Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 (B) - Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2019 14:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

44.

Datganiadau o Gysylltiad

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

45.

Deddf Trwyddedu 2003 – Adran 17 – Cais i Amrywio Trwydded Safle – ‘Marmaris Kebab And Pizza’, 33 Wyndham Street, Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

I’r ymgeisydd:

Mr Halit Ertas – Asiant

Mr Fatih Yildiztekin – Ymgeisydd

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod a gwnaed cyflwyniadau.

 

Adroddodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu ar gais a dderbyniodd i amrywio trwydded safle sy’n bodoli yn Marmaris Kebab and Pizza, 33 Wyndham Street, Pen-y-bont ar Ogwr. Esboniodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu fod yr ymgeisydd yn ceisio codi amodau 14-19, dan Atodiad 3 y Drwydded Safle, a oedd yn awdurdodi’r ddarpariaeth lluniaeth hwyr yn y nos o’r safle. Esboniodd pan baratowyd yr adroddiad, roedd y ddau barti wedi nodi y bydden nhw’n bresennol. Derbyniodd gydweithiwr alwad ffôn gan PC Morris y bore hwnnw i ddweud iddo gael ei alw i’r llys a’i fod yn gofyn am ohirio.

 

Gofynnodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu i’r asiant a’r ymgeisydd a fydden nhw’n cytuno i ohiriad. Esboniodd yr asiant iddo deithio o Lundain y bore hwnnw ac yr hoffai i’r gwrandawiad barhau.

 

Gofynnodd y Swyddog Cyfreithiol am union eiriad cais PC Morris ac a oedd yn mynychu’r llys i roi tystiolaeth neu a gafodd ei alw i’r llys ar frys. Esboniodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu mai cydweithiwr oedd wedi cymryd y neges felly nid oedd modd iddi ddweud yn union beth oedd wedi’i ddweud. Gadawodd yr aelodau i ystyried y cais am ohiriad.

 

Ar ôl amser byr, ail-alwyd y cyfarfod ac esboniodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried y ceisiadau o’r ddwy ochr. Gwerthfawrogon nhw fod yr asiant wedi teithio dros bedair awr ond roedd ganddynt gwestiynau i’r heddlu mewn perthynas â hanes y safle cyn iddynt fod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad. Roedden nhw’n siomedig iawn ag ymateb hwyr yr heddlu a phetai hyn yn cael ei ailadrodd, bydden nhw’n parhau heb gynrychiolydd yr heddlu.

 

Gofynnodd yr Asiant i’r Is-bwyllgor ailystyried eu penderfyniad ac atebodd y Cadeirydd ei bod hi’n gwerthfawrogi ac yn rhannu eu rhwystredigaeth ond roedd rhaid iddynt fod yn si?r fod ganddynt yr holl wybodaeth berthnasol cyn gwneud eu penderfyniad. Gohiriwyd y cyfarfod ac esboniodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu y byddai mewn cysylltiad â’r un tri aelod, yr asiant a’r ymgeisydd yn fuan er mwyn cytuno dyddiad newydd. 

 

Adroddodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu ymhellach ar gyfarfod yr is-bwyllgor hwn a ohiriwyd ar 7 Mawrth 2019 lle gohiriwyd gwrandawiad gan fod cynrychiolydd o Heddlu De Cymru’n methu bod yn bresennol.

 

Rhoddodd wybod i’r Is-bwyllgor, ers yr adeg honno, bod yr ymgeisydd a Heddlu De Cymru wedi bod mewn trafodaethau er mwyn dod i gytundeb. Cyflwynodd gopi o e-bost wrth Heddlu De Cymru i’r Is-bwyllgor a roddodd wybod i’r ymgeisydd eu bod yn tynnu eu gwrthwynebiadau yn ôl. Roedd y rheswm am dynnu’r gwrthwynebiad yn ôl yn bennaf oherwydd diffyg mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cofnodedig yn ymwneud â’r safle o fewn y 18 mis diwethaf. Cydnabyddodd yr ymgeisydd fod yr amodau wedi’u codi a llofnododd yn unol â hynny.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wybod i’r Aelodau mai’r cytundeb gwreiddiol a wnaed ar gyfer y safle oedd sicrhau bod dau oruchwyliwr drws cofrestredig SIA yn cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 45.