Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Llun, 4ydd Rhagfyr, 2017 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams  Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Datgan Buddiant

To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008 (including whipping declarations)

 

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. C A Webster fuddiant a oedd yn rhagfarnu dan eitem 3 yr Agenda, Cymeradwyo’r Cofnodion, ynghyd â buddiant personol dan eitem 5 yr Agenda, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Hi oedd Trysorydd y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ac roedd gan ei mab anabledd dysgu ac roedd yn cael cludiant rhwng y cartref a’r ysgol.

19.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 103 KB

To receive for approval the minutes of a meeting of the Subject Overview and Scrutiny Committee 1 of the 6th November 2017.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD Yn ddibynnol ar ychwanegu Mr C Jackson at yr Ymddiheuriadau am Absenoldeb, cymeradwywyd Cofnodion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc dyddiedig y 6ed o Dachwedd 2017.

20.

Diweddariad am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 63 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau adroddiad a amlinellai’r eitemau a flaenoriaethwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, gan gynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i’r Pwyllgor hwn. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhestru rhagor o eitemau posib y gellid cynnig sylwadau yn eu cylch a’u blaenoriaethu. Gofynnai’r adroddiad hefyd i’r Pwyllgor nodi rhagor o eitemau i’w hystyried. Roedd y Swyddog Craffu hefyd am egluro rhai manylion i’w cynnwys yn adroddiad y Pwyllgor i’r Cabinet ynghylch Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  

 

Cyfeiriodd Aelod at y ddau Adolygiad Ymarfer Plant a gynhaliwyd yn ddiweddar a gofynnodd am friff ynghylch pob un ynghyd â gwybodaeth am effaith y canfyddiadau ar ddiogelu. Trafododd yr aelodau yr eitem arfaethedig, “Sut mae ein hysgolion yn ymateb i honiadau o ymosodiadau rhyw” a chafwyd cytundeb y gellid ei chysylltu â diogelu ond y byddai efallai’n well ei chysylltu â Chymorth Cynnar. Drwy wneud hyn, byddai cyfle i drafod y mater mewn rhagor o fanylder.      

 

Awgrymodd yr Aelodau y dylid blaenoriaethu Tai Gwag fel pwnc i’w ystyried.

 

Roedd y Cyng. Webster wedi datgan buddiant a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â Diwygio ADY a gadawodd y cyfarfod. Cadeiriodd y Cyng. M Jones y cyfarfod yn ei habsenoldeb.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Craffu at yr adroddiad Diwygio ADY drafft a gofynnodd i’r Pwyllgor gadarnhau a oedd yn argymell gofyn am gyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru neu drwy’r gyllideb addysg er mwyn cwrdd â’r costau ychwanegol.

 

Cytunodd yr Aelodau i ofyn i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol ac y dylid ystyried goblygiadau unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar gyllidebau cyn ei chyflwyno. Dylid hefyd sicrhau cyllid yng ngoleuni’r goblygiadau hyn. 

 

Dychwelodd y Cyng. Webster i’r ystafell gyfarfod ac i’r Gadair.

 

PENDERFYNWYD

 

1)         Cytunodd y Pwyllgor i flaenoriaethu’r eitemau canlynol i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i’w hystyried a’u dirprwyo yn ôl i’r Pwyllgorau Pwnc:

 

           Band B y rhaglen Moderneiddio Ysgolion

           Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol

           Tai Argyfwng

 

2)         Ystyriodd y Pwyllgor y ffurflen Meini Prawf yn Atodiad B a chytunwyd i gynnwys hon yn yr eitem am Ddiogelu.

 

3)         Yn ogystal â hyn, gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth am ganlyniadau diweddaraf yr Adolygiadau Ymarfer Plant.

21.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 hyd 2021-22 pdf eicon PDF 235 KB

Invitees

 

Lindsay Harvey, Corporate Director - Education and Family Support

Cllr Charles Smith, Cabinet Member - Education and Generation

Nicola Echanis, Head of Education and Family Support

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 hyd 2021-22 i’w hystyried a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried y wybodaeth a phenderfynu a oedd am gyflwyno unrhyw sylwadau neu argymhellion i’w cynnwys yn yr adroddiad i’r Cabinet ynghylch y cynigion ar gyfer y gyllideb drafft.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyflwyniad ynghylch prif benawdau’r gyllideb Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Roedd y Cyngor wedi cytuno ar arbediad effeithlonrwydd o 1% ar draws y Cyngor ar gyfer 2017/18. Nid oedd dim cyllid ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllidebau ysgolion ac roedd gan 13 ysgol gynradd a 4 ysgol uwchradd ddiffyg yn eu cyllideb.  

Y gyllideb Addysg a Chymorth i Deuluoedd arfaethedig ar gyfer 2018/19 oedd oddeutu £108 miliwn ac roedd £88 miliwn wedi’u dirprwyo i ysgolion. Roedd hyn fymryn yn uwch na’r cyfartaledd ar draws Cymru. O ran y gwasanaethau a ddarparwyd yn ganolog, roedd cyfartaledd Pen-y-bont ar Ogwr ychydig yn is na’r cyfartaledd ar draws Cymru.

 

Esboniodd fod gofyn i bob ysgol gael cynllun busnes â diffyg o 5% neu £10,000 a rhaid oedd cyflwyno cynllun adfer diffyg ffurfiol a oedd yn cael ei fonitro’n fanwl bob mis.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd mewn rhagor o fanylder bob arbediad a nodwyd ar gyfer 2018/19. Cyfanswm yr arbediadau oedd £630,000. Esboniodd fod pwysau sylweddol ar y gwasanaeth cludiant rhwng y cartref a’r ysgol, ar leoliadau y tu allan i’r sir, ar y ddarpariaeth ADY ac o ganlyniad i’r sefyllfa anwadal o ran grantiau. Cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion ag awtistiaeth a chafwyd cynnydd yn nifer y rhai ag anawsterau ymddygiad, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.  

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gofyn i bob ysgol gael polisi codi tâl er nad oedd ysgolion yn gallu codi tâl am weithgareddau a gynhelid yn ystod oriau ysgol. 

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrthi’n datblygu gwasanaeth cyfreithiol newydd ar gyfer cytundebau lefel gwasanaeth i ysgolion. Byddai’n rhaid i ysgolion ac Awdurdodau Lleol fodloni nifer o ofynion newydd o ganlyniad i weithredu’r Bil Diwygio ADY.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yr Awdurdod yn cael ei herio’n aml oherwydd lefel y cyllid i ysgolion. Fodd bynnag, nid oedd modd cymharu’r ffigwr am nifer o resymau. Roedd cyflogau Penaethiaid wedi’u cynnwys yn ogystal â chyllid “prynu yn ôl i mewn”. Defnyddiwyd dulliau cyfrifo gwahanol hefyd. Pwysleisiodd bwysigrwydd rheoli lleoedd gwag. 

 

Diolchodd Aelod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro - Addysg a Chymorth i Deuluoedd am y trosolwg defnyddiol ond mynegodd bryder ynghylch yr arbediad effeithlonrwydd o 1%. Yn draddodiadol, roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi llai o gyllid i ysgolion ac o ran y cyllid i ysgolion cynradd, roedd yn yr 21ain safle o blith 22 o Awdurdodau. Roedd ysgolion uwchradd yn y pumed safle o’r gwaelod ac roedd y waelodlin i ysgolion eisoes yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 21.

22.

Materion brys

To consider any item(s) of business in respect of which notice has been given in

accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency.

Cofnodion:

Dim