lleoli ar ffordd fynediad y safle. Ailymgynnull y cyfarfod am 15:41
a chytunwyd i ychwanegu amod (40) at yr argymhelliad.
Bydd hefyd angen cynnwys y newidiadau i’r S106 sef Cytundeb Cyfreithiol Penawdau’r Telerau yn ogystal ag ychwanegu Amod 40. Fe gytunwyd hefyd bod angen i amod 17 gynnwys y geiriad canlynol:
“… A bydd y cyfleusterau LAP a'r LEAP ar waith cyn trosglwyddo'r 50fed annedd ar y safle hwn.” |
|
Siaradwyr Cyhoeddus I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).
Cofnodion: Doedd dim siaradwyr cyhoeddus. |
|
Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Derbyniodd y Cadeirydd Taflen Ddiwygio’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor, i alluogi’r Pwyllgor i ystyried yr addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, er mwyn gallu ystyried cynrychioliadau ac adolygiadau hwyr sydd angen eu cynnwys. |
|
Canllawiau Pwyllgor Rheoli Datblygu PDF 81 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod crynodeb Canllawiau Pwyllgor Rheoli Datblygu fel y manylir yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau yn cael ei nodi. |
|
P/19/391/FUL - 3 Nottage Mead, Porthcawl PDF 1023 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y cais canlynol yn cael ei wrthod am y rhesymau a nodir yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau:
Cynnig
Ailfodelu’r annedd i gynnwys codi’r uchder, estyniad yn y cefn a’r ochr |
|
P/19/212/OUT - R/O 143-148 Cwrt Coed Parc, Maesteg PDF 702 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y cais canlynol yn cael ei ganiatáu yn unol â’r amodau a gynhwysir yn adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau:
Cynnig
Cais amlinellol i godi annedd deulawr gyda garej |
|
P/18/945/FUL – Tir i’r de o Wyndham Close, Ystad Diwydiannol Brackla, Pen-y-bont ar Ogwr PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y cais canlynol yn cael ei wrthod am y rhesymau a nodir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau:
Cynnig
Codi 42 annedd preswyl fforddiadwy, gyda pharcio i geir ar y safle, trefniadau mynediad a’r gwaith sy’n gysylltiedig â hynny. |
|
P/19/416/FUL - 5 Mallard Way, Porthcawl PDF 1 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y cais canlynol yn cael ei ganiatáu yn unol â’r amodau a gynhwysir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau:
Cynnig
Dymchwel y t? presennol ac adeiladu t? deulawr a hanner gyda 6 ystafell wely. |
|
P/19/140/FUL – Pencadlys Heddlu De Cymru, Heol y Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr PDF 2 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD: (1) Bod y cais yn cael ei gyfeirio at y Cyngor fel cynnig sy’n mynd yn groes i’r Cynllun Datblygu oherwydd nad ydy’r Pwyllgor Rheoli Datblygu yn teimlo ei fod mewn sefyllfa i wrthod gan fod y datblygiad yn ffurfio rhan o strategaeth rhesymoli Heddlu De Cymru i fuddsoddi ar safle eu Pencadlys a fydd yn caniatáu rhyddhau eu tir yn Waterton Cross yn gynnar fel rhan o ardal twf ehangach Adfywio Strategol Pen-y-bont ar Ogwr;
(2) Bod yr un a wnaeth gais yn cydsynio i Gytundeb Adran 106 i ddarparu cyfraniad ariannol yn y swm o £9,500 i ariannu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, marciau ffordd ac arwyddion yng nghyffiniau’r safle er mwyn cadw llif rhydd y traffig ar y strydoedd a’r cyffyrdd cyfagos; a
(1) Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau yn derbyn pwerau dirprwyedig i gyhoeddi hysbysiad penderfynu yn rhoi caniatâd mewn perthynas â’r cynnig hwn, unwaith y bydd yr argymhelliad wedi’i gadarnhau gan y Cyngor a bod yr un wnaeth y cais wedi cydsynio â’r Cytundeb Adran 106 a grybwyllwyd eisoes, yn unol â’r amodau yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Cymunedau.
Cynnig
Datblygu Canolfan Ddysgu ar gyfer yr Heddlu, campfa, paratoi’r safle, mynediad, maes parcio a gwaith cysylltiol.
