Lleoliad: o bell trwy Skype For Business
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.
Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 67 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20/08/2020 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu, dyddiedig 20 Awst yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Siaradwyr Cyhoeddus I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl). Cofnodion: Roedd y siaradwyr cyhoeddus canlynol yn bresennol i draethu ar Gais Cynllunio P/19/915/RES (Eitem agenda 7) :
Gwrthwynebydd Ymgeisydd
C Evans S Gray, Llanmoor Homes |
|
Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y Cadeirydd yn derbyn Taflen Ddiwygio’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem brys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor ystyried newidiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, i ystyried cynrychiolaethau ac adolygiadau hwyr sydd angen eu cynnwys. |
|
Arweiniad Pwyllgor Rheoli Datblygu PDF 81 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod crynodeb yr Arweiniad i’r Pwyllgor Rheoli Datblygu, fel a nodir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn cael ei nodi |
|
P/19/915/RES – Tir i’r Gorllewin o Heol Maesteg, Tondu, CF32 9DF PDF 709 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i’r Amodau sy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.
Cynnig
Materion a gedwir yn ôl yn P/16/366/OUT am 405 o unedau preswyl, ffordd gyswllt a maes parcio dros dro. |
|
P/20/285/RLX – Tir ar yr Hen Faes Chwarae, Heol Ffynnon, CF31 3XU PDF 273 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i’r Amodau sy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau.
Cynnig
Amrywio amod 1 penderfyniad apêl A/18/3198111 (yn ymwneud â P/17/891/FUL) i newid y cynlluniau a gymeradwywyd i gynnwys stoc amwynder mwy. |
|
Cofnodion: RESOLVED: Bod caniatâd tybiedig, at ddibenion Rheoliad 4 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 1992, yn cael ei roi i’r cais uchod, yn ddarostyngedig i’r Amodausy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau:-
Cynnig
Codi 8 uned ddiwydiannol newydd mewn bloc unigol yn cynnwys 3 uned fawr a 5 uned fechan gyda pharcio cysylltiedig i gerbydau a beiciau. |
|
P/19/674/RLX - Tir ger Parc Crescent, Stad Ddiwydiannol Waterton (Storewithus), CF32 0EW PDF 193 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i’r Amodau sy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau
Cynnig
Cadw’r datblygiad fel y’i gweithredir yn unol â P/16/379/FUL (a ddiweddarwyd gan P/16/836/NMA, P/16/850/DOC a P/17/343/DOC) a P/16/833/FUL (a ddiweddarwyd gan P/17/311/DOC); amrywio amod 1 o P/16/379/FUL ac amod 2 o P/16/833/FUL i ganiatáu cyfleusterau golchi; amrywio amod 3 o P/16/833/FUL i gynnwys bwnd pridd ar hyd ffiniau dwyreiniol a deheuol y safle. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD:
1. Bod yr Apeliadau a dderbyniwyd fel y’u rhestrwyd yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, yn cael eu nodi.
2. Bod y Penderfyniadau Apêl canlynol, sy’n gynwysedig yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau a’u penderfynu gan yr Archwilwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru ers yr adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor, yn cael eu nodi :-
(a) A/20/3245529 (1886) – Tri o dai annedd pâr 3 ystafell wely (cyfanswm o 6 aneddiad) gyda pharcio cysylltiedig i’r gogledd o 12 Heol Pen-y-bont, Pontycymer – Gwrthodwyd yr Apêl. (b) A/20/3246041 (1887) – Codi 41 o aneddiadau preswyl fforddiadwy gyda pharcio cysylltiedig i geir ar y safle, mynediad a’r gwaith cysylltiedig – Tir i’r de o Glos Wyndham, Stad Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr – Gwrthodwyd yr Apêl (c) A/20/3246041 (1891) - Cais amlinellol am hyd at 9 anheddle a’r gwaith cysylltiedig, Tir oddi ar Heol Tondu, i’r gogledd o Pascoes Avenue, Pen-y-bont ar Ogwr. - Gwrthodwyd yr Apêl (a gwrthodwyd y cais am gostau.) (d) D/20/3253435 (1893) – Estyniad llawr cyntaf uwchben Rhandy ochr presennol, 7 Park Avenue, Porthcawl – Gwrthodwyd yr Apêl.
