Agenda, decisions and minutes

Pwyllgor Datblygiad a Rheoli - Dydd Iau, 4ydd Mai, 2023 10:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

98.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylaiaelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J Pratt fuddiant personol yn eitem 8 ar yr Agenda, gan ei fod yn byw’n agos at y datblygiad oedd yn destun y cais cynllunio ac ef yw’r aelod dros y Ward.

 

Datganodd y Cynghorydd R Williams fuddiant sy’n rhagfarnu yn eitem 10 ar yr Agenda, gan fod ganddo gysylltiad hir dros flynyddoedd lawer â'r ysgol sy'n destun y cais, yn rhinwedd ei rôl fel llywodraethwr ysgol.

99.

Ymweliadau Safle

I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 14/06/23 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:              Bod dyddiad unrhyw ymweliadau safle, y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor neu a nodwyd cyn y cyfarfod nesaf gan y Cadeirydd, yn cael ei drefnu ar gyfer 14 Mehefin 2023.

100.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 193 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 23/03/23

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:             Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 23 Mawrth 2023 fel cofnod gwir a chywir.

101.

Siaradwyr o’r Cyhoedd

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw siaradwyr o’r cyhoedd wedi’u rhestru i siarad yn y cyfarfod heddiw.

102.

Taflen Ddiwygio pdf eicon PDF 14 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:              Derbyniwyd y Daflen Ddiwygio gan y Cadeirydd fel eitem frys dan Ran 4, paragraff 4 o Reolau Gweithdrefnau’r Cyngor.

103.

Canllawiau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:              Nodwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn amlinellu Canllawiau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

104.

P/22/588/RLX - Ysgol St. Johns, Heol y Capel, Drenewydd, Porthcawl, CF36 5SJ - Amrywio amod 1 o P/21/211/RLX – gwaredu coeden/cynlluniau cadw coed a chynllun tirlunio pdf eicon PDF 267 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:    Caniatáu’r cais uchod, yn amodol ar yr amodau a gynhwysir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn ogystal â’r canlynol:-

 

Bod amod 12 ar yr adroddiad yn cael ei ddiwygio drwy newid tair blynedd yn y frawddeg gyntaf i bum mlynedd. Bydd yr amod yn darllen fel a ganlyn:

 

12. Os, o fewn cyfnod o bum mlynedd o ddyddiad plannu unrhyw goeden, bod y goeden honno neu unrhyw goeden a blannwyd yn ei lle, yn cael ei thynnu, ei diwreiddio neu ei dinistrio, neu'n marw, neu ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, yn cael ei difrodi'n ddifrifol neu'n ddiffygiol, bydd coeden arall o'r un rhywogaeth a maint ag a blannwyd yn wreiddiol yn cael ei phlannu yn yr un lle, oni bai bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn rhoi ei ganiatâd ysgrifenedig i unrhyw amrywiad.

 

Rheswm: I gynnal a gwella golwg yr ardal er budd amwynder gweledol, a hyrwyddo cadwraeth natur.

 

Dylid hefyd ail-eirio amod 30 yr adroddiad fel a ganlyn:

 

30. Caiff y datblygiad ei weithredu yn unol â’r Cynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu – Diwygiad A a Chynllun Rheoli Traffig TMP/001 Diwygiad A a gyflwynwyd ar 16 Mehefin 2021 ac y cytunwyd arno gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar 21 Mehefin 2021. Ar ôl hynny, bydd y gwaith adeiladu’n cael ei wneud yn unol â’r Cynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu – Diwygiad A a Chynllun Rheoli Traffig TMP/001 Diwygiad A drwy gydol y cyfnod adeiladu.

 

Rheswm: Er budd diogelwch ar y priffyrdd a cherddwyr.

 

Bydd geiriad Amod 1 hefyd yn cael ei addasu i gyfeirio at y Cynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu cywir. Dylid cyfnewid y Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu a’r Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu diwygiedig a gyflwynwyd ar 16 Mehefin 2021 am y Cynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu – Diwygiad A a’r Cynllun Rheoli Traffig TMP/001 Diwygiad A a gyflwynwyd ar 16 Mehefin 2021.

105.

P/14/838/FUL - Tir i’r dwyrain o Gwmfelin ac i’r de o Deras Graig/Teras Ebenezer, Melin Ifan Ddu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8RS - Codi 28 annedd breswyl fforddiadwy, maes parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig pdf eicon PDF 440 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:         Gohirio’r cais uchod, er mwyn gallu ymgynghori â chymydog allweddol a’i wahodd i roi sylwadau ar y cynlluniau diweddaraf ar y cais.

106.

P/22/731/BCB - Ysgol Gynradd Pencoed, Heol Penprysg, Pencoed, CF35 6RH - Llifoleuadau ar gyfer ardal gemau aml-ddefnydd arfaethedig pdf eicon PDF 263 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:          At ddibenion Rheoliad 3 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 1992, bod y Cyngor yn cyflawni’r datblygiad uchod yn amodol ar yr amodau a gynhwysir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.

