Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Datblygiad a Rheoli - Dydd Iau, 26ain Ebrill, 2018 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

107.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylaiaelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

 

 

Cofnodion:

Datganwyd y Buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn eitem agenda Cais Cynllunio P/17/910/FUL oherwydd ei bod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

Bu i’r Cyng. RMI Shaw ddatgan buddiant personol fel Cynghorydd Cymuned Cyngor Cymuned Cwm Garw ond nid yw’n rhan o drafodaethau eu materion cynllunio.

 

Datganodd MJ Kearn fuddiant a fyddai’n effeithio ar eitem ar yr agenda gan ei fod eisoes wedi gwneud penderfyniad ynghylch y cais.  Gadawodd y Cynghorydd Kearn y cyfarfod pan ystyriwyd yr eitem hwn.      

108.

Ymweliadau Safle

I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 06/06/18 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:        Cadarnhau dyddiad dydd Mercher 6 Mehefin 2018 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig yn y cyfarfod neu ei nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.

109.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 75 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/03/18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:        Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygiadau ar 15 Mawrth 2018, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

110.

Siaradwyr Cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

Cofnodion:

Nid oedd siaradwyr cyhoeddus ar yr agenda ar gyfer cyfarfod heddiw.

111.

Dalen Ddiwygio pdf eicon PDF 12 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol ârhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:        Bod y Cadeirydd yn derbyn Dalen Ddiwygio’r Pwyllgor Rheoli Datblygiadau fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, a gallu ystyried sylwadau hwyr a diwygiadau y mae angen eu cynnwys.

112.

P/17/1073/FUL – Tir oddi ar All Saints Way Penyfai CF31 4BT pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:        GORHIRIO’R cais er mwyn rhoi amser i’r datblygwr gyflwyno rhagor o wybodaeth ac eglurdeb ynghylch y lefelau a’r pellteroedd rhwng safle’r cais (ffordd fynediad) a’r eiddo presennol, ynghyd ag ymgynghoriad arall.   

113.

P/17/910/FUL – Gyfochr â rhif 1, Danygraig Avenue Porthcawl CF36 5AA pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Caniatáu’r cais canlynol yn ddarostyngedig i’r  Amodau sydd yn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau:-

 

Cynnig

 

T? sengl pedair ystafell wely a mynediad

 

Ychwanegwyd yr amod 10 canlynol:

 

10 Crëir y maes parcio a gymeradwyir yma mewn deunyddiau parhaol cyn cychwyn parcio yno ac fe’i cedwir at ddibenion parcio yn barhaus wedi hynny.

 

Rheswm:  Buddiannau'r briffordd a diogelwch cerddwyr.      

114.

P/17/816/FUL – Canolfan Arddio’r Pil, 2 Heol Mostyn, Y Pil CF33 6BJ pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Caniatáu’r cais canlynol yn amodol ar yr Amodau sydd yn Adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau:-

 

Cynnig

 

Ailddatblygu ac estyn er mwyn gwneud caffi, bwyty, siop cynnyrch fferm, cegin, toiledau a dwy uned fanwerthu consesiynau.   

115.

Apeliadau pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Datblygu a Rheoli Adeiladu adroddiad ar yr apeliadau a dderbyniwyd ac y gwnaed penderfyniadau yn eu cylch ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:       (1) Y nodir yr apeliadau canlynol a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf :-

 

Rhif Côd                       Testun yr Apêl

 

A/18/3197583 (1821)  Trosi’r adeilad allanol presennol yn 1 llety gwyliau gosod gydag addasiadau allanol cysylltiedig (ail-gyflwyniad): The Coppings, Bryncethin, Pen-y-bont ar Ogwr

 

A/18/3197583 (1822) Annedd sengl dau lawr, dwy ystafell wely (ail-gyflwyno apêl a wrthodwyd yn flaenorol):2 Heol y Berllan, Y Pil, Pen-y-bont ar Ogwr

 

A/18/3197617 (1823) Cynnwys tir amaeth yng nghwrtil yr annedd:Tir y tu cefn i 51 Stryd Fawr, Trelales

 

A/18/3197606 (1824) Cynnwys tir amaeth yng nghwrtil yr annedd:Tir y tu cefn i 53 Stryd Fawr, Trelales

 

A/18/3197570 (1825) Cynnwys tir amaeth yng nghwrtil yr annedd:Tir y tu cefn i 55 Stryd Fawr, Trelales

 

A/18/317616 (1826) Codi 3 annedd sengl a gwaith cysylltiedig:Tir cyfagos i T? Gwyn, Heol y Graig, Porthcawl

 

A/18/3198111 (1827)  Dwy garafán sipsiwn preswyl ynghyd â chodi ystafell ddydd/gwaith t?, dwy garafán deithiol a symud y ffordd fynediad i gerbydau: tir yng nghyn-faes chwarae ffordd fynediad, Fountain Terrace, Abercynffig.

 

 Bod yr Archwilydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i bennu’r Apêl canlynol, wedi cyfarwyddo y dylid CANIATÁU yr Apêl canlynol YN DDAROSTYNGEDIG I  AMODAU:

 

Rhif Cod                      Testun yr Apêl

 

A/17/3186793 (1815) Defnyddio’r tir ar gyfer gosod cartrefi symudol at ddibenion preswyl:Tir yn llynnoedd Minffrwd, Rhiwceiliog, Pencoed

 

 (3)    Bod yr Archwilydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru i bennu’r Apêl canlynol, wedi cyfarwyddo ei WRTHOD:

 

Rhif Cod                     Testun yr Apêl

 

A/17/3187606 (1818) Cynnig cynelau c?n a thai cathod ac annedd dros dro:Fferm T? Risha, Pen y Cae, Penyfai

116.

Cofnod Hyfforddi pdf eicon PDF 10 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Gr?p Datblygu ar gofnod hyfforddi wedi ei ddiweddaru.

 

PENDERFYNWYD:       Nodi adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau.    

117.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Nid oedd materion brys.