|
|
Diwygiadau Dros Dro i Weithdrefn Ymweliadau Safle'r Pwyllgor Rheoli Datblygu PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, gyda’r bwriad o gynghori Aelodau o’r rheidrwydd i adolygu dros dro Cod Ymarfer y Pwyllgor Rheoli Datblygu gyda golwg ar ymweliadau’r Pwyllgor â safleoedd, yng ngoleuni cyfyngiadau cyfredol Covid-19.
Cafwyd cyngor gan y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, i’r Cod Ymarfer Cynllunio presennol gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn Ebrill 2017 a bod copi o’r ddogfen hon ynghlwm ag Atodiad 1 o’r adroddiad. Mae Adran 9 yn cyfeirio at ymweliadau safle gan y Pwyllgor ac yn amlinellu’r meini prawf ar gyfer ymgymryd ag ymweliad o’r safle a’r gweithdrefnau i’w dilyn yn ystod ymweliad. Gall ymweliadau safle gan y Pwyllgor fod un ai ar ffurf Panel, h.y. Cadeirydd, Is-gadeirydd a Thrydydd Aelod neu fel ymweliad llawn â safle yn cynnwys holl aeodau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu. Gydag unrhyw un o’r ddwy sefyllfa, mae’r Aelod Ward leol, Cynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned ynghyd â gwrthwynebydd a wnaeth gais i siarad, yr ymgeisydd/asiant a’r Swyddogion perthnasol fel arfer yn mynychu.
Mae’r Cod Ymarfer yn datgan y gall ymweliadau safle’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fod yn gostus ac achosi oedi. Gan hynny, mae hi’n bwysig nad ydyn nhw’n cael eu cynnal ond pa fo angen (fel arfer ar y diwrnod cyn y Pwyllgor) a lle bo gwrthwynebiad Cynllunio perthnasol. Nid cyfarfodydd lle gwneir penderfyniadau ydy’r rhain, na ‘chwaith yn gyfarfodydd cyhoeddus ond, yn bennaf, yn ymarferiadau casglu gwybodaeth a gynhelir er budd yr Aelodau, lle gall fod datblygiad arfaethedig yn anodd ei ddychmygu o’r cynlluniau a’r deunydd cymorth. Mae’n bosib y bydden nhw’n angenrheidiol o ran rhoi ystyriaeth gofalus i’r gydberthynas ag eiddo cyfagos neu’r cyffiniau cyffredinol y cynnig oherwydd ei faint neu’r effaith ar Adeilad Cofrestredig neu Ardal Gadwraeth, er enghraifft.
Aeth ymlaen dan ddatgan fod yn rhaid i gais am ymweliad safle a wneir gan Aelod Ward leol mewn ymateb i ymgynghori ag e/hi ar y datblygiad arfaethedig, gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig neu yn electronig o fewn 21 diwrnod i hysbysiad y cais a bod gofyn iddo ddatgan yn glir y rhesymau cynllunio perthnasol am yr ymweliad.
Fe deimlodd y dylid nodi y bydd Swyddogion yn parhau i ymweld â safleoedd lle be’n ddiogel i wneud hynny a cheisio darparu cymaint o wybodaeth â phosib, gan gynnwys ffotograffau, mapiau, delweddau o’r awyr a deunydd arall perthnasol megis technoleg ‘gwylio stryd’, i gynorthwyo aelodau i wneud penderfyniadau ar geisiadau Cynllunio.