Yn unol ag Amod 1 yn yr argymhelliad bydd angen cynnwys dyluniad rhif XXX ar gyfer yr hyn sy’n cael ei gynnig ar gyfer y llawr gwaelod:
Cynllun y Llawr Gwaelod (PLC) – Drwg, Rhif LDS-PDA-V1-00-DR-A-05-1003 – P02 – derbyniwyd 6 Mawrth 2019 |
|
Cofnodion: Fe wnaeth Rheolwr Gr?p Datblygu adrodd yn ol ar yr Apeliadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd ers y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD: (1) Bod yr Apeliadau canlynol, a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf, yn cael eu nodi:-
Rhif Cod Testun yr Apêl
D/19/3233411 (1866) Cadw’r ffens o flaen annedd rhif 81 Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr
D/19/3233932 (1867) Estyniad ochr ar y llawr cyntaf (gwag islaw ar gyfer parcio); newid y to i dalcen y t? ac ymestyn y dormer yng nghefn 42 Parcau Avenue, Pen-y-bont ar Ogwr
(2) Bod yr Apeliadau a benderfynwyd ers y cyfarfod Pwyllgor diwethaf yn cael eu nodi:-
Rhif Cod Testun yr Apêl
A/19/3225311 (1856) Gosod uned breswyl pren eco sy'n symudol: Blackbridge Arabian Stud, Tyla Gwyn, Pont-y-rhyl
Heb ei ddechrau Ffens heb ei hawdurdodi: 81 Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr
C/19/3226631 (1861) Eiddo mewn cyflwr gwael: 6 Warwick Crescent, Porthcawl
A/19/3226420 (1859) Heb gydymffurfio â’r canlynol a gymeradwywyd: P/16/222/RES, P/17/34/DOC a P/17/1086/FUL 22: Abergarw Meadows (Plot 11), Brynmenyn
C/19/3226431 (1860) Materion a gedwir yn ôl ar gyfer P/14/742/OUT i gadw’r annedd fel yr adeiladwyd gyda phwll nofio a phaneli gwydr uwchlaw waliau ffiniol 22 Abergarw Meadows (Plot 11), Brynmenyn |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd Rheolwr Gr?p Datblygu ar ddiweddariad ar baratoadau seiliedig ar dystiolaeth Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd bod y cynllun datblygu wrth wraidd y system gynllunio gyda gofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. Hysbysodd y Pwyllgor bod y Cynlluniau’n gosod gweledigaeth a fframwaith ar gyfer datblygiad pellach yr ardal, gan fynd i’r afael ag anghenion a chyfleoedd mewn perthynas â thai, yr economi, cyfleusterau a seilwaith cymunedol yn ogystal â sail i gadw a gwella’r amgylchedd naturiol a hanesyddol, lliniaru ac addasu i newid hinsawdd, a llwyddo i lunio lleoedd wedi’u cynllunio’n dda. Roedd hi’n hanfodol bod cynlluniau mewn lle ac wedi’u diweddaru a bod sylfaen Cynllun Datblygu Lleol wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn, sy’n golygu casglu corff sylweddol o dystiolaeth sy’n berthnasol ac yn canolbwyntio ar y prif faterion mae’r cynllun yn ceisio’u hateb.
Adroddodd bod nifer o ddogfennau technegol wedi’u paratoi sy’n cefnogi hyn oll er mwyn nodi’r prif faterion a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor Bwrdeistref ac yn hysbysu paratoadau’r Cynllun Datblygu Lleol Amgen. Rhestrir y dogfennau a seiliwyd ar dystiolaeth a’r papurau cefndir yn yr adroddiad, ynghyd â’u rôl a’u pwrpas. Nododd nad rhestr ddiffiniol oedd hon ac y bydd angen diweddaru gofynion sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn codi wrth i’r cynllun gael ei ddiwygio.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y dogfennau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’r papurau cefndir amgaeedig fel atodiadau 1 i 30. |
|
Asesiad y Farchnad Dai Leol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr 2019/2020 PDF 2 MB Cofnodion: Adroddodd Rheolwr Gr?p Datblygu ar bwrpas, statws a chasgliadau Asesiad y Farchnad Dai Leol (AFDL) a ddiweddarodd yr AFDL ddiwethaf a gynhaliwyd yn 2012.
Nododd bod gofyniad ar Awdurdodau Lleol i ystyried anghenion tai eu hardaloedd lleol o dan Adran 8, Deddf Tai 1985. Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol Cymru fformiwleiddio AFDL, sy’n adolygu anghenion tai trwy adolygiad cyfannol o’r holl farchnad dai. Pwysleisiwyd pwysigrwydd AFDL yn Adolygiad Annibynnol Cyflenwad Tai Fforddiadwy 2019 a nododd bod “sail polisi tai da a phenderfyniadau ynghylch cyflenwad tai fforddiadwy’n deillio o’r data gorau posib ar yr angen a’r galw am dai”.
Adroddodd bod AFDL wedi’i adnewyddu a’i gwblhau yn 2019 yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny’n bodloni rhwymedigaethau statudol y Cyngor. Hysbysodd y Pwyllgor bod AFDL yn nodi wyth Ardal Marchnad Dai gyffredinol ledled y Cyngor Bwrdeisdref, yn seiliedig ar ddaearyddiaeth weithredol, ystyried y sffêr adleoli posib, cost tai (i fesur y ‘natur drosglwyddadwy’ oddi mewn i’r farchnad) a dylanwad prif gysylltiadau trafnidiaeth (i ystyried patrymau cymudo). Yr ardaloedd ydy:
Fe ddywedodd, er bod lefel yr angen am dai yn ymddangos fel petai wedi ‘lleihau’ yn ddramatig rhwng yr Asesiadau Marchnadoedd Tai Lleol (AFDL) a bod hyn yn adlewyrchiad o nifer sylweddol o ffactorau rhyngberthynol, yn hytrach na graddfa fwy syml sy’n dangos yr anghenion tai. Amlinellodd y goblygiadau i’r LDP Amgen, sef bod yn rhaid i unrhyw gynlluniau datblygu gynnwys targed trwy’r awdurdod o dai fforddiadwy (a fynegir fel nifer y cartrefi) a ddylai fod yn seiliedig ar yr AFDL a chymryd i ystyriaeth pa mor ymarferol a phosib yw’r dewisiadau. Hysbysodd y Pwyllgor bod yr AFDL diweddaraf, yn gyffredinol, yn darparu sail resymegol adfywiol a chadarn i gyfeirio’r LDP Amgen a’i bolisïau rhyngberthynol ynghyd â phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Asesiad Marchnadoedd Tai Lleol. |
|
Cofnodion: Adroddodd Rheolwr Gr?p Datblygu ar ddiweddariad cofnod hyfforddiant.
PENDERFYNWYD: Bod adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i’w nodi. |
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |