Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (B) - Dydd Mawrth, 28ain Awst, 2018 10:00

Lleoliad: Committee Rooms 2/3, Civic Offices Angel Street Bridgend CF31 4WB

Eitemau
Rhif Eitem

85.

Election of Chairperson for the Meeting

Cofnodion:

RESOLVED: That due to the absence of the Chairperson Cllr G Thomas was elected Chairperson for the meeting.

86.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

87.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 62 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 03/07/2018

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Bod y Cofnodion ar gyfer cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu (B) ar 03/07/2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

88.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Hurio Preifat pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio adroddiad, oedd yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried cais i roi trwydded ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat.

 

Gwnaed y cais gan Paul A May i drwyddedu Toyota Avensis, rhif cofrestru cerbyd FA17 JJX, fel cerbyd hurio preifat i eistedd 4 person. Roedd perchennog blaenorol i’r cerbyd ac fe’i cofrestrwyd i ddechrau gan y DVLA ar 7 Awst 2017.

 

Gohiriwyd y cyfarfod am amser byr er mwyn i’r Aelodau gael archwilio’r cerbyd.

 

Ar ôl ailgychwyn y cyfarfod, dywedodd y Swyddog Cyfreithiol wrth yr aelodau mai 17,086 oedd nifer milltiroedd cyfredol y cerbyd. Dywedodd fod y cerbyd yn syrthio y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hurio Preifat a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu. Nid oedd mynediad ynddo i gadair olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol gyda golwg ar drwyddedu Cerbydau Hurio Preifat am y tro cyntaf oedd yn syrthio y tu allan i ganllawiau’r polisi a amlinellwyd ym mharagraff 4.4 o’r adroddiad.

 

Er gwybodaeth i’r aelodau, nid oedd hanes gwasanaeth wedi ei ddarparu gan nad oedd y gofyniad am wasanaeth i’r cerbyd wedi ei gyrraedd eto. Edrychodd swyddog gorfodi ar y cerbyd ar 8 Awst 2018 a chadarnhaodd mai nifer y milltiroedd yr adeg honno oedd 17,084. Cyflwynwyd y cerbyd mewn cyflwr da heb ddim problemau na diffygion gweladwy.

 

PENDERFYNWYD: Bu’r Is-bwyllgor yn ystyried y cais i drwyddedu Cerbyd Rhif Cofrestru AO64 KVW fel Cerbyd Hurio Preifat.

 

Sylwodd yr Aelodau fod y cais yn syrthio y tu allan i’r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

Nododd yr Aelodau ymhellach fod y Polisi ym mharagraff 2.2 yn caniatáu iddo gael ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol, ac roedd enghreifftiau o’r rhain wedi eu disgrifio ym mharagraff 2.4 o’r Polisi.

 

Ar ôl archwilio’r cerbyd, teimlai’r Is-bwyllgor fod y cerbyd yn eithriadol o ran ei ansawdd y tu mewn a’r tu allan a’i nodweddion diogelwch. Felly caniataodd yr Is-bwyllgor y drwydded.

 

89.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim

90.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod tra byddent yn ystyried yr eitemau busnes canlynol am eu bod yn cynnwys gwybodaeth oedd wedi ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

                                       Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi eu gwahardd o’r cyfarfod, gan yr ystyrid yn yr holl amgylchiadau yn ymwneud â’r eitemau, fod lles y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth, am y byddai’r wybodaeth yn niweidiol i’r ymgeiswyr a grybwyllwyd felly.

 

91.

Cymeradwyo Cofnodion a Eithriwyd

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 03/07/18

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Bod y Cofnodion a eithriwyd ar gyfer cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu (B) ar 03/07/2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

92.

Cais am Drwyddedau

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Bod y cais am drwydded i Mr Thomas David Braund yn cael ei ohirio i ddyddiad diweddarach am nad oedd yr ymgeisydd yn bresennol.