Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 370 KB Derbyncofnodion cyfarfod 10 10 2022 a 19 01 2023 i’w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: .PENDERFYNWYD: Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 1 a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Cynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd 2023-2026 PDF 136 KB
Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg
Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd Susan Roberts - Rheolwr Gr?p (Cymorth i Ysgolion) Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion Gaynor Thomas - Rheolwr Rhaglen Ysgolion Robin Davies – Rheolwr Gr?p Cymorth Busnes Mark Lewis - Rheolwr Gr?p Cymorth i Deuluoedd
Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De Natalie Gould - Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Cwricwlwm a Dysgu Proffesiynol Darren Jones – Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De
Nicole Goggin-Jones – Prifathro – Ysgol Gynradd Nantyfyllon Mike Street – Prifathro – Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-Fai
Ravi Pawar - Prifathro - Ysgol Gyfun Bryntirion – Cadeirydd BASH
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi cyfle i’r Pwyllgor weld a chynnig sylwadau ynghylch y fersiwn drafft o Gynllun Strategol 2023-2026 y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd a’r Gwahoddedigion a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:
· Y 15 thema strategol a nodwyd sy’n sail i’r cynllun strategol tair blynedd, gan drafod:
- Naratifau'r themâu hynny - Y dangosyddion llwyddiant: sut y cawsant eu mesur yn gywir, a safoni prosesau ar gyfer ysgolion - Y manylion yn y cynllun a sut y cyflawnwyd themâu, a'r cymorth a gynyddwyd - Dealltwriaeth o’r cwricwlwm newydd - Data wedi’u cydgrynhoi er mwyn cymharu - Hyfforddi Swyddogion
· Presenoldeb disgyblion, lefelau absenoldeb, perchnogaeth presenoldeb a chyfrifoldeb.
· Modiwlau hyfforddi statudol ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion a hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael a pha un ai a ddylai mwy o hyfforddiant fod yn orfodol.
· Ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn rhai adeiladau ysgol h?n, cynnydd mewn biliau cyfleustodau a pha gymorth oedd ar gael.
· Cynnydd o ran hyfedredd yn y Gymraeg ymhlith pobl iau ac oedolion, ystyried cyflwyno dalgylchoedd cyfrwng Cymraeg, dyhead yr Awdurdod Lleol i gynyddu nifer y dysgwyr yn eu hysgolion cyfrwng Cymraeg a darpariaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol.
· Canllawiau hunanwerthuso CAMG a sut y gallai statws pob thema wella dros gyfnod y cynllun strategol.
· Y galw am wasanaethau cwnsela i blant a rhieni a’r amseroedd aros, cymorth arbenigol i’r dysgwyr hyn a’r dadansoddiad mapio a chanfod bylchau a gynhaliwyd i weld pa gymorth a oedd ar gael ac i nodi unrhyw fylchau.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd rhagor o gwestiynau gwahoddedigion i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd y gallent adael y cyfarfod
PENDERFYNWYD: Ar ôl ystyried yn fanwl a thrafod ag Aelodau’r Cabinet a Swyddogion, cynigiodd y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1.
Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch cadw staff ysgolion a'u
llesiant. Fe wnaethant drafod pwysigrwydd y cymorth a gâi
disgyblion ar gyfer eu llesiant ac roeddent yn credu y dylai
llesiant staff fod yn flaenoriaeth gyfartal. Argymhellodd yr
aelodau y dylid cryfhau'r naratif ynghylch y cymorth ar gyfer staff
yn T1 Lles disgyblion a staff i adlewyrchu
hyn.
2.
Yn
ystod trafodaethau ynghylch presenoldeb disgyblion a lefelau
absenoldeb, gofynnodd yr Aelodau am ddadansoddiad o'r rhesymau dros
absenoldeb a nifer yr absenoldebau ac fe wnaethant argymell y dylid
cynnyws y rhain yn y Cynllun.
3.
Fe wnaeth yr aelodau
ystyried y dangosyddion llwyddiant yn ymwneud â T2
Cymorth ar gyfer ymddygiad, presenoldeb a gwaharddiadau
disgyblion a phwysleisiwyd na fyddai asesu cynnydd tuag at
gyflawni'r amcan 'gostyngiad mewn gwaharddiadau cyfnod penodol a
pharhaol' yn ystyrlon oni byddai pob ysgol yn cadw at y Polisi
Presenoldeb Ysgolion i sicrhau cysondeb. Argymhellodd yr Aelodau y
dylid cyfeirio at Bolisi safonol ynghylch Gwaharddiadau yn y
Cynllun i gynnig sicrwydd o ran y data a ddarperid a sicrhau y
gellid mesur y gwelliannau yn gywir. 4. Argymhellodd yr aelodau y dylid cynnws mwy ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17. |
|
Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol PDF 132 KB Cofnodion: Fe wnaeth ySwyddog Craffu gyflwyno’r adroddiad a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor enwebu un Aelod yn Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli'r Pwyllgor fel gwahoddai yng nghyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet.
Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau, ac yna,
PENDERFYNWYD: Y dylid enwebu’r Cynghorydd Richard Collins i gynrychioli Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 fel Gwahoddai yng nghyfarfodydd Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet. |
|
Eitemau Brys Ystyriedunrhyw eitem(au) o fusnes y mae hysbysiad wedi’i roi yn eu cylch ynunol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor ac y mae’r sawl sy’n llywyddu’r cyfarfod o’r farn y dylai, oherwydd amgylchiadau arbennig, gael ei drafod yn y cyfarfod fel mater o frys.
Cofnodion: Dim. |