Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 - Dydd Mawrth, 9fed Tachwedd, 2021 10:00, NEWYDD

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

28.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 196 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 25/05/2021

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003, dyddiedig 25/05/2021, fel cofnod gwir a chywir.

29.

Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu 2022-2025 pdf eicon PDF 274 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad gan ofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo cyhoeddi Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu’r Cyngor ar gyfer y cyfnod nesaf o dair blynedd o 2022 i 2025, ac anfon y polisi ymlaen at y Cabinet a’r Cyngor i’w cymeradwyo’n derfynol. 

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu mai’r Comisiwn Hapchwarae oedd y rheolydd unedig ar gyfer gamblo ym Mhrydain Fawr a’i fod yn gyfrifol am roi trwyddedau personol a thrwyddedau gweithredu ar gyfer gweithredwyr gamblo masnachol. Fodd bynnag, awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am drwyddedu safleoedd tir, yn ogystal â swyddogaethau mewn perthynas â rhoi trwyddedau a chofrestru. Roedd y Cyngor, fel awdurdod trwyddedu, yn cyhoeddi Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu bob tair blynedd a hwn oedd yn llywodraethu polisi, rheolaeth a'r broses o wneud penderfyniadau yn ymwneud â safleoedd gamblo.

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu y byddai'n bosibl mewn amgylchiadau arferol adolygu tueddiadau a phroblemau a allai lywio datblygiad polisi yn y dyfodol. Fodd bynnag, gwelodd y cyfnod o 2020 i 2021 osod mesurau digynsail yn eu lle a chau mangreoedd gamblo. At hynny, ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd y Gweinidog dros Chwaraeon, Twristiaeth a Threftadaeth Adolygiad o Gylch Gorchwyl Deddf Gamblo 2005 a Galwad am Dystiolaeth oedd yn gorgyffwrdd â’r broses adolygu dair blynedd gyfredol. Roedd yn rhaid cynnal yr adolygiad tair blynedd o’r Datganiad o Egwyddorion Trwyddedu, ond yng ngoleuni effaith y pandemig ar fangreoedd, absenoldeb adrodd am dueddiadau lleol, a’r adolygiad oedd ar ddod, teimlid y gellid cynnal adolygiad mwy cytbwys yn 2022. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor rhwng 6 Awst 2021 a 10 Medi 2021. Derbyniwyd un ymateb oddi wrth Gosschalks Solicitors. Roedd yr ymateb yn gofyn am un gwelliant a oedd yn ymwneud â hen derminoleg ddiangen nad yw bellach yn cael ei defnyddio yng nghanllawiau statudol y Comisiwn Hapchwarae i awdurdodau lleol. Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion eraill gan ymgyngoreion statudol na thrwy'r ymgynghoriad ar y wefan.

 

Gofynnodd aelod a dderbyniwyd llawer o gwynion gan y cyhoedd mewn perthynas â gamblo. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu mai anaml y derbynnid cwynion am hyn ond bod mwy, fodd bynnag, mewn perthynas â gamblo ar-lein. Cododd yr aelod bryderon ynghylch y cynnydd mewn gamblo yn ystod y cyfnod clo.

 

Holodd aelod ynghylch gorfodi mewn perthynas â phroblemau gyda raffl a chystadlaethau eraill gyda gwobrau oedd yn cael eu trefnu gan gyrff heb eu cofrestru ar y cyfryngau cymdeithasol. Gofynnodd pa ddarpariaethau oedd yn eu lle i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â’r ddeddf. Atebodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod grym gorfodi yn ei le a’u bod yn edrych i mewn i gwynion. Ychwanegodd y byddai’n ofynnol i’r rhan fwyaf o’r rhai oedd yn trefnu raffl fod wedi eu cofrestru gyda’r awdurdod lleol pan fyddent yn gwerthu tocynnau ymlaen llaw; byddai gamblo ar-lein yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol yn ffurfio rhan o’r adolygiad yr oedd y llywodraeth yn ei gynnal. Dywedodd yr aelod i derfynu fod gamblo ar-lein yn cynyddu a’i bod yn duedd yr oedd angen edrych arni gan gynnwys sut yr oedd yn effeithio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 29.

30.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim