Lleoliad: remotely via Skype for Business
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd M A Galvin
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim |
|
Cais i Drwyddedu Cerbyd Hacnai PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Y Prif Swyddog Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Rheoli adroddiad, gyda’r pwrpas i ofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded ar gyfer cerbyd hur.
Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, felly, gofynnwyd i’r Aelodau gan y Swyddog Cyfreithiol os oeddent yn dymuno ystyried y cais yn ei absenoldeb.
Cytunodd yr Aelodau yn unfrydol i’r cais hwn.
Rheolwr y Tîm – Eglurodd Trwyddedu fod cais wedi ei dderbyn oddi wrth Graham Thomas o Ben-y-bont am drwydded ar gyfer BMW 520D â’r rhif cofrestru BN66 BVF fel cerbyd hur ar gyfer 4 person.
Cerbyd ail-law oedd hwn a gofrestrwyd yn wreiddiol gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau ar y 27 Medi 2016.
Nid oedd y cais yn cydymffurfio â Pholisi Cerbyd Hur cydnabyddedig y Pwyllgor Trwyddedu ar sail y rhesymau a amlinellwyd ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.
Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd y cerbyd yn cynnig mynediad i gadeiriau olwyn. Cyflwynwyd adroddiad gwasanaeth dyddiedig 26 Awst 2018 oedd yn nodi fod 11,509 milltir ar y cloc, 27,500 milltir ar y cloc ar y 5 Dachwedd 2019 a 32,483 milltir ar y cloc ar y 10 Mawrth 2020. Cyflwynwyd Tystysgrif MOT dyddiedig yr 16 Gorffennaf 2020 oedd yn nodi fod 34,605 milltir ar y cloc.
Archwiliwyd y cerbyd gan Swyddog Gorfodi Trwyddedu ar y 15 Medi 2020 a nododd fod y cerbyd mewn cyflwr da. Mae ffurflen Asesu Cerbyd wedi ei chynnwys yn Atodiad A yr adroddiad. Adeg yr archwiliad, nodwyd fod 24,853 milltir ar y cloc.
Wedi i’r Aelodau ystyried yr adroddiad,
PENDERFYNWYD: Trafodwyd y cais i gofrestru BN66 BVF fel Cerbyd Hur gan y Pwyllgor.
Nododd yr Aelodau nad oedd yn cydymffurfio â pholisi 2.1 o Bolisi Trwyddedu’r Cyngor, am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Awgrymodd yr Aelodau y gallai’r polisi gael ei lacio yn unol â pharagraff 2.2 o’r polisi, yn bennaf ar sail yr ansawdd allanol a mewnol eithriadol a’r safonau diogelwch eithriadol. O ganlyniad, derbyniwyd y cais am drwydded gan yr Is-Bwyllgor.
Daeth y cyfarfod i ben am 10.30 y bore
|