Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Buddiannau Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Derbyniwyd datganiadau o fudd personol gan y Cyng. JC Radcliffe a’r Cyng. C Webster o ran eitem 5 yr agenda. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 96 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 08/2/2018
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 08.02.2018 fel rhai gwir a chywir. |
|
Diweddariad Rhaglen Gwaith PDF 62 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Gwasanaethau Gweithrediadol a Phartneriaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol adroddiad i'r pwyllgor am Flaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Gofynnodd aelod i’r wybodaeth ychwanegol ganlynol gael ei chynnwys yn yr adroddiad am wasanaethau cymunedol: Pa gyllid grant gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cael ei leihau a beth yn union yw’r swm hwn.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyodd aelodau’r adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testunau 1 gan nodi’r rhestr ymatebion: |
|
Cymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol Plant PDF 641 KB Gwahoddedigion: Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanathau Cymdeithasol a Lles; Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd Cllr Charles Smith, Aelod Cabinet, Addysg ac Adfywio Cllr Phil White, Aelod Cabinet - Cymunedau Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant Mark Lewis, Rheolwr Gr?p Gwaith Integredig a Chymorth i Deuluoedd Elizabeth Walton-James, Rheol Grwp – Diogelu a Sicrhau Ansawdd
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles am Gymorth Cynnar a Gofal Cymdeithasol Plant i roi gwybodaeth i aelodau yr oeddent wedi gofyn amdani yngl?n â chydweithio rhwng cyfarwyddiaethau.
Ymhelaethodd y Rheolwr Gr?p dros Weithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd ar brif bwyntiau’r adroddiad, gan gynnwys sut mae cyfarwyddiaethau’n gweithio’n agos gyda’i gilydd a hefyd gyda nifer o asiantaethau allanol.
Cyfeiriodd aelod at 4.11 yr adroddiad lle nodwyd bod nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu 80%. Gofynnodd sut roedd hyn wedi effeithio ar weithwyr achos a sut mae wedi effeithio ar yr awdurdod lleol yn ariannol. Gofynnod hefyd sut roedd yr atgyfeiriadau i’r project ACE yn cael eu rheoli o’r blaen.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p dros Wasanaethau Integredig a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn ystyried trothwyon mewn cymorth cynnar megis Cysylltu Teuluoedd. Caiff atgyfeiriadau eu gwirio o fewn 24 awr ac ar ôl eu hasesu, caiff gweithiwr cymdeithasol ei neilltuo i’r teulu neu efallai bydd y teulu’n mynd at weithiwr ymyrraeth, gan ddibynnu ar gymhlethdod yr achos. Ychwanegodd fod atgyfeiriadau gan ysgolion yn cyfateb i 10% o’r holl atgyfeiriadau i’r gwasanaeth a bod ymagwedd ar y cyd gyda chydweithwyr diogelu yn eu helpu i nodi peryglon a heriau. Ychwanegodd nad oedd unrhyw restri aros sylweddol ond bod y sefyllfa honno’n cael ei monitro’n gyson.
Nododd aelod y buasai’n ddefnyddiol petai data wedi cael ei dderbyn am Blant sy’n Derbyn Gofal er mwyn cymharu data ac archwilio’r tueddiadau. Nododd swyddogion nad oedd y data ganddynt ar hyn o bryd ond y byddent yn ei rannu ag aelodau ar ôl y cyfarfod.
Gofynnodd aelod am natur y perthnasoedd rhwng yr awdurdod a Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r trydydd sector o ran cefnogaeth ar gyfer Cymorth Cynnar a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cydnabu Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod pwysau ar y gwasanaeth ac y cafwyd cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau ond nododd nad oedd CBSP yr unig un. Nododd fod y gwasanaeth yn adolygu sut mae’n gweithredu’n barhaus a bod y cyfarwyddiaethau’n parhau i weithio gyda’i gilydd. Ychwanegodd fod nifer o brojectau megis MASH a’r project Myfyrio’n dal yn cael eu datblygu felly nid oedd modd gwybod effaith lawn y rhain eto. Roedd swyddogion hefyd yn ystyried modelau a llwyddiannau mewn awdurdodau lleol eraill sy’n gweithio’n dda, a bydd swyddogion o CBSP yn ymweld â Chasnewydd, CNPT a Sir Gâr yn yr wythnosau nesaf.
Roedd aelodau’n pryderu am adnoddau a dyrannu cyllid grant, beth oedd peryglon posib i’r gwasanaeth a pha effaith gallai hyn ei chael ar yr awdurdod os nad oedd cyllid yn cael ei dderbyn.
Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hyn yn berygl ond nododd eu bod yn ystyried ffyrdd gwahanol o weithio gan gynnwys rhannu adnoddau ag awdurdodau lleol eraill, gweithio’n fwy agos gydag ysgolion i sicrhau bod ymyrraeth gynnar yn cael ei rheoli’n fwy lleol a hefyd gweithio gyda nifer o grwpiau eraill sy’n gweithio gyda’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 19. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |