Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (B) - Dydd Mawrth, 12fed Rhagfyr, 2017 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Andrew Rees  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Datgan Buddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

36.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 51 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19 Hydref 2017. 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Cadarnhau bod cofnodion yr Is-bwyllgor Trwyddedu ar 19 Hydref 2017 yn gywir.             

37.

Cais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Trwyddedu adroddiad a oedd yn ymwneud â chais Mr Stephen Griffiths i drwyddedu cerbyd Mercedes E220 â’r rhif cofrestru EF12 OBW fel cerbyd hurio preifat i eistedd 4 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf gyda’r DVLA ar 17 Gorffennaf 2012.

 

Roedd Mr Griffiths yn bresennol i gefnogi’i gais a gohiriodd yr Is-bwyllgor y cyfarfod i fwrw golwg dros y cerbyd. Wedi archwilio’r cerbyd, cadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc oedd 81,597. Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Fodd bynnag, gellid ystyried llacio’r polisi dan amgylchiadau eithriadol. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd. Darparwyd cofnod o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael a chadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc oedd 70,176 ar 24 Awst 2016. 

 

Hysbysodd yr ymgeisydd yr Is-bwyllgor ei fod yn bwriadu defnyddio’r cerbyd i wneud gwaith corfforaethol a chludo pobl i feysydd awyr petai’i gais yn llwyddiannus.

 

Ymneilltuodd Aelodau’r Is-bwyllgor i ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD:          

Ystyriodd y Pwyllgor y cais am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â cherbyd â’r rhif cofrestru EF12 OBW.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd y cais yn dod o dan baragraff 2.1 Canllawiau Polisi Trwyddedu’r Cyngor. Nodwyd mai’r milltiroedd ar y cloc ar hyn o bryd oedd 81,597 ac mai bwriad yr ymgeisydd oedd defnyddio’r cerbyd i gludo pobl i feysydd awyr.

 

Ystyriodd y Pwyllgor baragraffau 2.2 a 2.2.5 y polisi a’r amgylchiadau eithriadol a allai arwain at lacio’r polisi. Ym marn y Pwyllgor, roedd cyflwr rhagorol y cerbyd, oddi mewn a thu allan, ynghyd â’r ffaith ei fod yn eithriadol ddiogel ac esmwyth, yn berthnasol yn yr achos hwn.

 

Gan hynny, dyfarnodd yr Is-bwyllgor y drwydded y gofynnwyd amdani.

38.

Cais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Trwyddedu adroddiad a oedd yn ymwneud â chais Mr Stephen Griffiths i drwyddedu cerbyd Ford Tourneo â’r rhif cofrestru YC14 XLY fel cerbyd hurio preifat i eistedd 8 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf gyda’r DVLA ar 8 Mai 2014.

 

Roedd Mr Griffiths yn bresennol i gefnogi’i gais a gohiriwyd y cyfarfod er mwyn bwrw golwg dros y cerbyd. Wedi archwilio’r cerbyd, cadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc oedd 68,070. Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Fodd bynnag, gellid ystyried llacio’r polisi dan amgylchiadau eithriadol. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd. Darparwyd cofnod o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael a chadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc oedd 59,442 ar 14 Chwefror 2017. 

 

Hysbysodd yr ymgeisydd yr Is-bwyllgor ei fod yn bwriadu defnyddio’r cerbyd i wneud gwaith corfforaethol a chludo pobl i feysydd awyr petai’i gais yn llwyddiannus.

 

Ymneilltuodd Aelodau’r Is-bwyllgor i ystyried y cais.

 

 

PENDERFYNWYD:          

Ystyriodd y Pwyllgor y cais am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â cherbyd â’r rhif cofrestru YC14 XLY.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd y cais yn dod o dan baragraff 2.1 Canllawiau Polisi Trwyddedu’r Cyngor. Nodwyd mai’r milltiroedd ar y cloc ar hyn o bryd oedd 68,070 ac mai bwriad yr ymgeisydd oedd defnyddio’r cerbyd i gludo pobl i feysydd awyr.

 

Ystyriodd yr Aelodau baragraffau 2.2 a 2.2.5 y polisi a’r amgylchiadau eithriadol a allai arwain at lacio’r polisi. Ym marn y Pwyllgor, roedd cyflwr rhagorol y cerbyd, oddi mewn a thu allan, ynghyd â’r ffaith ei fod yn eithriadol ddiogel ac esmwyth, yn berthnasol yn yr achos hwn.

 

Gan hynny, dyfarnodd yr Is-bwyllgor y drwydded y gofynnwyd amdani.

 

39.

Cais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Trwyddedu adroddiad a oedd yn ymwneud â chais Mr David Llewellyn i drwyddedu cerbyd sal?n Mercedes E Class â’r rhif cofrestru BF64 HKP fel cerbyd hurio preifat i eistedd 4 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf gyda’r DVLA ar 29 Medi 2014.

 

Roedd Mr Llewellyn yn bresennol i gefnogi’i gais a gohiriwyd y cyfarfod er mwyn bwrw golwg dros y cerbyd. Wedi archwilio’r cerbyd, cadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc oedd 32,737. Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Fodd bynnag, gellid ystyried llacio’r polisi dan amgylchiadau eithriadol. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd. Darparwyd cofnod o’r gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael a chadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc oedd 32,538 ar 30 Tachwedd 2017. 

 

Hysbysodd yr ymgeisydd yr Is-bwyllgor ei fod yn bwriadu defnyddio’r cerbyd i wneud gwaith corfforaethol a chludo pobl i feysydd awyr petai’i gais yn llwyddiannus.

 

Ymneilltuodd Aelodau’r Is-bwyllgor i ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD:          

Ystyriodd y Pwyllgor y cais am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â cherbyd â’r rhif cofrestru BF64 HKP.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd y cais yn dod o dan baragraff 2.1 Canllawiau Polisi Trwyddedu’r Cyngor. Nodwyd mai’r milltiroedd ar y cloc ar hyn o bryd oedd 32,737.

 

Ystyriodd y Pwyllgor baragraffau 2.2 a 2.2.5 y polisi a’r amgylchiadau eithriadol a allai arwain at lacio’r polisi. Ym marn y Pwyllgor, roedd cyflwr rhagorol y cerbyd, oddi mewn a thu allan, ynghyd â’r ffaith ei fod yn eithriadol ddiogel ac esmwyth, yn berthnasol yn yr achos hwn.

 

Gan hynny, dyfarnodd yr Is-bwyllgor y drwydded y gofynnwyd amdani.

 

40.

Cais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Trwyddedu adroddiad a oedd yn ymwneud â chais Mr James Preece i drwyddedu Skoda Superb â’r rhif cofrestru JT11 VOR fel cerbyd hurio preifat i eistedd 4 o bobl. Roedd yn gerbyd ail-law ac fe’i cofrestrwyd gyntaf gyda’r DVLA ar 23 Mawrth 2017.

 

Roedd Mr Preece yn bresennol i gefnogi’i gais a gohiriwyd y cyfarfod er mwyn bwrw golwg dros y cerbyd. Wedi archwilio’r cerbyd, cadarnhawyd mai’r milltiroedd ar y cloc oedd 15,947. Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu nad oedd y cais yn dod o fewn y Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Fodd bynnag, gellid ystyried llacio’r polisi dan amgylchiadau eithriadol. Nid oedd cadeiriau olwyn yn gallu mynd i mewn i’r cerbyd ac roedd modd gweld y cofnod gwasanaeth ar-lein ar wefan Skoda.

 

Ymneilltuodd Aelodau’r Is-bwyllgor i ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD:          

Ystyriodd y Pwyllgor y cais am drwydded cerbyd hurio preifat mewn perthynas â cherbyd â’r rhif cofrestru JT11 VOR.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd y cais yn dod o dan baragraff 2.1 canllawiau Polisi Trwyddedu’r Cyngor. Nodwyd mai’r milltiroedd ar y cloc ar hyn o bryd oedd 15,947 a nodwyd manylion y gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael yn y dogfennau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ystod y cyfarfod.

 

Ystyriodd y Pwyllgor baragraffau 2.2 a 2.2.5 y polisi a’r amgylchiadau eithriadol a allai arwain at lacio’r polisi. Ym marn y Pwyllgor, roedd cyflwr rhagorol y cerbyd, oddi mewn a thu allan, ynghyd â’r ffaith ei fod yn eithriadol ddiogel ac esmwyth, yn berthnasol yn yr achos hwn.

 

Gan hynny, dyfarnodd yr Is-bwyllgor y drwydded y gofynnwyd amdani.

 

41.

Materion brys

To consider any other item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Rule 4 of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

 

 

Cofnodion:

Dim

42.

Eithrio’r Cyhoedd

The minutes and reports relating to the following items are not for publication as they

contain exempt information as defined in Paragraph 12 of Part 4 and/or Paragraph 21 of Part 5 of Schedule 12A of the Local Government Act 1972 as amended by the Local Government (Access to Information)(Variation)(Wales) Order 2007.

 

If following the application of the public interest test the Committee resolves pursuant to the Act to consider these items in private, the public will be excluded from the meeting during such consideration.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, penderfynwyd eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod tra ystyriwyd y materion canlynol am eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o’r Ddeddf.

 

                                   Wedi cynnal prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn gyfrinachol, gan eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod, gan mai’r farn oedd, ym mhob un o’r amgylchiadau a oedd yn ymwneud â’r eitemau, bod lles y cyhoedd wrth gynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth, gan y byddai’r wybodaeth yn niweidiol i’r ymgeiswyr a enwyd.      

 

43.

Cymeradwyo’r Cofnodion Eithriedig

To receive for approval the exempt Minutes of the Licensing Sub-Committee of 19 October 2017  

44.

Cais am Drwydded

45.

Cais am Drwydded