Agenda a Chofnodion

Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo - Dydd Gwener, 13eg Medi, 2019 14:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

58.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Zak Shell, Y Cyng J Williams, Y Cyng G Cox, John Spanswick.

59.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

60.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 64 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14 06 19

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cofnodion Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo dyddiedig 14/06/2019 fel cofnod gwir a chywir.

61.

Gwobr y Faner Werdd pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad oedd yn rhoi gwybod i’r Cyd-bwyllgor am gais llwyddiannus Amlosgfa Llangrallo am Wobr y Faner Werdd yn 2019.

 

Esboniodd fod Gwobr y Faner Werdd, a gyflwynwyd gyntaf ym 1996, yn cael ei rhoi i barciau a lleoedd gwyrdd yng Nghymru a Lloegr oedd o’r safon uchaf. Ychwanegodd ei bod hefyd yn ffordd o annog sefydliadau i ymdrechu i gyrraedd safonau amgylcheddol uchel.

 

Hysbysodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd y Cydbwyllgor fod Amlosgfa Llangrallo unwaith eto wedi derbyn y wobr, a gydnabyddir yn genedlaethol, am safonau gofal a chynnal a chadw y safle a’r tir. Dywedodd fod y wobr yn cadarnhau’r ymrwymiad i gynnal safonau uchel, y gall yr holl ymwelwyr eu gwerthfawrogi.

 

Dywedodd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhyddhau datganiad i’r wasg ar y 26ain o Orffennaf  2019, i hysbysu’r cyhoedd am lwyddiannau’r Faner Werdd, a bod copi wedi ei amgáu yn Atodiad A.

 

Eglurodd hefyd fod y cyflwyniad ar gyfer y wobr yn golygu cost o £350; fodd bynnag, talwyd am hyn allan o gyllideb refeniw yr amlosgfa.

 

Mynegodd Aelod ei ddiolch i’r staff yn Amlosgfa Llangrallo dros y ddeng mlynedd ddiwethaf. Disgrifiodd yr amlosgfa neilltuol hon fel un o’r amlosgfeydd gorau y buasai ef ynddynt. Dywedodd fod gwahoddedigion i’r amlosgfa yn rhyfeddu at ba mor brydferth ydyw a pha mor dda y mae’n cael ei rhedeg.

 

Cytunodd y cadeirydd â’r sylwadau gan ddweud ei fod ef yn yr oed y mae’n mynychu amlosgfeydd yn fwy rheolaidd a disgrifiodd Amlosgfa Llangrallo fel ‘gem fach’. Dywedodd fod hyn oherwydd y staff a’r rheolwyr a gofynnodd i Reolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd gyfleu’r sylwadau yn ôl i’r staff.

 

Diolchodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd i’r cadeirydd a’r aelod am eu sylwadau a dywedodd y byddai’n gadael i’w staff wybod gymaint y mae eu gwaith wedi cael ei werthfawrogi.

 

Holodd Aelod ynghylch gwaith oedd i gael ei wneud ar Gyfleusterau’r Cwrt Blodau ac a fyddai hyn yn effeithio ar obeithion Amlosgfa Llangrallo o ennill Gwobr y Faner Werdd y flwyddyn nesaf.

 

Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd nad oedd rheswm i hyn effeithio ar eu gobeithion gan y byddai’r beirniaid yn gweld hyn fel gwelliant cadarnhaol ac y byddent yn deall bod angen gwaith ar gyfleusterau i sicrhau eu bod yn edrych ac yn gweithredu ar eu gorau.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cydbwyllgor yn nodi llwyddiant yr Amlosgfa yn sicrhau Gwobr y Faner Werdd am 2019.

62.

Gwasanaeth Nadolig pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad oedd yn hysbysu’r Cydbwyllgor am drefniadau ar gyfer Gwasanaeth Nadolig 2019.

 

Esboniodd fod Amlosgfa Llangrallo yn cynnal Gwasanaeth Nadolig yn flynyddol ar gyfer ymwelwyr a rhai oedd mewn profedigaeth. Eleni roedd y gwasanaeth wedi cael ei drefnu ar gyfer Dydd Iau, y 19eg o Ragfyr – 7:00 p.m.

 

Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd y câi’r gwasanaeth eleni ei arwain gan y Parchedig Stephen Pare, o’r Eglwys yng Nghymru gynt a phlwyfi Llansantffraid, Betws ac Abercynffig, ac y byddai cefnogaeth gerddorol yn cael ei darparu gan Fand Lewis Merthyr. Ychwanegodd hefyd y câi lluniaeth ei noddi drwy garedigrwydd  W H Preene a’i Fab, Trefnwyr Angladdau Annibynnol, Pontyclun.

 

Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd eu bod wedi gobeithio gwahodd côr ar gyfer y gwasanaeth eleni. Fodd bynnag, roedd yr organ bib yn Llundain yn cael ei thrwsio. Serch hynny, roedd hi’n hapus i wahodd y Band yn ôl. Cytunai’r Aelodau fod y gwasanaeth Nadolig yn wasanaeth ardderchog ac roeddent yn hapus i weld y band yn dychwelyd.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cydbwyllgor yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

63.

Datganiad Monitro Refeniw 1 Ebrill i 30 Mehefin 2019 pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid – Rheolaeth Ariannol a Chau adroddiad oedd yn hysbysu’r Cydbwyllgor am fanylion incwm a gwariant am chwarter cyntaf  blwyddyn ariannol 2019-20 a rhoddodd amcanestyniad o’r alldro terfynol.

 

Hysbysodd yr aelodau am sefyllfa ariannol yr Amlosgfa am 2019-20 oedd wedi ei disgrifio’n fanwl yn adran 4 – tabl 1 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid – Rheolaeth Ariannol a Chau fod yna nifer o amrywiadau gyda’r gyllideb a’r alldro a amcanestynwyd fel y rhestrir isod:

 

·         Mae’r tanwariant ar staffio yn yr amcanestyniad o’r alldro o £20,000 yn ganlyniad y ffaith fod swydd Cynorthwyydd Pen-wythnos a swydd un Gofalwr Tir/Technegydd Llanw Amlosgfa yn wag.

 

·         Mae’r gorwariant ar y Safle yn yr amcanestyniad o’r alldro o £3,000 yn cynnwys gorwariant ar Nwy (£3,500) a Glanhau drwy Gontract (£1,000), ond hynny yn erbyn tanwariant ar Drethi Busnes (£1,500).

 

·         Mae’r tanwariant ar Gyflenwadau, Gwasanaethau a Chludiant yn yr amcanestyniad o’r alldro o £1,000 yn cynnwys tanwariant ar Drwsio a Chynnal a Chadw Offer (£5,000) ond hynny yn erbyn gorwariant ar Brynu Offer (£2,500) a Gwasanaethau Diogelwch (£1,500).

 

·         Mae’r incwm ychwanegol a ragwelir o Ffioedd a Thaliadau o £13,000 yn cynnwys Grant Ffioedd Claddu Plant gan Lywodraeth Cymru.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid – Rheolaeth Ariannol a Chau y dadansoddiad o gyllideb Ariannu Cyfalaf o £776,000 fel y rhestrwyd yn adran 4.2 – tabl 2 yr adroddiad.

 

Cwestiynodd Aelod y ffigurau oedd yn ymwneud â phrosiect Cyfleusterau’r Cwrt Blodau yn ogystal â’r goleuadau ar y safle. Gofynnodd pam yr oedd yn gost hon yn y gyllideb ond ddim yn yr amcanestyniad o’r alldro.

 

Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd er y byddai’r gwaith ar gyfer y rhain yn cychwyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, na fyddai’r union ffigurau yn ymddangos tan y flwyddyn ariannol nesaf, gan na châi’r prosiect ei gwblhau yn y flwyddyn ariannol hon.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid – Rheolaeth Ariannol a Chau fod yr Adroddiad Blynyddol am 2018-2019 wedi ei gyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru ar ddiwedd Mehefin 2018, oedd yn dangos gwarged o £497,000 am y flwyddyn, a balans cronnol o £1,755,000. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn awr wedi ysgrifennu i gadarnhau bod yr Adroddiad wedi cael ei archwilio. Roedd hyn wedi ei restru yn Atodiad 1 ac Atodiad 2 yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cydbwyllgor yn nodi’r adroddiad.

 

64.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim