Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 (B) - Dydd Iau, 23ain Awst, 2018 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams 

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan

Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a

fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. 

 

Cofnodion:

Dim.

43.

Deddf Drwyddedu 2003 Adran 17 pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O blaid yr ymgeisydd:

Justin Davies – Cyfreithiwr, yn cynrychioli’r Ymgeiswyr

Ceri Howley – Ymgeisydd

Xenia Yardley – Ymgeisydd

 

Gwrthwynebwyr:

Judith Richards

Matthew Willsher

Elizabeth Janny

Julia Wells

Charmaine Elward

Y Cynghorydd MC Voisey 

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod a gwnaed cyflwyniadau.

 

Adroddodd y Rheolwr Gweithredol – Cydwasanaethau Rheoleiddio – am gais a dderbyniwyd am drwydded mangre ar gyfer Rhif 11 Caffi Bar, Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, fyddai’n caniatáu cyflenwi alcohol i’w yfed ar y safle’n unig. Dywedodd mai’r ymgeiswyr oedd Mrs Ceri Howley a Mrs Xenia Yardley ar ran Rhif 11 Caffi Bar Cyfyngedig. Roedd y cais wedi cael ei newid fel mai’r oriau y gofynnid am gael cyflenwi alcohol ynddynt oedd o 11 y bore hyd 11 o’r gloch yr hwyr o Ddydd Llun i Ddydd Sul, a chynigid y byddai’r fangre’n cau am hanner awr wedi un ar ddeg yr hwyr. Roedd y cais ar gyfer lluniaeth hwyr y nos a darparu cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedi ei recordio wedi cael ei dynnu’n ôl. Dywedodd fod y drefn weithredu yn egluro’r camau y bwriadai’r ymgeiswyr eu cymryd i hybu’r amcanion trwyddedu ac a fyddai, pe câi’r drwydded ei chaniatáu, yn ffurfio amodau’r drwydded. Hysbysodd yr Is-bwyllgor fod llythyrau wedi eu derbyn yn cefnogi’r cais a bod dau lythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn gan y Cynghorwyr lleol yn ogystal â 10 llythyr o wrthwynebiad oddi wrth drigolion lleol i’r cais. Hysbysodd y Rheolwr Gweithredol, Cydwasanaethau Rheoleiddio, yr Is-bwyllgor hefyd fod yn rhaid iddynt gadw mewn cof Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor a Chanllawiau’r Swyddfa Gartref a roddwyd dan Adran 182 o Ddeddf Drwyddedu 2003 a rhaid iddynt hefyd ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun, y drefn weithredu a’r sylwadau a wnaed.

 

Gofynnodd y Rheolwr Gweithredol – y Cydwasanaethau Rheoleiddio –am eglurder gan gynrychiolydd yr ymgeiswyr ynghylch cywirdeb y cais yr oedd ef wedi ei ddisgrifio. Cadarnhaodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr ei fod yn gywir a’i fod yn dymuno cylchredeg cynllun digwyddiadau wedi ei ddiweddaru, y cytunodd yr Is-bwyllgor i’w dderbyn. Dangosai’r cynllun digwyddiadau, oedd wedi ei ddiweddaru, 2 ddigwyddiad ychwanegol. 

 

Hysbysodd cynrychiolydd yr ymgeiswyr yr Is-bwyllgor fod yr ymgeiswyr yn gofyn am drwydded mangre i’w galluogi i redeg y fangre bob dydd. Bwriad yr ymgeiswyr oedd cael gweithgaredd y gellid ei drwyddedu oddeutu dwywaith y mis ar gyfartaledd. Dywedodd fod y digwyddiadau oedd wedi eu cynnal yn y fangre wedi cael eu rheoli drwy Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro, oedd yn rhagnodol a bod yr ymgeiswyr yn dymuno cael hyblygrwydd trwydded mangre. Hysbysodd yr Is-bwyllgor hefyd fod ymgynghoriad wedi ei gynnal gyda’r Awdurdodau Cyfrifol a phecyn o fesurau wedi ei roi gerbron gan yr ymgeiswyr. Roedd mesurau diogelwch wedi eu cynnwys yn y trefniadau gweithredu ac roedd yr ymgeiswyr yn deall y byddai torri amodau eu trwydded yn peryglu eu trwydded ar gyfer y fangre. 

 

Dywedodd fod yr ymgeiswyr wedi cael eu cynorthwyo gan yr heddlu a’r adran drwyddedu ac wedi cael eu harwain gan eu harbenigedd hwy wrth wneud eu cais.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 43.