 

Nodyn: Awgrymodd Aelod y dylid gosod amserydd ar y system oleuo i sicrhau eu bod yn cael eu diffodd ar yr amseroedd y cytunwyd arnynt ac er mwyn osgoi torri’r amodau.  Mae’r swyddog achos wedi adolygu’r cais a bydd switsh amser a allwedd ddiffodd yn rhan o’r system.

107.

Apeliadau pdf eicon PDF 5 MB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

(1) Nodi’r apeliadau a dderbyniwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor fel y dangosir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.

 

(2) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl a ganlyn, wedi cyfarwyddo y dylid gwrthod yr Apêl:-

 

Rhif yr Apêl – A/20/3254083 (1896)

 

Testun yr Apêl – Dwy Garafán Sipsiwn Breswyl Sefydlog, Dwy Ystafell Ddydd/Aml-Bwrpas, Dwy Garafán Deithiol, Mynediad Gwell, Llwybr Mewnol a Maes Parcio, Ffensio, Cadw’r Ardal Gadarn a Gosod Tanc Septig: Tir i’r Dwyrain o Gapel Soar, Heol Wern Tarw, Rhiwceiliog, Pencoed.

 

(3) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl a ganlyn, wedi cyfarwyddo y dylid caniatáu’r Apêl ac y dylid amrywio’r Hysbysiad Gorfodi:

 

Rhif yr Apêl - C/21/3269231 (1951)

 

Testun yr Apêl - Dwy Garafán Sipsiwn Breswyl Sefydlog, Dwy Ystafell Ddydd/Aml-Bwrpas, Dwy Garafán Deithiol, Mynediad Gwell, Llwybr Mewnol a Maes Parcio, Ffensio, Cadw’r Ardal Gadarn a Gosod Tanc Septig: Tir gyferbyn â Chapel Soar, Heol y Capel (C021), Rhiwceiliog, Pencoed.

 

(4) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr Apêl a ganlyn, wedi cyfarwyddo y dylid caniatáu’r Apêl yn amodol ar Amodau:

 

Rhif yr Apêl - A/20/3265375 (1909)

 

Testun yr Apêl - Creu Un Llain i Deulu Sipsiwn sy’n cynnwys Dwy Garafán Sipsiwn Breswyl Sefydlog, Dwy Ystafell Ddydd/Aml-Bwrpas, Dwy Garafán Deithiol, Mynediad Gwell, Cadw’r Ardal Gadarn a Gosod Cyfleuster Trin Carthffosiaeth:

Tir yn Rhif 2 Gypsy Lane Stables, Heol Wern Tarw, Rhiwceiliog, Pencoed.

 

(5) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr Apêl a ganlyn wedi cyfarwyddo y dylid caniatáu’r Apêl fel bod yr amser i gydymffurfio yn cael ei amrywio ond bod yr Hysbysiad Gorfodi yn cael ei gadarnhau ym mhob agwedd arall:

 

Rhif yr Apêl - C/21/3269224 (1950)

 

Testun yr Apêl - Creu Un Llain i Deulu Sipsiwn sy’n cynnwys Dwy Garafán Sipsiwn Breswyl Sefydlog, Dwy Ystafell Ddydd/Aml-Bwrpas, Dwy Garafán Deithiol, Mynediad Gwell, Cadw’r Ardal Gadarn a Gosod Cyfleuster Trin Carthffosiaeth:

Tir yn Rhif 2 Gypsy Lane Stables, Heol Wern Tarw, Rhiwceiliog, Pencoed.

 

(6) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr Apêl a ganlyn, wedi cyfarwyddo y dylid caniatáu’r Apêl yn amodol ar Amodau:

 

Rhif yr Apêl – CAS-02029-Z348M4

 

Testun yr Apêl - Adeiladu Bwyty a Chyfleuster Casglu o’ch Car Dosbarth A3 (Burger King) ynghyd â Theras Allanol Cysylltiedig dan Gysgod, Storfa Sbwriel y tu ôl i Sgrin, Maes Parcio, Tirlunio a Gwaith Cysylltiedig: Tir ym Maes Parcio Wickes, Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

(7) Bod yr Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar yr apêl a ganlyn, wedi cyfarwyddo y dylid gwrthod yr Apêl:-

 

Rhif yr Apêl – CAS-02528-C0V8D6 (1983)

 

Testun yr Apêl – Datblygu Gardd Flaen: Adeiladu Wal Gynnal a Rheiliau Ffin; Creu Lle Parcio; Gostwng y Cwrbyn i Ganiatáu Mynediad i’r Lle Parcio:

87 Ffordd Yr Ehedydd, Gogledd Corneli.

108.

Log Hyfforddiant pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:       Nodwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau yn amlinellu’r sesiynau hyfforddi sydd ar y gweill ar bynciau allweddol sy’n ymwneud â Chynllunio a Datblygu.

109.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.