Yn wyneb y rheolau presennol ynghylch ymbellhau cymdeithasol, fe fyddai ymweliadau Pwyllgor â safleoedd yn eithriadol o anodd ei gynnal yn ddiogel o dan y gweithdrefnau presennol. Byddai hyn yn bennaf oherwydd y niferoedd o bobl a fyddai’n mynychu, gan arwain wedyn at fethu cadw at bellter cymdeithasol diogel, yn ogystal â’r risg gynyddol o orgyffwrdd â phriffyrdd neu fynd i mewn i gartrefi pobl. Ni ddylai’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle heblaw dan amgylchiadau eithriadol.
Hysbysodd y Rheolwr Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, lle y cytunir gyda’r Cadeirydd y dylid ymweld â safle, y byddai’n angenrheidiol i gyfyngu’r nifer o gyfranogwyr er ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 413. |
|
Ardal Gadwraeth Nant-y-moel Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr, gyda’r bwriad o ddiweddaru’r Aelodau ar benderfyniad a wnaed ar 27 Mai 2020 trwy bwerau dirprwyedig i gadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn Ardal Gadwraeth Nant-y-moel ar 8 Mehefin 2020.
Er gwybodaeth, fe atgoffodd Arweinydd y Tîm Cadwraeth a Dylunio yr Aelodau ar yr hyn a gytunwyd, mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ar 16 Ionawr 2020, i lunio Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn Ardal Gadwraeth Nant-y-moel. Effaith y Cyfarwyddyd hwn oedd tynnu’n ôl yr hyn a fyddai fel arall yn hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â dymchwel ffin-waliau blaen yn yr ardal a gynhwysid yn y Cyfarwyddyd. Atgoffwyd yr Aelodau am sgôp y Cyfarwyddyd a’r eiddo a effeithir; mae manylion i’w cael yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Roedd effaith Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) yn ddi-oed a rheolau dros yr hyn a oedd yn flaenorol yn ddatblygiad a ganiateir felly mewn grym o 16 Ionawr 2020. Bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod i ben oni bai y’i cadarnheir o fewn 6 mis.
Hysbysodd Arweinydd Tîm Cadwraeth a Dylunio, fel canlyniad uniongyrchol i gyhoeddi llythyr hysbysu Erthygl 4 yn dilyn llunio’r Gyfarwyddyd, fod pump ymateb wedi’u derbyn gan berchnogion a meddianwyr yr eiddo. Cafwyd crynodeb o gynnwys yr ymatebion hyn yn Atodiad 2 o’r adroddiad, er gwybodaeth i’r Aelodau. Derbyniwyd tri galwad ffôn yn gofyn am eglurder, yn hytrach na gwrthwynebu. Derbyniwyd dau ymateb ysgrifenedig. O’r ddau yma, roedd un wedi camddeall y llythyr ac yn gofyn am eglurder ynghylch statws Ardal Gadwraethac roedd un yn gwrthwynebu oherwydd fod gormod o gymeriad hanesyddol eisoes wedi’i symud oddi yno.
I osgoi Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) rhag dod i ben, roedd gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gadarnhau erbyn 17 Mehefin 2020 ac, fel canlyniad i gyfnod clo COVID 19 a’r gohirio dilynol fu ar gyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu, cymerwyd penderfyniad ar 27 Mai 2020, o dan bwerau dirprwyedig brys (Cyf CMM-PRU-20-23), mewn ymgynghoriad â Swyddogion ac Aelodau, i gadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4 heb unrhyw newidiad. Amgaewyd copi o’r cyfarwyddyd a gadarnhawyd, arwyddwyd a seliwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad.
Cyngynted ag y cadarnhawyd y gyfarwyddyd, anfonwyd llythyrau i holl berchnogion / meddianwyr yr eiddo a effeithir, ynghyd â’r copi terfynol o’r daflen arweiniad a gynhyrchwyd. Fe gynigiwyd fod y fersiwn derfynol o’r daflen a gynhwysir yn Atodiad 3 yn cael ei chymeradwyo at ddibenion Rheoli Datblygu.
PENDERFYNWYD: Bod Aelodau:
|
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim. |