Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 1 - Dydd Llun, 12fed Mawrth, 2018 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau canlynol:-

 

Cynghorydd C Webster – Buddiant personol yn eitem 5 ar yr agenda – rhiant lywodraethwr yn Ysgol Heronsbridge.

 

Cynghorydd AW Williams – Buddiant personol yn eitem 5 ar yr agenda – rhiant lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Coety

12.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 79 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 10/01/2018 a 18/01/2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Testun 1 ar 10 ac 18 Ionawr 2018 fel cofnodion gwir a chywir, yn amodol ar newid cofnod 23 cofnodion 10 Ionawr 2018 i nodi bod y Parchedig Ganon Evans yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Bryntirion ac nid yn Ysgol Gyfun Brynteg.

13.

Diweddariad ar y Blaen-raglen Waith pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad yn manylu’r eitemau a flaenoriaethodd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg (PCTh), yn cynnwys yr eitem nesaf a ddirprwywyd i PCTh Testun 1 a chyflwyno rhestr o ragor o eitemau posibl ar gyfer sylwadau a blaenoriaethu. Gofyn i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau eraill i’w hystyried gan ddefnyddio’r ffurflen meini prawf a bennwyd eisoes ac yn y pen draw, ystyried a chymeradwyo'‘ adborth cyfarfodydd blaenorol PCTh Testun 1 a nodi rhestr yr ymatebion, yn cynnwys unrhyw rai sydd yn dal yn berthnasol yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Roedd y blaen-raglen waith cyffredinol ar gyfer y PCTh wedi ei hatodi yn Atodiad B yr adroddiad, yn cynnwys y testunau a flaenoriaethwyd gan y PCTh ar gyfer y set nesaf o PCTh yn Nhabl A, yn ogystal â thestunau yr ystyriwyd yn bwysig eu blaenoriaethu yn y dyfodol yn Nhabl B.

 

Atgoffodd paragraff 4.7 yr adroddiad Aelodau am y ffurflen Feini Prawf, y gall Aelodau ei defnyddio i gynnig eitemau pellach ar gyfer y Blaen-raglen Waith y gall y Pwyllgor eu hystyried ar gyfer eu blaenoriaethu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:       Nodi’r adroddiad a’r wybodaeth ategol sydd yn Atodiadau’r adroddiad.

14.

Moderneiddio Ysgolion pdf eicon PDF 115 KB

Geahoddedigion

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd (Dros Dro)

Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Cllr H Williams, Dirprwy Arweinydd

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Gaynor Thomas, Rheolwr Rhaglen Ysgolion

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Craffu grynhoad o’r adroddiad o ran yr uchod, er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am ganlyniadau cychwynnol y cynlluniau Band A, yn cynnwys y gwersi a ddysgwyd a datblygiad y Rhaglen Strategol Amlinellol ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

 

Yn dilyn hyn, cyflwynodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i’r cyfarfod ac yna rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros dro - Addysg a Chymorth i'r Teulu gyflwyniad PowerPoint.

 

Yna gwahoddodd y cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 4.4 yr adroddiad, dan y teitl Gwersi a Ddysgwyd, a chroesawodd y ffaith mai gwers allweddol o Fand A oedd bod angen ymgynghoriad cynnar gyda Swyddogion Priffyrdd a Chludo er mwyn cynorthwyo i roi gwybodaeth er mwyn dewis safleoedd (ar gyfer ysgolion) oherwydd bod hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â darparu unrhyw Ffyrdd Diogel i Ysgolion y mae eu hangen yn dilyn agor yr ysgol berthnasol a derbyn y plant. Teimlai y dylai hyn fod yn rhan o’r Ymgynghoriad.

 

Cyfeiriodd Aelod hefyd at y Cynllun Datblygu Lleol, sy’n awgrymu sawl cysgodfa beics y dylid eu rhoi mewn ysgolion. Teimlai, fodd bynnag, y dylai bod rhagor o'r rhain mewn ysgolion mwy i annog pobl ifanc i fyw bywyd iachach.

 

Bu i’r Rheolwr Rhaglenni Ysgolion gadarnhau, fel rhan o Fand nesaf y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, y byddai’r Adran Addysg yn cysylltu ag adran Priffyrdd a Chludo’r Cyngor er mwyn nid yn unig cynnal adolygiad o Ffyrdd Diogel i’r Ysgolion, ond hefyd i edrych ar rai materion ehangach eraill, yn cynnwys darpariaeth parcio ceir a beics. Cysylltir darpariaeth felly â’r asesiad BREEAM h.y. yr asesiad amgylcheddol a chynaladwyedd y mesurir y project yn ei ôl. Mae’n rhaid i bob cynllun dderbyn sgôr BREEAM ardderchog, sy’n un o amodau Llywodraeth Cymru ar gyfer derbyn arian ar gyfer y rhaglen.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd y meini prawf o ran y Cyngor yn talu am gostau trafnidiaeth i/o ysgolion.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar bod y Cyngor yn talu am gostau trafnidiaeth i ddisgyblion oedran cynradd os yw’r pellter teithio dros 2 filltir o’r man codi i'r ysgol, a 3 milltir ar gyfer ysgolion uwchradd.

 

Nododd y Cadeirydd bod y projectau Band A ar gyfer cynlluniau ar gamau gwahanol mewn perthynas â’u dyddiadau cwblhau, ar dudalen 40. Dywedodd fod Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw ac Ysgol Gynradd Pencoed yn datblygu ac mai’r dyddiadau cwblhau yw mis Ionawr 2019 a mis Gorffennaf 2018, yn y drefn hon. Gofynnodd a yw’r cynlluniau hyn yn debygol o gael eu gorffen erbyn y dyddiadau hyn, ac atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro – Addysg a Chymorth i’r Teulu eu bod.

 

Soniodd Aelod am rieni’n parcio’n agos i ysgolion. Holodd, a fyddai mannau parcio ychwanegol mewn cysylltiad â chynigion yr adroddiadau, ynteu a fyddai’n achos o wneud y mannau codi a gollwng yn fwy diogel.

 

Atebodd Rheolwr y Rhaglenni Ysgolion fod mannau codi a gollwng, yn ogystal â mannau parcio ceir yn rhan o gynllun unrhyw ysgolion newydd. Mae i ba raddau y bydd y ddarpariaeth hon yn dibynnu ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 14.

15.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim.