Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau/ Swyddogion yn unol a darpariaethau’r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Ôl -16 ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Adroddiad Cam 4. Datganodd y Cynghorydd T Beedle fuddiant personol yn yr eitem hon am y rhesymau canlynol:
Datganodd y Cynghorydd JP Blundell fuddiant personol yn yr eitem hon am y rhesymau canlynol:
Datganodd y Cynghorydd N Burnett fuddiant personol yn yr eitem hon am y rhesymau canlynol: · Plentyn ym Mrynteg · Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gyfun Brynteg ac Ysgol Gynradd Penybont.
Datganodd y Cynghorydd K Rowlands fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd roedd un o'i phlant yn mynychu un o'r ysgolion a fyddai'n cael ei thrafod yn y cyfarfod.
Datganodd y Cynghorydd C Smith fuddiant personol yn yr eitem hon am ei fod yn Llywodraethwr yng Ngholeg Penybont.
Datganodd y Cynghorydd R Stirman fuddiant personol yn yr eitem hon am ei bod yn Llywodraethwr nad yw'n aelod o'r AALl yn Ysgol Gynradd Tynyrheol.
Datganodd y Cynghorydd Alex Williams fuddiant personol yn yr eitem hon am ei fod yn Llywodraethwr AALl yn Ysgol Gyfun Pencoed.
Datganodd y Cynghorydd Amanda Williams fuddiant personol yn yr eitem hon am fod ganddi fab yn Ysgol Gyfun Brynteg.
Datganodd L Morris, Cynrychiolydd Cofrestredig, Sector Ysgolion Uwchradd, fuddiant personol yn yr eitem hon am fod ganddi fab sy'n mynychu Ysgol Gyfun Maesteg.
|
|
Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Ôl-16 ar draws Adroddiad Cam 4 Pen-y-bont ar Ogwr PDF 91 KB Gwahoddedigion:
Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar Andy Rothwell, Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De Andrew Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De Megan Lambert, Maer Ieuenctid Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Megan Lambert, Maer yr Ieuenctid, i'r cyfarfod.
Gwnaeth y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 gyflwyno adroddiad yn hysbysu'r pwyllgor o'r cynnydd oedd wedi'i wneud ar y cynigion ar gyfer darpariaeth ôl-16 (Cam 4), a gofynnodd iddynt ystyried y papur ymgynghori drafft cyn i'r mater gael ei roi gerbron y Cabinet am benderfyniad. Amlinellodd gefndir yr adolygiad a sut roedd y Cabinet wedi cymeradwyo tri opsiwn o'r chwe chysyniad gwreiddiol i'w dadansoddi ymhellach.
Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 gryfderau a gwendidau'r opsiynau amrywiol yn fanwl a'r sbardunau allweddol ar gyfer darpariaeth chweched dosbarth effeithiol. Amlinellodd y materion o ran y cynllun datblygu lleol cyfredol a'r cynllun datblygu lleol newydd a fyddai'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 2021-2033.
Gwahoddwyd aelodau i ofyn cwestiynau ar yr opsiynau unigol.
Opsiwn 1
Gofynnodd aelod pe bai dwy ysgol yn uno, a fyddai'r disgyblion o'r ysgolion hynny yn cael blaenoriaeth dros ddisgyblion o ysgolion eraill wrth bennu lleoedd chweched dosbarth? Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd y trefniadau derbyn wedi'u pennu eto, ond rhagwelwyd y byddent yn rhoi blaenoriaeth i ddysgwyr o'r ysgolion hynny yn gyntaf, ond bod angen iddynt ystyried y ddeddfwriaeth. Ychwanegodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 y byddai'n disgwyl i hyn gael sylw pan fyddai'r meini prawf derbyn yn cael eu hail-ddrafftio.
Gofynnodd un aelod sut byddai'r cydbwysedd rhwng arbenigeddau academaidd a galwedigaethol yn cael sylw mewn canolfannau chweched dosbarth. Eglurodd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod yn rhaid i bump o'r 30 o bynciau lefel 3 fod yn alwedigaethol, ond hoffent weld mwy o gymysgedd a chyffelybiaeth. Roedd pynciau newydd ar gael drwy sesiynau fin nos yng Ngholeg Penybont, a gyda lleoliadau mwy o faint gallent ddarparu mwy o opsiynau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gallai fod cynnydd mewn costau cludiant ysgol a bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch Trafnidiaeth Ôl-16 ar hyn o bryd a bod gorgyffwrdd rhwng y ddau fater.
Gwnaeth un aelod gyfeirio at drafnidiaeth, canlyniad yr Ymgynghoriad Trafnidiaeth Ôl-16 ac amser teithio derbyniol. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai rhai grwpiau o ddysgwyr yn ei chael hi'n anodd pe bai trafnidiaeth yn cael ei dynnu ymaith. Ychwanegodd eu bod yn ceisio cyfyngu amserau teithio i lai na 40 munud.
Nododd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y byddai e-ddysgu yn chwarae rhan fawr mewn cynlluniau yn y dyfodol. Nododd aelod ei fod yn croesawu e-ddysgu ac ni allai ddeall pam fyddai teithio'n broblem pe gallai myfyriwr gymryd rhan mewn darlith o'i gartref ei hun. Nododd y Swyddog Arbenigol: Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 fod gwaith eisoes ar droed i gyflwyno prosiect mathemateg ar-lein a bod angen iddynt ystyried modelau a oedd wedi'u mabwysiadu'n llwyddiannus.
Gofynnodd un aelod wrth Faer yr Ieuenctid a oedd yn credu mai dysgu cyfunol oedd y ffordd ymlaen. Atebodd nad oedd modd meithrin y gydberthynas yr oedd ganddi ag athrawon ar-lein ac roedd hyn wedi ei ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 86. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith I ystyriedunrhyweitemau o fusnes y, oherwyddamgylchiadauarbennig y cadeiryddo'rfarn y dylideuhystyriedyn y cyfarfodfel mater o frysynunol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'rRheolauTrefn y Cyngoryn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu'r Flaenraglen Waith a hysbysodd y Pwyllgor, yn dilyn cyfarfod gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, y byddai cyfarfodydd cyllideb yn cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr a byddai'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Ddeilliannau Addysg yn ystod ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2020. Awgrymodd aelodau y dylid ychwanegu Addysg Ôl-16 at gyfarfod mis Chwefror, os bydd yr adroddiad yn barod mewn pryd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |