Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Datblygiad a Rheoli - Dydd Iau, 27ain Mai, 2021 14:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

479.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

Cofnodion:

Dim.

480.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 63 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/04/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, dyddiedig 15 Ebrill 2021, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

481.

Siaradwyr cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

Cofnodion:

Nid oedd dim siaradwyr cyhoeddus.

482.

Tudalen diwygiadau pdf eicon PDF 9 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Bod y Cadeirydd yn derbyn Tudalen Diwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys, yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefnau'r Cyngor, er mwyn i’r Pwyllgor allu ystyried addasiadau angenrheidiol i Adroddiad y Pwyllgor, er mwyn cymryd i ystyriaeth rai sylwadau ac adolygiadau hwyr yr oedd angen eu trafod.

483.

Arweiniad y Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Nodi’r crynodeb o Arweiniad y Pwyllgor Rheoli Datblygu fel y’i cyflwynwyd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau.

484.

P/21/101/FUL - Uned 2 Garth Drive, Ystad Ddiwydiannol Bracla, CF31 2AQ pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:               Caniatáu’r cais uchod, gyda’r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

 

CYNNIG:

 

Trawsffurfio gofod swyddfa, nad oedd yn cael ei ddefnyddio, yn salon trin gwallt

 

485.

P/20/373/FUL - The Range, Uned 6/7 Parc Brenhinol Llundain, Waterton, CF31 3YN pdf eicon PDF 226 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:             Caniatáu’r cais uchod, gyda’r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.

 

CYNNIG:

 

Gosod dau gynhwysydd storio dur 2.4m x 6.1m i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r Range.

 

486.

P/21/150/FUL - Clwb Cymdeithasol Pencoed Cyf., 37 Heol yr Hendre , Pencoed, CF35 6TB pdf eicon PDF 425 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:              Caniatáu’r cais uchod, gyda’r Amodau sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.

 

CYNNIG:

 

Codi pabell fawr o flaen y clwb - bydd hon yng ngardd 1 Woodland Avenue, sydd yn eiddo i’r clwb.

 

487.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    (1)   Nodi’r Apeliadau a dderbyniwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor fel y’u disgrifiwyd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau.

 

                                    (2)   Bod yr Arolygwr, a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol, wedi rhoi cyfarwyddyd bod i’r apêl gael ei chaniatáu yn ddarostyngedig i amodau:-

 

Rhif Cod.                            Cynnig

 

A/20/3264867 (1907)         Cadw’r Caban Pren Dros Dro ar dir Cwmdu Lodge, Maesteg

 

                                   (3)    Bod yr Arolygwr, a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol, wedi rhoi cyfarwyddyd bod i’r apêl gael ei chaniatáu a bod y Rhybudd Gorfodi i gael ei ddileu:-

 

A/20/3264867 (1908)         Caban Pren heb ganiatâd ar dir gerllaw Glofa Sant Ioan, Maesteg

 

                               (4)   Bod yr Arolygwr, a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol, wedi rhoi cyfarwyddyd bod i’r apêl gael ei chaniatáu yn ddarostyngedig i amodau:

 

A/21/3266841 (1910)           Dileu Amodau 1 a 3 o P/20/299/Ful:

10 Woodside Avenue, Litchard

 

                                    (5)   Bod yr Arolygwr, a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl ganlynol, wedi rhoi cyfarwyddyd bod iddi gael ei gwrthod:-

 

A/21/3267243 (1911)          Adeiladu Un Annedd: 

Tir y tu ôl i 30/32 Y Stryd Fawr, Cwm Ogwr 

 

488.

Replacement Local Development Plan Deposit Plan Public Consultation Document pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

489.

Cynnig bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru. pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiad, a phwrpas hwn oedd gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor Rheoli Datblygu i’r cynnig bod y Cyngor yn llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru.  

 

Cadarnhaodd fod creu lleoedd yn broses ragweithiol a chydweithredol o greu a rheoli lleoedd, oedd hefyd yn cefnogi polisïau cynllunio da ac effeithiol. Er y gellir ystyried mai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yw’r prif gynigydd, mae agenda creu lleoedd yn mynd y tu hwnt i Gynllunio a swyddogaethau cysylltiedig y Cyngor ac mae iddo gysylltiadau trawsddisgyblaethol â llawer o feysydd gwasanaeth llywodraeth leol a’i phartneriaid cysylltiedig, er mwyn cyfrannu at greu lleoedd a’u rheoli’n effeithiol. Gwelir creu lleoedd fel proses allweddol i gyflawni dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a blaenoriaethau/strategaethau corfforaethol allweddol, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol a gobeithion Pen-y-bont ar Ogwr o leihau carbon erbyn 2030. Ymhellach, mae ei ofynion amlddisgyblaethol yn cyd-fynd yn dda â’r dull un Cyngor o gyflawni ei swyddogaethau.

 

Ychwanegodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu y bydd y Cyngor, wrth lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru, yn dangos ei ymrwymiad i egwyddorion creu lleoedd a datblygu a gwella ei leoedd.

 

Datblygwyd Siarter Creu Lleoedd Cymru, a lansiwyd ym mis Medi 2020, gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Mae hon yn cynnwys rhanddeiliaid sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o ddiddordebau a sefydliadau sy’n gweithio o fewn yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Bwriadwyd y Siarter i adlewyrchu ymrwymiad torfol ac unigol y sefydliadau hyn i gefnogi datblygu lleoedd o ansawdd da ar draws Cymru er budd cymunedau.

 

Roedd cydrannau’r Siarter wedi eu crynhoi yn yr adroddiad, a fersiwn lawn ynghlwm wrtho yn Atodiad A.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod llofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru yn cytuno i hybu’r egwyddorion wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a rhai presennol, fel y manylwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

Byddai hyn yn gofyn am ymrwymiad i’r egwyddorion a ddangoswyd mewn rhestr bwledi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad, fyddai’n torri ar draws amrediad eang o adrannau a swyddogaethau’r Cyngor, y mae ganddynt i gyd eu rhan i’w chwarae mewn sicrhau bod datblygiad newydd a’r seilwaith cysylltiedig yn unol ag amcanion creu lleoedd.

 

Byddai llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru hefyd o gymorth i ddylunio datblygiadau ac egwyddorion statudol, nodau ac amcanion Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor. Câi Canllawiau Cynllunio Atodol hefyd eu cyflwyno o ganlyniad i ymrwymo i’r Siarter, ychwanegodd.

 

Teimlai Aelod y dylid cael, yn ogystal â hyrwyddwyr oedd yn Swyddogion, yn cefnogi Siarter Creu Lleoedd Cymru, Hyrwyddwr o blith yr Aelodau hefyd, Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Cynllunio o bosibl.

 

PENDERFYNWYD:                 (1)  Bod yr aelodau yn cymeradwyo bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno i lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru.

 

    (2)  Bod Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yn dilyn yr uchod drwy’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol a hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet a’r Cyngor i ymrwymo i’r Siarter.     

490.

Cofnod Hyfforddiant pdf eicon PDF 6 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiad, yn cynnwys eitemau oedd yn cynnwys y Rhaglen Hyfforddi ar gyfer yr Aelodau yn y dyfodol agos.

 

PENDERFYNWYD:                      Nodi’r adroddiad

491.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.