Agenda, decisions and minutes

Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo - Dydd Gwener, 28ain Hydref, 2022 14:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

11.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 381 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/07/2022

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Amlosgfa                         Llangrallo dyddiedig 15 Gorffennaf 2022, fel cofnod gwir a chywir.

12.

Gwobr Baner Werdd pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad er mwyn hysbysu’r Cyd-bwyllgor am gais llwyddiannus Amlosgfa Llangrallo am Wobr y Faner Werdd yn 2022.

Fel cefndir, eglurodd mai Gwobr y Faner Werdd yw’r safon genedlaethol sy’n feincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yng Nghymru a Lloegr. Fe'i lansiwyd ym 1996 i gydnabod a gwobrwyo'r mannau gwyrdd gorau yn y wlad. Cyflwynwyd y wobr genedlaethol gyntaf ym 1997 ac mae’n parhau i nodi’r safonau uchel y caiff parciau a mannau gwyrdd eu mesur yn eu herbyn. Mae hefyd yn cael ei gweld fel ffordd o annog sefydliadau i gyrraedd safonau amgylcheddol uchel, gan osod meincnod o ragoriaeth mewn mannau hamdden gwyrdd.

Derbyniodd Amlosgfa Llangrallo ei gwobr gyntaf yn 2010 ac yn flynyddol wedi hynny hyd at y presennol.

Gwnaed cais drachefn am Wobr y Faner Werdd ym mis Ionawr 2022 a chyhoeddwyd y gwobrau ar 11 Gorffennaf 2022, cadarnhaodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth.

Roedd yr Amlosgfa unwaith eto wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau'r wobr hon, sy’n adnabyddus yn genedlaethol, am safonau gofal a chynnal a chadw'r safle a'r tiroedd. Mae'r wobr yn cadarnhau'r ymrwymiad i gynnal safonau uchel, y gall pob ymwelydd eu gwerthfawrogi.

Roedd yn falch o ddweud felly fod Llangrallo yn chwifio ei Faner Werdd am y drydedd flwyddyn ar ddeg yn olynol.

Bydd Cadeirydd Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo a Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fel rheol yn derbyn Gwobr y Faner Werdd mewn seremoni ond ni fydd trefnwyr Gwobr y Faner Werdd yn cynnal seremoni wobrwyo eleni. Yn lle hynny, caiff y Faner Werdd a thystysgrif eu danfon yn uniongyrchol i Amlosgfa Llangrallo.

Ar 27 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddatganiad i’r wasg i hysbysu’r cyhoedd am lwyddiannau Gwobr y Faner Werdd, y mae copi ohono ynghlwm fel Atodiad A i’r adroddiad.

I gloi, dywedodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod angen gwneud cais blynyddol am y wobr, a gwneir cais pellach ym mis Ionawr 2023.

PENDERFYNWYD:                 Bod y Cyd-bwyllgor wedi nodi'r adroddiad gyda phleser ac yn llongyfarch Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth a'i staff am ennill y wobr hon unwaith eto.

13.

Rhoddion Cynllun Ailgylchu Metelau pdf eicon PDF 151 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad, a’i ddiben oedd cael enwebiadau’r Cyd-bwyllgor a’u cymeradwyaeth i sefydliadau ar gyfer derbyn cyllid elusennol gan gynllun y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) ar gyfer adennill metelau sy’n deillio o amlosgiadau. a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cydbwyllgor am roddion elusennol a wnaed gan Amlosgfa Llangrallo.

Dywedodd fod Amlosgfa Llangrallo yn cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol ar gyfer Ailgylchu Metelau, sy'n deillio o'r broses amlosgi. Yna caiff unrhyw arian dros ben ar ôl didynnu costau o werthu metelau ei ddosbarthu i elusennau sy'n gysylltiedig â’r gwasanaethau profedigaeth, drwy'r ICCM.

Roedd paragraff 3.2 yr adroddiad yn rhoi rhai enghreifftiau o elusennau lle cyfrannwyd arian o'r fath o’r blaen.

Cyflwynir enwebiadau o bryd i'w gilydd i'r Cyd-bwyllgor eu hystyried ar gyfer elusennau ddylai gael budd o'r cyllid a gronnodd o werthu metelau, er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu'n gyfartal. Bydd yr  Amlosgfa'n derbyn cais gan yr ICCM i enwebu elusen bob rhyw chwe mis.

Er mwyn sicrhau bod ystod eang o elusennau lleol yn derbyn cyllid, roedd rhestr wedi’i diweddaru o sefydliadau wedi cael ei chynnwys ym mharagraff 4.2 o’r adroddiad, i’r Cyd-bwyllgor ei hystyried. Mae'r elusennau hyn wedi cysylltu â'r Amlosgfa am arian. Dim ond un elusen, ychwanegodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth, y gellir ei henwebu bob tro.

Teimlai Aelod y dylid rhoi rhodd i elusen ar gyfer pobl ifanc o’r enw Eye to Eye, oedd yn cefnogi ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y rhodd ddiwethaf a roddwyd i’r sefydliad hwn yn 2015. Cefnogwyd yr awgrym hwn gan yr Aelodau.

Awgrymwyd a chytunwyd hefyd y dylid rhoi rhodd i Gymdeithas Alzheimer’s a rhoi hwn yn gyntaf ar y rhestr gydag Eye to Eye yn ail, yna’r gweddill fel y’u rhestrwyd yn yr adroddiad, yn cael eu henwebu yn y drefn y’u dangoswyd.

PENDERFYNWYD:         (1)  Bod y Cyd-bwyllgor yn nodi’r rhoddion elusennol a wnaed gan Amlosgfa Llangrallo.

(2)  Cytunodd y Cyd-bwyllgor i enwebu a chefnogi’r rhestr o elusennau addas, i’w cyflwyno am arian gan y Cynllun Ailgylchu Metelau Cenedlaethol yn y drefn a ddangosir yn yr adroddiad, yn dilyn enwebu elusen Cymdeithas Alzheimer yn gyntaf ac Eye to Eye (yn y drefn honno ).

14.

Datganiad Monitro Refeniw 1 Ebrill i 30 Mehefin 2022 a Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2021-22 Diweddariad pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Trysorydd adroddiad, a phwrpas hwn oedd hysbysu’r Cyd-Bwyllgor am fanylion yr incwm a’r gwariant ar gyfer chwe mis cyntaf blwyddyn ariannol 2022-23 a rhoi rhagamcan o’r alldro terfynol, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyd-bwyllgor mewn perthynas â Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2021-22.

Fel gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid, Rheolaeth Ariannol, Systemau Cau a Chyfrifyddu, fod Cyllideb Refeniw 2022-23 wedi'i chymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth 2022. Roedd sefyllfa gyfredol y gyllideb a'r alldro rhagamcanol ar gyfer 2022- 23 i’w weld ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

Tynnodd sylw’r Aelodau at baragraff 4.1 o'r adroddiad a Thabl 1, oedd yn cynnwys manylion incwm a gwariant ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fedi 2022, ynghyd â'r alldro a ragwelid ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Dangosai’r Tabl hwn ddiffyg rhagamcanol o £941,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, sy’n unol â’r diffyg a gymeradwywyd gan y Cyd-bwyllgor ar 4 Mawrth 2022 ac sy’n ganlyniad i gyllideb ychwanegol a gymeradwywyd ar gyfer gwaith cyfalaf ar estyniad y Llys Blodau. Roedd esboniad pellach o'r amrywiadau rhwng y gyllideb a'r alldro a ragwelid yn yr adran hon o'r adroddiad.

Rhoddai Tabl 2 ym mharagraff 4.2 ddadansoddiad o’r gyllideb Ariannu Cyfalaf ar gyfer 2022-23, ynghyd â’r gwariant ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fedi 2022 a’r alldro a ragwelid ar gyfer y flwyddyn ariannol. Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid – Systemau Rheolaeth Ariannol, Cau a Chyfrifyddu y cytunwyd ar gyllideb ychwanegol o £719,957 i ariannu’r costau uwch am estyniad y Llys Blodau yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor ar 15 Gorffennaf 2022, gan gynyddu’r gyllideb hon i £1.270 miliwn.

Cyflwynwyd y Ffurflen Flynyddol ar gyfer 2021-22 (yn Atodiad 1 yr adroddiad) i Archwilio Cymru ar ddiwedd Gorffennaf 2022, yn dangos gwarged o £280,724 am y flwyddyn a balans cronedig o £3,179,607 ar 31 Mawrth 2022.

Dywedodd fod Archwilio Cymru bellach wedi cadarnhau bod y Ffurflen wedi'i harchwilio ac nad oedd angen newidiadau (Atodiad 2).

Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid – Systemau Rheolaeth Ariannol, Cau a Chyfrifyddu yn olaf, y byddai copi o’r Ffurflen Dreth ardystiedig ar gael yn yr Amlosgfa ac yn electronig ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyfeiriodd Aelod at frig tudalen 29 yr adroddiad, lle ceid cyfeiriad at gynnydd rhagamcanol yng Nghyfraniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £3,000 yn ymwneud â chostau staffio uwch a ailgodwyd ar wasanaeth Mynwentydd y Cyngor. Gofynnodd am ychydig o eglurhad beth oedd hyn.

Cadarnhaodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod hwn yn ganran o gyflog aelod o staff oedd wedi ei symud o Adran Mynwentydd y Gyfadran Cymunedau i’r Amlosgfa, ac felly bod peth o gyflog y swydd yn cael ei ail godi ar yr Adran honno.

PENDERFYNWYD:                  Bod y Cyd-bwyllgor yn nodi'r Datganiad Monitro Refeniw o fis Ebrill i fis Medi ar gyfer 2022-23 a'r sefyllfa mewn perthynas â Datganiad Cyfrifon

15.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.