Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau O Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 177 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/04/22
Cofnodion: Bod cofnodion y Cyfarfodydd Is-Bwyllgor Trwyddedu B yr 26/04/2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu adroddiad a oedd yn ymwneud â chais a dderbyniwyd gan Darker Enterprises Cyf i adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw ar gyfer y safle uchod, cyflwynwyd yr adroddiad gerbron yr Is-bwyllgor i’w ystyried gan nad yw pwerau wedi'u dirprwyo o dan y Cynllun Dirprwyo i Swyddogion.
Dywedodd fod y drwydded bresennol yn ddarostyngedig i amodau safonol y Cyngor yn ogystal â'r amodau arbennig sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad. Mae'r oriau masnachu rhwng 0930 a 2000 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 1000 a 1600 o’r gloch ar y Sul. Dywedodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu na chafwyd unrhyw argymhellion gan yr ymgyngoreion statudol i amrywio'r amodau sydd ynghlwm yn atodiad A, ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau a oedd yn ymwneud â'r cais.
Dywedodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â'r gofynion statudol i hysbysebu'r cais, a dangoswyd manylion y rhain yn yr adroddiad ynghyd â gofynion a chanllawiau cysylltiedig eraill. Ychwanegodd bod swyddog gorfodi wedi cynnal archwiliad o'r safle ac nad oedd wedi canfod unrhyw achosion o dorri'r drwydded bresennol nac unrhyw achosion eraill a oedd yn peri pryder.
Cynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r cais, a chafwyd;
PENDERFYNIAD: Bod yr Is-bwyllgor wedi cytuno'n unfrydol dros adnewyddu'r Drwydded uchod, yn amodol ar y telerau ac amodau presennol |
|
Gwahardd y Cyhoedd Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.
Cofnodion: PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem ganlynol gan ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 a/neu Baragraff 21 o Ran 5 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
Ar ôl cymhwyso prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd rhoi ystyriaeth breifat i'r eitem ganlynol, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, gan wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod, oherwydd yn yr holl amgylchiadau a oedd yn gysylltiedig â'r eitem, ystyriwyd bod budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad yn gwrthbwyso budd y cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth.
|
|
Cymeradwyo Cofnodion wedi’u Eithrio I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 26/04/22
|
|
Rhoi Trwyddedau - Cerbyd Hacni a Gyrrwr Cerbyd Llogi Preifat |